Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN – Cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig 2021; Datganiad Ysgrifenedig: Ymateb Llywodraeth Cymru i Gyllideb y DU; Estyniad o 12 mis i’r cynllun sy’n rhoi hoe rhag talu ardrethi busnes; £30 miliwn ychwanegol ar gyfer Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth; Canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch; Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau drwy ymgyrch newydd; Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19; Sgiliau; Gŵyl 2021; Mae angen eich barn a'ch lleisiau ar gynlluniau cyffrous ar gyfer Coedwig Genedlaethol i Gymru!; Cyfreithiau di-fwg – Newidiadau o 1 Mawrth 2021; Hwb ariannol o £680m ar gyfer ymdrechion COVID Cymru; Canol Trefi yng Nghymru i elwa o gronfa creu lleoedd gwerth £15.2 miliwn; ‘Cymdeithas yw’r Anabledd’: Beth mae hyn yn ei olygu i’ch busnes?; Seiberddiogelwch ar gyfer Unig Fasnachwyr a Microfusnesau; Os ydych chi’n defnyddio neu gyflenwi contractwyr, mae yna rai newidiadau treth pwysig; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.
Cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig 2021
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ei Chyllideb Wanwyn, mae rhai pwyntiau allweddol yn cynnwys:
- Estyniad o'r Cynllun Cefnogi Swyddi hyd at fis Medi 2021 ledled y DU.
- Estyniad o'r cynllun Cymhorth Incwm i’r Hunangyflogedig ledled y DU hyd at fis Medi 2021, gyda 600,000 yn fwy o bobl wedi cyflwyno ffurflen dreth yn 2019-20 bellach yn gallu hawlio am y tro cyntaf.
- Cynllun Benthyciadau Adferiad newydd ledled y DU i sicrhau bod benthyciadau ar gael rhwng £25,001 a £10 miliwn, a chyllid asedau ac anfonebau rhwng £1,000 a £10 miliwn, i helpu busnesau o bob maint drwy'r cam adferiad nesaf.
- Estyniad i'r toriad TAW i 5% ar gyfer lletygarwch ac atyniadau ledled y DU tan ddiwedd mis Medi, ac yna cyfradd o 12.5% am chwe mis arall tan 31 Mawrth 2022.
Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Datganiad Ysgrifenedig: Ymateb Llywodraeth Cymru i Gyllideb y DU
Ar 3 Mawrth cyflwynodd Canghellor y Trysorlys Cyllideb hirddisgwyliedig y DU ar adeg cwbl dyngedfennol i’r economi wrth inni ddechrau cymryd y camau cyntaf sydd eu hangen i ddechrau’r adferiad. Mae’r Datganiad hwn yn rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau ynghylch y goblygiadau uniongyrchol i Gymru. Darllenwch y datganiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Estyniad o 12 mis i’r cynllun sy’n rhoi hoe rhag talu ardrethi busnes
Mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi cyhoeddi bydd y cynllun sy’n golygu nad yw busnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn gorfod talu ardrethi yn cael ei estyn am 12 mis arall.
Mae'r pecyn sy’n werth £380m yn rhoi hoe am flwyddyn rhag talu ardrethi busnes i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500,000, yn ogystal ag elusennau, gan fynd y tu hwnt i'r hyn a gyhoeddwyd yn Lloegr. Mae hyn yn rhoi hwb y mae mawr ei angen i fusnesau bach a chanolig eu maint sy'n ei chael yn anodd ymdopi ag effeithiau'r pandemig.
Bydd y pecyn hwn, ar y cyd â'n cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, yn sicrhau na fydd mwy na 70,000 o fusnesau yn talu unrhyw ardrethi o gwbl yn 2021-22.
Mae'r Gweinidog hefyd wedi ymrwymo i ddarparu rhyddhad ardrethi o 100% i fusnesau ac elusennau yn y sector hamdden a lletygarwch ar gyfer 2021-22.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar wefan Llywodraeth Cymru.
£30 miliwn ychwanegol ar gyfer Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £30 miliwn pellach ar gyfer busnesau sector penodol sy’n cael eu heffeithio gan gyfyngiadau parhaus yn sgil y coronafeirws.
Bydd y cyllid diweddaraf o’r Gronfa Cadernid Economaidd yn cael ei dargedu at fusnesau bach, canolig a mawr yn y sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a busnesau cysylltiedig yn y gadwyn gyflenwi.
Cadarnhawyd hefyd, gan ddibynnu ar ganlyniad yr adolygiad nesaf ar 12 Mawrth, y gallai gwerth £150 miliwn o grantiau gael eu neilltuo i fusnesau, gan gynnwys micro-fusnesau, trwy gynllun Ardrethi Annomestig (NDR) Llywodraeth Cymru os caiff cyfyngiadau’r coronafeirws eu estyn.
Bydd yr ail gyfnod ymgeisio am Gronfa Penodol ERF i'r Sector yn agor ddydd Mawrth 9 Mawrth 2021 tan 8pm ddydd Gwener 12 Mawrth 2021. Am ragor o wybodaeth, ac i gael mynediad at y Gwiriwr Cymhwysedd ewch i wefan Busnes Cymru.
Canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch
Wrth i ni edrych tuag at ailagor yn raddol, mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch.
I'ch helpu i benderfynu pa gamau i'w cymryd, mae Rheoliadau Coronafeirws yn gofyn i chi gynnal asesiad risg COVID-19 penodol, yn union fel y byddech ar gyfer peryglon eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch. Rhaid cynnal yr asesiad risg hwn mewn ymgynghoriad â staff a chynrychiolwyr (undeb llafur cydnabyddedig neu gynrychiolydd a ddewisir gan weithwyr) a bod ar gael i'r staff.
Mae HSE (Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) yn darparu templedi defnyddiol i'ch helpu i gynnal asesiad risg COVID-19 penodol a fydd yn mynd â chi drwy'r hierarchaeth o reolaethau o'r mwyaf i'r lleiaf effeithiol. Ceir trosolwg o hierarchaeth rheolaethau yn Atodiad 1 o'r canllawiau Twristiaeth a Lletygarwch. Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolenni o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru i ganllawiau sy’n benodol ar gyfer y sector a chanllawiau diwydiant sy'n cynnwys rhagor o fanylion gan gynnwys Canllawiau UKH Cymru.
Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau drwy ymgyrch newydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd i hyrwyddo'r cymorth pwysig sydd ar gael i fusnesau i'w helpu i ddelio â phwysau parhaus coronafeirws, a chynllunio ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus.
Bydd yr ymgyrch 'Yn Gefn i Chi' yn annog cwmnïau ar hyd a lled Cymru i fanteisio ar y cyngor a'r arweiniad sgiliau a chyflogaeth sydd ar gael drwy’r Porth Sgiliau i Fusnes ar-lein.
Mae amrediad o gymorth ar gael, fel cymorth i ddatblygu galluoedd staff a chyngor gyda rhaglenni recriwtio a hyfforddi. Bydd hyn yn helpu busnesau i symud ymlaen drwy bandemig y coronafeirws a ffynnu yn y dyfodol.
I ddysgu mwy am y rhaglenni sydd ar gael, ffoniwch y Porth Sgiliau i Fusnes ar 03000 6 03000 neu ewch i Porth Sgiliau Busnes Cymru.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19
Mae'r adroddiad diweddaraf ar deimladau defnyddwyr a bwriadau tripiau o farchnad y DU ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn dangos bod 15% o oedolion y DU yn rhagweld taith dros nos yn y DU y gwanwyn hwn, gan godi i 27% yr haf hwn.
Sgiliau
Am wybodaeth ddiweddaraf am sgiliau, recriwtio a chymorth hyfforddiant i'ch busnes, yn ogystal â chymorth arall fel Lles i gyflogwyr a gweithwyr, ewch i’n tudalennau Sgiliau.
Gŵyl 2021
Mae pedair o hoff wyliau Cymru – Gŵyl y Llais, FOCUS Wales,Lleisiau Eraill Aberteifi a Gŵyl Gomedi Aberystwyth – wedi dod ynghyd yn ystod y cyfnod clo i greu Gŵyl 2021; gŵyl ar-lein am ddim yn llawn dop â cherddoriaeth a chomedi cofiadwy, sy’n cofleidio amrywiaeth a sgwrs. Wedi’i ffilmio neu’i recordio mewn lleoliadau ledled Cymru ac yn rhyngwladol o dan ganllawiau Coronafeirws, caiff Gŵyl 2021 ei darlledu ar-lein ar wefan y BBC ar www.bbc.co.uk/gwyl2021 drwy gydol penwythnos 6-7 Mawrth.
Mae angen eich barn a'ch lleisiau ar gynlluniau cyffrous ar gyfer Coedwig Genedlaethol i Gymru!
Bydd Coedwig Genedlaethol i Gymru yn rhedeg ar hyd a lled y wlad, gan roi hwb i'n hiechyd, ein heconomi a bywyd gwyllt ein gwlad. Mae'n perthyn i ni i gyd, a dyna pam rydyn ni eisiau gwybod yr hyn mae'n ei olygu i chi a'r hyn y gall ei wneud i bobl Cymru.
Digwyddiadau Coedwig Genedlaethol i Gymru - Eich Safbwyntiau a'ch Lleisiau ar y 10fed, 11eg neu'r 12fed o Fawrth 2021 i blannu'ch syniadau eich hun ac archebwch eich lle yma.
Cyfreithiau di-fwg – Newidiadau o 1 Mawrth 2021
Ar 1 Mawrth 2021, mae’r gyfraith ar ble gall pobl smygu yng Nghymru wedi newid. Bydd yn drosedd smygu mewn ardal ddi-fwg a gall unrhyw un sy’n cael ei ddal yn torri’r gyfraith wynebu dirwy o £100.
Bydd y ddeddfwriaeth yn gwneud newidiadau yn y sector twristiaeth hefyd. Ar hyn o bryd, mae yna eithriadau ar waith sy’n caniatáu smygu mewn llety gwyliau hunangynhwysol a llety dros dro (bythynnod, carafanau, chalets ac Airbnb ac ati) ac mae yna eithriadau sy’n caniatáu i westai, tai llety, tafarnau, hosteli a chlybiau aelodau gael ystafelloedd gwely y gellir ysmygu ynddyn nhw. Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn cadw’r eithriadau hyn, ond am gyfnod cyfyngedig yn unig (tan 1 Mawrth 2022). Mae’n ei gwneud yn ofynnol hefyd fod ystafelloedd gwely dynodedig mewn gwestai y gellir ysmygu ynddyn nhw cyn 1 Mawrth 2022, yn bodloni gofynion penodol.
Felly, o 1 Mawrth 2022, bydd yn ofynnol i bob math o lety gwyliau hunangynhwysol a llety dros dro a phob gwesty, tŷ llety a thafarn ac ati fod yn ddi-fwg. Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru.
Hwb ariannol o £680m ar gyfer ymdrechion COVID Cymru
Bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael hwb ariannol o fwy na £682m i gefnogi eu hymdrechion COVID dros y misoedd nesaf, mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi.
Mae’r pecyn yn cynnwys mwy na £635m ar gyfer y GIG a chynghorau lleol i’w helpu i gefnogi pobl Cymru dros y chwe mis nesaf.
Rydym hefyd yn cryfhau cymorth i brentisiaethau, sy’n rhan hanfodol o’n heconomi, gyda buddsoddiad ychwanegol o £16.5m ac yn darparu £18.6m ychwanegol i gynnal darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol. Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Canol Trefi yng Nghymru i elwa o gronfa creu lleoedd gwerth £15.2 miliwn
Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi pecyn cyllido 'creu lleoedd' gwerth £15.2 miliwn i helpu canol trefi Cymru i ailadeiladu'n ôl.
Mae'r cyfan yn rhan o fuddsoddiad ehangach o £110 miliwn trwy gynllun Trawsnewid Trefi, rhaglen adfywio canol trefi Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu prosiectau er budd cymunedau lleol yng nghanol trefi a dinasoedd yng Nghymru.
Mae'r pecyn cyllido newydd, sydd ar gael i holl Awdurdodau Lleol Cymru, wedi'i gynllunio i fod mor hyblyg â phosibl a bydd yn cynnig cefnogaeth ar gyfer ystod eang o brosiectau, o ddatblygiadau seilwaith gwyrdd a chreu llwybrau teithio egnïol, i welliannau mewnol ac allanol ar gyfer perchnogion busnes. Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
‘Cymdeithas yw’r Anabledd’: Beth mae hyn yn ei olygu i’ch busnes?
Dyma gyfle i gymryd rhan yng ngweminar Hive Chwarae Teg lle y bydd cyflogwyr ledled Cymru yn trafod adroddiad diweddar Chwarae Teg, ‘Cymdeithas yw'r Anabledd’, sy’n ystyried profiadau menywod anabl o economi Cymru.
Bydd cyfle i ddysgu am fanteision busnes cyflogi unigolyn ag anabledd dysgu, a chael gwybod sut mae rhaglen y model ‘Ymgysylltu i Newid’ yn gallu cynorthwyo cyflogwyr a gweithwyr sydd ag anabledd dysgu.
Cynhelir y weminar ddydd Iau18 Mawrth 2021 rhwng 10.30am a 12pm. Cofrestrwch ar gyfer y weminar yma.
Seiberddiogelwch ar gyfer Unig Fasnachwyr a Microfusnesau
Os ydych chi’n gweithio i chi eich hun neu’n rhedeg busnes bach gyda llai na 10 o weithwyr, does dim rhaid i seiberddiogelwch fod yn dalcen caled i berchnogion busnesau bach.
Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi llunio camau y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich hun ar-lein, ac mae Cyber Aware yn hyrwyddo chwe cham ymarferol i helpu i’ch diogelu chi a’ch busnes. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.
Mae NCSC hefyd yn cynnal cyfres o weminarau a sgyrsiau seiberddiogelwch am ddim ar gyfer busnesau o bob maint, sefydliadau addysgol ac elusennau yn y DU.
Os ydych chi’n defnyddio neu gyflenwi contractwyr, mae yna rai newidiadau treth pwysig
Daw newidiadau i reolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) i rym ar 6 Ebrill 2021.
Os ydych chi’n defnyddio contractwyr sy’n gweithio drwy eu cwmni cyfyngedig eu hunain neu gyfryngwyr, a’ch bod yn sefydliad canolig neu fawr y tu allan i’r sector cyhoeddus, yna mae angen i chi weithredu i baratoi.
Mae CThEM yn cynnal cyfres o weminarau yn rhoi trosolwg o’r rheolau - cadwch lygad am ddyddiadau gweminarau seiliedig ar bynciau. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|