Prif Weinidog Cymru: “Arhoswch gartref i achub bywydau”
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw bod rhaid i bawb aros gartref i achub bywydau wrth iddo gadarnhau y bydd cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar y coronafeirws yn parhau yng Nghymru.
Bydd y cyfyngiadau symud yn cael eu cryfhau mewn rhai meysydd allweddol er mwyn atal y straen newydd, heintus iawn o'r feirws rhag lledaenu o berson i berson yn y siopau a'r gweithleoedd hynny sy'n parhau ar agor.
Ac oni bai fod gostyngiad sylweddol yn yr achosion o’r coronafeirws cyn 29 Ionawr – dyddiad yr adolygiad tair wythnos nesaf o'r rheoliadau – bydd myfyrwyr ysgol a choleg yn parhau i ddysgu ar-lein tan hanner tymor mis Chwefror.
Mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau'n uchel iawn yng Nghymru ac mae’r straen newydd o amrywiolyn o'r feirws – a ganfuwyd gyntaf mewn rhannau o Gymru, Llundain a De Ddwyrain Lloegr cyn y Nadolig – wedi sefydlu’n gadarn yng Ngogledd Cymru erbyn hyn.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
"Mae pandemig y coronafeirws wedi cyrraedd pwynt arwyddocaol. Mae nifer yr achosion yng Nghymru’n parhau i fod yn uchel iawn ac mae ein GIG o dan bwysau gwirioneddol a pharhaus.
"Mae'n rhaid i'r cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar a gyflwynwyd gennym cyn y Nadolig aros yn eu lle i'n cadw ni i gyd yn ddiogel. Er mwyn arafu lledaeniad y feirws, rhaid i bob un ohonom ni aros gartref i ddiogelu'r GIG ac achub bywydau.
"Mae hwn yn teimlo fel cyfnod tywyll ond mae'r brechlynnau Covid-19 newydd yn cael eu cyflwyno ledled Cymru, gan roi llwybr i ni allan o'r pandemig hwn.
"Bydd angen ymdrech enfawr i frechu pawb ac, er bod diwedd y pandemig hwn yn y golwg, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dilyn y rheolau ac yn aros gartref. Rydym wedi gwneud cymaint o aberth gyda'n gilydd a rhaid i ni beidio â stopio nawr."
Yn dilyn adolygiad ffurfiol o gyfyngiadau symud lefel rhybudd pedwar, a gyflwynwyd am hanner nos ar 19 Rhagfyr, bydd yr holl fesurau'n parhau yn eu lle.
Mae hyn yn golygu y bydd busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, lleoliadau lletygarwch, adeiladau trwyddedig a chyfleusterau hamdden yn parhau ar gau.
Rydym yn egluro bod rhaid i bob ystafell arddangos gau. Byddant yn parhau i allu gweithredu trefniadau clicio a chasglu.
Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu pa fesurau ychwanegol y mae angen i archfarchnadoedd a manwerthwyr mawr eu rhoi ar waith i ddiogelu pobl yn y siopau. Rydym hefyd yn adolygu beth arall y mae angen i gyflogwyr ei wneud i amddiffyn pobl yn y gweithle a chefnogi pobl i weithio gartref.
Mae'r Prif Weinidog yn atgoffa pobl bod rhaid i ni wneud y canlynol o dan y cyfyngiadau symud presennol:
- Aros gartref.
- Gweithio o gartref os yw hynny’n bosib.
- Cadw pellter o 2m oddi wrth eraill.
- Gwisgo gorchudd wyneb yn yr holl fannau cyhoeddus dan do.
- Peidio â chwrdd ag unrhyw un y tu allan i’ch aelwyd eich hun neu eich swigen gefnogi.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
“Mae’r straen newydd yma’n ychwanegu dimensiwn newydd a digroeso at y pandemig.
"Ble bynnag mae cymysgu; ble bynnag mae pobl yn dod at ei gilydd, mae'r straen newydd yn lledaenu – mae'n hynod drosglwyddadwy ac yn lledaenu'n gyflym iawn o berson i berson.
"Mae'n rhaid i ni i gyd aros gartref, diogelu’r GIG, ac achub bywydau. Gyda'n gilydd, byddwn yn cadw Cymru'n ddiogel.”
Lefel rhybudd 4 - Darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud ar lefel rhybudd 4 ac edrychwch ar y wybodaeth bellach am weld pobl eraill, cau busnesau ac ymweld â phobl mewn cartrefi preifat a Chwestiynau Cyffredin ar Lefel Rhybudd 4.
Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: Lefelau Rhybudd yng Nghymru - Mae canllaw llawn i gyfyngiadau a chanllaw syml i'r system lefel rhybudd coronafeirws newydd hefyd ar gael ar-lein.
Cronfa Cymorth Penodol i’r Sector - Cronfa Cadernid Economaidd
Bydd y ceisiadau am Grant Penodol i'r Sector yn agor yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 11 Ionawr 2021 ac yn aros ar agor am bythefnos neu hyd nes y bydd yr arian wedi'i ymrwymo'n llawn.
Mae'r grant hwn i gefnogi busnesau y mae'r cyfyngiadau a gyflwynwyd ar 4 Rhagfyr 2020 yn effeithio arnynt.
Defnyddiwch y Gwiriwr Cymhwysedd nawr i adolygu'r meini prawf cyn ei agor.
Y Cynllun Cadw Swyddi
Rhaid i'ch ceisiadau am Gynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CJRS) am gyfnodau ym mis Rhagfyr gael eu gwneud erbyn 14 Ionawr 2021
Mae rhagor o fanylion a dyddiadau i'ch helpu i gynllunio ymlaen llaw i gwrdd â'r dyddiadau cau misol i'w gweld ar wefan Busnes Cymru.
Cais am Lety
Mae Cyngor Gwynedd yn gofyn am help i ddarparu llety dros dro i bobl sydd yn wynebu digartrefedd. Mae’r pandemig Covid wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y nifer o bobl yng Ngwynedd sydd yn wynebu digartrefedd.
Bydd costau llety yn cael ei dalu yn uniongyrchol gan Gyngor Gwynedd, a bydd y Cyngor hefyd yn darparu cefnogaeth ar gyfer yr unigolion. Os ydi unrhyw un eisiau helpu, neu eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch drwy ffonio 01286 682785 neu e-bostio MA2312@gwynedd.llyw.cymru.
NEWYDDION ERAILL:
Mae'r DU wedi gadael yr UE
Gadawodd y DU yr UE ar 31 Rhagfyr 2020. Daeth y rheolau sy'n llywodraethu'r berthynas newydd rhwng yr UE a'r DU i rym ar 1 Ionawr 2021. Mae newidiadau i'r ffordd y mae busnesau'r DU yn masnachu gyda'r UE a allai effeithio ar eich busnes.
Mae gan HMRC weminarau byw sy'n rhoi trosolwg i fusnesau'r DU sy'n ymwneud â symud nwyddau rhwng yr UE a'r DU.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i baratoi'ch busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru.
Cyflog Byw Cenedlaethol a chyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer 2021
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o fis Ebrill 2021.
Am y tro cyntaf, bydd mwy o bobl iau yn gymwys am y Cyflog Byw Cenedlaethol, wrth i’r trothwy oedran gael ei ostwng o 25 i 23.
Cod ymarfer newydd ar rannu data
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cyhoeddi cod ymarfer newydd ar rannu data, sy’n darparu canllawiau clir i sefydliadau a busnesau ar sut i rannu data yn gyfreithlon. Dysgwch fwy ar wefan Busnes Cymru.
Dyddiad cau Hunanasesu
31 Ionawr 2021 yw’r dyddiad cau ar gyfer Hunanasesu. Gall cwsmeriaid gwblhau eu ffurflenni treth ar-lein cyn y dyddiad cau ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|