Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

26 Chwefror 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN – Gŵyl Dewi 2021 - Arddangos Cymru i'r byd;  Wythnos Cymru yn Llundain 2021;  Adeiladau Trwyddedig Cymeradwy - Defnyddio lleoliadau priodas – eglurhad;  Busnesau'r DU sydd wedi cofrestru gyda chynllun 'Barod Amdani' yn cael stamp ‘Safe Travels ' byd-eang;  Ymholiadau ynglŷn a derbyn archebion ar gyfer cyfnod y Pasg, mewn llety gwyliau hunangynhwysol;  Cynllun rheoli’r coronafeirws: lefelau rhybudd yng Nghymru (llacio’r cyfyngiadau’n raddol);  Adolygiad ystadegau teithio a thwristiaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol;  Targedau cynharach ar gyfer brechu yn erbyn COVID a blaenoriaethau newydd yn cael eu cadarnhau i Gymru; Tasglu Twristiaeth COVID-19;  Fframwaith profi COVID-19 yn y gweithle;  Llywodraeth Cymru yn nodi cenhadaeth ar gyfer economi fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach;  Sut i drin treuliau a buddion penodol a roddir i weithwyr yn ystod y coronafeirws;  Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Gŵyl Dewi 2021 - Arddangos Cymru i'r byd

Fel rhan o'n gŵyl ddigidol dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi, byddwn yn dathlu Cymru i'r byd ar draws y cyfryngau cymdeithasol gyda straeon am bobl, diwylliant, busnesau a chymunedau.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno yn ein dathliad 72 awr ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n arbennig ar gyfer ein defnyddwyr , byddwn yn dathlu  bob peth Cymraeg o heddiw ymlaen; edrychwch ar yr Amserlen Digwyddiadau , dilynwch a rhannu cynnwys ar Twitter (Saesneg / Cymraeg) Facebook (Saesneg / Cymraeg) a Instagram  a defnyddiwch yr hashnod #GwylDewi #StDavidsDay.


Wythnos Cymru yn Llundain 2021

Bydd digwyddiad blynyddol Wythnos Cymru Llundain yn cael ei gynnal dros gyfnod wythnos Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain.  Oherwydd cyfyngiadau Coronafeirws bydd mwy o ffocws rhithiol i weithgareddau eleni sy'n cael eu cynnal hyd at 7 Mawrth 2021. Ceir rhagor o fanylion ar wefan Wythnos Cymru yn Llundain.


Adeiladau Trwyddedig Cymeradwy - Defnyddio lleoliadau priodas - eglurhad

O Fawrth 1af 2021 gall lleoliadau sy'n “fangre gymeradwy” ar gyfer cynnal priodas neu seremoni partneriaeth sifil fod ar agor, ond dim ond at y diben hwnnw (neu ar gyfer seremoni briodas amgen fel priodas ddyneiddiol). Mae gan y rhai sy'n mynychu'r seremoni esgus rhesymol hefyd i adael cartref at y diben hwnnw.

Gall cyplau sydd â seremoni briodas neu bartneriaeth sifil a drefnwyd eisoes ymweld â'r lleoliad ymlaen llaw, os oes angen, i gynllunio'r seremoni.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid yw hyn yn golygu y gall lleoliadau agor ar sail hapfasnachol trwy ganiatáu “show-arounds” i'r rheini a allai fod eisiau cael seremoni yn y lleoliad.

Mae hyn yn debygol o gael ei lacio unwaith y bydd cyfyngiadau Rhybudd Lefel 3 yn berthnasol yng Nghymru (neu mewn unrhyw ardal benodol yng Nghymru fel sy'n berthnasol). Darperir gwybodaeth bellach fel rhan o adolygiadau 21 diwrnod rheolaidd Llywodraeth Cymru (y nesaf wedi'i gynllunio ar gyfer 11eg Mawrth 2021).


Busnesau'r DU sydd wedi cofrestru gyda chynllun 'Barod Amdani' yn cael stamp ‘Safe Travels ' byd-eang

Mae VisitBritain wedi cyhoeddi y gall busnesau twristiaeth yn y DU sydd wedi cofrestru i gynllun safonol y diwydiant ‘Barod Amdani’ gael stamp ‘Safe Travels' rhyngwladol yn awtomatig gan Gyngor Teithio a Thwristiaeth y Byd (WTTC).

Mae'r cynllun ‘Barod Amdani’, a lansiwyd y llynedd gan VisitEngland mewn partneriaeth â byrddau twristiaeth Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, wedi cael ei gydnabod gan WTTC fel un sy'n bodloni ei brotocolau iechyd a hylendid safonedig byd-eang rhyngwladol ac am ei rôl yn cefnogi adferiad sector twristiaeth y DU.

Mae stamp WTTC yn galluogi teithwyr i adnabod cyrchfannau ledled y byd sydd wedi mabwysiadu protocolau safonedig byd-eang - fel y gallant brofi ‘Safe Travels'.

Mae VisitBritain yn cydlynu rhoi stamp ‘Safe Travels' yn y DU ar ran y WTTC, ar gyfer busnesau sydd wedi cofrestru i'w cynllun ‘Barod Amdani’, gyda'r rhai sy'n croesawu ymwelwyr rhyngwladol yn cael eu hannog yn arbennig i wneud cais. Gewch fwy o fanylion ar wefan VisitBritain.

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, gallwch wneud cais i'r cynllun "Barod Amdani " nawr, fel rhan o'ch paratoadau i ailagor eich busnes cyn gynted ag y bydd yr amser yn iawn.


Ymholiadau ynglŷn a derbyn archebion ar gyfer cyfnod y Pasg, mewn llety gwyliau hunangynhwysol

Fel y nodwyd yn y cylchlythyr diwethaf, yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhai mân newidiadau i'r rheolau presennol. Darllenwch yr hysbysiad i'r wasg am ragor o wybodaeth.

 Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio gyda'r sector ar y posibilrwydd o ailagor llety hunangynhwysol yng Nghymru fel rhan o'r Adolygiad nesaf.

Bydd y penderfyniad terfynol yn dibynnu ar sefyllfa iechyd y cyhoedd bryd hynny ac felly ni allwn roi unrhyw sicrwydd y caniateir i lety hunangynhwysol agor a pha reolau teithio a chartrefi a fydd yn berthnasol . Felly, mae angen i ni atgoffa darparwyr llety bod unrhyw archebion sy'n syrthio y tu hwnt i'r cyfnod adolygu 21 diwrnod presennol (sy'n dod i ben ar 12 Mawrth) ar risg y busnes ar cwsmer ei hun.  Ni ellir cymryd unrhyw archebion ar gyfer y cyfnod hyd at 12 Mawrth.

O ran ymholiadau archebu gan Loegr, mae diweddariad Ymateb COVID-19 Lloegr (a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar 22 Chwefror) yn nodi;

  • O 29 Mawrth, ni fydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith mwyach i bobl Aros gartref. Fodd bynnag, bydd llawer o'r cyfyngiadau symud yn parhau. Oni bai bod eithriad eisoes yn berthnasol, ni fydd yn bosibl cwrdd â phobl o gartrefi eraill dan do a bydd llawer o adeiladau busnes yn aros ar gau. Bydd canllawiau'n nodi y dylai pobl barhau i weithio gartref lle gallant. Dylai pobl barhau i leihau teithio lle bynnag y bo modd, ac ni ddylent fod yn aros oddi cartref dros nos ar hyn o bryd.
  • O 12 Ebrill (cynharaf), caniateir aros dros nos oddi cartref yn y wlad hon [Lloegr] a chaniateir llety hunangynhwysol i ailagor - y rhai nad oes angen cyfleusterau ar y cyd i ymdrochi, mynediad/gadael, arlwyo neu gysgu - dim ond aelodau o'r un aelwyd fydd yn cael eu defnyddio.

Ochr yn ochr â'r sefyllfa yng Nghymru, mae'n bwysig ystyried y cyfyngiadau sy'n berthnasol yn eu gwledydd priodol, wrth drefnu ymholiadau gan ddarpar westeion.


Cynllun rheoli’r coronafeirws: lefelau rhybudd yng Nghymru (llacio’r cyfyngiadau’n raddol)

Mae cynllun goleuadau traffig Llywodraeth Cymru i reoli’r coronafeirws wedi cael ei ddiwygio i ystyried amrywiolynnau newydd y feirws ac effaith y rhaglen frechu.  Yn y ddogfen wedi'i diweddaru, esbonnir yr hyn sydd wedi newid ers mis Rhagfyr a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i wneud penderfyniadau. Mae'r Cynllun Rheoli yn disgrifio'r mesurau i reoli coronafeirws ar 4 Lefel Rhybudd.  Mae Cymru ar Lefel Rhybudd 4 ar hyn o bryd.


Adolygiad ystadegau teithio a thwristiaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnal adolygiad llawn o'u ystadegau teithio a thwristiaeth, gyda'r nod o wella'r darlun a ddarluniwyd gan y data hwn.

Er mwyn ymgysylltu ac ymgynghori ag ystod eang o ddefnyddwyr, mae SYG yn datblygu fforwm, a byddant yn bwydo'n ôl ar gynnydd yr adolygiad ac yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr ofyn cwestiynau a gadael sylwadau.  Os ydych yn defnyddio ystadegau teithio a thwristiaeth yn uniongyrchol, neu'n anuniongyrchol, ac os hoffech ymuno â'r fforwm, mynegwch eich diddordeb yma.


Targedau cynharach ar gyfer brechu yn erbyn COVID a blaenoriaethau newydd yn cael eu cadarnhau i Gymru

Mae strategaeth frechu i Gymru ddiwygiedig wedi cael ei chyhoeddi, sy’n cadarnhau bod dyddiadau targed allweddol cynharach wedi’u pennu a bod cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu mewn perthynas â blaenoriaethu ar gyfer y cam nesaf yn y broses frechu yn cael ei fabwysiadu.

Mae’r targedau wedi cael eu diweddaru fel hyn: bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i bob grŵp blaenoriaeth presennol erbyn canol mis Ebrill, ac i’r boblogaeth ehangach sy’n oedolion erbyn diwedd mis Gorffennaf. Mae’r strategaeth ddiwygiedig hefyd yn cadarnhau bod Cymru, yn unol â gwledydd eraill y DU, yn mynd i ddilyn cyngor dros dro y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar flaenoriaethu mewn perthynas â’r boblogaeth ehangach sy’n oedolion.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Tasglu Twristiaeth COVID-19

Mae Tasglu Twristiaeth COVID-19 yn gorff cynrychioliadol o'r sector twristiaeth sy'n gweithio gyda Croeso Cymru i dynnu sylw Gweinidogion at anghenion penodol y sector twristiaeth, sy’n cynnwys y Prif Weinidog.  Ar ôl ei greu flwyddyn yn ôl, mae sawl agwedd ir gwaith yma gan gynnwys themâu cyffredin fel bylchau mewn pecynnau cyllid, syniadau ar gyfer lliniaru’r problemau a thynnu sylw’r Gweinidogion at anghenion penodol y sector twristiaeth.  Gellir gweld nodiadau a gytunwyd arnynt or  cyfarfodydd Grŵp COVID-19 twristiaeth ar-lein.


Fframwaith profi COVID-19 yn y gweithle

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar sut y bydd yn cynnig profion COVID-19 i weithleoedd yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus.

Bydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brofion asymptomatig rheolaidd mewn gweithleoedd yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn canolbwyntio ar weithleoedd:

  • lle mae gweithwyr yn dod i fwy o gysylltiad â risg;
  • lle mae gweithwyr yn gweithio’n agos at bobl eraill;
  • sydd â >50 o weithwyr nad ydynt yn gallu gweithio gartref;
  • sy’n darparu a chynnal gwasanaethau allweddol ar gyfer y cyhoedd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llywodraeth Cymru yn nodi cenhadaeth ar gyfer economi fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach

Wrth i Gymru barhau i lywio heriau niferus coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi sut y bydd yn gweithio i ailadeiladu economi Cymru fel ei bod yn fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach nag erioed o'r blaen.

Mae hyn yn cynnwys darparu £270 miliwn yn ychwanegol i gefnogi busnes drwy Fanc Datblygu Cymru. Gan weithredu ochr yn ochr â chyfres o gymorth arall gan y Banc Datblygu, mae hyn yn fuddsoddiad mawr mewn cyllid hygyrch i fusnesau a bydd yn helpu cwmnïau o Cymru i ganolbwyntio ar eu llwyddiant hirdymor.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chenhadaeth Cadernid Economaidd ac Ad-drefnu sy'n nodi sut y bydd yn gweithio i ailadeiladu economi ôl-COVID-19 Cymru fel ei bod yn gwerthfawrogi ac yn blaenoriaethu lles, yn sbarduno ffyniant, yn amgylcheddol gadarn, ac yn helpu pob person yng Nghymru i wireddu ei botensial.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Sut i drin treuliau a buddion penodol a roddir i weithwyr yn ystod y coronafeirws

Edrychwch ar wefan Busnes Cymru am wybodaeth am dreuliau a buddion trethadwy sy’n cael eu talu i weithwyr oherwydd y coronafeirws a sut i hysbysu CThEM amdanynt.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram