Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN – Mwy na £1.7 biliwn yn cyrraedd busnesau yng Nghymru; Llythyr i fusnesau Cymru gan Ken Skates ynglŷn â diwedd y Cyfnod Pontio a'r UE; Ymunwch â VisitBritain am weminar a fydd yn adolygu’r data diweddaraf o’r Arolygon Teimladau Defnyddwyr Twristiaeth; Gweminarau Cyflymu Busnes Cymru ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch; Lles ac Iechyd Meddwl; Yswiriant Tarfu ar Fusnes; Ymestyn y Cynllun Adyswiriant Credyd Masnach; Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.
Mwy na £1.7 biliwn yn cyrraedd busnesau yng Nghymru
Mae busnesau yng Nghymru wedi derbyn dros £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru ers dechrau'r pandemig. Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, bod y cymorth ariannol hwn wedi bod yn hanfodol i helpu miloedd o fusnesau ledled Cymru a diogelu llawer mwy o swyddi a bywoliaethau a allai fod wedi'u colli fel arall. Mae'r cyllid yn cynnwys dros £520 miliwn a ddarperir drwy Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, gyda mwy o daliadau'n cyrraedd cwmnïau bob dydd.
Datgelodd y Gweinidog hefyd fod arian eisoes yn cyrraedd busnesau twristiaeth, lletygarwch a hamdden o'r gronfa benodol i'r sector gwerth £180 miliwn a agorodd ddydd Mercher, 13 Ionawr gyda cheisiadau'n cael eu prosesu'n gyflym.
Mae'r gronfa sector-benodol yn parhau i fod ar agor ar hyn o bryd a gall busnesau ddarganfod a ydynt yn gymwys a gwneud cais drwy fynd i wefan Busnes Cymru.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Llythyr i fusnesau Cymru gan Ken Skates ynglŷn â diwedd y Cyfnod Pontio a'r UE
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates wedi cyhoeddi llythyr yn tynnu sylw tuag at Borth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru yn ogystal i draciwr mae Llywodraeth y DU wedi datblygu.
Mae Porth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru yn ffynhonnell ganolog ar gyfer cyngor ac arweiniad i fusnesau sy'n paratoi ar gyfer y berthynas fasnachu newydd, gan gynnwys gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf.
Mae traciwr Llywodraeth y DU ar gael i fusnesau i'w ddefnyddio i gael rhestr bersonol o gamau gweithredu. Bydd yr offeryn gwirio yn gofyn cwestiynau am eich busnes ac yn darparu'r holl wybodaeth y mae angen ichi fod yn ymwybodol ohoni.
Mae hefyd yn tynnu sylw at ddogfennau wedi eu datblygu gan Lywodraeth y DU sy'n ymdrin â’r camau y dylai busnesau eu cymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheolau newydd. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Ymunwch â VisitBritain am weminar a fydd yn adolygu’r data diweddaraf o’r Arolygon Teimladau Defnyddwyr Twristiaeth
Mae Croeso Cymru, mewn partneriaeth â VisitBritain, wedi bod yn cynnal cyfres o arolygon tracio teimladau defnyddwyr ym marchnad y DU ac 14 o farchnadoedd rhyngwladol allweddol. Bydd VisitBritain yn cynnal gweminar ddydd Iau 28 Ionawr o 11am hyd 12.30pm er mwyn cyflwyno’r casgliadau diweddaraf o’r arolygon hyn. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am fwriadau teithio a chasgliadau gwerthfawr ynghylch anghenion ymwelwyr a fydd yn sail i gynllunio camau adfer. Mae’r weminar am ddim a gall unrhyw un ymuno. Archebwch eich lle drwy fynd i wefan VisitBritain.
Gweminarau Cyflymu Busnes Cymru ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch
Mae Cyflymu Busnes Cymru yn cynnig gweminar ddwy ran am ddim wedi'i theilwra i'r sector twristiaeth a lletygarwch. Mae dwy sesiwn ar gyfer pob pwnc, a amlinellir isod, a bydd cyfle i archebu dilyniant 1:1 am ddim gyda Chynghorydd Busnes Digidol.
Rhan 1 – Y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y maes twristiaeth a lletygarwch
- 25 Chwefror 2021 - 14:00 - 16:00
- 11 Mawrth 2021 - 13:00 - 15:00
Rhan 2 – rhedeg eich busnes twristiaeth a lletygarwch ar-lein
- 4 Mawrth 2021 - 14:00 - 16:00
- 18 Mawrth 2021 - 13:00 - 15:00
Gallwch archebu eich lle yma.
Lles ac Iechyd Meddwl
Mae ein cymdeithas yn wynebu dyddiau digynsail, ac os ydych yn hunangyflogedig neu’n berchen ar fusnes, bydd COVID-19 yn peri cryn ansicrwydd. Mae canllawiau a gwybodaeth am Les ac Iechyd Meddwl ar gyfer y gymuned fusnes ar gael drwy wefan Busnes Cymru
NEWYDDION ERAILL:
Yswiriant Tarfu ar Fusnes
Mae’r Goruchaf Lys wedi rhannu ei ddyfarniad ar achos prawf yswiriant tarfu ar fusnes yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae’r pandemig coronafeirws wedi arwain at darfu eang a busnesau yn cau gan arwain ar golledion ariannol sylweddol. Mae llawer o gwsmeriaid wedi cyflwyno hawliadau am y colledion hyn o dan eu polisïau yswiriant tarfu ar fusnes.
Cyhoeddodd y Goruchaf Lys ei ddyfarniad ar 15 Ionawr 2021 gan ganiatáu’n helaeth apeliadau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol a gwrthod apeliadau’r yswirwyr. Mae hyn yn golygu y dylai miloedd o ddeiliaid polisi sydd ag yswiriant dderbyn taliadau am eu hawliadau am golledion tarfu ar fusnes cysylltiedig â choronafeirws. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.
Ymestyn y Cynllun Adyswiriant Credyd Masnach
Mae’r Cynllun Adyswiriant Credyd Masnach wedi’i ymestyn am chwe mis hyd 30 Mehefin 2021. Mae’r cynllun yn sicrhau bod cwmpas a therfynau credyd yswiriant credyd masnach yn cael eu cynnal yn ystod y pandemig Covid-19 er mwyn helpu busnesau’r DU i fasnachu’n hyderus. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru
Gweler isod rai o'r ymgynghoriadau diweddaraf. Mae ymgynghoriad yn rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud ar ddatblygiadau newydd gan Lywodraeth Cymru.
Ewch i'r ardal ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|