Mwy na £1.7 biliwn yn cyrraedd busnesau yng Nghymru
Mae busnesau yng Nghymru wedi derbyn dros £1.7bn gan Lywodraeth Cymru ers dechrau'r pandemig.
Mae dros 178,000 o grantiau gwerth cyfanswm o £1bn wedi'u darparu drwy awdurdodau lleol sydd wedi bod yn gweinyddu cynlluniau ar ran Llywodraeth Cymru gan gynnwys y cynllun Ardrethi Annomestig, y Grant Dechrau Busnes a'r Gronfa Ddewisol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, bod y cymorth ariannol hwn wedi bod yn hanfodol i helpu miloedd o fusnesau ledled Cymru a diogelu llawer mwy o swyddi a bywoliaethau a allai fod wedi'u colli fel arall.
Mae'r cyllid yn cynnwys dros £520 miliwn a ddarperir drwy Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, gyda mwy o daliadau'n cyrraedd cwmnïau bob dydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £50 miliwn i sefydliadau ac unigolion drwy ei Chronfa Adfer Diwylliant.
Datgelodd y Gweinidog hefyd fod arian eisoes yn cyrraedd busnesau twristiaeth, lletygarwch a hamdden o'r gronfa benodol i'r sector gwerth £180 miliwn a agorodd ddydd Mercher, 13 Ionawr gyda cheisiadau'n cael eu prosesu'n gyflym.
Mae'r gronfa sector-benodol yn parhau i fod ar agor ar hyn o bryd a gall busnesau ddarganfod a ydynt yn gymwys a gwneud cais drwy fynd i wefan Busnes Cymru.
Amcangyfrifir y gallai'r pecyn cymorth diweddaraf i fusnesau lletygarwch nodweddiadol yng Nghymru sydd â'r hyn sy'n cyfateb â chwe aelod o staff llawn amser fod yn gymwys i dderbyn cyfanswn o rhwng £12,000 a £14,000, sy'n golygu mai dyma'r cynnig mwyaf hael yn y DU.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:
"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi pwysau a heriau digynsail ar ein heconomi a'n busnesau.
"Fel Llywodraeth rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd, ond angenrheidiol i ddiogelu iechyd ein pobl ac rydym yn gwybod bod hyn wedi cael effaith anochel ar ein cwmnïau.
"Dyna pam rydym wedi gweithio'n galed ers dechrau'r pandemig i gael cymorth ariannol i fusnesau sydd ei angen, cyn gynted â phosibl.
"Mae cael mwy nag £1.7 biliwn allan i'n cwmnïau wedi golygu ymdrech enfawr, yn enwedig gan ein hawdurdodau lleol. Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am bopeth y maent wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud i'n cefnogi i ddiogelu busnesau.
"Ein pecyn cymorth, sy'n ychwanegol at yr hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, yw'r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael i fusnesau, unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
"Byddwn yn parhau i ymgysylltu'n agos â'r gymuned fusnes drwy'r cyfnod anodd hwn ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi."
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|