Bwletin Newyddion: Datganiad Ysgrifenedig - Amrywiolynnau newydd o’r coronafeirws; Annog ymwelwyr i bacio profion llif unffordd os ydynt yn mynd ar wyliau yng Nghymru o ardaloedd yn y DU gyda chyfraddau uwch o coronafeirws

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

26 Mai 2021


Covid

Datganiad Ysgrifenedig: Amrywiolynnau newydd o’r coronafeirws

Mae Datganiad Ysgrifenedig wedi'i wneud gan Mark Drakeford AS Prif Weinidog Cymru:

Drwy gydol y pandemig, mae patrwm clir a chyson yn lledaeniad y coronafeirws ar hyd coridorau teithio wedi dod i’r amlwg. Mae hyn yn wir o fewn Cymru; ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r feirws yn symud gyda phobl, ac mae pobl yn dod â’r feirws i ardaloedd newydd wrth iddynt symud o gwmpas.

Mae gwaith dadansoddi ar y gwahanol amrywiolynnau o’r feirws yn y DU wedi dangos bod y mwyafrif wedi’u nodi gyntaf yn Lloegr. Yn aml, roedd achosion yng Nghymru yn dod i’r amlwg rai diwrnodau’n ddiweddarach.

Lledaenodd amrywiolyn Caint – sef y ffurf fwyaf cyffredin o’r feirws yn y DU – yn gyflym iawn ar draws y DU gyfan, er bod cyfyngiadau sylweddol mewn grym, gan gynnwys cyfyngiadau teithio, yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr.

Mae amrywiolyn newydd wedi’i nodi ac mae’n ymddangos ei fod hyd yn oed yn fwy trosglwyddadwy nag amrywiolyn Caint. Mae’n debygol mai’r amrywiolyn hwn, a nodwyd gyntaf yn India, fydd yr amrywiolyn mwyaf cyffredin yn y DU, fel y digwyddodd gydag amrywiolyn Caint. Mae achosion wedi’u nodi mewn llawer o ardaloedd ar draws y DU – yn enwedig yn Bolton, Blackburn, Kirklees, Bedford, Burnley, Caerlŷr, Hounslow a Gogledd Tyneside. Rydym hefyd wedi cofnodi 57 o achosion yng Nghymru o amrywiolyn India, sydd wedi’i ddynodi’n amrywiolyn sy’n peri pryder.

Mae yna lawer iawn nad ydym yn ei wybod o hyd am yr amrywiolyn newydd hwn. Nid ydym yn gwybod digon i ddweud a allai achosi salwch difrifol neu farwolaeth i fwy o bobl. Mae’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn awgrymu bod brechlynnau’n effeithiol o hyd, yn enwedig o ran diogelu rhag clefyd difrifol.

Gyda phob wythnos sy’n mynd heibio, mae ein rhaglen frechu ragorol yn parhau i ddiogelu mwy o bobl. Byddwn i’n annog pawb sy’n cael cynnig y brechlyn i dderbyn y gwahoddiad.

Ar hyn o bryd, nid ydym yn gweld unrhyw gynnydd mewn derbyniadau i ysbytai sy’n gysylltiedig ag amrywiolyn India yng Nghymru. Rydym yn monitro’r sefyllfa yn Lloegr yn agos, yn enwedig yr ardaloedd hynny lle mae niferoedd uchel o achosion o’r amrywiolyn sy’n peri pryder. Bydd hyn yn rhoi rhybudd cynnar inni.

Mae canllawiau Llywodraeth y DU ar gyfer pobl sy’n byw yn yr wyth ardal lle mae amrywiolyn India sy’n peri pryder yn cylchredeg yn cynghori yn erbyn teithio os nad yw’n hanfodol ac yn eu cynghori i gael eu profi’n rheolaidd.

Nid ydym yn cyflwyno unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn y DU ar hyn o bryd, ond ein cyngor clir yw na ddylai pobl deithio i ardaloedd lle mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn uchel os oes modd osgoi hynny. Mae hyn yn cynnwys Bolton, Blackburn, Kirklees, Bedford, Burnley, Caerlŷr, Hounslow a Gogledd Tyneside lle mae amrywiolyn India sy’n peri pryder yn cylchredeg. Hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu, mae’r risg o ddal COVID-19 yn uwch yn yr ardaloedd hynny, felly dylech osgoi teithio iddynt os oes modd.

Wrth inni nesáu at Ŵyl Banc y Gwanwyn a gwyliau hanner tymor yr ysgolion, bydd ein busnesau twristiaeth yn edrych ymlaen at wythnos brysur a dechrau tymor yr haf.

Byddem yn annog unrhyw un sy’n bwriadu dod i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws i brofi eu hunain ddwywaith yr wythnos, gan ddefnyddio’r profion llif unffordd am ddim, cyn iddynt deithio. Dim ond y rhai sy’n cael canlyniad prawf negatif ac sydd heb symptomau’r coronafeirws ddylai deithio.

Dylai pawb sy’n dod i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws ddod â phecynnau profion llif unffordd gyda nhw i barhau i brofi eu hunain yn rheolaidd tra byddant ar wyliau. Mae hyn yn gam ychwanegol i helpu i ddiogelu Cymru. Mae pecynnau profion llif unffordd hefyd ar gael yng Nghymru o ganolfannau profi lleol.

Rydym wedi bod yn glir bob amser am y risg o drydedd don, wrth i amrywiolynnau newydd sy’n peri pryder ddod yn fwy amlwg. Byddwn yn cymryd pwyll wrth lacio’r cyfyngiadau, ac yn parhau i ddilyn y cyngor gwyddonol diweddaraf sydd ar gael. Byddwn yn addasu ein rhaglen Profi Olrhain Diogelu a’n rhaglen frechu hynod o effeithiol pan fo angen. Rydym yn cadw capasiti ar gyfer ymchwydd dros dro yn ein Gwasanaeth Iechyd rhag ofn y bydd ei angen. Rydym hefyd yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid lleol i reoli a chyfyngu ar frigiadau o achosion lleol.

Ein rhaglen frechu lwyddiannus yw’n llwybr gorau allan o’r pandemig hwn. Rwy’n annog pawb i barhau i fod yr un mor ofalus ac i fabwysiadu’r un ymddygiadau diogelu ag rydym wedi’u gwneud drwy gydol y pandemig, wrth inni barhau i frechu gweddill y boblogaeth sy’n gymwys yng Nghymru.


Gwiriwch yn ôl a pharhau i'n dilyn ar-lein gan bydd y Cwestiynau Cyffredin wedi'u diweddaru yn ystod y 2 ddiwrnod nesaf, gydag eglurhad pellach.

Yn y cyfamser, er mwyn i ni hwyluso ymateb cyflym i ymholiadau, anfonwch unrhyw gwestiynau sydd gennych am y pwnc a drafodir yn y datganiad, drwy e-bost, gan ddefnyddio quality.tourism@llyw.cymru.


Cofiwch bacio’ch prawf Covid os byddwch yn dod ar wyliau i Gymru

Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i bacio profion llif unffordd os byddant yn dod ar wyliau i Gymru o ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws.

Heddiw, gofynnodd Prif Weinidog Cymru i bob ymwelydd o’r ardaloedd hynny, gan gynnwys rhannau o Loegr sydd â lefelau uchel o amrywiolyn India sy’n peri pryder, i gymryd camau ychwanegol i helpu i ddiogelu Cymru.

Mae Llywodraeth y DU yn gofyn i bobl sy’n byw mewn wyth ardal yn Lloegr lle mae nifer yr achosion o amrywiolyn India yn uchel – Bolton, Blackburn, Kirklees, Bedford, Burnley, Caerlŷr, Hounslow a Gogledd Tyneside – i deithio cyn lleied â phosibl allan o’r ardal.

Ond nid yw’r cyngor yn gwahardd teithio y tu hwnt i’r ardaloedd hyn.

Wrth i sector twristiaeth Cymru baratoi ar gyfer penwythnos gŵyl banc y Gwanwyn a dechrau tymor yr haf, mae’r Prif Weinidog wedi annog teithwyr o bob rhan o’r DU, yn enwedig yr wyth ardal dan sylw yn Lloegr, i ddefnyddio a phacio pecynnau profion llif unffordd os byddant yn dod i Gymru.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Bydd ein busnesau twristiaeth yn edrych ymlaen at wythnos brysur a dechrau tymor yr haf.

“Rwy’n annog unrhyw un sy’n bwriadu dod ar wyliau i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws i brofi eu hunain yn rheolaidd, gan ddefnyddio’r profion llif unffordd am ddim, cyn iddynt deithio. Dim ond y rhai sy’n cael canlyniad prawf negatif ac sydd heb symptomau’r coronafeirws ddylai deithio.

“Dylai pawb sy’n dod i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws ddod â phecynnau profion llif unffordd gyda nhw i barhau i brofi eu hunain yn rheolaidd tra byddant ar wyliau. Mae hyn yn gam ychwanegol i helpu i ddiogelu Cymru. Mae pecynnau profion llif unffordd hefyd ar gael yn lleol ledled Cymru.”

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod dros 3,200 o achosion o amrywiolyn India sy’n peri pryder wedi’u nodi yn Lloegr. Mae 57 o achosion yng Nghymru.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Drwy gydol y pandemig, mae patrwm clir a chyson yn lledaeniad y coronafeirws ar hyd coridorau teithio wedi dod i’r amlwg. Mae hyn yn wir o fewn Cymru; ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r feirws yn symud gyda phobl, ac mae pobl yn dod â’r feirws i ardaloedd newydd wrth iddynt symud o gwmpas.

“Ein rhaglen frechu lwyddiannus yw’n llwybr gorau allan o’r pandemig hwn. Rwy’n annog pawb i barhau i fod yr un mor ofalus ac i fabwysiadu’r un ymddygiadau diogelu ag rydym wedi’u gwneud drwy gydol y pandemig, wrth inni barhau i frechu gweddill y boblogaeth sy’n gymwys yng Nghymru.”


Mae pecynnau profi llif unffordd ar gael o bwyntiau casglu lleol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar: https://maps.test-and-trace.nhs.uk/.

Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am achosion o amrywiolion sy'n peri pryder ar dudalen wyliadwriaeth y DU (wedi'i diweddaru'n wythnosol) a thrwy wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (wedi'i diweddaru ddwywaith yr wythnos – o dan y tab gwyliadwriaeth amrywiolion).


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram