Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

18 Chwefror 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN – Rhaid i ddarparwyr llety ofyn am ganiatâd i agor ar gyfer gweithwyr allweddol; Gŵyl Dewi 2021- Pecyn cymorth cynnwys nawr yn fyw; Cyfreithiau di-fwg – Newidiadau o 1 Mawrth 2021; Arian argyfwng gan Lywodraeth Cymru i fusnesau sydd wedi’u taro gan y llifogydd; Eich Coedwig Genedlaethol i Cymru; Digwyddiadau hyfforddiant amgylchedd arfordirol Cymru gyfan; Cofiwch: Cystadleuaeth band eang ar gyfer lleoliadau digwyddiadau; Bwletin Cyflogwyr CThEM Chwefror 2021; Cynhadledd Ymarferwyr Diogelu Data 2021; Gwybodaeth Pontio'r UE


Rhaid i ddarparwyr llety ofyn am ganiatâd i agor ar gyfer gweithwyr allweddol

Os yw eiddo yn cael ceisiadau i letya gweithwyr allweddol, rydym yn eich atgoffa bod angen i’r llety (fesul achos) gyflwyno cais i’w Awdurdod Lleol er mwyn cael caniatâd i agor a lletya’r gweithwyr allweddol. 

Sylwer na ddylai’r llety agor at y diben hwn heb y caniatâd hwn.


Gŵyl Dewi 2021- Pecyn cymorth cynnwys nawr yn fyw

Fel rhan o'n gŵyl ddigidol dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi, byddwn yn arddangos Cymru i’r byd ar y cyfryngau cymdeithasol gyda straeon am bobl, diwylliant, busnesau a chymunedau. (Ceir manylion yng nghylchlythyr Croeso Cymru, 11 Chwefror)

Gallwch nawr gael mynediad at gasgliad o asedau a deunyddiau i'n helpu i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi 2021. Edrychwch ar becyn cymorth cynnwys Gŵyl Dewi 2021 ac ymunwch â ni o heddiw ymlaen i ymhelaethu ar gynnwys drwy eich sianeli eich hun - gan ddefnyddio'r hashnodau #GwylDewi #StDavidsDay a'r canlynol:

Dilynwch brif sianeli cymdeithasol Cymru cyn y digwyddiad a rhannwch ein cynnwys i gael eich cynulleidfaoedd i gymryd rhan:

Rhannwch hyn gyda'ch rhanddeiliaid - busnesau, grwpiau neu sefydliadau yng Nghymru neu bartneriaid rhyngwladol - a all helpu gryfhau ein cynnwys neu efallai eu bod eisiau cymryd rhan. Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau, e-bostiwch ymholiadau.cymru@llyw.cymru.


Cyfreithiau di-fwg – Newidiadau o 1 Mawrth 2021

Ar 1 Mawrth, mae’r gyfraith yn newid o ran lle y gall pobl smygu yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i dir ysbytai, tir ysgolion, meysydd chwarae cyhoeddus a lleoliadau gofal awyr agored ar gyfer plant fod yn ddi-fwg. Bydd yn drosedd smygu mewn ardal ddi-fwg a gallai unrhyw un sy’n torri’r gyfraith gael dirwy o £100.

Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn gwneud newidiadau yn y sector twristiaeth. Ar hyn o bryd mae eithriadau sy’n caniatáu smygu mewn llety gwyliau hunangynhwysol a llety dros dro (bythynnod, carafanau, chalets a llety Airbnb ac ati) ac i westai, tai llety, tafarnau, hosteli a chlybiau aelodau gael ystafelloedd gwely ar gyfer smygwyr. Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn cadw’r eithriadau hyn, ond dim ond am gyfnod cyfyngedig (tan 1 Mawrth 2022). Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ystafelloedd gwely  dynodedig i smygwyr mewn gwestai ac ati cyn 1 Mawrth 2022, fodloni amodau penodol. 

Felly, o 1 Mawrth 2022 bydd yn ofynnol i bob math o lety gwyliau hunangynhwysol a llety dros dro a phob gwesty, tŷ llety a thafarn ac ati fod yn ddi-fwg. Rydym wedi darparu 12 mis er mwyn galluogi busnesau i gael gwared yn raddol ar unrhyw lety lle caniateir smygu a’i droi’n llety di-fwg.

Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyflwyno’r ddeddfwriaeth neu’r gofynion, cysylltwch â’r tîm polisi tybaco ar PolisiTybaco@llyw.cymru.


Arian argyfwng gan Lywodraeth Cymru i fusnesau sydd wedi’u taro gan y llifogydd

Bydd hyd at £2,500 o arian argyfwng gan Lywodraeth Cymru ar gael i fusnesau yng Nghymru gafodd eu taro gan y llifogydd diweddar.

