Bwletin Newyddion: £300m i fusnesau yng Nghymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

20 Hydref 2020


covid

£300m i fusnesau yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn dyblu trydydd cam ei Chronfa Cadernid Economaidd i bron £300m er mwyn helpu busnesau sy’n dal i deimlo effeithiau Covid-19.

Ym mis Medi, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi Ken Skates y byddai £140m ar gael fel rhan o drydydd cam Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, o ganlyniad i’r cyfnod atal byr a fydd yn dechrau ddydd Gwener, 23 Hydref ac yn para tan ddydd Llun 9 Tachwedd pan fydd gofyn i amrywiaeth o fusnesau gau eu drysau neu leihau eu gweithgareddau, caiff cam diweddaraf y gronfa fwy na’i ddyblu i sicrhau bod rhagor o help ar gael i fusnesau ledled y wlad.

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n ategu cynlluniau cymorth Llywodraeth y DU, yn rhan o becyn cymorth o £1.7bn gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau Cymru i ddelio ag effeithiau economaidd y Coronafeirws.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates: “Rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn gorfod gwneud penderfyniadau pwysig i arafu’r coronafeirws a diogelu ein GIG ac iechyd ein pobl. Ond rydym yn gwbl ymwybodol bod y penderfyniadau hyn yn cael effaith ar ein heconomi ac ar ein busnesau yn ystod blwyddyn sydd eisoes wedi bod yn neilltuol o anodd iddynt.

“Rydym wedi bod yn trafod yn hir ac yn fanwl gyda’n partneriaid busnes am effaith barhaus y coronafeirws ac effeithiau’r cyfyngiadau’r rydym yn gorfod eu gosod i arafu ei ledaeniad.

“Un neges rydym yn ei chlywed yn glir yw bod busnesau am gael eglurder er mwyn gallu cynllunio a pharatoi, a bod angen pecyn clir o gymorth arnynt i helpu i oroesi’r cyfnod anodd hwn.

“A dyna yn union y bydd y pecyn cryfach hwn o gymorth sy’n dyblu trydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd ac yn cael arian yn gyflym i’n busnesau i’w helpu trwy’r cyfnod atal byr hwn a thu hwnt, yn ei wneud.”

Dyma fydd yn y pecyn economaidd newydd a chryfach hwn:

  • Taliadau o £1,000 i fusnesau sy’n gymwys am y cymorth ardrethi i fusnesau bach â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.
  • Taliadau o hyd at £5,000 i fusnesau adwerthu, lletygarwch a hamdden sy’n gorfod cau ac sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £50,000.
  • Grant chwyddo dewisol o £2,000 i fusnesau sydd wedi gorfod cau dros y cyfnod atal byr neu y bydd y cyfnod atal wedi cael effaith faterol arnynt.
  • Grant dewisol arall o £1,000 i fusnesau y cafodd y cyfyngiadau lleol effaith faterol arnynt am 21 niwrnod neu fwy cyn dechrau’r cyfnod atal byr.

Mae Llywodraeth Cymru’n darparu £20m arall ar gyfer Grantiau Busnes sy’n golygu y bydd £100m ar gael at y diben hwn. O’r blaen, roedd disgwyl i fusnesau allu darparu canran o’r cyllid er mwyn gallu hawlio’r grantiau hyn, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bellach y bydd yn darparu 100% o’r grant i fusnesau sydd wedi cael eu gorfodi i gau yn ystod y cyfnod atal byr.

Ychwanegodd y Gweinidog: “Trwy ddyblu trydydd cam y gronfa, rydym yn neilltuo bron i £300m o gymorth ariannol i’n cyflogwyr bach a chanolig ac i fusnesau yn y sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden sy’n gorfod cau’u drysau dros y cyfnod atal byr.

“Bydd hynny’n golygu y bydd £150m yn ychwanegol yn mynd yn syth i goffrau busnesau Cymru i’w helpu i dalu eu biliau ac i wrthsefyll yr wythnosau a’r misoedd anodd o’n blaenau.

“Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd, a gafodd ei chreu i gau’r bylchau ym mhecyn cymorth Llywodraeth y DU, eisoes wedi bod yn allweddol wrth amddiffyn cwmnïau ledled Cymru rhag effeithiau difrifol y coronafeirws, gan ddiogelu rhagor na 100,000 o swyddi.

“Bydd y cyhoeddiad hwn, sydd unwaith eto’n ychwanegol at yr hyn a gynigir gan Lywodraeth y DU, yn helpu i sicrhau bod llawer o fusnesau Cymru’n gallu cadw eu pennau uwchlaw’r dŵr, cynllunio ar gyfer y dyfodol a diogelu’r swyddi y mae’n cymunedau’n dibynnu arnynt.

“Bydd y gronfa’n agor wythnos nesaf a byddwn yn gweithio’n galed i gael yr arian i fusnesau mor gyflym ag y gallwn ni.”

Bydd rhagor o wybodaeth, a gaiff ei diweddaru'n rheolaidd yn ystod yr wythnos hon, i'w gweld ar wefan Busnes Cymru.


Cyfnod atal byr cenedlaethol yng Nghymru

Mae'r cyhoeddiad ddoe (19 Hydref) i'w weld ar y Llyw.Cymru - Cyfnod atal byr cenedlaethol y coronafeirws i gael ei gyhoeddi yng Nghymru ddydd Gwener.

Mae rhestr o gwestiynau cyffredin Cyfnod atal y coronafeirws ar gael.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram