Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

12 Ebrill 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Llacio cyfyngiadau COVID-19 yng Nghymru yn gynt; Coronafeirws (COVID-19) Canllawiau i Fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch; Sgiliau a Hyfforddiant; Cronfa Adferiad Ddiwylliannol; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Llacio cyfyngiadau COVID-19 yng Nghymru yn gynt

Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflymu elfennau o'i rhaglen i lacio’r cyfyngiadau COVID-19, wrth i’r gostyngiad mewn heintiadau newydd barhau ledled Cymru.

Bydd pobl yn gallu creu aelwyd estynedig, ymweld â'r gampfa neu gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu wythnos ynghynt na'r disgwyl, wrth i’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd – a’r cyfraddau brechu – barhau i wella.

Yr wythnos diwethaf, amlinellodd y Prif Weinidog amserlen fanwl ar gyfer symud Cymru'n bendant i lefel rhybudd 3. Ond bellach bydd rhai o'r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno'n gynt na'r disgwyl gan fod yr achosion wedi gostwng yn sylweddol, o 37 achos ym mhob 100,000 o bobl i lai na 21 ym mhob 100,000 yr wythnos hon.

Mae'r pwysau ar ysbytai yn dal i leihau hefyd. Mae achosion wedi’i cadarnhau mewn cleifion sydd mewn gwelyau ysbyty yn parhau i ostwng. 89 yw’r nifer erbyn hyn, sef 26% yn is na dydd Iau diwethaf. Dyma'r ffigurau isaf ers 22 Medi 2020.

Bydd y dyddiad agor ar gyfer gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu a derbyniadau priodas yn yr awyr agored yn digwydd yn gynt, sef ddydd Llun 26 Ebrill yn lle 3 Mai.

Yn ogystal, o ddydd Llun 3 Mai, sef wythnos yn gynt na’r hyn a nodwyd yn wreiddiol, bydd campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd yn cael ailagor ar gyfer hyfforddiant unigol neu un-i-un. Bydd hawl unwaith eto hefyd i ffurfio aelwyd estynedig, a fydd yn galluogi dwy aelwyd i gwrdd a chael cyswllt o dan do.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Mae’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn parhau i wella, diolch i bopeth rydych chi'n ei wneud i'n helpu i reoli'r feirws ofnadwy hwn. Mae achosion o'r feirws yn gostwng ac mae ein rhaglen frechu anhygoel yn dal i fynd o nerth i nerth.

“Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom amlinellu ein rhaglen i agor yr economi a llacio’r cyfyngiadau rydym wedi bod yn byw gyda nhw cyhyd, fel rhan o’n dull gofalus a graddol sydd â’r nod o gadw pawb yn ddiogel. Yr wythnos hon, oherwydd y gwelliannau rydym yn parhau i'w gweld, rydym yn gallu rhoi rhai o’n cynlluniau ar waith yn gynt. 

“Fyddai hyn ddim yn bosibl heb yr ymdrech y mae pawb yn ei gwneud i ddiogelu eu hunain a’r rhai sy’n annwyl iddynt.”

O heddiw, ddydd Llun 12 Ebrill, bydd y camau llacio canlynol ar waith:

  • Bydd plant yn dychwelyd i’r ysgol yn llawn ar gyfer addysg wyneb yn wyneb, bydd pob dysgwr ôl-16 yn dychwelyd i ganolfannau addysg bellach a hyfforddiant, a champysau prifysgol yn gallu agor ar gyfer cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb/ar-lein i bob myfyriwr
  • Mae'r holl siopau sy'n weddill yn ailagor, gan gwblhau’r broses raddol o ailagor busnesau sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol
  • Bydd yr holl wasanaethau cyswllt agos sy'n weddill ar agor, gan gynnwys gwasanaethau symudol
  • Codir cyfyngiadau teithio ar deithio i mewn ac allan o Gymru. Fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau ar deithio i wledydd y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin heb esgus rhesymol yn parhau. Mae’r Ardal Deithio Gyffredin yn golygu’r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon
  • Bydd hawl i fynd i weld lleoliadau priodas, drwy apwyntiad
  • Bydd y cyfyngiadau ar ganfasio gwleidyddol yn cael eu codi, ond bydd gofyn i ganfaswyr wneud hynny mewn modd diogel

Bydd rhagor o lacio ar y cyfyngiadau yn ystod yr wythnosau nesaf, cyhyd ag y bo’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn yr adolygiad teirwythnosol nesaf o’r rheoliadau coronafeirws ar 22 Ebrill.

Ddydd Llun 26 Ebrill:   

  • Byddai atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor
  • Bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailddechrau, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch o dan do yn parhau i fod ar gau, heblaw ar gyfer bwyd i’w gludo oddi yno
  • Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl (y dyddiad gwreiddiol oedd dydd Llun 3 Mai)
  • Gellir cynnal derbyniadau priodasau yn yr awyr agored, ond byddant hefyd wedi’u cyfyngu i 30 o bobl (y dyddiad gwreiddiol oedd dydd Llun 3 Mai)

Ddydd Llun 3 Mai (ddydd Llun 10 Mai yn wreiddiol):

  • Caiff campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff
  • Bydd modd ffurfio aelwydydd estynedig unwaith eto, a fydd yn galluogi dwy aelwyd i gwrdd a chael cyswllt o dan do

Fel y nodwyd yn y Cynllun Rheoli’r Coronafeirws diwygiedig, mae nifer fach o gynlluniau peilot ar gyfer digwyddiadau awyr agored i rhwng 200 a 1,000 o bobl yn cael eu cynllunio hefyd.


Coronafeirws (COVID-19) Canllawiau i Fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch

Wrth i ni edrych ar ailagor yn raddol, mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch.

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel.

Bwriad y mesurau ychwanegol canlynol yw rhoi cyngor pellach i fusnesau llety hunangynhwysol a rhaid eu hystyried yn unol â Chanllawiau UKHospitality Wales a'r Canllawiau Twristiaeth a Lletygarwch.

Dylai busnesau hefyd ystyried, lle bo'n briodol:

  • Cryfhau eu polisi ar waredu gorchuddion wyneb yn ddiogel ar gyfer staff ac ymwelwyr
  • Cyflwyno mesurau i staff ac ymwelwyr, ar ôl cyrraedd, megis cymryd profion tymheredd, gofyn i bobl ddiheintio eu dwylo a gofyn cwestiynau ynghylch a ydynt yn arddangos unrhyw symptomau.
  • Ystyried llif y gwesteion/ymwelwyr a sut i osgoi cymysgu unrhyw aelwyd drwy gadw gwesteion/ymwelwyr ar wahân wrth iddynt symud o amgylch y safle drwy gydol eu hymweliad/arhosiad, gan roi sylw arbennig i fannau cyhoeddus caeedig fel lifftiau, grisiau a choridorau.
  • Cyfarwyddo gwesteion/ymwelwyr i symud drwy fannau cyhoeddus caeedig cyn gynted â phosibl, ac i osgoi gweiddi neu ganu mewn ardaloedd o'r fath
  • fewn llety, sicrhau bod gwesteion yn cadw'r drysau i'w hystafelloedd ar gau bob amser, ar wahân i'r adeg pan fyddant yn mynd i mewn ac yn gadael.
  • Sicrhau fod trefn bob yn ail ar gyfer gwasanaeth ystafell/dosbarthu gwasanaeth golchi ac ati i ystafelloedd, er mwyn osgoi gwesteion yn agor drysau ac yn dod allan ar yr un pryd.
  • Adolygu eu gweithdrefnau digwyddiadau ac achosion brys er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r egwyddorion cadw pellter corfforol cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys ystyried sut i leihau cymysgu cartrefi wrth ymgasglu mewn mannau ymgynnull tân.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu'r pum prif gam y dylai bawb sy’n gyfrifol am waith yng Nghymru eu cymryd i’n helpu i Gadw Cymru yn Ddiogel.

Ewch i’r tudalennau Diogelu Cymru yn y Gweithle ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws

Mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â Coronafeirws hefyd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ar Llyw.Cymru. 


Rhaid i fusnesau twristiaeth a lletygarwch roi pob mesur rhesymol ar waith i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws ac ni ddylent dderbyn cwsmeriaid os ydynt yn ymwybodol eu bod yn torri’r rheolau ar gyfyngiadau teithio.


Sgiliau a Hyfforddiant:

Bydd yr adnoddau/hyfforddiant canlynol yn helpu busnesau a’u staff i baratoi ar gyfer ailagor.

All Hands to the Pump:

  • Cymorth am ddim i dafarndai ac ati e.e. fideos, templedi ac adnoddau eraill am ddim i helpu rheolwyr safleoedd trwyddedig a lletygarwch a rheoleiddwyr.  Yn cynnwys Rheoli Gwrthdaro, Diogelu Cwsmeriaid a Riportio COVID.

Platfform Sgiliau:

CPL Learning:

Am wybodaeth ddiweddaraf am sgiliau, recriwtio a chymorth hyfforddiant i'ch busnes, yn ogystal â chymorth arall fel Lles i gyflogwyr a gweithwyr, ewch i’n tudalennau Sgiliau.


Cronfa Adferiad Ddiwylliannol

Darparodd y Gronfa Adferiad Diwylliannol, a lansiwyd yr haf diwethaf, £63.3 miliwn yn 2020 i 2021 i gefnogi theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, digwyddiadau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, sinemâu annibynnol a gweithwyr llawrydd.  Caiff y gronfa ei darparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol.

Mae’r gronfa ar agor i geisiadau ac mi fydd yn cau ar 20 Ebrill 2021 am 5pm. 

Bydd amseriad y gronfa ar gyfer gweithwyr llawrydd yn cael ei gyhoeddi ar wahân.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram