Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

18 Mawrth 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN :  Ar frys – Cais i Fusnesau Llety Gwyliau i ddarparu llety ar gyfer grwpiau bregus; Canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch; Ydych chi wedi diweddaru eich cofnod yn ddiweddar?; Addo, adduned i gadw Cymru yn ddiogel wrth aros yn lleol; Sgiliau a Hyfforddiant - Porth Sgiliau Busnes Cymru / Dyddiadau newydd ar gyfer gweminarau i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch fynd i’r afael â digidol; £150 miliwn ychwanegol i gefnogi busnesau yng Nghymru; Ymestyn Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig; Cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol; Ymchwil - Arolwg Ymwelwyr Cymru / Baromedr Busnes Twristiaeth; Cymorth gan Lywodraeth Cymru yn rhoi’r golau gwyrdd ar gyfer gwaith ar Bont Gludo Casnewydd; Arian hollbwysig i roi hwb i drefi arfordirol yn parhau, diolch i Llywodraeth Cymru; Y Prif Weinidog yn cyhoeddi coedlannau coffa; Coronafeirws (COVID-19): E-bost ffug nad yw HSE yn gyfrifol amdano; Arolwg: Effeithiau’r pandemig COVID-19 ar iechyd cyflogwyr a'u staff ar hyn o bryd ac yn y dyfodol; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19


Ar frys – Cais i Fusnesau Llety Gwyliau i ddarparu llety ar gyfer grwpiau bregus 

Rydym yn gwneud cais brys i ddarparwyr llety gwyliau helpu drwy gynnig llety i bobl fregus. 

Yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol, ac ers hynny, rydym wedi gweld gwaith anhygoel ledled Cymru i sicrhau nad oes neb heb le diogel a chefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Diolch yn fawr i bawb sydd wedi ac sy’n parhau i’n helpu gyda’r gwaith hwn. Wrth i ni symud i lacio'r cyfyngiadau o ran llety hunangynhwysol, rydym yn gobeithio y byddwch yn parhau â'ch cefnogaeth. 

Nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru wedi newid; dylai pawb fod â llety sy’n eu galluogi i ddilyn canllawiau iechyd y cyhoedd ar gadw pellter cymdeithasol, hylendid a hunan-ynysu os oes angen.  Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod gwasanaethau tai o dan bwysau mawr.  Mewn rhai ardaloedd mae llety brys eisoes yn llawn ac mae’r pwysau’n parhau. 

Rydym felly’n gofyn i fusnesau llety ledled Cymru a fyddai’n bosibl iddynt helpu Awdurdodau Lleol i ddarparu llety brys o safon.  Mae rhai busnesau eisoes yn darparu llety ar gyfer Gweithwyr Allweddol a grwpiau bregus, sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr.  Fodd bynnag, yr her bresennol yw i sicrhau digon o lety ar gyfer pobl, nifer ohonynt wedi gorfod symud o ganlyniad i’r pandemig – mae hyn yn cynnwys pobl ddi-gartref a’r rhai sydd o dan fygythiad o fod yn ddi-gartref, fel y bobl hynny nad oes modd iddynt bellach aros gyda theuluoedd neu ffrindiau, neu unigolion sydd â’u perthynas wedi chwalu. 

Mae rhagor o gyllid ar gael i gefnogi Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd i sicrhau y llety hanfodol hwn ac i ddarparu’r staff cymorth sydd ei angen fel y gall y pobl hyn dderbyn cefnogaeth gofleidiol i fodloni eu hanghenion. Os ydych yn cefnogi’r gwaith hwn bydd Busnesau yn Llunio contract gyda’u Hawdurdod Lleol ar gyfer y costau uniongyrchol.

Os y gallwch helpu, cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol ble rydym wedi darparu enw cyswllt a chyfeiriad e-bosb.  Ar gyfer yr ardaloedd hynny lle nad yw manylion cyswllt eich Awdurdod Lleol wedi’i nodi cysylltwch â Llywodraeth Cymru quality.tourism@llyw.cymru a byddwn yn casglu’r wybodaeth a’i darparu i’ch ALl er mwyn creu’r cyswllt.    

  1. Rhowch fanylion y llety y gallech ei ddarparu i bobl fregus. Byddwn am gael manylion nifer yr ystafelloedd neu unedau, eu math, lleoliad a pha mor hir rydych yn rhagweld y bydd ar gael.
  2. Rhowch enw cyswllt yn eich busnes a chyfeiriad e-bost a rhif ffôn cyswllt.

Er bod angen ledled Cymru, mae angen brys am lety yn yr ardaloedd canlynol ac rydym wedi darparu ebost cyswllt yr ALl ichi, er mwyn ichi gysylltu â hwy yn uniongyrchol.      

Diolch eto i’r nifer o fusnesau yng Nghymru fu yn ein helpu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – gobeithio y gallwn sicrhau help gan y diwydiant eto.


Canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch

Wrth i ni edrych tuag at ailagor yn raddol, mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch.

I'ch helpu i benderfynu pa gamau i'w cymryd, mae Rheoliadau Coronafeirws yn gofyn i chi gynnal asesiad risg COVID-19 penodol, yn union fel y byddech ar gyfer peryglon eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch. Rhaid cynnal yr asesiad risg hwn mewn ymgynghoriad â staff a chynrychiolwyr (undeb llafur cydnabyddedig neu gynrychiolydd a ddewisir gan weithwyr) a bod ar gael i'r staff.

Mae HSE (Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) yn darparu templedi defnyddiol i'ch helpu i gynnal asesiad risg COVID-19 penodol a fydd yn mynd â chi drwy'r hierarchaeth o reolaethau o'r mwyaf i'r lleiaf effeithiol.  Ceir trosolwg o hierarchaeth rheolaethau yn Atodiad 1 o'r canllawiau Twristiaeth a Lletygarwch.  Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolenni o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru i ganllawiau sy’n benodol ar gyfer y sector a chanllawiau diwydiant sy'n cynnwys rhagor o fanylion gan gynnwys Canllawiau UKH Cymru.


Ydych chi wedi diweddaru eich cofnod yn ddiweddar?

Os nad ydych wedi gwirio eich cofnod busnes gyda Croeso Cymru yn ddiweddar efallai y byddai'n syniad da i chi edrych i weld a yw’r wybodaeth am eich busnes yn gywir. Gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi i'r rhestr cynnyrch. Gallwch hefyd lanlwytho delweddau o arwyr, cynnwys fideo a hefyd gynnwys dolenni i'ch gwefan archebu ac i’ch tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol. I elwa i’r eithaf ar eich cofnod, edrychwch ar “Awgrymiadau gorau ar gyfer rhestr epig” ar ein tudalen Cydweithio â Croeso Cymru lle gallwch lawrlwytho ein canllaw i'r diwydiant. Cadwch olwg am ein Bwletin Rhestru Cynnyrch yn ystod yr wythnosau nesaf a fydd yn cynnwys mwy o wybodaeth a chefnogaeth i wella eich cofnod.


Addo – adduned i gadw Cymru yn ddiogel wrth aros yn lleol

Am fod y cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19) diweddaraf yn gofyn i bobl yng Nghymru aros yn lleol, bydd Croeso Cymru yn ail-lansio ei ymgyrch Addo, gan ofyn i bobl Cymru wneud adduned wrth iddyn nhw ddechrau mentro yn eu cymunedau lleol unwaith eto i ofalu am ei gilydd, am ein tir ac am ein cymunedau.

Mae Addo yn ymwneud â phobl yn gweithio gyda'i gilydd, gan wneud adduned ar y cyd i ofalu am ei gilydd a'n gwlad. Mae gofyn i bobl wneud adduned yn ffordd ddiddorol i bobl fuddsoddi'n emosiynol yng Nghymru a dangos eu bod yn cymryd pethau o ddifri hefyd. Drwy ymuno â ni, a gwneud adduned, byddwn ni i gyd yn chwarae ein rhan — drwy ofalu amdanon ni ein hunain ac eraill.  Gellir llofnodi'r adduned ar y wefan Gwna addewid i Gymru.

Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.

Mae asedau ar gael ar y llyfrgell asedau i chi eu lawrlwytho a'u defnyddio o fewn eich sianeli cymdeithasol a'ch marchnata eich hun i gefnogi'r ymgyrch Addo.  Bydd deunydd creadigol yr ymgyrch hefyd ar gael i'w gweld cyn bo hir - gan roi blas o'r arddull, y naws a'r negeseuon. Gwiriwch yn ôl yn rheolaidd gan bydd mwy o asedau'n cael eu hychwanegu dros yr wythnosau nesaf.


SGILIAU A HYFFORDDIANT:

Porth Sgiliau Busnes Cymru

Bydd yr ymgyrch 'Yn Gefn i Chi' yn annog cwmnïau ar hyd a lled Cymru i fanteisio ar y cyngor a'r arweiniad sgiliau a chyflogaeth sydd ar gael drwy’r Porth Sgiliau i Fusnes ar-lein.

Mae amrediad o gymorth ar gael, fel cymorth i ddatblygu galluoedd staff a chyngor gyda rhaglenni recriwtio a hyfforddi. Bydd hyn yn helpu busnesau i symud ymlaen drwy bandemig y coronafeirws a ffynnu yn y dyfodol.  I ddysgu mwy am y rhaglenni sydd ar gael, ffoniwch y Porth Sgiliau i Fusnes ar 03000 6 03000 neu ewch i Porth Sgiliau Busnes Cymru.

Am wybodaeth ddiweddaraf am sgiliau, recriwtio a chymorth hyfforddiant i'ch busnes, yn ogystal â chymorth arall fel Lles i gyflogwyr a gweithwyr, ewch i’n tudalennau Sgiliau.

Dyddiadau newydd ar gyfer gweminarau i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch fynd i’r afael â digidol

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi ychwanegu dyddiadau newydd at eu cyfres o weminarau sydd wedi'i theilwra ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch.  Mae'r gweminarau dwy ran, rhad ac am ddim, wedi'u cynllunio er mwyn dangos sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a marchnata e-bost i gadw mewn cysylltiad â'ch cwsmeriaid, yn ogystal ag offer ar-lein fel systemau archebu i'ch helpu i baratoi eich busnes ar gyfer yr adeg pan allwch chi ailagor yn ddiogel.

Cofrestrwch ar gyfer y gweminarau yma a dysgwch fwy am gefnogaeth un i un rhad ac am ddim.


£150 miliwn ychwanegol i gefnogi busnesau yng Nghymru

Mae £150 miliwn arall wedi'i neilltuo i gefnogi busnesau Cymru i ymdrin ag effaith barhaus y pandemig coronafeirws.

Bydd y cymorth ychwanegol yn helpu busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu nad yw'n hanfodol sy'n talu ardrethi annomestig, a bydd yn gweithredu fel ychwanegiad at y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Ymestyn Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig

Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai pedwerydd grant ar gyfer y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig ac y byddai’r grant yn cwmpasu’r cyfnod rhwng Chwefror 2021 ac Ebrill 2021.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU hefyd y byddai pumed grant (sef y grant olaf) yn cwmpasu’r cyfnod rhwng Mai 2021 a Medi 2021; byddwch yn gallu hawlio o ddiwedd Gorffennaf 2021 os ydych yn gymwys am y pumed grant a bydd rhagor o fanylion yn dilyn maes o law. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol

Bydd cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn cynyddu ar 1 Ebrill. Yn ogystal â’r cyfraddau newydd, bydd yr oedran y daw gweithwyr yn gymwys i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cael ei ostwng. O 1 Ebrill ymlaen, rhaid talu’r Cyflog Byw Cenedlaethol neu uwch i bob gweithiwr 23 oed a throsodd.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


YMCHWIL:

Arolwg Ymwelwyr Cymru

Rydym wedi cyhoeddi'r set ddiweddaraf o adroddiadau yn seiliedig ar Arolwg Ymwelwyr Cymru 2019, gydag ymwelwyr dydd a dros nos yn y DU, ac ymwelwyr tramor â Chymru.  Mae'r adroddiadau'n olrhain proffil ymwelwyr, cymhellion ar gyfer ymweld, gweithgareddau a wnaed, canfyddiadau o atyniadau yr ymwelwyd â nhw, bwyta allan, llety, cynaliadwyedd a naws am le, marchnata galw i gof a chynllunio gwyliau, boddhad â phrofiad cyffredinol yr ymweliad, a'r tebygolrwydd o ailymweld â  Chymru a’i hargymell.  Y prif reswm dros ymweld â Chymru ymhlith pob cynulleidfa oedd cyfle i fwynhau tirwedd /cefn gwlad/traethau'r wlad.

Baromedr Busnes Twristiaeth

Mae adroddiad diweddaraf y Baromedr Busnes Twristiaeth bellach ar gael.  Dengys canfyddiadau, o'r arolwg a gynhaliwyd ddiwedd mis Chwefror gydag 800 o fusnesau twristiaeth, fod tua dwy ran o dair o fusnesau'n cymryd archebion ymlaen llaw.  Mae dwy ran o dair o'r busnesau hyn yn adrodd llai o archebion nag arfer, a dim ond 1 o bob 10 sydd â mwy nag y byddent fel arfer yn ei ddisgwyl yr adeg hon o'r flwyddyn. 


Cymorth gan Lywodraeth Cymru yn rhoi’r golau gwyrdd ar gyfer gwaith ar Bont Gludo Casnewydd

Mae gwaith adfer mawr ar Bont Gludo Casnewydd wedi cael y golau gwyrdd diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.  Mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid cyfalaf gwerth £1.5 miliwn fel rhan o Gyllideb 2021–22 –  arian sydd ei angen er mwyn dechrau’r gwaith arfaethedig.

Mae’r prosiect £11.9 miliwn yn cael ei gyflawni ar y cyd â Chyngor Dinas Casnewydd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd yn ariannu gwaith adnewyddu mawr ar y bont a datblygu canolfan ymwelwyr newydd yn ne-ddwyrain Cymru.

O ganlyniad i’r miliynau sy’n cael eu gwario ar y gwaith adnewyddu, rhagwelir y bydd mwy na 46,000 o ymwelwyr yn cael eu denu bob blwyddyn, a bydd y gymuned leol yn cael ei hannog i ailgysylltu â'i threftadaeth a'i diwylliant. Bydd cyfleoedd ar gyfer ymweliadau addysgol, teithiau tywys a heriau dringo, yn ogystal â chynlluniau i ddefnyddio caffi a chyfleusterau'r bont ar gyfer cyfarfodydd, priodasau a digwyddiadau cymunedol ar raddfa fach i helpu i greu twf yn yr economi leol.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar wefan Llywodraeth Cymru.


Arian hollbwysig i roi hwb i drefi arfordirol yn parhau, diolch i Llywodraeth Cymru

Bydd cymunedau a chanolfannau trefi arfordirol yn cael hwb o £6 miliwn, diolch i’r Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sy’n werth £110 miliwn.  Mae Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn i ddarparu’r cymorth hollbwysig hwn sy’n dod drwy law Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, wedi i Lywodraeth y DU benderfynu peidio â pharhau â Chronfa Cymunedau Arfordirol Lloegr.

Y gronfa hon o £6 miliwn yw’r chweched swm a roddwyd i Gronfa Cymunedau Arfordirol Trawsnewid Trefi, i gefnogi datblygiad economaidd ardaloedd arfordirol, hyrwyddo swyddi cynaliadwy ac adfywio siopau a chanolfannau trefi arfordirol. Bydd y buddsoddiad hwn yn ei gwneud yn bosibl cyflwyno prosiectau gwerth £17 miliwn i gyd.  Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.


Y Prif Weinidog yn cyhoeddi coedlannau coffa

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd coedlannau coffa’n cael eu plannu er cof am y bobl a fu farw o ganlyniad i coronafeirws.

Bydd dwy goedlan newydd yn cael eu plannu – un yn y Gogledd ac un yn y De – fel symbol o gadernid Cymru yn ystod y pandemig ac fel symbol o adfywio ac adnewyddu wrth i’r coedlannau newydd dyfu. Y gobaith yw y byddant yn rhywle y gall teuluoedd a ffrindiau fynd iddynt i gofio am eu hanwyliaid a fu farw. Bydd y coedlannau hefyd yn rhywle i’r cyhoedd gofio am y pandemig a’r effaith enfawr y mae wedi’i chael ar ein bywydau.  Bydd lleoliadau’r ddau safle’n cael eu cyhoeddi yn fuan a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda chymunedau lleol i gynllunio’r coedlannau.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog hefyd y cynhelir Digwyddiad Coffa Cenedlaethol y Coronafeirws ddydd Mawrth 23 Mawrth ac y bydd yn cael ei ddarlledu ar BBC 1 Cymru a S4C am 5pm. 

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Coronafeirws (COVID-19): E-bost ffug nad yw HSE yn gyfrifol amdano

Efallai eich bod wedi derbyn e-bost ffug gydag enw’r HSE arno yn rhoi gwybod i chi am 'achosion o dorri rheolau iechyd a diogelwch', 'codi cwynion i lefel uwch' neu rywbeth tebyg. Mae HSE yn ymchwilio i'r negeseuon e-bost hyn ac yn eich cynghori i'w dileu. Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni a peidiwch ag agor unrhyw ffeiliau sydd ynghlwm wrthynt. Am fwy o fanylion ewch i wefan yr HSE


Arolwg: Effeithiau’r pandemig COVID-19 ar iechyd cyflogwyr a'u staff ar hyn o bryd ac yn y dyfodol

Mae'r pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar weithleoedd a'r gweithlu yng Nghymru a gweddill y DU. 

Mae Cymru Iach ar Waith eisiau clywed gan ystod eang o gyflogwyr i ddeall yn well effeithiau pandemig COVID-19 ar iechyd cyflogwyr a'u staff yn awr ac yn y dyfodol ac maent wedi datblygu holiadur ar-lein ar gyfer cyflogwyr. Bydd yr arolwg yn fyw tan 31 Mawrth 2021.  Bydd Cymru Iach ar Waith yn defnyddio'r sylwadau hyn i weithio gyda llunwyr polisi a phartneriaid eraill i fynd i'r afael â'r anghenion a nodwyd.   Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram