Dinas Bangor – cyfyngiadau lleol
Mae'r cyfyngiadau newydd ym Mangor yn berthnasol i bawb sy'n byw mewn wyth ward, sy'n rhan o Ddinas Bangor. Cytunodd Llywodraeth Cymru ar y mesurau hyn mewn trafodaeth â'r awdurdod lleol, Prifysgol Bangor, y GIG, Heddlu Gogledd Cymru ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd. Daeth y cyfyngiadau i rym am 6pm ar 10 Hydref 2020
Y prif gyfyngiadau:
- Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i'r ardal na’i gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu i gael addysg
- Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw, am y tro. Ni fyddant yn cael ffurfio aelwyd estynedig na bod yn rhan o un, ac eithrio swigod dros dro ar gyfer pobl sengl a rhieni sengl.
Mae’r cyfyngiadau yn ychwanegol at y rheolau sy’n berthnasol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys:
- Rhaid i bob safle trwyddedig roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm
- Rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do.
Mae rhagor o wybodaeth (gan gynnwys y wardiau dan sylw a rhestr o Gwestiynau Cyffredin) wedi'i chyhoeddi.
Y Gronfa Cadernid Economaidd – Gwiriwr Cymhwysedd
Gall busnesau ledled Cymru bellach gael gwybod a ydyn nhw’n gallu gwneud cais am drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd drwy ymweld â'r Gwiriwr Cymhwysedd ar-lein. Bydd y gwiriwr cymhwysedd yn galluogi busnesau i wirio a ydyn nhw’n gymwys i gael mynediad at y rhan hon o’r gronfa, gwerth £80 miliwn, a fydd ar gael i ficro fusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr. Bydd £20 miliwn o’r cyllid hwn yn cael ei glustnodi i gefnogi’r sector twristiaeth a lletygarwch, sy’n wynebu heriau penodol wrth i ni ddechrau misoedd y gaeaf. Darllenwch fwy yn ein bwletin ar 7 Hydref.
Y Cynllun Cefnogi Swyddi
Bydd y Cynllun Cefnogi Swyddi newydd yn cael ei gyflwyno o 1 Tachwedd 2020 i ddiogelu swyddi lle mae busnesau yn wynebu llai o alw dros fisoedd y gaeaf yn sgil coronafeirws (COVID-19).
O dan y cynllun, a fydd yn para chwe mis, bydd Llywodraeth y DU yn cyfrannu at gyflogau gweithwyr sy’n gweithio llai na’u horiau arferol yn sgil gostyngiad yn y galw. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.
Yn ogystal, mae Canghellor y DU wedi cyhoeddi (9 Hydref) ragor o fanylion am ehangu’r Cynllun Cefnogi Swyddi er mwyn diogelu swyddi a chefnogi busnesau y mae gofyn iddyn nhw gau yn sgil cyfyngiadau COVID-19, sy’n cynnwys taflen gwybodaeth a cwestiynau cyffredin.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|