Rhwydwaith Gwledig Cymru News Round-up 2021 Rhifyn 02: Chwefror 2021

News Round-up 2021 Rhifyn 02: Chwefror 2021

 
 

Uned Cymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru

wrn

Uned Cefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru yn Gweithio i Chi

Cofiwch edrych yn rheolaidd ar wefan Rhwydwaith Gwledig Cymru i ddarganfod beth sy'n digwydd yn y Gymru Wledig gan gynnwys: Manylion y gweithgareddau Rhwydwaith diweddaraf, Diweddariadau ar lwyddiannu Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru hyd yma, Rhannu a dysgu o’r astudiaethau achos niferus a mwy!!

Digwyddiadau -

Rhith-Weithdy - Optimeiddio Cadwyni Cyflenwi Bwyd a Chynaeafu Naturiol Cymru - 19 Ionawr 2021

Adroddiad a Chyflwyniadau o'r digwyddiad.

Ariannu'r Rhaglen Datblygu Gwledig

Rhestr o brosiectau wedi'i diweddaru - Rhag 2020

Newyddion

Ewch i'r Tudalennau Newyddion, straeon newydd yn cael eu hychwanegu'n ddyddiol.

Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cyfnodau’r Cynlluniau a’r Cymorth sydd ar gael

glastir

Grantiau bach Glastir (carbon)

Bydd y cyfnod Datgan Diddordeb yn cychwyn ar 11 Ionawr a bydd yn dod i ben ar 19 Chwefror

Rhaglen gwaith cyfalaf yw Grantiau Bach Glastir, sydd ar gael i fusnesau ffermio ledled Cymru i gynnal prosiectau fydd yn helpu i gloi carbon.

Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio

lamb

Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (Bwyd – y Cynllun Adfer o COVID-19)

Ffenestr y Cais nawr ar agor tan 11 Chwefror

Mae'r Ffenestr EOI hon yn cynnig cymorth i:

  • y sector bwyd a diod yng Nghymru yn ystod cyfnod adfer Covid-19
  • diwydiannau heb gynrychiolaeth is sy'n anelu at utlileiddio'r cynhaeaf naturiol
green

Cyflenwi a Chydweithio (Camau Gweithredu Peilot ar gyfer Twf Gwyrdd a’r Economi Gylchol)

Ffenestr y Cais nawr ar agor tan 11 Chwefror

Cynllun i barhau i gefnogi’r gwaith o ailbwrpasu gweithgareddau cydlyniant cymunedol drwy feithrin arloesi, cynnal gweithgareddau peilota a manteisio i’r eithaf ar ddigideiddio.

Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig

rbis

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig (nad ydynt yn amaethyddol)

Bydd y cyfnod Datgan Diddordeb yn cychwyn ar 25 Chwefror a bydd yn dod i ben ar 29 Mawrth 2021

Cynllun i greu a datblygu microfusnesau a busnesau bach nad ydynt yn fusnesau amaethyddol.

food

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – Bwyd

Bydd y cyfnod Datgan Diddordeb yn cychwyn ar 25 Chwefror a bydd yn dod i ben ar 29 Mawrth 2021

Rhaid i bob prosiect a gefnogir drwy'r RBISF wneud cyfraniad at Gynllun Gweithredu'r Strategaeth Fwyd - Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014 - 2020

Cynhyrchu Cynaliadwy

sus

Y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy (NM)

Bydd y cyfnod Datgan Diddordeb yn cychwyn ar 01 Chwefror a bydd yn dod i ben ar 22 Mawrth 2021

Cymorth ariannol i wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol ffermydd.

Pren

timber

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren

Bydd y cyfnod Datgan Diddordeb yn cychwyn ar 01 Mawrth a bydd yn dod i ben ar 22 Ebrill 2021

Cymorth ariannol i berchenogion i wella potensial eu coedwigoedd.

Ffermio

fbg

Y Grant Busnes i Ffermydd

Bydd y cyfnod Datgan Diddordeb yn cychwyn ar 01 Mawrth a bydd yn dod i ben ar 29 Ebrill 2021

Cyfraniad ariannol at fuddsoddi cyfalaf mewn offer a pheiriannau ar y fferm

skills

Ymgeisiwch ar gyfer cyllid sgiliau Cyswllt Ffermio

Mae’r cyfnod ar gyfer ymgeisio am gyllid sgiliau Cyswllt Ffermio ar agor nes y 26 Chwefror. Mae cymhorthdal o hyd at 80% ar gael ar gyfer cyrsiau gyda darparwyr hyfforddiant cymeradwy.

Cymorth a Chefnogaeth i Ffermwyr yng Nghymru

bps

Newidiadau i Gynllun y Taliad Sylfaenol 2021

Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar Ffermio Cynaliadwy a'n Tir: symleiddio cymorth amaethyddol bellach ar gael. Bydd manylion llawn y newidiadau i BPS yn cael eu darparu yng nghanllaw Ffurflen Cais Sengl 2021. Bydd hwn ar gael yn gynnar yn 2021.

laptop

Trosglwyddo Hawliau BPS 2021 bellach ar agor

Gall ffermwyr drosglwyddo’u Hawliau BPS trwy eu gwerthu, eu lesio neu drwy ewyllys. Agorodd cyfnod trosglwyddo 2021 ar 4 Ionawr 2021.
Bydd ffurflenni Trosglwyddo Hawliau ar gael ichi eu llenwi ar-lein ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Gall gwerth yr hawliau a ddangosir ar eich cyfrif newid. Rhaid ichi roi gwybod inni cyn canol nos 15 Mai 2021 am unrhyw hawliau sydd wedi’u trosglwyddo er mwyn ichi allu hawlio ar yr hawliau a gewch yn 2021.

Y Goedwig Genedlaethol

forest

Eich Coedwig Genedlaethol i Cymru yw hi ac mae hi i bawb, am genedlaethau i ddod

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein am ddim ar 10-12 Mawrth gan ganolbwyntio ar eich barn ar ddatblygiad y Goedwig Genedlaethol. Bydd y sesiynau yn archwilio buddion coetiroedd a choed i bawb, gan ddangos pa mor werthfawr yw coed nid yn unig o safbwynt economaidd, ond ar gyfer cysylltedd cymdeithasol, ymgysylltu â natur, ein lles, cefnogi bioamrywiaeth a newid hinsawdd.
Bydd y digwyddiad yn mynd yn fyw yn fuan, ond i gofrestru'ch diddordeb ymlaen llaw e-bostiwch coedwiggenedlaetholcymru@llyw.cymru

Ymgynghoriad

agri

Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Rydym yn ymgynghori ynghylch y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cefnogi amaethyddiaeth yng Nghymru

Dyddiad cau: 26 Mawrth 2021

Ymgynghoriad Papur Gwyn Amaeth yng Nghymru: gweminar

Mae’r Papur Gwyn Amaethyddiaeth yng Nghymru yn disgrifio’r cynlluniau ar gyfer y newid mwyaf mewn polisi amaeth a fu efallai ers degawdau. Rydym yn cynnig dod â’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) a chynlluniau amaeth amgylcheddol eraill yr UE i ben a sefydlu cynllun cymorth uniongyrchol sengl yn eu lle. Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eich ffordd o ffermio ac mae’n bwysig ein bod yn clywed eich barn ar y cynigion. Bydd y digwyddiad yma yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau yn uniongyrchol i’r rhai sy’n ymwneud â datblygu’r polisi.

BeefQ

beef

Gweminarau BeefQ

Gweminarau BeefQ - 25/01/2021

Gweminarau BeefQ - 27/01/2021

Ymgynghoriad yn Fyw ar y We!

Bydd yr arolwg hwn yn rhoi i brosiect BeefQ ddealltwriaeth o ganfyddiad y diwydiant cig eidion ehangach ar hyn o bryd o ansawdd bwyta cig eidion a’r awydd i newid o’r dulliau presennol o brisio cig eidion i un sy’n seiliedig ar yr ansawdd bwyta a ragwelir, sut y gellid rhoi hyn ar waith yn ymarferol a’r rhwystrau canfyddedig wrth wneud hynny.

 

Allanfa'r UE

eu

Ymadael â’r UE: adnoddau

Gan fod Cyfnod Pontio’r DU bellach wedi dod i ben, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiweddaru canllawiau ar gyfer busnesau sy’n masnachu â’r UE, a chyda Gogledd Iwerddon. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y modd y gall eich busnes addasu i’r rheolau masnachu newydd ar gael ar wefan Paratoi Cymru, a hefyd ar Porth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru. Cofiwch hefyd ymweld â gwefan https://www.gov.uk/transition sydd bellach yn cynnwys y gwiriwr Brexit a fydd yn rhoi rhestr wedi’i bersonoli o gamau gweithredu ar eich cyfer chi, eich busnes a’ch teulu.

Cylchlythyr pontio yr UE - Gwlad - 05/02/2021

Cydweithredu

leader

Prosiectau Cydweithredu LEADER

Mae tua 3 phrosiect cydweithredu LEADER yn cael eu cynnwys ar gronfa ddata ENRD ar hyn o bryd ac maent yn dal i chwilio am bartneriaid i gydweithredu â hwy.

Dolenni a Gwybodaeth Ddefnyddiol

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru Dolenni Defnyddiol

Rhwydweithiau Cenedlaethol y DU

(Seasneg yn Unig)

Cylchlythyrau Eraill

 
 
 

Amdanom ni

Mae Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynnig crynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio sy’n gysylltiedig â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020. Mae’n ffordd hwylus i rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig yng Nghymru, cysylltwch â Rhwydwaithgwledig@llyw.cymru

Rhagor o wybodaeth ar y we:

businesswales.gov.wales/walesruralnetwork/cy

Dilyn ar-lein: