Y Prif Weinidog yn cyhoeddi fod cyfyngiadau symud Cymru i barhau ac yn cyhoeddi cynlluniau i ail agor ysgolion
Mae’n bosibl y bydd plant ieuengaf Cymru yn dechrau mynd yn ôl i’r ysgol ar ôl gwyliau hanner tymor Chwefror, os bydd cyfraddau’r coronafeirws yn parhau i ostwng. Dyna mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi’i gyhoeddi heddiw.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd cyfyngiadau clo lefel rhybudd pedwar yn parhau yng Nghymru dros y tair wythnos nesaf, yn dilyn adolygiad o’r mesurau a nododd y bydd manylion pecyn gwerth £200 miliwn i gymorth ychwanegol i fusnesau yn cael eu cadarnhau (gweler yr eitem isod).
Mae cyfraddau’r coronafeirws ledled Cymru wedi gostwng yn is na 200 o achosion fesul 100,000 o bobl am y tro cyntaf ers dechrau Tachwedd. A bob dydd, mae miloedd yn rhagor o bobl yn cael eu dos gyntaf o frechlyn Covid-19 – mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron i 11% o’r boblogaeth wedi’u brechu.
Bydd dau newid bach i’r cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar sydd mewn grym ar hyn o bryd:
- Caiff dim mwy na dau berson o wahanol aelwydydd wneud ymarfer corff yn yr awyr agored gyda’i gilydd, ond rhaid iddynt gadw pellter cymdeithasol. Rhaid i’r ymarfer corff ddechrau a gorffen wrth y cartref – ni chaniateir gyrru i fannau prydferth i wneud ymarfer corff o hyd.
- Os yw swigen gefnogaeth wedi dod i ben, ceir ffurfio un newydd, ond rhaid aros 10 diwrnod cyn gwneud hynny.
Daw’r newidiadau hyn i rym ddydd Sadwrn, 30 Ionawr 2021.
Darllenwch fwy ar Llyw.cymru.
Rhagor o fanylion am £200 miliwn i gefnogi busnesau Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu rhagor o fanylion am y pecyn cymorth gwerth £200 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, ac ar gyfer busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n parhau i gael eu heffeithio gan bandemig COVID-19.
Mae'r cyllid diweddaraf yn cael ei gysylltu â'r system ardrethi annomestig, a bydd yn ychwanegu at y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau a roddwyd ar waith ddechrau mis Rhagfyr.
Mae'n golygu bod y cymorth diweddaraf hwn sy’n cael ei roi gan Lywodraeth Cymru bellach yn werth £650 miliwn, a bydd yn helpu busnesau gyda’u costau gweithredol tan ddiwedd mis Mawrth.
Bydd busnesau sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn gymwys i gael taliad o £3,000.
Bydd busnesau sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £150,000 yn gymwys i gael taliad o £5,000.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig y grant o £5,000 i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500,000.
Bydd busnesau sy’n rhan o gadwyni cyflenwi yn gallu gwneud cais am gymorth os ydynt wedi gweld gostyngiad o fwy na 40% yn eu trosiant.
Mae'r pecyn yn rhoi grant o £6,000 i fusnesau cymwys sydd â chyfradd ardrethi annomestig o £12,000 neu lai, i’w helpu gyda’u costau gweithredu, a bydd busnes cymwys sydd â chyfradd ardrethi annomestig rhwng £12,001 a £150,000 yn cael taliad o £10,000.
Nid yw hyn yn cynnwys busnesau sydd wedi manteisio ar Gymorth Penodol i’r Sector dan y Gronfa Cadernid Economaidd. Os yw busnes yn gymwys i gael cymorth dan y Gronfa honno, byddai busnes nodweddiadol ym maes lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sydd â 10 o weithwyr cyflogedig yn cael hyd at £15,000 yn ychwanegol, sy'n golygu y byddai’n cael grant gwerth cyfanswm o £25,000 ar gyfer y cyfnod.
Mae £30 miliwn arall ar gael hefyd drwy'r gronfa cymorth dewisol i ddarparu hyd at £2,000 o grantiau i fusnesau nad ydynt ar y system ardrethi annomestig.
Mae’r cymorth a roddir gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael oddi wrth Lywodraeth y DU.
Unwaith eto, yr awdurdodau lleol − sydd wedi bod yn gwbl hanfodol o ran sicrhau bod busnesau'n cael arian yn gyflym − fydd yn gweinyddu ac yn dosbarthu'r taliadau hyn. Os yw busnesau'n talu ardrethi annomestig ac os ydynt eisoes wedi cael taliad ers y cyfnod atal byr ym mis Hydref, nid oes angen iddynt weithredu. Fodd bynnag, dylai busnesau sydd heb gofrestru gyda'u hawdurdod lleol gymryd camau yn awr i sicrhau eu bod yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt yr hawl iddo.
Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod mwy na £1.7 biliwn o gymorth busnes wedi cyrraedd cyfrifon banc cwmnïau o Gymru.
Mae'r cymorth hwn wedi bod yn hollbwysig i fusnesau ledled Cymru drwy gydol y pandemig, ac mae wedi diogelu degau o filoedd o swyddi a allai fod wedi'u colli fel arall.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:
“Mae pandemig y coronafeirws yn parhau i gael effaith ddifrifol ar ein heconomi a'n busnesau, yn enwedig y rheini yn y sectorau hamdden, twristiaeth, lletygarwch a manwerthu.
“Bydd y £200 million ychwanegol rydym yn ei ddarparu yn rhoi sicrwydd i gwmnïau ledled Cymru ac yn eu helpu gyda'u costau gweithredu tan ddiwedd mis Mawrth.
“Mae’r cymorth rydyn ni’n ei roi yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael oddi wrth Lywodraeth y DU, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi a'r Cynllun Cymhorthdal Incwm i’r Hunangyflogedig, a dw i'n annog busnesau i edrych ar yr opsiynau hynny hefyd.
“Dw i hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i roi rhagor o sicrwydd i fusnesau ac unigolion drwy sicrhau na fydd y cymorth sydd ar gael drwy ymyriadau fel y Cynllun Cadw Swyddi yn cael ei dynnu'n ôl cyn bod yr economi’n barod.
“Mae awdurdodau lleol wedi bod yn hollbwysig drwy gydol y pandemig wrth iddyn nhw gefnogi’n hymdrechion drwy weinyddu a dosbarthu'r cyllid hwn i gwmnïau yn eu hardal. Hoffwn i ddiolch iddyn nhw unwaith eto am eu gwaith gwych ac am bopeth maen nhw’n parhau i'w wneud i helpu’n busnesau ar adeg pan fo’i angen fwyaf arnynt.”
Darllenwch yn llawn ar Llyw.Cymru.
Mae gwybodaeth am gymorth ar gael ar wefan Busnes Cymru.
Datganiad Ysgrifenedig: Ail Gartrefi yng Nghymru - Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae datganiad am Ail Gartrefi yng Nghymru wedi'i wneud gan Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ac mae ar gael i'w ddarllen ar Llyw.Cymru.
Cymru Ddi-sbwriel a di-dipio - cynlluniau Llywodraeth Cymru
Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn galw ar bawb i “chwarae eu rhan” i gael gwared ar sbwriel a thipio anghyfreithlon o ddinasoedd, moroedd a chefn gwlad Cymru.
Mae'r Gweinidog wedi lansio ei chynllun newydd: ‘Cymru Ddi-sbwriel a Di-dipio’, sy’n amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â’r broblem, gan wahodd pawb yng Nghymru i gyflwyno eu syniadau ar sut i wneud hynny.
Dywedodd y Gweinidog:
"Nid oes esgusodion dros daflu sbwriel a thipio. Rwyf am weld diwedd i’r ymddygiadau gwrthgymdeithasol hyn sy’n difetha ein strydoedd, ein traethau a’n cefn gwlad, gyda’r cyhoedd yn aml yn ysgwyddo’r gost glanhau.
"Yn ogystal â’i olwg hyll a’r ffaith ei fod yn difetha ein mwynhad o’n trefi a’n cefn gwlad, mae sbwriel – yn enwedig sbwriel plastig a thipio anghyfreithlon – yn effeithio ar ein hiechyd a’n llesiant ac yn bygwth bywyd gwyllt a chynefinoedd Cymru, gan beryglu eu colli nid yn unig i genedlaethau’r dyfodol ond i bawb sy’n byw yng Nghymru heddiw.
"Mae nodau’r cynllun yn uchelgeisiau pellgyrhaeddol, a bydd gorfodi yn chwarae rôl allweddol, ond nid yw gorfodi ar ei ben ei hun yn ddigon i fynd i’r afael â’r materion hyn. Bydd angen i bawb chwarae eu rhan ar bob lefel cynhyrchu, defnyddio a gwaredu nid yn unig i leihau sbwriel ond i atal eitemau rhag dod yn sbwriel yn y lle cyntaf."
Darllenwch yn llawn ar Llyw.Cymru.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|