Bwletin Newyddion: Lletygarwch awyr agored yn cael caniatâd i ailagor a’r rheolau ar gymysgu yn yr awyr agored yn cael eu llacio yng Nghymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

20 Ebrill 2021


Covid

Lletygarwch awyr agored yn cael caniatâd i ailagor a’r rheolau ar gymysgu yn yr awyr agored yn cael eu llacio yng Nghymru

Wrth i’r achosion o heintiadau COVID-19 newydd barhau i ostwng, mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cadarnhau bydd chwe unigolyn yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored yng Nghymru o ddydd Sadwrn 24 Ebrill a bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill.

Mae'r rheol bresennol yn darparu fel bod modd i hyd at chwe unigolyn (heb gynnwys plant o dan 11 oed neu ofalwyr) o ddwy aelwyd ar y mwyaf gyfarfod yn yr awyr agored. Bydd y rheolau newydd o ddydd Sadwrn yn caniatáu i hyd at 6 o bobl o unrhyw aelwyd (heb gynnwys plant o dan 11 oed neu ofalwyr) gyfarfod yn yr awyr agored.

Dylai unigolion gadw pellter cymdeithasol rhyngddynt ag eraill o’r tu allan i'w haelwyd neu swigen gefnogaeth wrth gyfarfod y tu allan.

Nid yw’r rheolau ar gyfer cyfarfod dan do wedi newid.

Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi cadarnhau y caniateir i letygarwch awyr agored ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill 2021.

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

"Mae'r cyd-destun o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn parhau i fod yn ffafriol, gydag achosion yn gostwng ac mae ein rhaglen frechu yn dal i fynd o nerth i nerth. Gan fod llai o risg yn dal i fod yn gysylltiedig o hyd â chwrdd yn yr awyr agored o’i gymharu â chwrdd dan do, rydyn ni’n gallu cyflwyno newidiadau i ganiatáu i unrhyw chwe unigolyn gwrdd yn yr awyr agored.

"Bydd hyn yn rhoi mwy o gyfle i bobl ifanc yn arbennig i gwrdd â’u ffrindiau yn yr awyr agored. Nid oes amheuaeth y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar lesiant unigolion.

"Rydw i’n falch hefyd o gadarnhau y bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill ymlaen.

"Bydd y newidiadau hyn yn helpu'r sector lletygarwch i adfer ar ôl deuddeg mis anodd.

"Diolch i ymdrechion parhaus pobl ym mhob cwr o Gymru rydyn ni’n gallu cyflwyno'r newid hwn. Gyda'n gilydd, byddwn ni’n parhau i ddiogelu Cymru."

Ddydd Gwener (23 Ebrill 2021), bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau’r trefniadau ar gyfer llacio rheolau COVID ymhellach a bydd y rhain yn dod i rym ddydd Llun 26 Ebrill 2021.


Coronafeirws (COVID-19) Canllawiau i Fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch

Wrth i ni edrych ar ailagor yn raddol, mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch.

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel.

Bwriad y mesurau ychwanegol canlynol yw rhoi cyngor pellach i fusnesau llety hunangynhwysol a rhaid eu hystyried yn unol â Chanllawiau UKHospitality Wales a'r Canllawiau Twristiaeth a Lletygarwch.

Bydd y canllawiau'n cael eu diweddaru – edrychwch yn ôl yn rheolaidd.

Dylai busnesau hefyd ystyried, lle bo'n briodol:

  • Cryfhau eu polisi ar waredu gorchuddion wyneb yn ddiogel ar gyfer staff ac ymwelwyr.
  • Cyflwyno mesurau i staff ac ymwelwyr, ar ôl cyrraedd, megis cymryd profion tymheredd, gofyn i bobl ddiheintio eu dwylo a gofyn cwestiynau ynghylch a ydynt yn arddangos unrhyw symptomau.
  • Ystyried llif y gwesteion/ymwelwyr a sut i osgoi cymysgu unrhyw aelwyd drwy gadw gwesteion/ymwelwyr ar wahân wrth iddynt symud o amgylch y safle drwy gydol eu hymweliad/arhosiad, gan roi sylw arbennig i fannau cyhoeddus caeedig fel lifftiau, grisiau a choridorau.
  • Cyfarwyddo gwesteion/ymwelwyr i symud drwy fannau cyhoeddus caeedig cyn gynted â phosibl, ac i osgoi gweiddi neu ganu mewn ardaloedd o'r fath.
  • fewn llety, sicrhau bod gwesteion yn cadw'r drysau i'w hystafelloedd ar gau bob amser, ar wahân i'r adeg pan fyddant yn mynd i mewn ac yn gadael.
  • Sicrhau fod trefn bob yn ail ar gyfer gwasanaeth ystafell/dosbarthu gwasanaeth golchi ac ati i ystafelloedd, er mwyn osgoi gwesteion yn agor drysau ac yn dod allan ar yr un pryd.
  • Adolygu eu gweithdrefnau digwyddiadau ac achosion brys er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r egwyddorion cadw pellter corfforol cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys ystyried sut i leihau cymysgu cartrefi wrth ymgasglu mewn mannau ymgynnull tân.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu'r pum prif gam y dylai bawb sy’n gyfrifol am waith yng Nghymru eu cymryd i’n helpu i Gadw Cymru yn Ddiogel.

Ewch i’r tudalennau Diogelu Cymru yn y Gweithle ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws

Mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â Coronafeirws hefyd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ar Llyw.Cymru.


Rhaid i fusnesau twristiaeth a lletygarwch roi pob mesur rhesymol ar waith i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws ac ni ddylent dderbyn cwsmeriaid os ydynt yn ymwybodol eu bod yn torri’r rheolau ar gyfyngiadau teithio.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram