Bwletin Newyddion: Cam 3 yr ERF; Pecyn ychwanegol o £10 miliwn; Cwestiynau Cyffredin am y Cyfnod Atal; Cau Busnesau

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

26 Hydref 2020


covid

Cam 3 y Gronfa Cadernid Economaidd yn agor cyn hir

Rydym wrthi’n penderfynu ar fanylion terfynol Cam 3 Grant Datblygu Busnes y Gronfa Cadernid Economaidd (ERF) gan agor ar gyfer ceisiadau wythnos yma (ddydd Mercher, 28 Hydref gobeithio – i’w gadarnhau). Defnyddiwch y Gwiriwr Cymhwysedd i weld y meini prawf cyn iddo agor.


Pecyn ychwanegol o £10 miliwn i helpu i ddiogelu swyddi a phobl sy’n cael anawsterau ariannol

Ddydd Gwener diwethaf (23 Hydref), galwodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans ar gyflogwyr i ddefnyddio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu gweithwyr sydd mewn perygl o gwympo rhwng cynlluniau cymorth cyflogau Llywodraeth y DU, wrth gyhoeddi pecyn ychwanegol o £10 miliwn.


Cwestiynau Cyffredin – Y Cyfnod Atal

Mae cwestiynau cyffredin am gyfnod atal y coronafeirws wedi’u diweddaru.


Cau busnesau a safleoedd: coronafeirws (COVID 19)

Gwybodaeth gefndir a rhestr o’r busnesau a safleoedd sydd ddim yn hanfodol sy'n gorfod cauo 6pm 23 Hydref tan 9 Tachwedd ar-lein.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram