Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

13 Mai 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Tîm newydd i arwain Cymru i ddyfodol mwy disglair; Datganiad gan Brif Weinidog Cymru; Canllawiau a rhestrau gwirio coronafeirws (COVID-19) ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch; Cefnogaeth bellach i fusnesau Cymru; Digwyddiadau Prawf Peilot Cymru; Addo. Fy addewid dros Gymru; Gwneud mesurau COVID-19 yn hygyrch i'ch cwsmeriaid dall a rhannol ddall; Gweminarau Profi COVID-19 yn y Gweithle / Prawf llif unffordd; NODYN ATGOFFA - Mae 6,000 o fusnesau yng Nghymru nawr yn “Barod Amdani”; ACAS yn cyhoeddi cyngor newydd ar Covid hir i gyflogwyr; Gŵyl y Gelli Rithwir 2021; Cwestiynau Cyffredin; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Tîm newydd i arwain Cymru i ddyfodol mwy disglair

Bydd newid hinsawdd, swyddi gwyrdd newydd ac adfer o’r pandemig wrth wraidd y Llywodraeth Lafur Cymru newydd, wrth i’r Prif Weinidog Mark Drakeford ddatgelu ei dîm Cabinet newydd.


Datganiad gan Brif Weinidog Cymru

Gellir gweld y datganiad a wnaed gan Mark Drakeford ddoe (12 Mai) wrth siarad yn y Senedd ar ôl cael ei enwebu i fod yn Brif Weinidog Cymru, ar Llyw.Cymru.


Canllawiau a rhestrau gwirio coronafeirws (COVID-19) ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch

Wrth i ni edrych ar ailagor yn raddol, sicrhewch eich bod yn ymwybodol ac yn dilyn Canllawiau UKHospitality Cymru yn ogystal a chanllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch. (Gwyliwch y ffilm fer hon i'ch helpu  i ymgyfarwyddo ar canllawiau).

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel.

Os ydych yn rhedeg busnes lletygarwch, mae'n ofyniad cyfreithiol cadw cofnodion eich hun o gwsmeriaid, staff ac ymwelwyr i gefnogi gwasanaeth Prawf, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.  Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gyflwyno system electronig neu bapur sy'n cofnodi enw, manylion cyswllt ac amser cyrraedd pob cwsmer (ac eithrio plant). Nid yw gofyn i gwsmeriaid ddefnyddio Ap y GIG yn ddigon ac nid yw'n eithrio busnes rhag casglu'r wybodaeth hon

Mae rhestrau gwirio ar gael sy'n amlinellu'r mesurau allweddol ar gyfer Cadw Cofnodion, ynghyd â Chadw Pellter CymdeithasolHylendid, y dylech eu rhoi ar waith i gadw eich staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr yn ddiogel. 

Dylai busnesau hefyd:

  • Gwneud y mwyaf o awyru a gwella llif aer drwy agor ffenestri a chynnal drysau mewnol agored (ond nid drysau tân) lle bo hynny'n bosibl.
  • Rhaid i staff sy'n gweithio ym mhob man dan do ac yn yr awyr agored sy'n agored i'r cyhoedd wisgo mygydau (oni bai bod ganddynt esgus rhesymol). Rhaid i'r mygydau gael eu gwisgo gan staff sy'n gweini bwyd a diod i gwsmeriaid a phan fydd staff yn symud o amgylch y safle. Rhaid i'ch cwsmeriaid hefyd wisgo mygydau wyneb pan nad ydynt yn eistedd i fwyta neu yfed wrth eu bwrdd dyranedig.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r Cerdyn Gweithredu Busnes sy'n rhoi gwybodaeth i chi am sut i gadw COVID-19 allan o'ch safle, pa gamau i'w cymryd pan fydd gweithiwr neu gwsmer yn profi'n bositif a sut y gallwch leihau lledaeniad COVID-19 yn eich busnes. Mae’r wybodaeth hyn hefyd wedi'i rannu fel canllawiau i swyddogion gorfodi gyda thimau Iechyd yr Amgylchedd a Thimau Rheoli Digwyddiadau mewn Awdurdodau Lleol i'w defnyddio wrth iddynt ymweld â busnesau lletygarwch.  

Mae adnoddau pellach yn cynnwys:


Cefnogaeth bellach i fusnesau Cymru

Gall busnesau yng Nghymru sy'n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau’r coronafeirws hawlio hyd at £25,000 yn rhagor o gefnogaeth i helpu dalu am costau parhaus.

Daw'r pecyn nesaf hwn o gymorth busnes wrth i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd hyd at chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol yn gallu cyfarfod mewn lleoliadau dan do a reoleiddir, fel caffis a thafarndai, pan fyddant yn agor o Fai 17 ymlaen. Bydd y pecyn cymorth diweddaraf hwn yn helpu'r busnesau hynny sy'n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau, i dalu costau parhaus hyd at ddiwedd mis Mehefin wrth iddynt baratoi ar gyfer ailagor ac amodau masnachu mwy arferol. Mae’r busnesau a all elwa’n cynnwys y canlynol:

  • clybiau nos a lleoliadau adloniant hwyr
  • digwyddiadau a lleoliadau cynadledda nad ydynt wedi'u cynnwys yng Nghronfa Adfer Ddiwylliannol (CRF) Llywodraeth Cymru
  • busnesau lletygarwch a hamdden, gan gynnwys bwytai, tafarndai a chaffis
  • busnesau’r gadwyn gyflenwi, sydd wedi cael eu heffeithio'n sylweddol gan y cyfyngiadau.

Bydd gwiriwr cymhwysedd yn agor ar wefan Busnes Cymru am hanner dydd ar 17 Mai fel bod busnesau’n gallu gweld faint o gymorth maent yn debygol o fod â hawl iddo a sut i wneud cais.

Bydd busnesau'n gallu cyflwyno ceisiadau erbyn diwedd y mis a byddant yn derbyn rhwng £2,500 a £25,000 gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau. Caiff y cyllid ei gyfrif yn seiliedig ar faint y busnes a'r math o gyfyngiadau sydd arno.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Digwyddiadau Prawf Peilot Cymru

Wrth i gyfyngiadau'r Coronafeirws barhau i lacio yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr arfaethedig o ddigwyddiadau prawf peilot i'w cynnal dros yr wythnosau nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar gyflwyno digwyddiadau prawf peilot er mwyn datblygu prosesau a chanllawiau a fydd yn caniatáu i ddigwyddiadau ddychwelyd yn  ddiogel yng Nghymru. Bydd rheoli rhaglen digwyddiadau prawf ddiogel a llwyddiannus gobeithio yn caniatáu i gynulliadau mwy yn ôl i stadia, theatrau a lleoliadau eraill yng Nghymru yn hwyrach eleni.

Am fanylion pellach, darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Addo. Fy addewid dros Gymru

Mae ein hymgyrch Addo: Gwneud addewid gyda'n gilydd  yn hyrwyddo ymddygiad twristiaeth cyfrifol yn parhau yng Nghymru ac wrth i ni edrych ymlaen at leddfu'r cyfyngiadau ymhellach o fewn y sector twristiaeth yr wythnos nesaf, byddwn yn cyfleu negeseuon ynghylch lletygarwch ac yn atgyfnerthu ymddygiad cadarnhaol.   

Mae'r ymgyrch yn annog pawb i ddilyn y rheolau, bod yn garedig ac yn gwrtais i staff a chefnogi busnesau lleol yn ein cymunedau.  Mae'r ymgyrch yn fyw ar draws ein holl sianelau digidol a bydd yn cael ei ymestyn ymhellach gyda fersiwn newydd o'n ffilm Addo yn rhedeg ar S4C, ITV a Sky o 17 Mai ymlaen yn ogystal ar Fideo ar Alw, Spotify a radio digidol.

Helpwch i gefnogi ein hymgyrch drwy rannu ein negeseuon gyda'ch cwsmeriaid eich hun. Mae asedau Addo ar gael i chi eu lawrlwytho a'i ddefnyddio yn ein pecyn cymorth defnyddiol i'r diwydiant.


Gwneud mesurau COVID-19 yn hygyrch i'ch cwsmeriaid dall a rhannol ddall 

Mae RNIB wedi creu rhai canllawiau arferion gorau i helpu busnesau i ddeall sut i helpu cwsmeriaid dall a rhannol ddall gyda mesurau COVID-19.  

Dysgwch sut i wneud mesurau'n fwy hygyrch a chefnogi cwsmeriaid dall a rhannol ddall.


Gweminarau profi COVID-19 yn y gweithle / prawf llif unffordd

  • Ar gyfer busnesau gyda 10 neu fwy o weithwyr - Bydd y gefnogaeth i brofion asymptomatig rheolaidd mewn gweithleoedd yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn canolbwyntio ar weithleoedd gyda mwy na 10 o weithwyr nad ydynt yn gallu gweithio gartref.  Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o weminarau dros yr wythnosau nesaf i ddarparu trosolwg o’r cynnig sydd ar gael, a’r gofynion y bydd angen i chi eu bodloni i gymryd rhan ym Mhrofion Gweithle COVID-19. 
  • Ar gyfer busnesau gyda llai na 10 o weithwyr - Gall pobl nad ydynt yn gallu gweithio gartref, ac nad oes ganddynt symptomau coronafeirws, archebu profion llif unffordd cyflym am ddim ar-lein. Mae hunan-brofion llif unffordd cyflym hefyd ar gael i’w casglu o safleoedd prawf penodol ledled Cymru. 

I gael rhagor o wybodaeth am y gweminarau hyn neu i gael mynediad at brofion llif unffordd cyflym am ddim, ewch i wefan Busnes Cymru.


NODYN ATGOFFA - Mae 6,000 o fusnesau yng Nghymru nawr yn “Barod Amdani” 

Mae safon y diwydiant "Barod Amdani" yn gynllun hunan asesu am ddim sydd wedi'i gynllunio mewn partneriaeth â'r sefydliadau cenedlaethol (Croeso Cymru, Tourism Northern Ireland, VisitScotland a VisitEngland) er mwyn rhoi sicrwydd i bob sector o'r diwydiant twristiaeth, yn ogystal â sicrwydd i ymwelwyr, bod gan fusnesau brosesau clir ar waith a'u bod yn dilyn canllawiau gan y diwydiant a'r Llywodraeth ynghylch COVID-19.

Mae'r nod hwn bellach yn cael ei gydnabod gan Gyngor Teithio a Thwristiaeth y Byd (WTTC) fel modd o roi sicrwydd i gwsmeriaid mewn cyd-destun rhyngwladol, gan ei fod yn bodloni protocolau iechyd a hylendid safonedig byd-eang rhyngwladol WTTC.

Gall busnesau sydd wedi darllen a gweithredu canllawiau ailagor Twristiaeth a Lletygarwch Coronafeirws Llywodraeth Cymru, deall y canllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a chael Asesiad Risg COVID-19 ar waith wneud cais am nod safonol y diwydiant.

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ewch ati yn awr. Mae’n broses syml a bydd yn galluogi eich busnes i ddefnyddio’r safon er mwyn ennyn hyder defnyddwyr. Mae’r cynllun yn cael ei ddefnyddio ar draws y DU a bydd darpar ymwelwyr yn chwilio am leoliadau a gwasanaethau sy’n cymryd rhan yn y cynllun.

Bydd yn parhau’n rhan allweddol o neges Croeso Cymru i ddefnyddwyr a hefyd bydd defnyddwyr CroesoCymru.com yn gallu chwilio am yr holl gynhyrchion drwy opsiwn hidlo “Barod Amdani”.

Helpwch i rannu'r neges a gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys @croesocymrubus  yn eich cyfathrebiadau cymdeithasol.


ACAS yn cyhoeddi cyngor newydd ar Covid hir i gyflogwyr

Gall Coronafeirws (COVID-19) achosi symptomau sy’n para wythnosau neu fisoedd i rai ar ôl i’r haint fynd.  Yn aml defnyddir y term COVID hir ar gyfer hyn ac mae’n cael effaith ar fusnesau wrth i weithwyr sydd wedi’u heffeithio geisio dychwelyd i’r gwaith.

Mae ACAS wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer cyflogwyr am yr effaith y gallai Covid hir ei chael ar weithwyr.  Mae'r canllawiau'n rhoi arweiniad ymarferol i gyflogwyr reoli effeithiau amrywiol y cyflwr yn ogystal ag amrywiaeth o opsiynau a all helpu staff i ddychwelyd i'r gwaith yn ddiogel. 


Gŵyl y Gelli Rithwir 2021

Mae rhaglen y gwanwyn Gŵyl y Gelli, sy’n 34 oed eleni, wedi’i lansio. Bydd yr ŵyl yn darlledu am ddim ar-lein eleni o’r Gelli Gandryll i’r byd rhwng 26 Mai 2021 a 6 Mehefin 2021.

Dros 12 diwrnod, bydd dros 200 o awduron cydnabyddedig, llunwyr polisïau byd-eang, haneswyr, beirdd, arloeswyr a dyfeiswyr yn ymuno â Gŵyl Rithwir y Gelli i ysbrydoli, archwilio a diddanu mewn digwyddiadau ar gyfer pob oed. Bydd pob digwyddiad yn cael ei isdeitlo a bydd rhan fwyaf or digwyddiadau ar gael i’w wylio am ddim 24 awr wedi iddo gael ei ddarlledu’n fyw.  Bydd yr holl ddigwyddiadau yna ar gael yn yr archif ar-lein Hay Player – gweler y rhestri unigol am ragor o fanylion.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Gŵyl y Gelli.


Cwestiynau Cyffredin

Mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â Coronafeirws i’w gweld ar Llyw.Cymru.

Mae'r rhain yn cael eu diweddaru’n gyson,  edrychwch yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram