Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

9 Hydref 2020


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN – Y Gronfa Cadernid Economaidd – Dysgwch a yw eich busnes yn gymwys i gael cymorth gan y trydydd cam; Y Cynllun Cefnogi Swyddi; Adnodd Canfod Cymorth Busnes COVID-19; Ymgyrch newydd i helpu pobl i chwilio am gyfleoedd newydd; Grantiau Treftadaeth 15 Munud; Fframwaith Economaidd Canolbarth a De-orllwein Cymru; Gweminarau VisitBritain ar gyfer Diwydiant Teithio’r DU: y tueddiadau a'r wybodaeth ddiweddaraf; Arolwg Partneriaethau Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol; Cwsmeriaid Hunanasesu i elwa ar gynlluniau taliadau chwyddo; Dolenni i ganllawiau defnyddiol, asedau a phecynnau ar COVID-19 y gall eich busnes eu lawrlwytho.


Y Gronfa Cadernid Economaidd – Dysgwch a yw eich busnes yn gymwys i gael cymorth gan y trydydd cam

Gall busnesau ledled Cymru bellach gael gwybod a ydyn nhw’n gallu gwneud cais am drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd drwy ymweld â'r Gwiriwr Cymhwysedd ar-lein.

Yr wythnos diweddaf cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, gyfnod newydd y gronfa, a fydd yn gweld £140 miliwn yn cael ei wneud ar gael i fusnesau. Bydd y gwiriwr cymhwysedd yn galluogi busnesau i wirio a ydyn nhw’n gymwys i gael mynediad at y rhan hon o’r gronfa, gwerth £80 miliwn, a fydd yn cefnogi cwmnïau a chanddynt brosiectau a fydd yn eu helpu i fod yn rhan o economi’r dyfodol.

Bydd £20 miliwn o’r cyllid hwn yn cael ei glustnodi i gefnogi’r sector twristiaeth a lletygarwch, sy’n wynebu heriau penodol wrth i ni ddechrau misoedd y gaeaf. Darllenwch fwy yn ein bwletin.


Y Cynllun Cefnogi Swyddi

Bydd y Cynllun Cefnogi Swyddi newydd yn cael ei gyflwyno o 1 Tachwedd 2020 i ddiogelu swyddi lle mae busnesau yn wynebu llai o alw dros fisoedd y gaeaf yn sgil coronafeirws (COVID-19).

O dan y cynllun, a fydd yn para chwe mis, bydd Llywodraeth y DU yn cyfrannu at gyflogau gweithwyr sy’n gweithio llai na’u horiau arferol yn sgil gostyngiad yn y galw.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.

Yn ogystal mae Canghellor y DU wedi cyhoeddi heddiw ragor o fanylion am ehangu’r Cynllun Cefnogi Swyddi er mwyn diogelu swyddi a chefnogi busnesau y mae gofyn iddyn nhw gau yn sgil cyfyngiadau COVID-19. Darllenwch y manylion ar Gov.UK.


Adnodd Canfod Cymorth Busnes COVID-19

Er mwyn helpu busnesau i ganfod yr ystod amrywiol o gymorth sydd ar gael i fynd drwy'r cyfnod anodd hwn, cymerwch olwg ar dudalennau Dod o Hyd i Gymorth Busnes COVID-19 sydd ar gael ar wefan Busnes Cymru.


Ymgyrch newydd i helpu pobl i chwilio am gyfleoedd newydd

Fel rhan o’i hymateb i coronafeirws (COVID-19), mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cymorth mae’n ei ddarparu ar gyfer pobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan ddiswyddiadau.

Bydd ymgyrch newydd, a lansiwyd gan Cymru’n Gweithio, yn hyrwyddo’r cymorth wedi’i deilwra sydd ar gael i bobl sydd wedi colli eu swyddi neu sydd mewn perygl o golli eu swyddi, ac yn eu helpu i chwilio am gyfleoedd newydd. Am fwy  o wybodaeth Llyw.Cymru


Grantiau Treftadaeth 15 Munud

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Cadw wedi cydweithio i lansio Grantiau Treftadaeth 15 Munud ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi gweithgareddau amrywiol sy’n cynyddu ymgysylltiad pobl â threftadaeth y mae modd ei chyrraedd o’u cartref mewn tua 15 munud. 

Mae grantiau rhwng £3,000 a £10,000 ar gael i awdurdodau lleol, sefydliadau trydydd sector a grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar gyfer prosiectau bach sy’n helpu i gysylltu cymunedau yng Nghymru â’u treftadaeth leol.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Fframwaith Economaidd Canolbarth a De-orllwein Cymru

Mae Llywodraeth Cymru a phartneriaid rhanbarthol, ar y cyd, yn gwahodd pobl i ymuno â nhw i sefydlu gweledigaeth a rennir ar gyfer economïau unigryw y Canolbarth a’r De-orllewin.

Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn drechu’r heriau a manteisio ar gyfleoedd er lles holl bobl y rhanbarth. Dros y misoedd i ddod, bydd cyfle i fusnesau twristiaeth gyfrannu mewn nifer o ffyrdd. Darganfyddwch sut i gymryd rhan yn y weledigaeth a rennir ar gyfer yr economi.


Gweminarau VisitBritain ar gyfer Diwydiant Teithio’r DU: y tueddiadau a'r wybodaeth ddiweddaraf

Mae VisitBritain yn cynnal cyfres o weminarau rhad am ddim ar gyfer Diwydiant Teithio'r DU, gan  ganolbwyntio ar India, Tsieina a De Ewrop. Dyma'r ail gyfres o weminarau a fydd yn rhoi cyfle gwerthfawr ichi glywed oddi wrth arbenigwyr ar y farchnad am y data ymchwil a’r wybodaeth ddiweddaraf er mwyn helpu’ch busnes i baratoi ar gyfer yr adferiad yn y marchnadoedd hyn. Bydd sesiwn holi ac ateb hefyd i helpu i ateb eich cwestiynau.

  • India - 13 Hydref – 10.00 am tan 11.00 am
  • Tsieina - 20 Hydref - 10.00 am i 11.00 am
  • De Ewrop - 22 Hydref - 10.30 am i 11.30 am

Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys sut i gofrestru, i’w gweld ar wefan VisitBritain.


Arolwg Partneriaethau Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol

Mae’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol yn gweithio gyda busnesau ar hyn o bryd ar draws y de-orllewin a chanolbarth Cymru i ddeall sut y mae’r pandemig wedi cael effaith arnynt ac yn casglu gwybodaeth i helpu i lywio Llywodraeth Cymru o ran y cymorth sydd ei angen ar fusnesau i adfer. 

A fyddech cystal â helpu drwy lenwi eu harolwg byr o Effaith COVID-19 erbyn 16 Hydref. 


Cwsmeriaid Hunanasesu i elwa ar gynlluniau taliadau chwyddo

O 1 Hydref 2020 mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) wedi cynyddu'r trothwy ar gyfer talu rhwymedigaethau treth i £30,000 ar gyfer cwsmeriaid Hunanasesu i helpu i leddfu unrhyw faich ariannol posibl y gallent fod yn ei dioddef oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19).  Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.


Dolenni i ganllawiau defnyddiol eraill, asedau a phecynnau ar COVID-19 y gall eich busnes eu lawrlwytho

Rydym yn deall ei bod yn anodd cadw i fyny weithiau â phopeth sydd ar gael.  Bydd y dolenni isod yn eich helpu i weld pa adnoddau a phecynnau sydd ar gael i’ch helpu.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram