Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN – Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud ar agor; Pecyn ychwanegol o £10 miliwn i helpu i ddiogelu swyddi a phobl sy’n cael anawsterau ariannol; Grant Datblygu Busnes - Cam 3 y Gronfa Cadernid Economaidd; Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws – cau ar 31 Hydref 2020; Gweminarau am ddim gan Busnes Cymru; Ymchwil - Arolwg Baromedr Busnesau Twristiaeth / Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 y DU; Gwybodaeth Defnyddiol COVID-19.
Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud ar agor
Mae hon yn gronfa sy’n darparu cymorth ariannol i fusnesau sy’n wynebu heriau gweithredol ac ariannol a achosir gan y cyfyngiadau symud cenedlaethol a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru yn sgil COVID-19. Agorodd y grant i geisiadau ar 28 Hydref 2020 a bydd yn cau am 5yp ar 20 Tachwedd 2020 neu pan fydd y gronfa wedi'i hymrwymo'n llawn. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.
Pecyn ychwanegol o £10 miliwn i helpu i ddiogelu swyddi a phobl sy’n cael anawsterau ariannol
Ddydd Gwener diwethaf (23 Hydref), galwodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans ar gyflogwyr i ddefnyddio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu gweithwyr sydd mewn perygl o gwympo rhwng cynlluniau cymorth cyflogau Llywodraeth y DU, wrth gyhoeddi pecyn ychwanegol o £10 miliwn.
Grant Datblygu Busnes - Cam 3 y Gronfa Cadernid Economaidd
Yn sgil galw sylweddol, mae Grantiau Datblygu Busnes y GCE bellach wedi'i hatal er mwyn prosesu'r ceisiadau a dderbyniwyd. Dylech fonitro gwefan Cymorth i Fusnes COVID-19 Busnes Cymru a'n sianelau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer cymorth a diweddariadau eraill.
Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws – cau ar 31 Hydref 2020
Mae’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn cau ar 31 Hydref 2020 a bydd angen i chi gyflwyno unrhyw hawliadau terfynol ar neu cyn 30 Tachwedd. Ni fyddwch yn gallu cyflwyno neu ychwanegu at unrhyw hawliadau ar ôl 30 Tachwedd 2020. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru
Gweminarau am ddim gan Busnes Cymru
Mae Busnes Cymru yn cynnig nifer o gyrsiau/gweminarau ar-lein am ddim er mwyn helpu busnesau y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt gan wella eu gwybodaeth am faterion fel Seiberddiogelwch, y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol. Darllenwch y rhestr lawn ac archebwch eich lle.
Ymchwil
Arolwg Baromedr Busnesau Twristiaeth
Er mwyn darparu data am effeithiau ac er mwyn helpu i gefnogi’r diwydiant yn ystod y cyfnod heriol hwn gwnaethom gynnal pumed ton o’n harolwg ffôn gan gysylltu â 800 o fusnesau twristiaeth yng Nghymru ar ddiwedd mis Medi. Mae’r adroddiad yn cynnwys casgliadau ynghylch yr effaith ar refeniw a staff busnesau, mynediad at gymorth gan y llywodraethau a’r disgwyliadau o safbwynt goroesi dros y misoedd nesaf. Caiff crynodeb eu cynnwys ar lefel ranbarthol ac is-sectoraidd, lle y bo’n bosibl. Gallwch weld yr adroddiad llawn Llyw.Cymru.
Diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth o safbwynt ymwneud â ni a chymryd rhan yn y gwaith ymchwil yma.
Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 y DU
Mae Croeso Cymru yn parhau i gydweithio â VisitBritain a VisitScotland wrth gynnal arolwg traction defnyddwyr ar draws y DU, ac mae adroddiad diweddaraf Cymru wedi’i gyhoeddi ar gyfer y cyfnod o 31 Awst – 2 Hydref.
Gallwch weld adroddiadau pythefnosol am y DU ar wefan VisitBritain ac mae’r canlyniadau diweddaraf yn berthnasol i Gyfnod 17 (12-16 Hydref).
Gwybodaeth Defnyddiol COVID-19
Mae'r rhain yn cael eu diweddaru’n gyson, edrychwch yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|