Rhwydwaith Gwledig Cymru News Round-up 2021 Rhifyn 01: Ionawr 2021

News Round-up 2021 Rhifyn 01: Ionawr 2021

 
 

Uned Cymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru

wrn

Blwyddyn Newydd Dda gan Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru

Ar ddechrau blwyddyn arall brysur hoffai pawb yn yr Uned Gymorth ddymuno Blwyddyn Newydd hapus iawn i’n holl danysgrifwyr.
Bydd rhith-ddigwyddiad cyntaf y Flwyddyn yn cael ei gynnal ar 19 Ionawr -

Gweithdy ar Elwa i’r Eithaf ar Gadwyni Cyflenwi Bwyd a Chynhaeaf Naturiol Cymru
Os ydych yn ymwneud â Chadwyni Cyflenwi Bwyd a/neu Cynhaeaf Naturiol cofrestrwch yma i gymryd rhan.

Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cyfnodau’r Cynlluniau a’r Cymorth sydd ar gael

Glastir

glastir

Creu Coetir Glastir 10 - Cyfalaf

Ffenestr y Cais nawr ar agor tan 15 Ionawr

Mae’r cynllun yn cefnogi ymrwymiad i ehangu coetiroedd yng Nghymru fel a nodir yn strategaeth Llywodraeth Cymru, Coetiroedd i Gymru. 

carbon

Grantiau bach Glastir (carbon)

Bydd y cyfnod Datgan Diddordeb yn cychwyn ar 11 Ionawr a bydd yn dod i ben ar 19 Chwefror

Rhaglen gwaith cyfalaf yw Grantiau Bach Glastir, sydd ar gael i fusnesau ffermio ledled Cymru i gynnal prosiectau fydd yn helpu i gloi carbon.

 

Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio

lamb

Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (Bwyd – y Cynllun Adfer o COVID-19)

Ffenestr y Cais nawr ar agor tan 11 Chwefror

Mae'r Ffenestr EOI hon yn cynnig cymorth i:

  • y sector bwyd a diod yng Nghymru yn ystod cyfnod adfer Covid-19
  • diwydiannau heb gynrychiolaeth is sy'n anelu at utlileiddio'r cynhaeaf naturiol
laptop

Cyflenwi a Chydweithio (Camau Gweithredu Peilot ar gyfer Twf Gwyrdd a’r Economi Gylchol)

Ffenestr y Cais nawr ar agor tan 11 Chwefror

Cynllun i barhau i gefnogi’r gwaith o ailbwrpasu gweithgareddau cydlyniant cymunedol drwy feithrin arloesi, cynnal gweithgareddau peilota a manteisio i’r eithaf ar ddigideiddio.

Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig

lighthouse

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig (nad ydynt yn amaethyddol)

Bydd y cyfnod Datgan Diddordeb yn cychwyn ar 18 Chwefror a bydd yn dod i ben ar 22 Mawrth 2021

Cynllun i greu a datblygu microfusnesau a busnesau bach nad ydynt yn fusnesau amaethyddol.

food

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – Bwyd

Bydd y cyfnod Datgan Diddordeb yn cychwyn ar 18 Chwefror a bydd yn dod i ben ar 22 Mawrth 2021

Rhaid i bob prosiect a gefnogir drwy'r RBISF wneud cyfraniad at Gynllun Gweithredu'r Strategaeth Fwyd - Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014 - 2020

Cynhyrchu Cynaliadwy

spg

Y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy (NM)

Bydd y cyfnod Datgan Diddordeb yn cychwyn ar 01 Chwefror a bydd yn dod i ben ar 22 Mawrth 2021

Cymorth ariannol i wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol ffermydd.

 

Mae dyddiadau eraill ar gyfer Datgan Diddordeb yn y Rhaglen Datblygu Gwledig wedi’u cadarnhau ar gyfer chwarter cyntaf 2021.

Brexit – Diwedd y Cyfnod Pontio

sheep

Canllaw

Am gyngor a help, ewch i:

Mae Hybu Cig Cymru a’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth hefyd yn cynnig help a chyngor.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnig cyngor hefyd ar gyfer busnesau sy'n delio â bwyd neu fwyd anifeiliaid.

Darllenwch gyngor yr HMRC am yr hyn y gallwch ei wneud nawr i baratoi’ch busnes.

Mae ragor o wybodaeth am fasnachu â’r UE yn y dyfodol ar wefan GOV.UK.

Arweiniad ar anifeiliaid byw a chynnyrch anifeiliaid

Darllenwch y canllawiau diweddaraf am allforio neu symud anifeiliaid byw a chynnyrch anifeiliaid i'r UE neu Ogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021.

Sut i wneud cais am Dystysgrif Iechyd Allforio.

Newidiadau yn y safonau ar gyfer marchnata wyau deor a chywion o 1 Ionawr 2021.

Cyngor ar allforio bwyd ar gyfer anifeiliaid.

Y rheolau ar allforio ceffylau a merlod.

(Saesneg yn Unig)

Darllenwch ein canllawiau diweddaraf ynghylch paratoi ar gyfer i bysgotwyr masnachol, masnachwyr ac allforwyr.

 

xcomputer

Gweminarau

Mae gan Defra weminarau ar baratoi masnachwyr ar gael ichi eu gwylio ar-lein:

Sut i gael rhif EORI Prydain Fawr
Bydd angen rhif EORI arnoch i gwblhau’ch datganiadau i’r tollau. 

Penderfynu sut ydych am wneud eich datganiadau i’r tollau
Gall swyddogion y tollau, danfonwyr nwyddau a chwmnïau cludo cyflym eich helpu â’r datganiadau a sicrhau’ch bod yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol.

A yw’r nwyddau rydych yn eu mewnforio yn gymwys o dan y rheolau gohiriedig
Bydd y rhan fwyaf o fasnachwyr sydd wedi cydymffurfio yn y gorffennol yn cael gohirio datgan mewnforion ar y rhan fwyaf o nwyddau am hyd at 6 mis ar ôl 1 Ionawr 2021.
Os byddwch yn symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, gallwch gofrestru i ddefnyddio’r Trader Support Service (TSS). 

Labelu bwyd a’r rheolau ar darddiad
Dysgwch ragor am labelu bwyd(Asiantaeth Safonau Bwyd).
Darllenwch am reolau a logos cynlluniau Dynodiadau Daearyddol annibynnol newydd y Deyrnas Unedig, sy’n rhoi statws arbennig i gynnyrch poblogaidd a thraddodiadol.
Y canllawiau diweddaraf am reolau tarddiad.

Ymgynghoriad

lamb

Gwelliannau i les anifeiliaid mewn trafnidiaeth

Mae ymgynghoriad wedi’i lansio yng Nghymru a Lloegr, yn gofyn am eich barn am roi'r gorau i allforio anifeiliaid byw ar gyfer eu lladd a'u pesgi lle bo'r daith yn dechrau neu'n mynd trwy'r naill wlad neu'r llall.

(dyddiad cau: 28 Ionawr 2021).

agri

Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Rydym yn ymgynghori ynghylch y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cefnogi amaethyddiaeth yng Nghymru ac rydym yn gwahodd sylwadau ynghylch ein cynigion ar gyfer y canlynol:

  • Cymorth i amaethyddiaeth yn y dyfodol
  • Diwygio rheoleiddio
  • Cymorth i’r diwydiant a’r gadwyn gyflenwi yn y dyfodol
  • Rheoli coetiroedd a choedwigaeth
  • Gwella iechyd a lles anifeiliaid
  • Gwella gwaith monitro drwy wneud defnydd effeithiol o ddata a thechnoleg o bell

(dyddiad cau: 26 Mawrth 2021).

Cydweithredu

enrd

Prosiectau Cydweithredu LEADER

Mae tua 9 o Brosiectau Cydweithredu LEADER ar gronfa ddata ENRD ar hyn o bryd, ac maen nhw'n chwilio am bartneriaid i gydweithredu â nhw.
Ymweliad ENRD & CLLD Partner Search i gael syniadau.

Os ydych eisoes ynghlwm wrth brosiect Cydweithredu cofiwch lanlwytho’r manylion ar gronfa ddat prosiectau Rhwydwaith Gwledig Cymru.

(Saesneg yn Unig)

Dolenni a Gwybodaeth Ddefnyddiol

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru Dolenni Defnyddiol

Cartref COVID-19: Cymorth i Fusnes - Busnes Cymru

Rhwydweithiau Cenedlaethol y DU

(Seasneg yn Unig)

Cylchlythyrau Eraill

 
 
 

Amdanom ni

Mae Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynnig crynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio sy’n gysylltiedig â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020. Mae’n ffordd hwylus i rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig yng Nghymru, cysylltwch â Rhwydwaithgwledig@llyw.cymru

Rhagor o wybodaeth ar y we:

businesswales.gov.wales/walesruralnetwork/cy

Dilyn ar-lein: