Y cyfnod atal byr yng Nghymru yn dod i ben
Heddiw, wrth i’r cyfnod atal byr yng Nghymru ddod i ben, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gofyn i bawb feddwl sut gallan nhw ddiogelu eu teuluoedd rhag y feirws. Bydd set newydd o fesurau cenedlaethol yn dod i rym heddiw, gan ddisodli rheolau’r cyfnod atal byr. Ond, i reoli lledaeniad y feirws, bydd gweithredoedd pobl yn bwysicach na rheolau a rheoliadau yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Mae’r Prif Weinidog yn annog pawb i leihau nifer y bobl maen nhw’n eu gweld a’r amser maen nhw’n ei dreulio gyda nhw. Bydd hyn yn helpu i leihau’r risg o ddal y feirws a’i basio ymlaen.
Bydd yn dal yn ofynnol i bob safle sy’n ailagor gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risgiau o ledaenu’r feirws. Mae hyn yn cynnwys mesurau i sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol o 2m, yn ogystal â mesurau eraill, megis cyfyngu ar niferoedd, gweithredu systemau unffordd neu gyfyngu ar faint o amser y caiff pobl ei dreulio ar y safle.
Mae pawb hefyd yn cael ei annog i wneud yr hanfodion bob amser – cadw pellter cymdeithasol; golchi dwylo’n aml a gwisgo masg wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do. Yn ogystal, gofynnir i bobl weithio gartref pan fo’n bosibl.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Cwestiynau Cyffredin
Mae Cwestiynau Cyffredin ynglŷn yr uchod ar-lein, fel y mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 diweddaraf.
Mae Cwestiynau Cyffredin yn cynnwys gwybodaeth am aros mewn llety, mae hyn wedi'i gyfyngu i deuluoedd sy'n byw gyda'i gilydd, nid teuluoedd estynedig e.e.
Gyda phwy y caf i aros mewn llety gwyliau fel gwestai, pebyll, carafannau neu lety hunanddarpar?
- Yr unig bobl y cewch rannu llety gwyliau â nhw yw’r bobl rydych yn byw gyda nhw. Bydd hynny’n helpu i leihau’r risg o drosglwyddo’r coronafeirws yn fawr gan fod risg uchel o drosglwyddo’r feirws wrth gysgu’n agos at bobl eraill, hynny oherwydd yr amser hir y byddwch yn ei dreulio’n agos i’ch gilydd.
Ailagor lletygarwch (tafarndai, bariau, caffis a bwytai) - mae canllawiau i leihau'r feirws yng Nghymru ar ôl y cyfnod atal byr ar gael ar-lein nawr. Fe'i cynhyrchwyd a'i diweddaru mewn ymgynghoriad â'r sector Lletygarwch ar gyfer Tafarndai, Bariau, Caffis a Bwytai sy'n ailagor y tu mewn a'r tu allan.
Gwybodaeth Defnyddiol COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogelu. Mae'r rhain yn cael eu diweddaru’n gyson, edrychwch yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|