Grant Datblygu Busnes – Cam 3 y Gronfa Cadernid Economaidd
Bydd y gronfa grant ar agor ar gyfer ceisiadau am tua 3pm heddiw ac yn parhau i fod ar agor tan 25 Tachwedd, neu hyd nes y bydd yr arian wedi'i ymrwymo'n llawn. Defnyddiwch y Gwiriwr Cymhwysedd i weld meini prawf cyn iddo agor.
Bydd rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru. Cadwch olwg ar y dudalen yn rheolaidd
Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud
Mae’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud yn darparu cymorth ariannol i fusnesau sy’n wynebu heriau gweithredol ac ariannol a achosir gan y cyfyngiadau symud cenedlaethol a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru yn sgil COVID-19.
Diben y gronfa yw cefnogi busnesau gyda chymorth llif arian i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau sydd wedi’u rhoi ar waith.
I gael y grantiau bydd angen i chi gofrestru a/neu wneud cais am yr elfennau dewisol. Bydd y cofrestriad a'r ceisiadau ar agor ar *28 Hydref 2020 drwy ddolenni ar wefannau pob Awdurdod Lleol, fydd yn cael eu darparu ar dudalennau gwefan Busnes Cymru, neu gellir fynd atynt yn uniongyrchol. Bydd y ceisiadau'n cau am 5pm ar 20 Tachwedd 2020 neu pan fydd y gronfa wedi'i hymrwymo'n llawn. Bydd y gronfa'n cael ei gweinyddu gan eich Awdurdod Lleol.
(*efallai y bydd angen rhyddhau dolenni'r Awdurdodau Lleol dros ddau ddiwrnod gwaith felly peidiwch â phoeni os nad yw safle eich Awdurdod Lleol i'w weld ar unwaith ar y 28ain).
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|