Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

4 Chwefror 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN – Annog busnesau i gofrestru i gael cymorth ariannol; Estyniad y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau; Arolwg Ymweliadau ag Atyniadau; Ymchwil ar Deithwyr Rhyngwladol; Cystadleuaeth band eang i leoliadau digwyddiadau; Newidiadau i’r cynllun Kickstart; Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein; Pecyn ariannu gwerth £6.2 miliwn wedi’i gyhoeddi ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru; Arolwg Lles Covid-19 Cymru


Annog busnesau i gofrestru i gael cymorth ariannol

Mae Llywodraeth Cymru yn annog busnesau i sicrhau eu bod wedi cofrestru i gael cymorth ariannol i'w helpu i ymdopi â’r effeithiau y mae’r coronafeirws yn parhau i’w cael.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn ychwanegol gwerth £200 miliwn i helpu cwmnïau tan ddiwedd mis Mawrth. Mae hynny’n golygu bod Llywodraeth Cymru wedi darparu pecyn cymorth sy’n werth cyfanswm o £650 miliwn i fusnesau yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth.

Bwriedir y pecyn ariannol yn bennaf ar gyfer busnesau sy'n talu ardrethi annomestig ac sydd wedi cael eu gorfodi i gau neu weithredu'n wahanol oherwydd y cyfyngiadau a gyflwynwyd yn sgil y coronafeirws.

Gan fod angen i fusnesau fod wedi cofrestru gyda'u hawdurdod lleol ym mis Hydref neu'n ddiweddarach er mwyn cael y taliadau, mae Llywodraeth Cymru yn annog cwmnïau sydd heb wneud hynny eto i weithredu ’nawr fel nad ydynt yn colli cyfle.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Estyniad y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau

Mae grantiau Ardrethi Annomestig a grantiau Dewisol i Fusnesau dan Gyfyngiadau ar gyfer y sectorau manwerthu dianghenraid, lletygarwch, twristiaeth a hamdden wedi'u hymestyn i ddarparu un taliad ychwanegol i dalu am y cyfnod rhwng 25 Ionawr a diwedd Mawrth 2021 ar gyfer busnesau y mae cyfyngiadau cenedlaethol yn effeithio arnynt.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Arolwg Ymweliadau ag Atyniadau i Dwristiaid

Dros y misoedd nesaf bydd Croeso Cymru yn cydweithio â Strategic Research and Insight (SRI) er mwyn cynnal arolwg o atyniadau i dwristiaid yng Nghymru.

Bydd yr arolwg hwn yn casglu ffigurau ynghylch ymwelwyr ar gyfer 2019 a 2020 gan y cafodd arolwg 2019 ei ohirio, er mwyn galluogi atyniadau i ganolbwyntio ar eu prif flaenoriaethau yn ystod y pandemig. Bydd SRI yn cysylltu’n uniongyrchol ag atyniadau i ymwelwyr yn ystod yr wythnos hon. Rydym yn ddiolchgar iawn am gymorth yr atyniadau i ymwelwyr o ran ein helpu drwy ddarparu niferoedd ymwelwyr a data arall allweddol a fydd yn sail i strategaethau ar gyfer adfer. Os ydych yn cynrychioli atyniad i ymwelwyr ond nad ydych yn clywed oddi wrth SRI a’ch bod yn awyddus i gymryd rhan mae croeso i chi gysylltu â Jennifer.Velu@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan.


Ymchwil ar Deithwyr Rhyngwladol

Mae VisitBritain wedi cyhoeddi canfyddiadau Ymchwil Adferiad Rhyngwladol ar eu gwefan gorfforaethol ar 3 Chwefror 2021. Mae Croeso Cymru, ynghyd â Visit Scotland, London & Partners a VisitBritain wedi cydariannu'r ymchwil. Y diben yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y galw rhyngwladol am deithio ac anghenion ymwelwyr fel rhan o'n gwaith cynllunio adferiad. Mae'r adroddiad yn darparu canlyniadau'r don gyntaf o waith ymchwil, a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2020, yn seiliedig ar arolwg ar-lein o ddarpar ymwelwyr sy'n byw mewn 14 o farchnadoedd rhyngwladol allweddol ar gyfer y DU. Dilynwch y ddolen i ddarllen yr adroddiad.


Cystadleuaeth band eang ar gyfer lleoliadau digwyddiadau: rownd dau

Ym mis Awst 2020, lansiodd Llywodraeth y DU gynllun newydd i wella cysylltedd band eang mewn lleoliadau digwyddiadau, gan eu galluogi i gael mynediad llawn i ffibr.

Mae'r cynllun hwn yn adeiladu ar ymrwymiadau'r Fargen Sector Twristiaeth a Chynllun Gweithredu Digwyddiadau Busnes Rhyngwladol llywodraeth y DU.

Mae ail rownd y gystadleuaeth band eang ar gyfer lleoliadau digwyddiadau ar agor tan 2 Mawrth 2021. Gall ymgeiswyr wneud cais am gyfran o £200,000 o gyllid tuag at gostau seilwaith digidol ar gyfer eu lleoliadau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GOV.UK.

 


SGILIAU A HYFFORDDIANT

Gwneud cais am Grant Cynllun Kickstart

Os ydych yn gyflogwr sy'n awyddus i greu lleoliadau gwaith i bobl ifanc, gallwch wneud cais am gyllid fel rhan o'r Cynllun Kickstart.  Mae Llywodraeth y DU bellach wedi dileu'r trothwy o 30 swydd o'r cynllun.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.

Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein

Mae Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein Busnes Cymru (BOSS) yma i'ch helpu chi a'ch busnes.  Dysgu ar-lein syml a hwylus ac mae'n cynnig cyrsiau am ddim i chi a'ch staff ar amser a chyflymder i weddu i chi.  Dysgwch fwy a gweld pa gyrsiau sydd ar gael ar wefan BOSS Busnes Cymru.


Pecyn ariannu gwerth £6.2 miliwn wedi’i gyhoeddi ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn ariannu newydd ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru.

Mae'r pecyn yn cynnwys £6.2m dros flynyddoedd ariannol 2020-21 a 2021-22, gan roi £2.25m i'r Llyfrgell a £3.95m i’r Amgueddfa i ddiogelu swyddi a chyflawni blaenoriaethau strategol newydd. Mae'r cyllid ar gyfer y Llyfrgell hefyd yn cynnwys £0.75m i gyflymu'r broses o weithredu canfyddiadau'r Adolygiad Teilwredig a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Arolwg Lles Covid-19 Cymru

Rhwng 9 Mehefin 2020 a 13 Gorffennaf, cynhaliodd Lles Cymru arolwg ar-lein a oedd yn edrych ar lefelau lles a thrallod seicolegol ym mhoblogaeth Cymru yn ystod y pandemig Covid-19. Mae canlyniadau’r arolwg bellach wedi’u cyhoeddi.  Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Lles Cymru.

Mae Lles Cymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a’r 7 Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn gwahodd ymatebion i ail arolwg sydd â’r nod o ddeall sut mae’r pandemig parhaus wedi effeithio ar iechyd poblogaeth Cymru.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram