Bydd cyfyngiadau aros gartref yn parhau yng Nghymru wrth i'r disgyblion ieuengaf ddechrau dychwelyd i'r ysgol o heddiw ymlaen, dydd Llun 22 Chwefror, cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford
Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau coronafeirws, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd rai mân newidiadau i'r rheolau presennol. Darllenwch yr hysbysiad i'r wasg am ragor o wybodaeth.
Yn y gynhadledd i'r wasg ar ddydd Gwener 19 Chwefror, dywedodd y Prif Weinidog;
- Cynhelir yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau yn yr wythnos sy'n dechrau 8 Mawrth
- Cawn drafodaethau pellach gyda'r sector twristiaeth ynglŷn â'r hyn a allai fod yn bosibl os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn caniatáu
- Cyfarfûm â'r tasglu twristiaeth ddoe a buom yn sôn am ailagor graddol gan ddechrau gyda llety hunangynhwysol
Ymholiadau ynghylch derbyn archebion ar gyfer cyfnod y Pasg, mewn llety gwyliau hunangynhwysol
Mae unrhyw archebion sy'n syrthio y tu hwnt i'r cyfnod adolygu o 21 diwrnod - yr adolygiad nesaf 12 Mawrth - ar risg y busnes hwnnw a'r cwsmer ei hun. Ni ellir cymryd unrhyw archebion cyn 12 Mawrth.
Cynllun rheoli coronafeirws: lefelau rhybudd yng Nghymru (yn dod allan o'r cyfyngiadau symud)
Yn nogfen y Cynllun Rheoli wedi'i diweddaru, esbonnir yr hyn sydd wedi newid ers mis Rhagfyr a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i wneud penderfyniadau.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|