Mae'r Grant Rhyddhad Llifogydd Busnes yn agor i geisiadau heddiw, gyda chwmnïau y mae llifogydd yn effeithio arnynt yn gallu hawlio cymorth i'w helpu i sefydlogi eu gweithrediadau.

Mae hyn yn dilyn y gofid a’r difrod a achoswyd gan Storm Bella ym mis Rhagfyr llynedd a Storm Christoph ym mis Ionawr.

Busnes Cymru fydd yn gyfrifol am drefnu’r arian a bydd yn helpu busnesau â’u costau trwsio ac adfer, a hefyd â chost rhentu lle newydd a chadw staff.

Bydd yn agored i fusnesau y gallai unrhyw stormydd eraill hyd at ddiwedd mis Mawrth effeithio arnyn nhw, os bydd digon o arian.  Bydd yn rhaid bodloni’r amodau. I wneud cais, ewch i wefan Busnes Cymru.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Eich Coedwig Genedlaethol i Cymru

Eich Coedwig Genedlaethol i Cymru yw hi ac mae hi i bawb, am genedlaethau i ddod.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein am ddim ar 10-12 Mawrth gan ganolbwyntio ar eich barn ar ddatblygiad y Goedwig Genedlaethol. Bydd y sesiynau yn archwilio buddion coetiroedd a choed i bawb, gan ddangos pa mor werthfawr yw coed nid yn unig o safbwynt economaidd, ond ar gyfer cysylltedd cymdeithasol, ymgysylltu â natur, ein lles, cefnogi bioamrywiaeth a newid hinsawdd.

Bydd y digwyddiad yn mynd yn fyw yn fuan, ond i gofrestru'ch diddordeb ymlaen llaw e-bostiwch coedwiggenedlaetholcymru@llyw.cymru.


Digwyddiadau hyfforddiant amgylchedd arfordirol Cymru gyfan  

Mae Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF) yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau hyfforddiant Cymru gyfan ar ran Partneriaeth Cymru o AGM Lleol sy'n datblygu'r gwaith hwn drwy gyllid o Gynllun Gweithredu Rheoli Rhwydwaith AGM Llywodraeth Cymru.

Am gyfle i ddysgu mwy am arfordir Cymru ac i archebu eich lle rhad am ddim, ymwelwch â gwefan Fforwm Arfordir Sir Benfro.


Cofiwch: Cystadleuaeth band eang ar gyfer lleoliadau digwyddiadau

Ym mis Awst 2020, lansiodd llywodraeth y DU gynllun newydd i wella cysylltedd band eang mewn lleoliadau digwyddiadau, gan eu galluogi i dderbyn mynediad ffeibr llawn.  Mae’r cynllun yn adeiladu ar ymrwymiadau o’r Cytundeb Sector Twristiaeth a Chynllun Gweithredu Digwyddiadau Busnes Rhyngwladol llywodraeth y DU.

Mae ail gylch y gystadleuaeth band eang ar gyfer lleoliadau digwyddiadau ar agor nawr tan 2 Mawrth 2021. Gall ymgeiswyr wneud cais am gyfran o gyllid £200,000 tuag at gostau seilwaith digidol ar gyfer eu lleoliadau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Bwletin Cyflogwyr CThEM Chwefror 2021

Mae CThEM yn cyhoeddi’r bwletin i gyflogwyr 6 gwaith y flwyddyn, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ar bynciau a materion a allai effeithio arnynt. Mae bwletin mis Chwefror yn cynnwys amrywiaeth o bynciau yn cynnwys:

  • Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws.
  • Cynllun talu newydd gohirio talu TAW – optio i mewn o ddiwedd Chwefror 2021.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Cynhadledd Ymarferwyr Diogelu Data 2021

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cyhoeddi y bydd y Gynhadledd Ymarferwyr Diogelu Data (DPPC) yn cael ei chynnal ar 14 Ebrill 2021 yn ddigidol.

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn cofrestru ymwelwch â gwefan Busnes Cymru.


GWYBODAETH PONTIO'R UE:

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a'r UE, drwy ymweld â Phorth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.

Y Berthynas Newydd â’r UE: Beth mae’n ei olygu i Gymru

Mae’r ddogfen Y Berthynas Newydd â’r UE: Beth mae’n ei olygu i Gymru yn amlinellu goblygiadau’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE, a nodir yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar gyfer dinasyddion, busnesau a chymunedau Cymru yn ogystal â’n diogelwch yn y dyfodol.

Llinellau cymorth pontio’r UE

Mae rhestr o linellau cymorth llywodraeth y DU yn nhrefn thema a chamau allweddol ar gyfer busnesau wedi’i chyhoeddi. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram