Bwletin Gwaith Ieuenctid

COVID 19 Rhifyn Arbennig 10 - Ionawr 2021

 
 

Cynnwys

Gair gan Gadeirydd y Bwrdd

Cadeirydd y Bwrdd, Keith Towler

Llais Keith

Mae'r broses o lacio'r cyfyngiadau yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf, a'r cyfle i ailgysylltu â theuluoedd a ffrindiau (gan gadw pellter cymdeithasol) wedi bod yn hwb mawr yn ystod y cyfnod anodd hwn. Hefyd, mae'n gyfle i ni bwyso a mesur effaith y pandemig ar iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc, a chynllunio sut gallwn barhau i'w cefnogi drwy'r argyfwng hwn. 

Bydd 2021 yn cael ei chofio fel y flwyddyn y cafodd brechlynnau eu cyflwyno ond mae hefyd yn flwyddyn nodedig i bobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru. Byddant yn pleidleisio yn etholiadau'r Senedd ar 6 Mai am y tro cyntaf. Rwyf wedi clywed pobl ifanc yn siarad am gontractau dim oriau ac effaith yr isafswm cyflog, pwysigrwydd iechyd meddwl, mae bywydau du o bwys, pryderon am yr amgylchedd, digartrefedd, ffioedd prifysgol, y Gymraeg, a beth mae'r pandemig yn ei olygu iddyn nhw o ran eu haddysg a'u dyfodol. Rwyf wedi clywed pobl ifanc yn siarad am wleidyddion yng Nghymru, y DU, Ewrop ac ar draws y byd yn gofyn cwestiynau am sut gwneir penderfyniadau ac i ba raddau maen nhw’n deall yn iawn yr effaith y mae'r penderfyniadau hynny'n ei chael ar fywydau pobl.

Mae angen i'r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru fod yn meddwl am eu maniffestos:

  • Beth fyddan nhw'n ei ddweud wrth bobl ifanc?
  • Sut gallant wneud eu polisïau'n ddeniadol i bobl ifanc yng Nghymru?

Os mai pobl ifanc yw ein dyfodol, yna siawns y dylem fel cymdeithas fod yn ymateb i'w pryderon, eu dyheadau a'u gobeithion.

Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cyhoeddi'r Adroddiad Cychwynnol gan Fwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru. Mae ei deitl yn siarad â gwleidyddion o bob plaid gan ei fod yn datgan Mae’n Bryd Cyflawni dros Bobl Ifanc yng Nghymru. Mae'n nodi cyfres o argymhellion y mae'r Bwrdd o'r farn sy’n angenrheidiol os ydym am wireddu model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Mae'r argymhelliad cyntaf yn disgrifio'r angen i ddatblygu strwythur llywodraethu a arweinir gan bobl ifanc ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn gyda chryn hyder. Hyder ac ymddiriedaeth mewn pobl ifanc sydd eisiau gweld hyn yn digwydd ac a fydd yn defnyddio’r cyfrifoldeb gydag uniondeb a phenderfyniad. Ac ymddiriedaeth yn ein gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd wedi datblygu diwylliant ymarfer cyfranogol sy'n seiliedig ar hawliau yn eu gwaith bob dydd.

Mae gennym flwyddyn brysur o'n blaenau ond ni fu erioed amser pwysicach i werthfawrogi pobl ifanc a'r cyfraniad a wnânt i'n cymdeithas.

Llais Person Ifanc

Dyma stori Ieuan, person ifanc o Ben-y-bont ar Ogwr a'i gyfraniad fel arweinydd cymheiriaid panel cynghori ieuenctid Llais Ifanc, a gefnogir gan Youth Cymru.

Youth cymru

Mae Llais Ifanc yn grŵp agored i bobl ifanc 13-25 oed sy'n byw yng Nghymru (Gall pobl ifanc gofrestru yma). Ro’n i’n betrusgar pan  ddechreuais gymryd rhan gyntaf, ond roedd y panel cynghori'n gyfeillgar ac yn groesawgar iawn, a chyn bo hir roeddwn i’n gyfforddus gydag aelodau o bob math o gefndiroedd. Rydyn ni’n cyfarfod fel arfer am un prynhawn y mis ac yn cael gweithgaredd adeiladu tîm hwyliog ar ôl hynny.

Fe es i ar encil gydag aelodau Llais Ifanc a staff Youth Cymru. Roedd hwn i fod yn brofiad cyffrous ond doedd e ddim yn union fel roedden ni wedi’i ddychmygu!

Pan gyrhaeddon ni'r gwersyll, yng nghanol cefn gwlad Ceredigion, roedd yn llawer mwy sylfaenol, mwdlyd ac oerach nag yr oedden ni yn ei ddisgwyl a heb fwyd yn aros amdanom ar y noson gyntaf. Ond fe wellodd pethau, fe wisgon ni haen ar ben haen o ddillad a dod at ein gilydd i chwarae gemau a bwyta pizzas. Rhoddodd gyfle i ni ddarganfod pethau am ei gilydd ac roedd yn brofiad gwerth chweil wedi’r cyfan.

Drwy gydol y cyfleoedd hyn dw i wedi gallu meithrin fy hyder drwy fod yng nghwmni’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac amrywiaeth o bobl. Dw i wedi cael cyfle i fynychu'r gynhadledd Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yng Nghaerdydd a chynnal bwrdd gyda Kirstie, Swyddog Ymgysylltu â Phobl Ifanc Youth Cymru, a ofynnodd 'Sut gall Gwaith Ieuenctid fynd i'r afael ag Unigrwydd Ieuenctid?’. Drwy’r digwyddiad hwn cefais fy atgoffa o bŵer a phwysigrwydd cydweithio â sefydliadau tebyg a gwahanol i gyflawni nodau cyffredin.

Fe wnes i fwynhau bod yn rhan o rywbeth mwy a chynrychioli barn pobl ifanc eraill. Er fy mod yn bryderus ar y dechrau, dw i’n falch iawn fy mod i wedi cymryd rhan, wedi cwrdd â phobl wych ac wedi cael llu o brofiadau newydd.

 Ar hyn o bryd mae Llais Ifanc yn gweithio ar ymgyrch i annog ymgysylltiad gwleidyddol ieuenctid o'r enw "Power of Your Vote" oherwydd bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn Etholiadau’r Senedd ym mis Mai eleni. Cyn hyn maen nhw’n cynnal digwyddiad hystings a gall pobl ifanc ddarganfod mwy amdanyn nhw yma.

 

Ffocws Arbennig - Cyfranogiad

Rydym yn canolbwyntio ar thema benodol ym mhob bwletin. Yn y rhifyn hwn, y ffocws yw llais a chyfranogiad pobl

NYAS

Sefydlwyd y Grŵp Cynghori ar Bobl Ifanc, i ymgynghori â phobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau NYAS Cymru ar newidiadau i wasanaethau, polisi a recriwtio. Swyddogaeth bellach y grŵp yw dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ehangach yng Nghymru a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu rhedeg a'u datblygu gyda ac ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Mae'r Grŵp Cynghori yn llywio gwaith ein prosiect a ariennir gan NVYO sy'n rhoi cyfle i bob person ifanc ledled Cymru ymgymryd â hyfforddiant achrededig mewn Mentora Cymheiriaid, Eiriolaeth Cymheiriaid a chymorth i wneud cais am gymwysterau Gwaith Ieuenctid a'u hennill.

Mae'r pandemig wedi bod yn gyfnod prysur i'r Grŵp Cynghori ar Bobl Ifanc fel y dangoswyd gan y cynnydd yn amlder cyfarfodydd o bob chwarter i bob mis. Mae'r bobl ifanc wedi elwa o fod yn "rhan o rywbeth da" a rhyngweithio â phobl o'r un anian mewn amgylchedd diogel, gan weithio ar y canlynol:

  • Paratoi adnodd sain i Ddarlithwyr Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd ei ddefnyddio wrth addysgu myfyrwyr. Roedd hyn yn gyfle i ddangos teimladau'r grwpiau am iaith a ddefnyddir gan Weithwyr Cymdeithasol a Chynghorwyr Personol ac yn disgrifio geiriau/termau nad ydyn nhw’n hoffi a sut roedd y geiriau'n gwneud iddynt deimlo.
  • Cyfarfod a hwyluswyd gan Promo Cymru â chynrychiolydd o banel dan arweiniad pobl ifanc y Loteri Genedlaethol – Panel Cynghori Pobl Ifanc yn Arwain Cymru. Rhannodd y Grŵp Cynghori ar Bobl Ifanc eu teimladau ar beth ddylid ei bennu fel blaenoriaethau ariannu gan ddarparu safbwynt pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
  • Mae aelodau’r grŵp wedi cael eu hyfforddi i gynnal cyfweliadau lluosog am staff newydd sy’n cael eu recriwtio o fewn prosiectau NYAS ac ar gyfer Awdurdod Lleol Caerdydd (gan gynnwys swyddi rheoli). Mae sgoriau, safbwyntiau a chasgliadau'r bobl ifanc am ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn y broses recriwtio i ddewis yr ymgeiswyr cywir.
  • Mae Adran Polisi ac Ymchwil y Grŵp Cynghori ar Bobl Ifanc ac NYAS wedi gweithio gyda'i gilydd i greu arolwg - 'Beth sy'n bwysig i ti?’. Roedd yr arolwg yn gofyn i bobl ifanc 11-25 oed sydd â phrofiad o ofal beth hoffent ei weld yn cael ei gynnwys ym maniffesto Hawliau Plant Cymru. Anfonir y maniffesto at ymgeiswyr Senedd Cymru yn 2021 a bydd ganddo'r gallu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r profiad gofal yng Nghymru.
  • Mae barn y bobl ifanc wedi cyfrannu at ymgynghoriad ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru a oedd yn gyfle i rannu eu profiadau o Ofal Cymdeithasol a'u dealltwriaeth o Hawliau Plant.
  • Cyfrannodd y Grŵp Cynghori ar Bobl Ifanc hefyd at gais y Pwyllgor Addysg Plant a Phobl Ifanc am fewnbwn gan bobl ifanc ar eu profiadau o’r cyfnod clo ac yr effaith ar iechyd meddwl a chorfforol.

Byddai'r Grŵp Cynghori ar Bobl Ifanc yn croesawu'r cyfle i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru yn cael eu clywed a bod gwasanaethau'n ymgorffori eu hanghenion. 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Samantha.anderson@nyas.net

Adnoddau sy'n cefnogi pobl ifanc i bleidleisio

Mae nifer o adnoddau bellach yn fyw ar Hwb gyda'r nod o gynnwys pobl ifanc mewn democratiaeth a'u cefnogi i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai. Paratowyd y rhain gan Lywodraeth Cymru, Comisiwn y Senedd a'r Comisiwn Etholiadol a gellir eu gweld yma.

Gallwch weld crynodebau byr isod:

Plaid Lais

Mae pecyn adnoddau PleidLAIS Llywodraeth Cymru yn cynnwys sesiynau wedi'u hanelu at bobl ifanc 13 oed a throsodd yng Nghymru sy’n esbonio’n fyw pam y dylai pobl ifanc bleidleisio.

Mae cyfres Ein Senedd o adnoddau Comisiwn y Senedd ar gyfer ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid yn helpu dysgwyr i ddeall esblygiad datganoli yng Nghymru.

Our senedd
Welcome to hwb

 

 

Mae adnoddau Croeso i'ch pleidlais y Comisiwn Etholiadol yn cwmpasu tair prif thema: Eich pleidlais, Ymgyrchu a Sut i bleidleisio.

Gellir defnyddio'r adnoddau mynediad cyhoeddus hyn yn hyblyg yn dibynnu ar y math o leoliad (ffurfiol neu heb fod yn ffurfiol), yr amser sydd ar gael a'r deilliannau dymunol i ddysgwyr.

Y Pwyllgor Pobl Ifanc

YPC

Ers i'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ddechrau ar ei waith i ddatblygu model cynaliadwy o waith ieuenctid wrth symud ymlaen, mae llais pobl ifanc wedi bod yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn helpu i ddylanwadu ar y gwasanaethau y byddan nhw a chenedlaethau'r dyfodol yn elwa arnynt.

I ddechrau, gwahoddodd y Bwrdd geisiadau gan bobl ifanc ledled Cymru i eistedd ochr yn ochr â nhw, ond daeth y pandemig cyn y gellid ymgymryd â'r broses recriwtio'n llawn. Parhaodd y Bwrdd i siarad ag amrywiaeth o bobl ifanc a sylweddolodd fod budd sylweddol o gael pobl ifanc yn rhan o grŵp mwy o ystod ehangach o gefndiroedd er mwyn annog gwell dealltwriaeth o anghenion ehangach.

Cynhaliwyd ymarfer tendro cystadleuol ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod cais ar y cyd rhwng Urdd Gobaith Cymru, Llamau ac EYST wedi bod yn llwyddiannus. Byddant yn sefydlu Pwyllgor Pobl Ifanc o tua 20 o bobl ifanc a fydd yn cyfarfod yn unol â chyfarfodydd rheolaidd y Bwrdd, yn ogystal â darparu cynrychiolwyr i eistedd ar y prif Fwrdd. Mae pobl ifanc sydd wedi gwneud cais o'r blaen i eistedd ar y Bwrdd eisoes wedi cael eu gwahodd i ymuno â'r Pwyllgor hwn, ynghyd ag aelodau cyfredol Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â youthworkboard@gov.cymru.

Ym Mhedwar Ban Byd

Grymuso pobl ifanc drwy wirfoddoli rhyngwladol

WCIA

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn gwahodd pobl ifanc o Gymru i gymryd rhan mewn prosiectau gwirfoddoli ledled Ewrop a ariennir gan yr European Solidarity Corps (ESC). Cysylltwch â michaelarohmann@wcia.org am ragor o wybodaeth.

Jon, gweithiwr ieuenctid, sy’n disgrifio rhai o fanteision rhaglenni fel ESC yma.

Gwirfoddoli Rhyngwladol yn ystod pandemig.

Cyrhaeddodd Marta o'r Eidal a Mireia o Sbaen Gymru ar ddechrau'r pandemig ar gyfer eu Lleoliad Cydsefyll Ewropeaidd yn Sir Benfro. Darllenwch eu stori ac effaith Brexit ar brosiectau ESC: Caerhys Organic Community Agriculture (COCA) - Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (wcia.org.uk)

Ydych chi wedi clywed

Pob rhifyn rydym yn darparu lle i unigolion a sefydliadau rannu gwybodaeth â'u cyfoedion.

estyn

Cyhoeddodd Estyn adroddiad thematig yn ddiweddar - Gwerth Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid - Model cynaliadwy i Gymru. Mae'n gwerthuso ansawdd hyfforddiant gwaith ieuenctid a phriodoldeb yr hyfforddiant i roi'r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr ieuenctid i gyflawni eu swydd a bodloni gofynion gwaith ieuenctid modern yn ei holl ffurfiau. Gallwch weld yr Adroddiad a’r Ymateb yma.

Mae gan Adoption UK Cymru wasanaeth ieuenctid pwrpasol o'r enw Connected ar gyfer plant a phobl ifanc 7-25 oed sydd wedi’u mabwysiadu. Mae eu Cyngor Ieuenctid Mabwysiadu - CONNECT Voices yn gyffrous i fod yn gweithio tuag at Nod Barcut Cyfranogi.

 

Maen nhw’n cynnal grwpiau misol ledled Cymru. Gall Gweithwyr Ieuenctid gyfeirio pobl dros 18 oed, mae’n rhaid i rai dan 18 oed gael eu hatgyfeirio gan rieni neu weithwyr proffesiynol eraill.

Adoption Uk

‘Yn Fy Nhŷ’

Comisiynir prosiect cyfranogiad Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Merthyr Tudful (MTBWYF) gan Wasanaeth Ieuenctid yr ALl a'i ddarparu gan Merthyr Tudful Diogelach. Gweithiodd MTBWYF gyda Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg i gynhyrchu adnoddau rhagorol i godi ymwybyddiaeth o Gam-drin Domestig a thrais gan blant a phobl ifanc i rieni/gofalwyr. Gweler y ffilm a’r gweithdy yma

Urdd

Mae'r Sgwrs yn gyfres o ddigwyddiadau digidol i oedran 14-25 yn ymdrin â materion sy'n effeithio ar fywydau pobl ifanc heddiw. Mae'r Urdd wedi llwyddo i greu'r platfform cenedlaethol i bartneriaid ymgysylltu a rhannu eu cynnig yn y Gymraeg ar draws Cymru. 

Os hoffwch gyfrannu neu am gyfeirio'r cynnig at y bobl ifanc o fewn eich darpariaeth cysylltwch â'r Sgwrs

Cafodd yr ap miFuture ei gyd-greu gyda'r rhai sy'n gadael yr ysgol, darparodd y sylfaenydd a'r Prif Swyddog Gweithredol Gemma Hallet gipolwg ar y broses honno a pham mae cyfranogiad da yn allweddol i ddatrys problemau’n  llwyddiannus. Gallwch ei ddarllen yma a darganfod mwy am miFuture ar eu gwefan.

Mifutre

Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro: adroddiad cynnydd ar gyfer Ionawr 2021

Diweddariad i bobl ifanc a'r sector gan Keith Towler, Cadeirydd Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru ellir ei gyrchu yma

Mae'r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yn cynnal astudiaeth o waith a Lles Ieuenctid. Anogwch eich uwch arweinwyr a'ch rheolwyr sydd mewn lleoliadau gwaith ieuenctid i gwblhau'r arolwg yma.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Marc Ansawdd ar gyfer  Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Llongyfarchiadau i Wasanaethau Ieuenctid Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot ar adnewyddu eu Marciau Ansawdd Efydd. Amdani am yr Arian nesaf.

Ers mis Hydref 2020 mae 15 o aseswyr newydd wedi ymuno â'r tîm Marc Ansawdd. Gydag ystod amrywiol o sgiliau a phrofiadau.

Ym mis Hydref cwblhaodd Cyngor y Gweithlu Addysg adolygiad o'r Marc Ansawdd ac mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno i adnewyddu'r Marc Ansawdd er mwyn helpu i'w ddiweddaru a’i wneud yn fwy perthnasol fyth i bob sefydliad gwaith ieuenctid - bydd y gwaith ar hyn yn dechrau ar unwaith. Diolch i bawb a gyfrannodd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Marc Ansawdd yma.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag Andrew.Borsden@ewc.wales.

Meic

Byddwch yn Rhan o Daflen Newyddion Gwaith Ieuenctid

Ffocws rhifyn nesaf y cylchlythyr yw 'ymgysylltu democrataidd'. Cysylltwch gyda helen@cwvys.org.uk drwy e-bost os hoffech gyfrannu erthygl.

Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau i ni, gyda gwybodaeth am gyfrif geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau. Bydd cynhyrchu'r cylchlythyr yn dychwelyd i bob chwarter o fis Hydref 2020.

Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkWales #GwaithIeuenctidCymru ar drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid?  Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

E-gylchlythyr chwarterol sy’n darparu newyddion diweddaraf, diweddariadau a datblygiadau mewn Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu


Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilyn ar-lein: