Bwletin Gwaith Ieuenctid - Golygyddol Gwadd gan Grŵp Cyfranogiad Datblygu'r Gweithlu - Ffocws Arbennig: Rhifyn Datblygu'r Gweithlu - Hydref 2020

**Golygyddol Gwadd gan Grŵp Cyfranogiad Datblygu'r Gweithlu - Rhifyn Ffocws Arbennig**

 
 

Gair gan Gadeirydd y Bwrdd

Cadeirydd y Bwrdd, Keith Towler

Llais Keith

Diolch i Grŵp Cyfranogiad Datblygu’r Gweithlu am y rhifyn gwych hwn a’u gwaith fel golygyddion gwadd. Yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd, mae’n bwysig ein bod yn parhau i goleddu a buddsoddi yn ein gweithlu fel bloc adeiladu allweddol wrth sefydlu model cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Cysylltwch â nhw gydag unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd gennych yn ymwneud â datblygu’r gweithlu.

Yn dilyn ‘saib’ byr, mae’n bleser gennyf adrodd bod holl Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth ar waith unwaith eto. Bydd cynlluniau gwaith  yn cael eu diweddaru dros yr wythnosau nesaf i adlewyrchu’r amser a gollwyd yn sgil COVID-19 a’u haddasu i adlewyrchu unrhyw wersi a ddysgwyd hyd yma yn ystod y pandemig. Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i ddatblygu ffyrdd mwy hyblyg o weithio, a model mwy hyblyg ar gyfer gwaith ieuenctid nag yr oeddem wedi’i ragweld o’r blaen efallai, un sy’n gallu addasu i anghenion newidiol pobl ifanc a chymdeithas.

Ar 16 Hydref, daethom â’r holl gyfranogwyr Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth at ei gilydd – roeddwn wrth fy modd bod dros 50 o gyfranogwyr wedi ymuno â mi ac aelodau eraill y Bwrdd mewn trafodaeth onest, agored a chynhyrchiol am y camau nesaf. Wrth i ni adolygu’r cynlluniau cydnabuwyd hefyd fod llawer o waith i’w wneud o hyd, bod y cynlluniau presennol hyn yn uchelgeisiol – sydd ddim yn ddrwg o beth yn fy marn i, ac y dylem fod yn anelu at y set orau bosibl o wasanaethau gwaith ieuenctid ag y gallwn.

Ar 16 Tachwedd, mae gan y Bwrdd gyfle i amlinellu ei weledigaeth ar gyfer model darparu cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid gyda Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg, cyn cyhoeddi ein hadroddiad ffurfiol i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr. Cyn hyn, rwyf wedi cyfarfod â’r Comisiynydd Plant, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Comisiynydd y Gymraeg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru ac Ymddiriedolwyr Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol i ofyn am eu barn ar ein dull gweithredu.

Wrth i ni nesáu at y pwynt allweddol hwn yn ein taith, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn gweithio gyda’n gilydd ac yn parhau mewn cysylltiad er mwyn datblygu gwasanaeth gwaith ieuenctid sy’n ein galluogi i gyflawni ein nod strategol pwysicaf efallai – sef sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn ffynnu. Wrth i ni ddechrau ar gyfnod newydd o reoli’r feirws ac i ofnau am ddirwasgiad trychinebus dyfu, ni fu ein cefnogaeth i bobl ifanc erioed yn bwysicach.

Cysylltwch â ni gydag unrhyw ymholiadau a phryderon drwy anfon e-bost at bwrddgwaithieuenctid@llyw.cymru. Mae cyfle hefyd i gymryd rhan yn fwy ffurfiol yng ngwaith y Bwrdd - gweler y manylion yn yr adran ‘Ydych chi wedi clywed’ isod. Fel Bwrdd, rydym yn cydnabod bod angen gwneud rhagor o waith o hyd i sicrhau ein bod yn gynrychioliadol - i’r perwyl hwn, rhannwch y cyfle hwn yn eang gyda’ch rhwydweithiau ac annog unrhyw un sydd â diddordeb i gynnig eu hunain. Rydym wedi ymrwymo i fod mor gynhwysol â phosibl, cysylltwch â swyddogion gydag unrhyw ymholiadau ynghylch mynediad.

Croeso

Croeso i’r rhifyn arbennig hwn o’r cylchlythyr sy’n canolbwyntio ar Ddatblygu’r Gweithlu sydd wedi’i olygu gan Grŵp Cyfranogiad Datblygu’r Gweithlu (WDPG), ein  golygyddion gwadd. Mae’r WDPG yn un o bedwar Grŵp Cyfranogiad y Strategaeth a sefydlwyd i weithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru ac mae ganddo gynrychiolaeth o holl randdeiliaid gwaith ieuenctid. Caiff ei gadeirio gan Jo Sims, Prif Swyddog Ieuenctid Blaenau Gwent ac aelod Dros Dro o’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid.

Mae’r WDPG yn cydnabod bod y gweithlu gwaith ieuenctid yn amrywiol, gan gynnwys rheolwyr, staff darparu a gwirfoddolwyr ar draws sectorau amrywiol. O ran y ffordd orau o gefnogi’r gweithlu, mae’r WDPG yn edrych ar amrywiaeth o feysydd i’w datblygu gan gynnwys: mapio’r sector i gael darlun o nifer, lleoliad a sgiliau gweithwyr ieuenctid; datblygu cymwysterau presennol a datblygiad proffesiynol parhaus ymhellach; gwella prosesau recriwtio a chadw staff; a hyrwyddo gwaith ieuenctid fel gyrfa. Cynhyrchwyd cynllun gwaith sy’n rhoi mwy o fanylion ond bydd yr amseru’n cael ei ddiwygio ychydig oherwydd Covid.

Er bod y WDPG yn weithgor sefydledig, os oes unrhyw un yn teimlo bod ganddynt rywbeth i’w gynnig neu ei gyfrannu at y drafodaeth, yna cysylltwch â ni.

Rhagor o wybodaeth - WDPG a’i gynllun gwaith

Llais Person Ifanc - Vickie Lovell

Vickie

Pan oeddwn i’n 11 oed, fy hoff beth oedd mynd i’m clwb ieuenctid lleol yn Cimla bob wythnos. Roedd y clwb ieuenctid yn fan lle gallai fy ffrindiau a mi fynd i chwarae Xbox, gwneud tipyn o gelf a chrefft, neu ymlacio a gwrando ar gerddoriaeth. Fe ddechreuon ni fynd i’r clwb ieuenctid gan ei fod yn rhywle i fynd yn ystod nosweithiau oer a thywyll y gaeaf, ond gan ein bod ni’n ei fwynhau gymaint fe wnaethon ni ddal ati i fynd.

Roedd y clwb yn cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer achredu a chymwysterau, fel coginio, gwirfoddoli, cymorth cyntaf, hylendid bwyd a chyllidebu, a roddodd y sgiliau bywyd roeddwn i eu hangen i mi. Roedd staff y clwb yno bob amser i wrando a helpu gydag unrhyw broblemau oedd gennym ni. Roedden nhw’n ein trin ni fel oedolion ac yn cael trafodaethau difrifol gyda ni am berthnasoedd a chamddefnyddio sylweddau. Dwi’n credu y byddai fy mywyd i wedi bod yn wahanol iawn heb y sgiliau a’r gefnogaeth gan y staff yn fy nghlwb ieuenctid: fe wnaethon nhw helpu i ddatblygu fy hyder i a rhoi cyfle i mi roi cynnig ar bethau newydd.

Dechreuais wirfoddoli yn fy nghlwb ieuenctid fel rhan o’m Gwobr Dug Caeredin efydd. Yna fe ddes i’n uwch aelod o’r clwb drwy wirfoddoli yn y siop fwyd a helpu i redeg rhai o’r gweithgareddau. Fel rhan o fod yn uwch aelod bu’n rhaid i mi gael hyfforddiant arweinyddiaeth ieuenctid Iau, a ddysgodd hanfodion gwaith ieuenctid i mi ac fe fues i’n edrych ar sut i addasu gweithgareddau ar gyfer gwahanol arddulliau dysgu

Pan wnes i droi’n 18 oed, fe wnes i ddod yn aelod staff cyflogedig yn fy nghlwb ieuenctid, er na wnes i ddechrau fy hyfforddiant Lefel 2 am ddau fis ar ôl cychwyn yn y rôl. Yn ystod yr hyfforddiant fe wnaethon ni ddysgu popeth am bobl ifanc ac edrych ar y rhesymau pam mae pobl ifanc yn ymddwyn fel maen nhw. Fe wnaeth hyn fy helpu i ddeall y bobl ifanc yn fy nghlwb ac i fod yn llai beirniadol. Fe wnaeth fy helpu hefyd i ddeall pam roeddwn i wedi gwneud rhai o’r pethau wnes i pan oeddwn i’n iau.

Efallai bydd rhai pobl yn dweud bod gwaith gweithwyr ieuenctid yn hawdd a’u bod nhw’n gwneud dim byd heblaw chwarae pŵl drwy’r dydd. Ond rydyn ni’n gwybod bod rôl gweithiwr ieuenctid yn llawer mwy na hynny. Yn fy marn i, mae gweithwyr ieuenctid yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i bobl ifanc. Dydy gweithwyr ieuenctid ddim fel athrawon, yn dweud wrth y bobl ifanc beth y gallan nhw neu na allan nhw ei wneud. Yn hytrach, maen nhw’n gweithio gyda phobl ifanc, gan eu helpu nhw i wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Dyna pam dwi’n caru fy swydd ac yn teimlo’n gyffrous iawn am wneud fy ngradd mewn addysg ieuenctid a chymunedol, felly y galla i ddysgu mwy am bobl ifanc ac wedyn dysgu mwy o ffyrdd o helpu pobl ifanc.

Cymwysterau Gwaith Ieuenctid JNC

ETS

Ym 1982, amcangyfrifodd adroddiad AEM fod gwasanaeth ieuenctid awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol yng Nghymru yn cynnwys bron i 34,000 o unigolion. Roedd hyn yn cynnwys 87 o swyddogion (24 o awdurdodau lleol, 63 o sefydliadau ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol), 186 o weithwyr maes llawn amser, 3,500 o weithwyr rhan-amser a rhyw 30,000 o wirfoddolwyr, ond nid oedd yn glir pa gymwysterau oedd gan y mwyafrif o’r gweithlu hwnnw. Gan symud ymlaen yn gyflym i 2020 ac, er bod yr archwiliad blynyddol o wasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol ynghyd â’r nifer sydd wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn darparu ffigurau rhannol, nid oes data pendant o hyd ar gyfansoddiad cyffredinol y gweithlu gwaith ieuenctid na’r cymwysterau sydd gan unigolion. Cymhlethir hyn ymhellach gan y ffaith bod gweithwyr ieuenctid wedi’u lleoli mewn llawer mwy o leoliadau anhraddodiadol erbyn hyn. Mae’r angen i fapio’r gweithlu ehangach a’r cymwysterau sydd gan y gweithlu hwnnw’n cael ei gydnabod gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim, ac mae’n rhan o gynllun gwaith y WDPG.

Yn awr, fel yn y gorffennol, mae’r sector yn ymdrechu i fod yn weithlu proffesiynol, gyda fframwaith cymwysterau clir. Felly mae bodolaeth gyson y Cyd-bwyllgor Negodi (JNC) ar gyfer Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol Cymru a Lloegr ers y 1960au wedi bod o fudd sylweddol. Mae’r JNC (ynghyd â negodi tâl, telerau ac amodau) wedi darparu’r fframwaith hwnnw o gymwysterau proffesiynol a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer gweithwyr ieuenctid. Mae cymhwyster a gydnabyddir gan y JNC yn gludadwy ac mae’n caniatáu i ddeiliad weithio ar lefel debyg ledled Cymru ac yng ngweddill y DU ac Iwerddon; mae’n caniatáu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd. Mae cymwysterau presennol a gydnabyddir gan y JNC yn cynnwys:

  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid – Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Cynorthwyol
  • Tystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid – Gweithiwr Cymorth Ieuenctid
  • Gradd BA (Anrh) Lefel 6 neu Ddiploma/MA Ôl-raddedig Lefel 7 – Gweithiwr Ieuenctid Proffesiynol

Mae’r cymwysterau ar Lefelau 2 a 3 wedi’u diweddaru’n ddiweddar ac mae papur briffio sy’n ymdrin â’r unedau a’r meysydd dysgu, dyletswyddau allweddol gweithwyr, a darparwyr hyfforddiant ar gael bellach drwy’r ddolen isod

Mae ETS Cymru yn cymeradwyo hyfforddiant gwaith ieuenctid yn broffesiynol ar ran y JNC. Ar Lefel 6/7 gwneir hyn gan banel o weithwyr ieuenctid sy’n ymweld â phrifysgol i gyfarfod â staff, myfyrwyr a chyflogwyr lleol i archwilio a sicrhau bod y rhaglen yn addas i’r diben.

Rhagor o wybodaeth:

Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid Cymru

QM

Y Rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

  • Ydych chi’n arweinydd neu’n rheolwr gwaith ieuenctid?
  • Sut ydych chi’n ymdrin â phroblem fel Covid-19?
  • Ai mater arweinyddiaeth neu reoli yw hwn?
  • Ydych chi’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau a’r strategaeth ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru?

Mae cynllun gwaith y WDPG yn cynnwys rhaglen ar gyfer hyfforddi arweinwyr a rheolwyr cryf ac effeithiol sy’n fedrus. Mae’r rhaglen yn cael ei hailddatblygu ar hyn o bryd gyda chefnogaeth yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Mae wedi’i bwriadu ar gyfer arweinwyr a rheolwyr presennol, ac ar gyfer pobl sydd am feithrin y sgiliau, yr wybodaeth a’r mathau o ymddygiad sydd eu hangen i reoli eu sefydliadau ac arwain gwaith ieuenctid ledled Cymru i’r dyfodol.

 

Comisiynwyd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) mewn partneriaeth â Safonau Addysg Hyfforddiant (ETS) Cymru (ac mewn cydweithrediad â Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS) a Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru (PYOG) gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno a datblygu’r Marc Ansawdd cydnabyddedig ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru tan fis Ionawr 2023. Maent wedi penodi Andrew Borsden i arwain yn y rôl newydd hon. Mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad mewn gwaith ieuenctid fel Prif Swyddog Ieuenctid, eiriolwr dros bobl ifanc, a chefnogwr brwd i’r sector gwirfoddol.

Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn fathodyn sy’n arwydd o ragoriaeth. Mae’n cefnogi ac yn cydnabod arferion da gan sefydliadau sy’n cyflawni gwaith ieuenctid ac yn dathlu rhagoriaeth eu gwaith gyda phobl ifanc.

Os hoffech wybod mwy am y Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid, cliciwch yma neu cysylltwch â ni drwy e-bost: marcansawdd.gwaithieuenctid@cga.wales

Bydd y rhaglen yn cynnwys chwe diwrnod o hyfforddiant trylwyr a thrafodaeth grŵp. I gymryd rhan bydd angen i chi fod mewn rôl arwain a/neu reoli fel y gallwch brofi’r damcaniaethau a’r dysgu o’r rhaglen yn eich ymarfer eich hun. I gael blas o’r cynnwys cymerwch gip ar y ddolen yma

Mae Grŵp Llywio’r Rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb yn awr gan hyfforddwyr profiadol i arwain y gwaith o gyflwyno’r rhaglen. Ddiddordeb? Cysylltwch â Steve Drowley, Cadeirydd ETS, yn stevedrowley@icloud.com

Beth mae gwaith ieuenctid yn ei olygu i mi - Josie Downing

Byddwn wrth fy modd yn dechrau’r erthygl hon gyda stori ysbrydoledig am sut y dechreuais i wneud gwaith ieuenctid; sut y cefais fy ysbrydoli gan weithiwr ieuenctid a’m harweiniodd i ddewis y math hwn o waith. Ond nid felly yr oedd pethau i mi a dweud y gwir.

Gadewais yr ysgol pan oeddwn i’n 17 oed heb orffen fy nghymwysterau Safon Uwch, gan feddwl nad prifysgol oedd y lle i mi. Fe wnes i deithio, gweithio mewn pob math o swyddi rhyfedd, ond fel llawer o bobl ifanc yn eu harddegau hwyr a’u hugeiniau cynnar, roeddwn i’n teimlo’n eithaf dryslyd ac ar goll. Roeddwn i eisiau gwneud mwy, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth.

Josie

Ar ôl gwneud ychydig o wirfoddoli yma a thraw, gwnes gais am y radd Gwaith Ieuenctid a Chymunedol ym Met Caerdydd yn sgil awgrym gan aelod o’r teulu. Yn ystod fy nghyfweld, fe wnes i deimlo’n gartrefol yn syth, teimlad nad oeddwn i wedi’i deimlo erioed o’r blaen ym myd addysg. Rwy’n credu mai dyna beth mae gweithwyr ieuenctid da yn ei wneud; rydych chi’n teimlo’n gwbl gyfforddus yn eu cwmni.

Dysgodd y radd gymaint i mi, yn broffesiynol ac yn bersonol. Dysgais sut i fod yn weithiwr ieuenctid, ond llawer iawn amdanaf fi fy hun hefyd. Lleoliadau oedd yr uchafbwynt go iawn i mi. Gweithiais gydag amrywiaeth o sefydliadau, o Gyngor Caerdydd, y gwasanaeth ieuenctid ym Malta, a Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru (a roddodd fy swydd gyntaf ym maes gwaith ieuenctid i mi yn ddiweddarach). Yn ogystal â sesiynau a addysgir a lleoliadau, mae’r cwrs yn addas iawn i bobl nad ydynt wedi cael profiadau gwych gydag addysg brif ffrwd ac roedd y dysgu’n gynhwysol iawn. Byddai ffrindiau o gyrsiau eraill bob amser yn edrych arna i mewn ffordd ddryslyd ac ychydig yn eiddigeddus, pan fyddwn yn dweud wrthyn nhw fy mod yn hwylio o Gaerdydd i Fryste, neu’n ymweld â Dau Dŷ’r Senedd fel rhan o’m cwrs.

Ar ddechrau fy hyfforddiant, doedd gen i ddim hanesyn ysbrydoledig fel gweithiwr ieuenctid, ond mae gen i gymaint erbyn hyn. Y darlithwyr oedd fy ngweithwyr ieuenctid, fy ngoruchwylwyr lleoliadau a’m mentoriaid, ac maen nhw wedi llywio a dylanwadu’n llwyr ar y ffordd rwy’n gweithio gyda phobl ifanc, cydweithwyr ac arnaf fi yn gyffredinol wrth i mi barhau i dyfu ac esblygu.

Felly, be’ nesa’? Rwy’n cydnabod bod gwaith ieuenctid yn bopeth i mi, a phrin y galla i ddisgwyl am y cyfle i weithio mewn pob math o leoliadau gydag amrywiaeth o bobl ifanc. Gallwn fod wedi elwa’n fawr ar gymorth gweithwyr ieuenctid pan oeddwn i yn yr ysgol, ac rwy’n gobeithio y bydd eraill yn elwa ar fy ngallu i wrando. Rwy’n edrych ymlaen at y dydd pan galla i rannu straeon ag eraill sy’n hyfforddi i fod yn weithwyr ieuenctid am fy ngwaith yn y maes, sut y gwnes i ddylanwadu ar bobl ifanc, fy nghyflawniadau, fy methiannau, fy mhrofiadau wrth ddysgu, ac eiliadau o fyfyrio.

Rwy’n dal i fod yn berson ifanc sy’n ffeindio fy ffordd drwy fy ugeiniau, gan feddwl tybed ydw i’n gwneud pethau’n iawn, ond mae fy hyfforddiant gwaith ieuenctid wedi fy helpu i deimlo ychydig yn llai dryslyd ac ar goll. Yn bennaf oll, rwy’n deall ein bod ni i gyd yn pendroni gan ofyn tybed a ydyn ni’n gwneud pethau’n iawn!

Rhagor o ddolenni:

  • Mae cyrsiau hyfforddi (gan gynnwys yr un a fynychais i) ar gael gan ETS Cymru
  • Fy neges blog ar waith ieuenctid yn Indonesia

Ym Mhedwar Ban Byd: Gwaith Ieuenctid yn y Gymanwlad: Proffesiwn Twf

Cyhoeddwyd gan Ysgrifenyddiaeth y Gymanwlad, gyda’r awdur arweiniol Dr Brian Belton o Goleg YMCA George Williams. Mae’r cyhoeddiad hwn yn astudiaeth 35 gwlad o statws gwaith ieuenctid fel proffesiwn ar wahân yn y Gymanwlad. Dyma’r tro cyntaf i arolwg eang a chasgliad o astudiaethau achos gael eu cynnal yn y Gymanwlad ar statws y proffesiwn.

Mae’r cyhoeddiad llawn ar gael i’w lawrlwytho.

Ydych chi wedi clywed?

EWC

Addysgwyr Cymru (Hyrwyddo Gyrfaoedd yn y Gweithlu Addysg)

Bydd gwasanaeth eiriolaeth a gwefan newydd yn cael eu lansio ym mis Chwefror 2021. Bydd gwefan ‘Addysgwyr Cymru’ yn cynnwys porth gyrfaoedd, porth swyddi a phorth hyfforddiant ac fe’i defnyddir i hyrwyddo gyrfaoedd ym maes addysg. I gael gwybod sut y gall y gwasanaeth a’r wefan gefnogi eich sefydliad chi, cysylltwch â: gwybodaeth@addysgwyr.cymru / information@educators.wales

Pasbort Dysgu Proffesiynol (PLP)

Pasbort Dysgu Proffesiynol CGA yw eich adnodd di-dâl i’ch helpu i fyfyrio ar eich dysgu, arddangos eich syniadau a dathlu eich cyflawniadau. I’ch rhoi ar ben ffordd, darllenwch ein herthygl i gael awgrymiadau ar ddefnyddio’r PLP i’ch hyrwyddo chi.

Galw am aseswyr Marc Ansawdd

Ydych chi’n weithiwr ieuenctid profiadol sydd ag angerdd dros ddathlu rhagoriaeth yn y ddarpariaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru? Beth am ymuno â’n cronfa o aseswyr i’n helpu i gyflwyno’r Marc Ansawdd ar gyfer mwy o wybodaeth yma.

Fel arall, gallwch ffonio CGA ar 029 2046 0099 i drafod y rôl.

YWEA

Cynhaliwyd seremoni rithwir Gwobrau Rhagoriaeth Mewn Gwaith Ieuenctid 2020 am y tro cyntaf ar 9 Hydref ac ers hynny mae dros 700 o bobl wedi edrych arni. Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr! Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i anfon enwebiad - roedd yn faes cryf iawn eleni, sy’n tystio i ansawdd ac amrywiaeth darpariaeth gwaith ieuenctid arloesol ac ysbrydoledig yng Nghymru. Gallwch wylio’r ffilm eto yma.Click to edit this placeholder text.

Hwb

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu adnoddau i gynorthwyo ymarferwyr i adnabod arwyddion y gallai merch ifanc fod mewn perygl o anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM). Mae’r adnodd newydd ar Hwb yn cynnwys e-boster a thaflen ffeithiau sy’n cynnwys gwybodaeth am sut i weithredu os ystyrir bod plentyn mewn perygl. 

hwb 130 x 130

Mae’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth. Bydd gwirfoddolwyr yn ymuno ag ymdrech gydweithredu traws-sector i gyflawni pum nod y Strategaeth Gwaith Ieuenctid. Mae’r Bwrdd yn arbennig o awyddus i ehangu amrywiaeth grwpiau, gyda chyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir bob 6-8 wythnos ar hyn o bryd. Cysylltwch â bwrddgwaithieuenctid@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Cadw’n ddiogel ar-lein ar ei newydd wedd ar Hwb

Mae ardal Cadw’n ddiogel ar-lein Hwb wedi’i hailgynllunio’n llwyr i wella cadernid digidol mewn addysg. Mae yna ganllawiau cyfredol ar ddiogelwch ar-lein, seiberddiogelwch a diogelu data, adnoddau a digwyddiadau wedi’u teilwra ar gyfer plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol, a llywodraethwyr.

Byddwch yn Rhan o'r Cylchlythyr Gwaith Ieuenctid

Cysylltwch trwy e-bost (youthwork@gov.wales) os ydych chi am gyfrannu at rifynnau o'r cylchlythyr yn y dyfodol, a byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau i ni, gyda gwybodaeth am ffocws arbennig y rhifynnau sydd ar ddod, a'r nifer geiriau o erthyglau ar gyfer yr amrywiol adrannau.

Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkWales #GwaithIeuenctidCymru wrth drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid?  Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

E-gylchlythyr chwarterol sy’n darparu newyddion diweddaraf, diweddariadau a datblygiadau mewn Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu


Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilyn ar-lein: