Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

11 Mawrth 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN : Cronfa Cymorth Penodol i’r Sector Cronfa Cadernid Economaidd - Ar agor; Llywodraeth Cymru yn ymestyn mesurau i ddiogelu busnesau rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mehefin 2021; Canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch; Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr; Gwneud cais am grant Cynllun Kickstart; Yn Gefn i Chi - Porth Sgiliau i Fusnes; Ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi drwy Gyfnod y Coronafeirws; Neges y Prif Weinidog i wladolion yr UE - Cymru yw eich cartref; Cyngor wedi'i ddiweddaru ar awyru ac aerdymheru yn ystod y pandemig; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Cronfa Cymorth Penodol i’r Sector Cronfa Cadernid Economaidd - Ar agor

Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer yr ail gyfnod Cronfa Penodol i'r Sector ar gyfer Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth ar agor ar hyn o bryd a bydd yn cau am 8pm ddydd Gwener 12 Mawrth 2021, neu hyd nes y bydd yr arian wedi'i ymrwymo'n llawn.

Dysgwch fwy ar wefan Busnes Cymru a defnyddiwch yr offeryn meini prawf i wirio eich cymhwysedd cyn gwneud cais.


Llywodraeth Cymru yn ymestyn mesurau i ddiogelu busnesau rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd busnesau manwerthu, lletygarwch a busnesau eraill y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio arnynt bellach yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan hyd ddiwedd mis Mehefin 2021.

Fel rhan o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r gymuned fusnes, bydd y moratoriwm yn erbyn fforffedu am beidio â thalu rhent, a oedd i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth, bellach yn cael ei ymestyn hyd 30 Mehefin, 2021.

Er y dylai busnesau barhau i dalu rhent lle bynnag y bo modd, bydd y mesur diweddaraf yn sicrhau na chaiff unrhyw fusnes ei orfodi allan o'i safle os bydd yn methu taliad rhwng nawr a diwedd mis Mehefin eleni. Bydd y cam hwn yn helpu i leddfu'r baich ar wahanol sectorau, gan gynnwys manwerthu a lletygarwch, mewn cyfnod sy’n parhau i fod yn eithriadol o heriol.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru


Canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch

Wrth i ni edrych tuag at ailagor yn raddol, mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch.

I'ch helpu i benderfynu pa gamau i'w cymryd, mae Rheoliadau Coronafeirws yn gofyn i chi gynnal asesiad risg COVID-19 penodol, yn union fel y byddech ar gyfer peryglon eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch. Rhaid cynnal yr asesiad risg hwn mewn ymgynghoriad â staff a chynrychiolwyr (undeb llafur cydnabyddedig neu gynrychiolydd a ddewisir gan weithwyr) a bod ar gael i'r staff.

Mae HSE (Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) yn darparu templedi defnyddiol i'ch helpu i gynnal asesiad risg COVID-19 penodol a fydd yn mynd â chi drwy'r hierarchaeth o reolaethau o'r mwyaf i'r lleiaf effeithiol.  Ceir trosolwg o hierarchaeth rheolaethau yn Atodiad 1 o'r canllawiau Twristiaeth a Lletygarwch.  Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolenni o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru i ganllawiau sy’n benodol ar gyfer y sector a chanllawiau diwydiant sy'n cynnwys rhagor o fanylion gan gynnwys Canllawiau UKH Cymru.


Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £18.7 miliwn yn rhagor er mwyn ymestyn cymhellion i helpu busnesau i recriwtio prentisiaid yng Nghymru.  Mae’r Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr, a fydd bellach yn rhedeg hyd at 30 Medi, yn rhan allweddol o’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud mewn ymateb i COVID-19 er mwyn helpu busnesau a gweithwyr i adfer ar ôl effeithiau’r coronafeirws (COVID-19).

Bydd busnesau'n gallu hawlio hyd at £4,000 ar gyfer pob prentis newydd o dan 25 oed y byddant yn eu cyflogi. Mae hyn wedi codi o’r £3,000 o grant a oedd yn cael ei gynnig yn flaenorol.

Mae cyllid penodol ar gael hefyd i recriwtio pobl anabl ac ar gyfer gweithwyr sydd wedi colli prentisiaeth flaenorol oherwydd y COVID-19.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Gwneud cais am grant Cynllun Kickstart

Os ydych chi'n gyflogwr sy'n ystyried creu lleoliadau swydd 6 mis i bobl ifanc o dan y cynllun Kickstart gallwch wneud cais am y grant naill ai drwy

  • wneud cais eich hunan ar-lein (ewch Gov.UK am fwy o fanylion) neu
  • wneud cais drwy borth Kickstart

Gall Pyrth Kickstart eich cefnogi i gwblhau eich cais yn llwyddiannus, darparu cymorth hyfforddi a chynghori ar y camau nesaf neu hyfforddiant pellach unwaith y bydd y lleoliadau wedi'u cwblhau – e.e. prentisiaethau.

Chwiliwch am ddarparwr Porth yng Nghymru.


Yn Gefn i Chi - Porth Sgiliau i Fusnes

Fel rhan o ymgyrch Yn Gefn i Chi Llywodraeth Cymru, mae llyfryn newydd wedi'i ddatblygu ar gyfer cyflogwyr . Yn y llyfryn Cymorth sgiliau a  recriwtio i gyflogwyr fe welwch wybodaeth ar yr ystod eang o gefnogaeth sydd ar gael, yn ogystal â meini prawf cymhwysedd, i’ch helpu ar eich taith datblygu sgiliau.

I ddysgu mwy am y rhaglenni sydd ar gael, ffoniwch y Porth Sgiliau i Fusnes ar 03000 6 03000 neu ewch i Porth Sgiliau Busnes Cymru.


Ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi drwy Gyfnod y Coronafeirws

Mae’r Cynllun Cadw Swyddi drwy Gyfnod y Coronafeirws wedi cael ei ymestyn hyd ddiwedd Medi 2021.  Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflogau arferol cyflogeion am yr oriau nad ydyn nhw’n gweithio, hyd at uchafswm o £2,500 y mis, hyd ddiwedd Mehefin 2021.  Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.

Gallwch nawr wneud hawliadau CJRS mis Chwefror - Rhaid eu gwneud erbyn dydd Llun 15 Mawrth 2021.   Mae manylion am sut i gyflwyno'ch cais ar gael ar wefan Busnes Cymru.


Neges y Prif Weinidog i wladolion yr UE - Cymru yw eich cartref

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi ysgrifennu llythyr agored at holl wladolion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru yn annog y bobl sydd heb wneud cais am statws preswylydd sefydlog eto i wneud hynny cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin.

Ers 2019, mae dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU wedi gallu gwneud cais am statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog drwy Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE y Swyddfa Gartref, i’w galluogi i fod â’r un hawliau â dinasyddion Prydain, ar ôl mis Mehefin eleni.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cyngor wedi'i ddiweddaru ar awyru ac aerdymheru yn ystod y pandemig

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi diweddaru ac ychwanegu at ei gyngor i helpu cyflogwyr i sicrhau awyru digonol yn eu gweithleoedd yn ystod y pandemig.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram