Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

15 Ebrill 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN : Pobl yng Nghymru sy’n methu gweithio gartref yn cael eu hannog i ddefnyddio hunan-brofion llif unffordd; Gweithgareddau awyr agored a drefnir i blant; Canllawiau Coronafeirws (COVID-19) i Fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch; Lles ac iechyd meddwl, cyngor i gyflogwyr ar straen sy'n gysylltiedig â gwaith; Sgiliau a Hyfforddiant: Nodyn Atgoffa


Pobl yng Nghymru sy’n methu gweithio gartref yn cael eu hannog i ddefnyddio hunan-brofion llif unffordd

Mae’r rheini sy’n methu gweithio gartref yn cael eu hannog i gael pecynnau hunan-brofi dyfeisiau llif unffordd wrth iddynt gael eu cyflwyno ar draws Cymru.

Bydd y pecynnau profi cyflym hyn ar gyfer y coronafeirws ar gael i’w casglu o safleoedd profi lleol ledled Cymru o ddydd Gwener yma (16 Ebrill) ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried yr opsiwn i allu casglu’r pecynnau profi hyn o leoliadau eraill, yn ogystal â’r opsiwn o’u hanfon yn uniongyrchol i gartrefi pobl.

Y gobaith yw y bydd sicrhau bod mwy o brofion llif unffordd ar gael yn golygu bod profion asymptomatig rheolaidd ar gyfer y coronafeirws yn fwy cyfleus a hygyrch i bobl nad ydynt yn rhan o gynlluniau profi presennol mewn gweithleoedd, lleoliadau gofal plant, ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Mae’n bosibl bod gan gynifer ag 1 o bob 3 o bobl COVID heb ddangos unrhyw symptomau, sy’n golygu bod profion asymptomatig yn ffordd bwysig o gadw pobl yn ddiogel wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio’n raddol.

Ym mhob safle profi, bydd pobl yn gallu casglu profion llif unffordd cyflym rhwng 08:00 a 13:00. Ni fydd angen iddynt wneud apwyntiad cyn casglu’r profion. Yna, bydd safleoedd yn cau er mwyn eu glanhau’n drylwyr ac yn ail agor ar gyfer profion PCR symptomatig rhwng 14:00 a 20:00 bob diwrnod.

Fel mater o drefn, gall pob person gasglu dau becyn o saith hunan-brawf llif unffordd i’w defnyddio gartref. Argymhellir eich bod yn gwneud y profion ddwywaith yr wythnos, gan gofnodi’r canlyniadau ar borthol Llywodraeth y DU. Darllenwch yn llawn ar Llyw.Cymru.


Gweithgareddau awyr agored a drefnir i blant

Rydym yn deall pa mor bwysig yw profiadau awyr agored i'n plant a'n pobl ifanc a sut y gall gweithgareddau chwarae rhan arbennig o bwysig o rhan dysgu ac ein cynorthwyo ar ein taith adfer.

Fel rhan o ryddhau'r cyfyngiadau presennol sydd ar waith ledled Cymru roedd gweithgareddau a drefnwyd y tu allan i blant a phobl ifanc o dan 18 oed yn gallu ailddechrau o 27 Mawrth.  Rydym wedi cyhoeddi rhai Cwestiynau Cyffredin i gefnogi'r ailgychwyn hwnnw sy'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol.


Coronafeirws (COVID-19) Canllawiau i Fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch

Wrth i ni edrych ar ailagor yn raddol, mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch.

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel.

Bwriad y mesurau ychwanegol canlynol yw rhoi cyngor pellach i fusnesau llety hunangynhwysol a rhaid eu hystyried yn unol â Chanllawiau UKHospitality Wales a'r Canllawiau Twristiaeth a Lletygarwch.

Dylai busnesau hefyd ystyried, lle bo'n briodol:

  • Cryfhau eu polisi ar waredu gorchuddion wyneb yn ddiogel ar gyfer staff ac ymwelwyr.
  • Cyflwyno mesurau i staff ac ymwelwyr, ar ôl cyrraedd, megis cymryd profion tymheredd, gofyn i bobl ddiheintio eu dwylo a gofyn cwestiynau ynghylch a ydynt yn arddangos unrhyw symptomau.
  • Ystyried llif y gwesteion/ymwelwyr a sut i osgoi cymysgu unrhyw aelwyd drwy gadw gwesteion/ymwelwyr ar wahân wrth iddynt symud o amgylch y safle drwy gydol eu hymweliad/arhosiad, gan roi sylw arbennig i fannau cyhoeddus caeedig fel lifftiau, grisiau a choridorau.
  • Cyfarwyddo gwesteion/ymwelwyr i symud drwy fannau cyhoeddus caeedig cyn gynted â phosibl, ac i osgoi gweiddi neu ganu mewn ardaloedd o'r fath.
  • fewn llety, sicrhau bod gwesteion yn cadw'r drysau i'w hystafelloedd ar gau bob amser, ar wahân i'r adeg pan fyddant yn mynd i mewn ac yn gadael.
  • Sicrhau fod trefn bob yn ail ar gyfer gwasanaeth ystafell/dosbarthu gwasanaeth golchi ac ati i ystafelloedd, er mwyn osgoi gwesteion yn agor drysau ac yn dod allan ar yr un pryd.
  • Adolygu eu gweithdrefnau digwyddiadau ac achosion brys er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r egwyddorion cadw pellter corfforol cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys ystyried sut i leihau cymysgu cartrefi wrth ymgasglu mewn mannau ymgynnull tân.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu'r pum prif gam y dylai bawb sy’n gyfrifol am waith yng Nghymru eu cymryd i’n helpu i Gadw Cymru yn Ddiogel.

Ewch i’r tudalennau Diogelu Cymru yn y Gweithle ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws

Mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â Coronafeirws hefyd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ar Llyw.Cymru. 


Rhaid i fusnesau twristiaeth a lletygarwch roi pob mesur rhesymol ar waith i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws ac ni ddylent dderbyn cwsmeriaid os ydynt yn ymwybodol eu bod yn torri’r rheolau ar gyfyngiadau teithio.


Lles ac iechyd meddwl, cyngor i gyflogwyr ar straen sy'n gysylltiedig â gwaith

Mae ein cymdeithas yn wynebu dyddiau digynsail, ac os ydych yn hunangyflogedig neu’n berchen ar fusnes, bydd COVID-19 yn peri cryn ansicrwydd. Edrychwch ar y ystod eang o wybodaeth sydd ar gael; nawr yn fwy nag erioed mae angen inni gymryd camau i ofalu am ein hiechyd meddwl a iechyd meddwl ein gweithwyr.

Gyda chyfradd y straen, iselder a phryder sy'n gysylltiedig â gwaith yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf a heriau newydd y flwyddyn ddiwethaf, bydd cydnabod arwyddion straen yn helpu cyflogwyr i gymryd camau er mwyn atal, lleihau a rheoli straen yn y gweithle. Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu gweithwyr cyflogedig rhag straen yn y gwaith drwy wneud asesiad risg a gweithredu arno.

Os oes gennych chi asesiad risg ar waith eisoes, ystyriwch a ydych chi angen ailasesu’r sefyllfa oherwydd y newidiadau a’r heriau sydd wedi dod yn sgil COVID-19.  Dysgwch fwy ar wefan Busnes Cymru.


Sgiliau a Hyfforddiant: Nodyn Atgoffa

Bydd yr adnoddau/hyfforddiant canlynol yn helpu busnesau a’u staff i baratoi ar gyfer ailagor.

All Hands to the Pump:

  • Cymorth am ddim i dafarndai ac ati e.e. fideos, templedi ac adnoddau eraill am ddim i helpu rheolwyr safleoedd trwyddedig a lletygarwch a rheoleiddwyr.  Yn cynnwys Rheoli Gwrthdaro, Diogelu Cwsmeriaid a Riportio COVID.

Platfform Sgiliau:

CPL Learning:

  • Ready to Serve programme – Team Member: Wedi’i datblygu i helpu rheolwyr a’u timau i ddychwelyd i’r gwaith yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gadw at amodau COVID. Pris: £7.50 y person
  • Reopening following lockdown – Manager - Ready to Serve : Wedi’i datblygu i helpu rheolwyr a goruchwylwyr i ddeall eu cyfrifoldebau a beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod eu safle a’u timau’n barod i wasanaethu cwsmeriaid unwaith eto. Pris: AM DDIM.

Am wybodaeth ddiweddaraf am sgiliau, recriwtio a chymorth hyfforddiant i'ch busnes, yn ogystal â chymorth arall fel Lles i gyflogwyr a gweithwyr, ewch i’n tudalennau Sgiliau.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram