Bwletin Newyddion: Newidiadau i’r rheolau ar stop am bedair wythnos wrth i amrywiolyn delta ledaenu

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

18 Mehefin 2021


Covid Update

Newidiadau i’r rheolau ar stop am bedair wythnos wrth i amrywiolyn delta ledaenu

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi (Ddydd Gwener 18 Mehefin) na fydd rheolau’r coronafeirws yn newid am bedair wythnos arall er mwyn helpu i ddiogelu rhag yr amrywiolyn delta newydd.

Bydd rhaglen frechu Cymru, sydd wedi bod ar flaen y gad yn rhyngwladol, yn cyflymu’r gwaith o roi ail ddosau i bobl dros y pedair wythnos nesaf – bwriedir rhoi mwy na hanner miliwn o ddosau  er mwyn helpu i atal ton newydd o salwch difrifol wrth i achosion o’r coronafeirws ddechrau codi.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron 490 o achosion o’r amrywiolyn delta yng Nghymru. Mae mwy na phedwar o bob pum achos newydd o Covid yng Nghymru yn ganlyniad i’r amrywiolyn delta ac nid yw bron dwy ran o dair o’r achosion hynny yn gysylltiedig â theithio neu ddod i gysylltiad ag achos arall, sy’n awgrymu ei fod yn cael ei ledaenu yn y gymuned.

Mae cyfradd yr achosion o coronafeirws yng Nghymru wedi codi’n raddol ers diwedd mis Mai, ac mae cyfradd yr achosion positif wedi mwy na dyblu – er mai dyma’r gyfradd isaf yn y DU o hyd.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Mewn ychydig wythnosau yn unig, mae amrywiolyn delta wedi cyrraedd Cymru ac wedi lledaenu drwy’r wlad yn gyflym. Mae’r cyfraddau trosglwyddo yn cyflymu, nid dim ond yn y Gogledd a’r De-ddwyrain ond ym mhob rhan o Gymru.

"Bellach, dyma’r amrywiolyn mwyaf cyffredin mewn achosion newydd yng Nghymru. Unwaith eto, rydyn ni’n wynebu sefyllfa ddifrifol o ran iechyd y cyhoedd.

"Mae gennym ni’r cyfraddau coronafeirws isaf yn y DU, a’r cyfraddau brechu uchaf. Gallai oedi am bedair wythnos cyn llacio’r cyfyngiadau helpu i leihau’r niferoedd uchaf o dderbyniadau dyddiol i’r ysbyty o hyd at hanner, ar adeg pan fo’r Gwasanaeth Iechyd yn brysur iawn yn ceisio diwallu’n holl anghenion gofal iechyd – nid dim ond trin y coronafeirws."

Bu Llywodraeth Cymru yn adolygu sefyllfa iechyd y cyhoedd yr wythnos hon, hanner ffordd drwy’r cylch tair wythnos presennol o reoliadau, ar ôl cyhoeddi y byddai’n symud fesul cam i lefel rhybudd un. Cafodd y rheolau ynghylch gweithgareddau a digwyddiadau mwy yn yr awyr agored eu llacio ar 7 Mehefin.

Er na fydd unrhyw newidiadau sylweddol i’r rheolau am gyfnod o bedair wythnos – caiff y rheoliadau eu hadolygu eto at 15 Gorffennaf – mae rhai diwygiadau technegol bach yn cael eu gwneud i reoliadau’r coronafeirws i sicrhau eu bod yn haws i’w deall ac yn haws i fusnesau eu rhoi ar waith.

Maent yn cynnwys:

  • Bydd nifer y bobl a gaiff fynd i dderbyniad priodas neu bartneriaeth sifil neu de angladd, a drefnir gan fusnes mewn eiddo dan do sy’n cael ei reoleiddio, megis gwesty, yn cael ei bennu gan faint y lleoliad ac ar sail yr asesiad risg.
  • Egluro y bydd lleoliadau cerddoriaeth a chomedi bach ar lawr gwlad yn cael gweithredu ar yr un sail â lleoliadau lletygarwch, fel tafarnau a chaffis.
  • Bydd hyd at 30 o blant ysgol gynradd sydd yn yr un grŵp cyswllt neu swigen yn yr ysgol aros dros nos mewn canolfan breswyl addysg awyr agored.

Bydd digwyddiadau peilot yn y sector theatr, chwaraeon ac mewn sectorau eraill hefyd yn parhau drwy gydol mis Mehefin a Gorffennaf.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Yr wythnos hon, rydyn ni wedi cyrraedd y targed o gynnig eu dos gyntaf o’r brechlyn i bob oedolyn cymwys, a hynny chwe wythnos yn gynnar.

“Ond fydd y cynigion hynny ddim yn helpu i ddiogelu pobl, oni bai bod pawb yn mynd i’w hapwyntiadau i gael y dos cyntaf a’r ail ddos.

“Byddwn i’n cymell pawb i dderbyn y gwahoddiad i gael y brechlyn ac i gael y cwrs llawn o ddau ddos. Dyma’r ffordd orau i ddiogelu’n hunain rhag y feirws hwn.”



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram