Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

27 Mai 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Gall Gogledd Cymru gael dyfodol cryfach, gwyrddach a thecach yn ôl Prif Weinidog Cymru; Datganiad Ysgrifenedig: Amrywiolynnau newydd o’r coronafeirws; Cofiwch bacio’ch prawf Covid os byddwch yn dod ar wyliau i Gymru; Y Gweinidog Iechyd newydd yn gofyn i bobl Cymru fynd ar eu gwyliau yn y DU eleni; Perfformiadau byw; Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd; Arwyddion Brown a Gwyn - canllawiau wedi'u diweddaru ar gael; Nodyn atgoffa i fusnesau: Awyru / Cadw cofnodion / Mwgwd Gwyneb; Addo. Fy addewid dros Gymru; Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 y DU: Adroddiad Proffil Cymru; Ymgyrch VisitBritain – ‘Escape the Everyday’; Sgiliau a Hyfforddiant; Seiberddiogelwch ar gyfer busnesau bach a chanolig; Helpwch i ledaenu negseuon ynghylch diogelwch drwy fod yn llysgennad diogelwch ar y dŵr lleol ar gyfer yr RNLI / Gwylwyr y Glannau; Gwobrau Busnesau Newydd Cymru: Busnes Newydd y Flwyddyn yn y sector Twristiaeth a Hamdden; Ymunwch â'r Chwyldro Ail-lenwi ar Ddiwrnod Ail-lenwi’r Byd - 16 Mehefin 2021; Gweithgynhyrchu a darparu hylif diheintio dwylo a diheintydd arwynebau; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Gall Gogledd Cymru gael dyfodol cryfach, gwyrddach a thecach yn ôl Prif Weinidog Cymru

Gall Gogledd Cymru edrych ymlaen at ddyfodol cryfach, gwyrddach a thecach, meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw wrth iddo ymweld â'r rhanbarth.

Ymwelodd â Distyllfa Penderyn a agorwyd yn ddiweddar yn Llandudno wrth iddynt baratoi i agor i'r cyhoedd. Bydd teithiau o amgylch y ddistyllfa yn dechrau o 1 Mehefin.  Derbyniodd y ddistyllfa gwerth £5m gyllid o £1.4m gan gynllun Buddsoddi mewn Twristiaeth a Chynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd Llywodraeth Cymru.

Ymwelodd hefyd ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Clywodd ragor yno am sut yr oedd yr ardal yn buddsoddi mewn dyfodol mwy cynaliadwy gan gefnogi'r diwydiant twristiaeth hefyd.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Datganiad Ysgrifenedig: Amrywiolynnau newydd o’r coronafeirws

Drwy gydol y pandemig, mae patrwm clir a chyson yn lledaeniad y coronafeirws ar hyd coridorau teithio wedi dod i’r amlwg. Mae hyn yn wir o fewn Cymru; ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r feirws yn symud gyda phobl, ac mae pobl yn dod â’r feirws i ardaloedd newydd wrth iddynt symud o gwmpas.

Mae gwaith dadansoddi ar y gwahanol amrywiolynnau o’r feirws yn y DU wedi dangos bod y mwyafrif wedi’u nodi gyntaf yn Lloegr. Yn aml, roedd achosion yng Nghymru yn dod i’r amlwg rai diwrnodau’n ddiweddarach.

Mae amrywiolyn newydd wedi’i nodi ac mae’n ymddangos ei fod hyd yn oed yn fwy trosglwyddadwy nag amrywiolyn Caint. Mae’n debygol mai’r amrywiolyn hwn, a nodwyd gyntaf yn India, fydd yr amrywiolyn mwyaf cyffredin yn y DU, fel y digwyddodd gydag amrywiolyn Caint. Mae achosion wedi’u nodi mewn llawer o ardaloedd ar draws y DU – yn enwedig yn Bolton, Blackburn, Kirklees, Bedford, Burnley, Caerlŷr, Hounslow a Gogledd Tyneside. Rydym hefyd wedi cofnodi 57 o achosion yng Nghymru o amrywiolyn India, sydd wedi’i ddynodi’n amrywiolyn sy’n peri pryder.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cofiwch bacio’ch prawf Covid os byddwch yn dod ar wyliau i Gymru

Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i bacio profion llif unffordd os byddant yn dod ar wyliau i Gymru o ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn i bob ymwelydd o’r ardaloedd hynny, gan gynnwys rhannau o Loegr sydd â lefelau uchel o amrywiolyn India sy’n peri pryder, i gymryd camau ychwanegol i helpu i ddiogelu Cymru.  Ond nid yw’r cyngor yn gwahardd teithio y tu hwnt i’r ardaloedd hyn.

Wrth i sector twristiaeth Cymru baratoi ar gyfer penwythnos gŵyl banc y Gwanwyn a dechrau tymor yr haf, mae’r Prif Weinidog wedi annog teithwyr o bob rhan o’r DU, yn enwedig yr wyth ardal dan sylw yn Lloegr, i ddefnyddio a phacio pecynnau profion llif unffordd os byddant yn dod i Gymru.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Mae pecynnau profi llif unffordd ar gael o bwyntiau casglu lleol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar: https://maps.test-and-trace.nhs.uk/.

Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am achosion o amrywiolion sy'n peri pryder ar dudalen wyliadwriaeth y DU (wedi'i diweddaru'n wythnosol) a thrwy wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (wedi'i diweddaru ddwywaith yr wythnos – o dan y tab gwyliadwriaeth amrywiolion).


Y Gweinidog Iechyd newydd yn gofyn i bobl Cymru fynd ar eu gwyliau yn y DU eleni

Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn gofyn i bobl fynd ar eu gwyliau yng Nghymru a manteisio ar y cyfle i fwyhau ei phrydferthwch, wrth i’r frwydr yn erbyn y coronafeirws barhau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod preswylwyr yng Nghymru yn gallu gwneud cais am dystysgrif brechu ar gyfer teithio rhyngwladol brys. Mae’r dystysgrif yn ffordd o ddangos eu bod wedi cael cwrs llawn o frechlyn COVID-19.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Perfformiadau byw

Mae'r canllawiau ar berfformiadau byw wedi'u diweddaru ac maent  ar gael yng Nghanllawiau UKHospitality Cymru.


Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd COVID-19

Bydd y gronfa’n darparu cymorth ar ffurf grantiau arian parod i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig sydd wedi cael effaith negyddol sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau parhaus COVID-19. Bydd y grantiau'n helpu i dalu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Arwyddion Brown a Gwyn - canllawiau wedi'u diweddaru ar gael

Mae arwyddion twristiaeth yn arwyddion brown unigryw â thestun gwyn arnynt ac fe’u defnyddir i gyfarwyddo gyrwyr i gyrchfan yn ystod camau olaf eu taith.  Mae canllawiau wedi'u diweddaru ar gyfer yr arwyddion hyn bellach ar gael.


Nodyn atgoffa i fusnesau:

Wrth i chi ailagor, sicrhewch eich bod yn ymwybodol ac yn dilyn Canllawiau UKHospitality Cymru yn ogystal a chanllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch. (Gwyliwch y ffilm fer hon i'ch helpu  i ymgyfarwyddo ar canllawiau).

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel.

Y meysydd allweddol y mae angen i fusnesau barhau i ganolbwyntio arnynt yw:

  • Awyru

Dylai pob busnes lletygarwch gymryd camau i gynyddu awyru yn eu hadeiladau.  Mae hwn yn gam mor bwysig y gallwch chi, fel busnes lletygarwch, ei gymryd i leihau'r risg o ledaenu’r coronafeirws yn eich tafarn, bar, caffi, neu fwyty.

Mae awyru da yn lleihau faint o feirws sydd yn yr awyr. Mae'n helpu i leihau'r risg o drosglwyddo drwy aerosol pan fydd rhywun yn anadlu gronynnau bach yn yr awyr ar ôl i berson sydd â'r feirws fod yn yr un ardal gaeedig.

Meddyliwch pa fesurau ychwanegol y gallwch chi eu cyflwyno i wella llif aer drwy agor ffenestri a chadw drysau mewnol ar agor (ond nid drysau tân) lle bynnag y bo modd.

  • Cadw cofnodion

Yng Nghymru, mae'n orfodol i fusnesau lletygarwch - gan gynnwys tafarndai, bariau, caffis a bwytai - gasglu manylion staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr i gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol ac mae'n hanfodol i gefnogi’r broses olrhain cysylltiadau os bydd achos o'r clefyd.

Mae hyn yn golygu, os ydych yn rhedeg busnes lletygarwch, bod yn rhaid i chi gyflwyno system electronig neu bapur a fydd yn cofnodi enw, manylion cyswllt ac amser cyrraedd pob cwsmer (ac eithrio plant).

Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol ac mae'n hanfodol i gefnogi olrhain cysylltiadau os bydd achosion newydd. Nid yw gofyn i gwsmeriaid ddefnyddio Ap y GIG yn ddigon ac nid yw'n eithrio busnes rhag casglu'r wybodaeth hon.

  • Mwgwd Gwyneb

Rhaid i staff sy'n gweithio ym mhob man dan do ac yn yr awyr agored sy'n agored i'r cyhoedd wisgo mygydau (oni bai bod ganddynt esgus rhesymol). Mae hyn yn golygu rhaid i'r mygydau gael eu gwisgo gan staff sy'n gweini bwyd a diod i gwsmeriaid a phan fydd staff yn symud o amgylch y safle. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol mewn mannau dan do a rhaid i fygydau hefyd gael eu gwisgo gan staff sy'n gwasanaethu cwsmeriaid y tu allan.  Rhaid i'ch cwsmeriaid hefyd wisgo mygydau wyneb pan nad ydynt yn eistedd i fwyta neu yfed wrth eu bwrdd dyranedig.

Mae rhestrau gwirio ar gael sy'n amlinellu'r mesurau allweddol ar gyfer Cadw Cofnodion, ynghyd â Chadw Pellter Cymdeithasol a Hylendid, y dylech eu rhoi ar waith i gadw eich staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr yn ddiogel. 

Gallwch hefyd ddefnyddio'r Cerdyn Gweithredu Busnes sy'n rhoi gwybodaeth i chi am sut i gadw COVID-19 allan o'ch safle, pa gamau i'w cymryd pan fydd gweithiwr neu gwsmer yn profi'n bositif a sut y gallwch leihau lledaeniad COVID-19 yn eich busnes. Mae’r wybodaeth hyn hefyd wedi'i rannu fel canllawiau i swyddogion gorfodi gyda thimau Iechyd yr Amgylchedd a Thimau Rheoli Digwyddiadau mewn Awdurdodau Lleol i'w defnyddio wrth iddynt ymweld â busnesau lletygarwch.  


Addo. Fy addewid dros Gymru

Mae ein hymgyrch Addo: Gwneud addewid gyda'n gilydd  yn hyrwyddo ymddygiad twristiaeth cyfrifol yn parhau yng Nghymru.  Mae'r ymgyrch yn annog pawb i ddilyn y rheolau, bod yn garedig ac yn gwrtais i staff a chefnogi busnesau lleol yn ein cymunedau. 

Cefnogwch ein hymgyrch Addo os gwelwch yn dda: Lawrlwythwch yr asedau Addo yn ein pecyn cymorth defnyddiol i'r diwydiant a'u defnyddio wrth gyfathrebu â'ch cwsmeriaid eich hun.


Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 y DU: Adroddiad Proffil Cymru

Mae Croeso Cymru yn parhau i gydweithio â VisitBritain a VisitScotland i gynnal arolwg tracio defnyddwyr yn y DU ac mae'r adroddiad diweddaraf sy'n proffilio trigolion Cymru ac ymwelwyr â Chymru, rhwng 6 Ebrill a 9 Mai (Tonnau 28-30) i'w weld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r canfyddiadau allweddol yn dangos gwelliant mewn hwyliau cenedlaethol a hyder o ran teithio, yn ogystal â mwy o fwriadau i fynd ar drip yr haf hwn.  Mae'r adroddiad yn cynnwys manylion am y darpar ymwelwyr â Chymru eleni a ble maent yn bwriadu aros, yn ogystal â’r bwriadau ar gyfer tripiau dydd yn ystod y gwanwyn / haf.


Ymgyrch VisitBritain – ‘Escape the Everyday’

Mae'r ymgyrch ‘Escape the Everyday’ ledled y DU, sy'n werth £5 miliwn, yn tynnu sylw at y cyrchfannau, atyniadau i ymwelwyr a'r profiadau o safon sydd ar gael ar draws dinasoedd, cefn gwlad ac arfordir y DU i hybu twristiaeth bob pen i’r tymor brig a thu hwnt. 

Mae'r rhagolygon diweddaraf yn dangos yr amcangyfrifir bod gwariant twristiaeth ddomestig ym Mhrydain eleni yn £51.4 biliwn, sy’n gynnydd o 51% ers 2020, ond dim ond ychydig mwy na hanner, 56%, o'r £91.6 biliwn yn 2019. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cydweithio i ysgogi mwy o wyliau domestig cyn gynted â phosibl.

Mae VisitBritain yn gweithio mewn partneriaeth agos â sefydliadau twristiaeth Llundain, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru i sicrhau bod gweithgareddau’r ymgyrch yn adlewyrchu'r canllawiau presennol ar gyfer pob rhanbarth/cenedl.  Mae rhagor o wybodaeth ar wefan VisitBritain.


Sgiliau a Hyfforddiant

  • Gweithdy Bwyd a Diod Cymru

Mae ‘Cymru. Cyrchfan Bwyd’ yn cynnig gweithdai rhithwir sydd wedi'u hariannu'n llawnach ym mis Mehefin, gan ddechrau gyda dosbarth meistr Steilio Bwyd a Ffotograffiaeth gyda Nerys Howell a Phil Boorman.  Ewch i wefan Sgiliau Bwyd Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y Gweithdai a’r dosbarthiadau meistr ar gyfer mis Mehefin 2021.

  • Cymorth i Dyfu eich busnes

Bellach, gall arweinwyr busnesau bach gofrestru eu diddordeb ar gyfer Cymorth i Dyfu Rheolaeth/Help to Grow Management, rhaglen 12 wythnos a ddarperir gan ysgolion busnes blaenllaw ledled y DU. Fe’i cynlluniwyd i fod yn rhaglen hyblyg i’w chyflawni ochr yn ochr â gwaith llawn amser, a bydd yn cefnogi arweinwyr busnesau bach i ddatblygu eu sgiliau strategol gyda modiwlau allweddol sy'n rhoi sylw i reolaeth ariannol, arloesedd a meithrin y maes digidol.

  • Ganolfan Byd Gwaith

Gall y Ganolfan Byd Gwaith gynnig cymorth a chefnogaeth i fusnesau wrth recriwtio a chyflogi pobl. Mae rhagor o wybodaeth am sut y gallant helpu eich busnes ar gael ar wefan Cymorth i recriwtwyr gan y Ganolfan Byd Gwaith.

  • Gweminarau Tŷ’r Cwmnïau

Ymunwch â gweminarau byw diweddaraf Tŷ’r Cwmnïau i gael cyfarwyddyd cyflym a defnyddiol.  Mae’r gweminarau’n mynd i’r afael â nifer o bynciau, yn cynnwys:

  • sefydlu cwmni cyfyngedig a’ch cyfrifoldebau chi i Dŷ’r Cwmnïau a CThEM
  • sut y gall eiddo deallusol fel patentau, nodau masnach a hawlfraint effeithio ar eich busnes

I gael rhagor o wybodaeth am sgiliau, recriwtio a chymorth hyfforddiant i'ch busnes, yn ogystal â chymorth arall fel Lles i gyflogwyr a gweithwyr, ewch i’n tudalennau Sgiliau.


Seiberddiogelwch ar gyfer busnesau bach a chanolig

P’un ai’ch bod yn gweithio i chi’ch hun neu’n rhedeg busnes gyda gweithwyr, ni ddylai seiberddiogelwch godi ofn arnoch.  Mae gan y National Cyber Security Centre (NCSC) gyngor a gwybodaeth ar gyfer busnesau bach a chanolig (BBaCh).

Mae NCSC newydd lansio eu sesiynau e-ddysgu Cyber Security for Small Organisations ac awgrymiadau gwych i staff, sy’n caniatáu i chi gynnwys y pecyn yn rhan o hyfforddiant eich sefydliad chi.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Helpwch i ledaenu negseuon ynghylch diogelwch drwy fod yn llysgennad diogelwch ar y dŵr lleol ar gyfer yr RNLI / Gwylwyr y Glannau

Wrth i fwy a mwy o bobl barhau i ymweld â’r arfordir gall busnesau ar yr arfordir chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r RNLI – drwy fod yn llysgenhadon diogelwch ar y dŵr. Mae'r RNLI ynghyd â Gwylwyr y Glannau EM yn cynnal ymgyrch #ParchwchYDŵr  ar gyfer y tymor ymdrochi a gall busnesau ddod yn llysgenhadon drwy wneud eu hunain yn gyfarwydd â'r negeseuon allweddol a chymryd camau fel y rhai canlynol:

  • Atgoffa eich hun pa draethau sydd ag achubwyr bywyd yr haf hwn drwy ddarllen y rhestr lawn
  • Rhybuddio ynghylch peryglon ar draethau lleol, ac yn arbennig os oes llanw terfol  a allai olygu na all pobl gyrraedd y lan.
  • Hysbysu pobl ynghylch y gwahanol faneri lliw sydd ar draethau a’u hystyr.
  • Darparu gwybodaeth am amseroedd y llanw a phryd y bydd gwyntoedd uchel a all fod yn beryglus iawn os ydych yn defnyddio eitemau sydd wedi’u llenwi ag aer.    
  • Atgoffa pobl y dylent ARNOFIO I FYW os byddant yn syrthio i’r dŵr yn anfwriadol.

Gall unrhyw un gefnogi’r ymgyrch a chodi ymwybyddiaeth, o ddarparwyr llety i fanwerthwyr a lleoliadau lletygarwch ac mae’r RNLI wedi llunio adnoddau defnyddiol iawn ar gyfer busnesau gan gynnwys posteri i’w lawrlwytho a hefyd graffeg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol er mwyn helpu i rannu negeseuon. 

Mae gwybodaeth am Y deg traeth gorau sydd ag achubwyr bywyd gan yr RNLI ar gael ar  wefan Croeso.Cymru


Gwobrau Busnesau Newydd Cymru: Busnes Newydd y Flwyddyn yn y sector Twristiaeth a Hamdden

Cynhelir Gwobrau Busnesau Newydd Cymru ers chwe blynedd bellach. Mae’r gwobrau’n dathlu llwyddiannau busnesau newydd ac yn cydnabod busnesau ar draws pob sector a phob rhan o Gymru. Bydd y Gwobrau'n dathlu entrepreneuriaeth ym mis Medi 2021 ac yn cynnwys categori sy'n agored i unrhyw fusnes newydd yn y sector twristiaeth a hamdden yng Nghymru. Bydd y beirniaid yn chwilio am y busnesau newydd hynny sy'n canolbwyntio ar ragoriaeth wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid ac yn dangos arloesedd o ran cynnyrch a gwasanaethau ym maes twristiaeth a hamdden. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mai.


Ymunwch â'r Chwyldro Ail-lenwi ar Ddiwrnod Ail-lenwi’r Byd - 16 Mehefin 2021

Ar Ddiwrnod Ail-lenwi’r Byd, dewiswch ailddefnyddio ac ymunwch â miliynau o bobl o bob cwr o’r byd sy’n mynd ati i leihau llygredd plastig.   Mae Diwrnod Ail-lenwi'r Byd yn ymgyrch sy’n codi ymwybyddiaeth gyhoeddus yn fyd-eang er mwyn atal llygredd plastig a helpu pobl i fyw gyda llai o wastraff.  I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan, ewch i Refill.org.uk


Gweithgynhyrchu a darparu hylif diheintio dwylo a diheintydd arwynebau

Yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), mae mwy o alw wedi bod am hylif diheintio dwylo a chynhyrchion diheintio arwynebau.

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ganllawiau i gyflogwyr sy'n darparu hylif diheintio dwylo i'w gweithwyr ac eraill ei ddefnyddio yn eu gweithleoedd, ac ar gyfer gweithgynhyrchwyr hylif diheintio dwylo a diheintyddion arwynebau sy’n bodoli eisoes a rhai newydd.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram