COVID-19 – mesurau cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru: Pobl nid rheolau sy’n allweddol i’n hymateb, medd y Prif Weinidog
Heddiw, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai pobl ac nid rheolau sydd wrth wraidd ymateb Cymru i bandemig y coronafeirws, wrth iddo gyhoeddi’r mesurau newydd a fydd ar waith yng Nghymru ar ôl y cyfnod atal byr.
Bydd set newydd a symlach o reolau cenedlaethol yn dod i rym unwaith y daw cyfnod atal byr Cymru i ben am 00:01 ddydd Llun 9 Tachwedd.
Dywedodd y Prif Weinidog fod gan bawb yng Nghymru
“ran bwysig i’w chwarae i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws – ac mae hynny’n golygu meddwl yn ofalus am y cysylltiad rydyn ni i gyd yn ei gael â phobl eraill.
“Y mwyaf o bobl rydyn ni’n cwrdd â nhw, y mwyaf o bobl fydd mewn perygl o ddal y coronafeirws.”
Bydd y Prif Weinidog yn dechrau amlinellu’r mesurau cenedlaethol newydd heddiw. Eu nod yw diogelu iechyd pobl a darparu cymaint o ryddid â phosibl tra mae’r feirws yn dal i gylchredeg.
Mae rhai o’r mesurau newydd yn dal i gael eu cadarnhau yn dilyn y cyhoeddiad annisgwyl dros y penwythnos ynglŷn â mis o gyfyngiadau yn Lloegr, o ddydd Iau ymlaen.
Bydd y mesurau cenedlaethol newydd yn cynnwys y canlynol:
- Bydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr a gwisgo masg wyneb mewn mannau cyhoeddus caeedig, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus a thacsis, yn parhau
- Bydd y gofyniad i weithio gartref pan fo’n bosibl yn parhau
- Ni ddylai pobl ond cwrdd â’r rhai sy’n rhan o’u ‘swigen’ yn eu cartref eu hunain a dim ond dwy aelwyd fydd yn gallu ffurfio ‘swigen’. Os bydd un person o’r naill aelwyd neu’r llall yn datblygu symptomau, dylai pawb hunanynysu ar unwaith.
- Caiff hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgaredd dan do wedi’i drefnu a hyd at 30 mewn gweithgaredd awyr agored wedi’i drefnu, cyn belled â’u bod yn dilyn yr holl fesurau o ran cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo a mesurau diogelu eraill
- Bydd pob safle, megis bwytai, caffis, tafarndai a champfeydd, a wnaeth gau yn ystod y cyfnod atal byr, yn gallu ailagor. Yn dilyn y cyhoeddiad am y cyfyngiadau yn Lloegr, mae Gweinidogion yn parhau i drafod y rheolau manwl ar gyfer ailagor â’r diwydiant lletygarwch. Mae hyn yn cynnwys rheolau ynglŷn â chwrdd mewn mannau cyhoeddus dan do
- Fel rhan o’n hymdrech i leihau ein risgiau cymaint â phosibl, dylai pobl osgoi teithio os nad yw’n hanfodol. Ni fydd cyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn Cymru ar gyfer preswylwyr, ond dylai teithio rhyngwladol fod ar gyfer rhesymau hanfodol yn unig.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Ymestyn y Cynllun Ffyrlo
Mae busnesau ar hyd a lled y DU yn cael cymorth ariannol ychwanegol fel rhan o gynllun Llywodraeth y DU ar gyfer cam nesaf ei hymateb i bandemig y coronafeirws.
Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws - a elwir hefyd yn y cynllun Ffyrlo - yn parhau ar agor tan fis Rhagfyr, a bydd gweithwyr cyflogedig yn derbyn 80% o’u cyflog cyfredol am yr oriau nad ydynt yn gweithio, hyd at uchafswm o £2,500.
Dan y cynllun estynedig, bydd y gost i gyflogwyr o gadw gweithwyr yn cael ei leihau o gymharu â’r cynllun blaenorol, a ddaeth i ben ar 31 Hydref 2020.
Bydd canllawiau ychwanegol yn cael eu cyflwyno maes o law.
Darllenwch fwy ar y Gwefan Busnes Cymru.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|