Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

20 Tachwedd 2020


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN – Canllawiau newydd ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws; Cronfa Gweithwyr Llawrydd Cam 3; Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful fydd yr ardal gyfan gyntaf i gael profion torfol yng Nghymru; Diolch ac apêl am ragor o gymorth – llety i bobl sy’n agored i niwed; Llythyr at y sector twristiaeth a lletygarwch ar gamau i’w cymryd i baratoi ar gyfer ein perthynas newydd gyda’r UE; Cyllid wedi gadael yr UE; Mentrau newydd gan gyflogwyr i recriwtio prentisiaethau a Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag newydd; Cynllun Kickstart; Denu ymwelwyr hamdden yn y dyfodol; Iechyd a Diogelwch COVID-19


Canllawiau newydd ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws

 Mae canllawiau newydd ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) bellach ar gael. Gallwch wneud cais am CJRS ar-lein nawr ar gyfer cyfnodau o 1 Tachwedd 2020 a bydd angen i chi gyflwyno unrhyw geisiadau ar gyfer mis Tachwedd erbyn 14 Rhagfyr 2020.

 Does dim angen i chi a'ch gweithwyr fod wedi elwa ar y cynllun o'r blaen i wneud cais am gyfnodau o 1 Tachwedd 2020. Bellach, mae terfynau amser misol ar gyfer hawliadau. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Cronfa Gweithwyr Llawrydd Cam 3

Yn dilyn y galw uchel am gyllid ar draws y sectorau celfyddydol a diwylliannol bydd £10.7 miliwn ar gael i gefnogi sefydliadau ac unigolion yn ystod y pandemig coronafeirws.

Bydd Cam 3 y Gronfa Lawrydd ar agor ar gyfer ceisiadau ddydd Llun 23 Tachwedd 2020 am 10am.


Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful fydd yr ardal gyfan gyntaf i gael profion torfol yng Nghymru

Bydd pawb sy'n byw neu'n gweithio ym Merthyr Tudful yn cael cynnig profion COVID-19, ni waeth a oes ganddynt symptomau ai peidio – yn y cynllun profi torfol cyntaf ar gyfer ardal gyfan yng Nghymru.

Bydd yr holl breswylwyr a gweithwyr yn cael cynnig profion COVID-19 rheolaidd o ddydd Sadwrn (21 Tachwedd) ymlaen, hyd yn oed os nad oes ganddynt symptomau. Bydd hyn yn helpu i ddod o hyd i fwy o achosion positif a thorri cadwyni trosglwyddo. Dod i wybod mwy ar Llyw.Cymru.


Diolch ac apêl am ragor o gymorth – llety i bobl sy’n agored i niwed 

Eleni ledled Cymru rydym wedi gweld gwaith anhygoel gan fusnesau i sicrhau nad oedd neb heb le diogel a chymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn. Diolch yn fawr i'r rhai ohonoch sydd wedi ein cefnogi yn y gwaith hwn, ac sy’n parhau i wneud hynny.

Mae angen cymorth o hyd yn hyn o beth, ac os teimlwch y gallwch gefnogi'r fenter, ac os hoffech gael gwybod mwy am y trefniadau a chyllid, cysylltwch â ni yn quality.tourism@llyw.cymru a byddwn yn sicrhau y caiff y wybodaeth ei throsglwyddo i'ch awdurdod lleol priodol er mwyn iddyn nhw gysylltu â chi.

Rhowch:

  1. Manylion y llety y gallech ei gynnig i bobl sy'n agored i niwed. Bydd angen manylion ynglŷn â nifer yr ystafelloedd neu'r unedau, y math o lety, y lleoliad a pha mor hir rydych yn rhagweld y bydd ar gael.
  2. Cyswllt a enwir yn eich busnes a chyfeiriad e-bost a rhif ffôn.

Er bod angen yn bodoli ar draws Cymru nid oes gofyn brys am gymorth yn Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos ar hyn o bryd. Cysylltwch â Tracy.Hague@wrexham.gov.uk os gallwch helpu o ran darparu llety.


Llythyr at y sector twristiaeth a lletygarwch ar gamau i’w cymryd i baratoi ar gyfer ein perthynas newydd gyda’r UE   

Gydag ychydig dros fis I fynd tan ddiwedd cyfnod pontio BREXIT, mae llythyr wedi’i gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Alok Sharma, at y sector twristiaeth a lletygarwch yn annog busnesau i weithredu nawr i baratoi am ein perthynas newydd â’r UE.  Mae’r llythyr yn amlinellu yr hyn sy’n rhaid ichi ei wneud erbyn 1 Ionawr 2021 gyda rhestr o’r prif gamau.    

Gweler y llythyr ac ewch i gov.uk/tourism-2021 am ragor o wybodaeth.

Mae Rhestr wirio 6 phwynt Llywodraeth y DU hefyd ar gael i ddeall yr hyn sydd angen ichi ei wneud cyn 1 Ionawr 2021 os ydych yn gweithio yn y sector twristiaeth.


Cyllid wedi gadael yr UE

Mae Trefniadau cyllido newydd i ddisodli’r rhai a arferai gael eu gweinyddu gan yr UE, a fydd yn grymuso y rhai hynny sy’n gwneud penderfyniadau yn lleol i gefnogi buddsoddi yn nes at y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. 


Mentrau newydd gan gyflogwyr i recriwtio prentisiaethau a Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag newydd

Mae prentisiaethau yn parhau i chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu y sgiliau y mae cyflogwyr a’r economi eu hangen, gan gynnig y cyfle i recriwtio yn gost-effeithiol a chreu gweithlu â sgiliau. 

Gall busnesau yng Nghymru sy’n gymwys gael mynediad at fentrau newydd ar gyfer recriwtio prentisiaethau newydd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi mewn Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag newydd, pwrpasol i arddangos cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru a’i gwneud yn haws nag erioed i recriwtio prentisiaid.   


Cynllun Kickstart

Mae’r Cynllun Kickstart yn gronfa gwerth £2 biliwn i greu cannoedd o leoliadau gwaith 6 mis o safon uchel i bobl ifanc. 

Mae Porth Kickstart wedi ei sefydlu i helpu cyflogwyr i dderbyn grant y Cynllun Kickstart – i ddod o hyd i Borth yng Nghymru.  Ewch i Gov.UK.


Denu ymwelwyr hamdden yn y dyfodol

Mae Croeso Cymru wedi bod yn gweithio i gynnal proffil Cymru a’r diddordeb fel cyrchfan ymhlith cwmnïau teithio a mordeithiau yn y DU ac yn rhyngwladol gydol y chwe mis diwethaf.  Rydym wedi cysylltu’n rheolaidd drwy ein rhwydweithiau ein hunain a hefyd trwy gyrff megis UKinbound (Uki) a Chymdeithas Gweithredwyr Teithiau Ewrop (ETOA) a nifer o rai eraill gyda cymysgedd o ebyst, ar y cyfryngau cymdeithasol, galwadau personol a chyfarfodydd rhithiol wyneb yn wyneb.    

Rydym wedi gallu cadw mewn cysylltiad uniongyrchol â’n cymuned fyd-eang o fewn y diwydiant teithio – gan gynnwys ein timau mewn marchnadoedd dramor a chydweithwyr yn VisitBritain ac wedi gallu cymryd rhan mewn digwyddiadau rhithiol wedi’u targedu gan gynnwys Seatrade, International Golf Travel Market (IGTM), yr U.S. Adventure Travel Show a’r Global European Marketplace (GEM).

Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb dysgu mwy am ein gwaith rhwng busnesau: gwybodaeth@croeso.cymru


Iechyd a Diogelwch COVID-19

Aerdymheru ac awyru yn ystod y pandemig -  

Mae’n rhaid i gyflogwyr, yn ôl y gyfraith, sicrhau cyflenwad digonol o awyr iach yn y gweithle; gall awyru da helpu i leihau y risg o ledaenu y coronafeirws. 

Gwiriadau Iechyd a Diogelwch di-rybudd diogel o ran COVID yn parhau -  

Mae’r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch yn cynnal gwiriadau di-rybudd ac archwiliadau ar bob mathau o fusnesau ym mhob maes i sicrhau eu bod yn ddiogel o ran COVID. 


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw i ddeall y mesurau sydd i’w hystyried er mwyn ail-agor y busnes yn ddiogel.  Mae’r rhain yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram