Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

11 Chwefror 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN – Gŵyl Dewi 2021- Arddangos Cymru i'r byd; Y diweddaraf am y cynllun Benthyciad Adfer; Ydych chi’n teithio allan o’r DU at ddibenion busnes?; Diweddariad am y Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig (SEISS); Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth DU COVID-19; Arolwg Effaith COVID-19 Diwydiant Digwyddiadau Cymru; Cyhoeddi cyllid pellach i gefnogi gweithwyr llawrydd y sector creadigol; SGILIAU A HYFFORDDIANT - Rhaglen Cyfrif Dysgu Personol - Hyfforddiant a chymorth lles gweithwyr; Diogelu data a’r coronafeirws - cyngor i sefydliadau; Masnachu gyda'r UE.


Gŵyl Dewi 2021- Arddangos Cymru i'r byd

Yng Nghymru, rydym wedi wynebu sawl her yn ddiweddar sydd wedi ein hatgoffa o'r pethau sydd yn annwyl  — ein gilydd, ein bro a'n byd.

Wrth i ni symud ymlaen gyda phenderfyniad o'r newydd i wneud pethau da, mae Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth 2021 yn gyfle i arddangos i'r byd y gorau sydd gan Gymru i'w gynnig ac rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni.

Fel rhan o'n gŵyl ddigidol dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi, byddwn yn arddangos Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda straeon am bobl, diwylliant, busnesau a chymunedau, gan gynnwys:

  • Dathliad dros 72 awr  ar y cyfryngau cymdeithasol o bob peth Cymraeg (o 26 Chwefror)
  • Ffilm a chyfres o gynnwys mewn gwahanol ieithoedd at ddefnydd byd-eang.
  • Cynnwys wedi'i ddiweddaru ar Wales.com
  • Rhaglen ddigidol o ddigwyddiadau a fydd yn cael eu hysbysebu ar Wales.com

Mae trosolwg o weithgareddau i’r cwsmer sy’n cael ei gynllunio ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, a sut y gallwch gofrestru eich diddordeb i ymuno â ni i gryfhau y neges a chynnwys drwy sianeli eich hun, ar gael yn y Pecyn Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Phartneriaid.

Rhannwch hyn gyda'ch rhanddeiliaid - busnesau, grwpiau neu sefydliadau yng Nghymru neu partneriaid rhyngwladol - a all helpu gryfhau ein cynnwys neu efallai fod nhw eisiau cymryd rhan.

I gymryd rhan a derbyn y pecyn cymorth cynnwys digidol pan fydd ar gael, anfonwch e-bost ymholiadau.cymru@llyw.cymru. I gyflwyno fideo i'w gynnwys yn ein ffilm ddathlu, gweler y Canllaw Ffilmio – Dydd Gŵyl Dewi a'i gyflwyno erbyn 15 o Chwefror.


Y diweddaraf am y cynllun Benthyciad Adfer

Bydd busnesau a gymerodd Fenthyciadau Adfer a gefnogir gan y Llywodraeth i oroesi drwy bandemig Covid-19 yn cael rhagor o hyblygrwydd i ad-dalu eu benthyciadau.

Nawr, bydd gan fenthycwyr Benthyciadau Adfer yr opsiwn i deilwra taliadau yn unol â’u hamgylchiadau unigol a chael y dewis nawr i oedi pob ad-daliad am chwe mis pellach.

Os oes gennych chi eisoes Fenthyciad Adfer ond eich bod wedi benthyg llai na’r hyn yr oedd gennych chi hawl iddo, gallwch ychwanegu at eich benthyciad presennol i’ch uchafswm. Mae’n rhaid i chi ofyn am y swm ychwanegol erbyn 31 Mawrth 2021.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Ydych chi’n teithio allan o’r DU at ddibenion busnes?

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi camau pellach ar gyfer teithwyr allan ac i mewn i leihau’r teithio ar draws ffiniau rhyngwladol a lleihau’r risg o drosglwyddo Covid-19.

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cadarnhau o 15 Chwefror 2021 y bydd yn ofynnol i unrhyw un sy’n teithio i’r DU o wlad ar restr gwaharddiad teithio’r DU fod dan gwarantin mewn cyfleuster sydd wedi’i gymeradwyo gan lywodraeth y DU am gyfnod o 10 diwrnod.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Diweddariad am y Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig (SEISS)

Mae ceisiadau am y trydydd grant SEISS bellach wedi cau. Y dyddiad olaf ar gyfer gwneud cais am y trydydd grant oedd 29 Ionawr 2021.

Cyhoeddir manylion am y pedwerydd grant ar 3 Mawrth 2021.

Ewch i wefan GOV.UK i gael gwybod mwy.


Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth DU COVID-19

Mae Croeso Cymru yn parhau i gydweithio â VisitBritain a VisitScotland i redeg traciwr defnyddwyr yn y DU. Mae adroddiad diweddaraf y DU, sy'n cwmpasu 25 – 29 Ionawr (Cam 24) i'w weld ar wefan VisitBritain.

Mae'r canfyddiadau allweddol yn dangos gwelliant yn y rhagolygon, er bod y rhan fwyaf yn credu y bydd yn cymryd tan ddiwedd 2021 i normalrwydd ddychwelyd ac mae hyder o ran gallu mynd ar daith yn y DU yn ystod hanner cyntaf eleni wedi gostwng.

Arolwg Effaith COVID-19 Diwydiant Digwyddiadau Cymru

Mae adroddiad cryno o arolwg Croeso Cymru sy'n edrych ar effaith Covid-19 ar sefydliadau digwyddiadau a'r gadwyn gyflenwi ehangach wedi'i gyhoeddi yr wythnos hon.


Cyhoeddi cyllid pellach i gefnogi gweithwyr llawrydd y sector creadigol

Bydd gweithwyr llawrydd yn y sector creadigol yng Nghymru yn cael dyraniad ychwanegol o £8.9 miliwn.

Bydd y dyraniad ychwanegol o'r Gronfa Adferiad Diwylliannol yn golygu y bydd pob un o'r gweithwyr llawrydd a gefnogir eisoes yn derbyn £2,500 ychwanegol i'w cefnogi drwy'r cyfnod estynedig hwn o lai o weithgarwch.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


SGILIAU A HYFFORDDIANT:

A yw eich anghenion busnes wedi newid o ganlyniad i Covid-19?

I gael gwybodaeth am raglenni sgiliau a hyfforddiant, cymorth gyda recriwtio staff a helpu i gwblhau proffil sgiliau syml ar gyfer eich busnes, ewch i Borth Sgiliau Busnes Cymru.

 

Rhaglen Cyfrif Dysgu Personol

Gall rhaglen y Cyfrif Dysgu Personol gefnogi gofynion uwchsgilio cyflogwyr a helpu busnesau i fynd i'r afael ag anghenion sgiliau yn y dyfodol. Dysgwch fwy ar wefan Busnes Cymru.

Hyfforddiant a chymorth lles gweithwyr

Mae cyflogwyr yng Nghymru wedi cydnabod ers cryn amser yr angen i hybu a chefnogi iechyd a llesiant eu gweithwyr, gan cynnwys cadw cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, a dilyn ffordd iach o fyw.

Mae manteision mynd i’r afael â llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol gweithwyr yn cynnwys:

  • llai o salwch ac absenoldeb
  • cynyddu cynhyrchiant
  • ansawdd y gwaith yn gwella
  • gwell ymgysylltiad ar ran staff
  • llai o drosiant ymhlith staff

Mae gweithwyr sy’n cael eu cefnogi i gymryd rhagor o reolaeth dros eu llesiant eu hunain yn elwa ar y canlynol:

  • teimlo llai o straen
  • mwy o gymhelliant
  • ysbryd yn well
  • mwy o foddhad o'u gwaith
  • mwy ymwybodol o lesiant eu cydweithwyr

Mae canllawiau, offer a chymorth ar gael i'ch helpu i sefydlu a datblygu diwylliant lles eich busnes, ac i gynnwys gweithwyr yn y sgwrs ar iechyd yn y gweithle.


Diogelu data a’r coronafeirws - cyngor i sefydliadau

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cydnabod yr heriau digynsail mae busnesau a sefydliadau yn eu hwynebu yn ystod y pandemig Coronafeirws (COVID-19) ac yn deall y gall sefydliadau sy’n defnyddio data pobl yn ystod y pandemig fod angen rhannu gwybodaeth yn gyflym. Ni fydd diogelu data yn eich rhwystro rhag gwneud hynny.

Darllenwch am yr egwyddorion allweddol y mae angen i sefydliadau eu hystyried o ran defnyddio gwybodaeth bersonol ar wefan Busnes Cymru.


Masnachu gyda'r UE

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a'r UE, drwy ymweld â Phorth Pontio UE Busnes Cymru.

Gallwch hefyd ddarllen am y Canllawiau Newydd ar Symud Nwyddau a newyddion am y Rheolau Tarddiad: Gwiriwch fod eich nwyddau'n cydymffurfio â masnach ddi-dariff gyda'r UE.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram