Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

1 Hydref 2020


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN  -  Cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws lleol i reoli achosion yn y Gogledd; Cyfyngiadau coronafeirws eisoes mewn lle yn Ne Cymru; Cyfyngiadau cloi lleol – cwestiynau cyffredin; Ymwelwyr o ardaloedd lle mae nifer uwch o achosion o’r coronafeirws; Mesurau newydd wedi'u cyflwyno ar gyfer busnesau lletygarwch − cwestiynau cyffredin; £140 miliwn i helpu busnesau Cymru; Estyniad Grant y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig;  Ymestyn Cynlluniau Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws a Chronfa Swyddi’r Dyfodol;  Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth y DU – COVID-19; Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020; Festival UK* 2022; Llythyrau i fusnesau am y trefniadau masnachu newydd gyda’r UE o 1 Ionawr 2021


Cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws lleol i reoli achosion yn y Gogledd

Cyflwynwyd cyfyngiadau coronafeirws newydd mewn pedair ardal awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru– Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Wrecsam –  yn dilyn cynnydd mewn achosion. Daeth y mesurau newydd i rym am 6pm dydd Iau 1 Hydref, i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws yn y pedair ardal.

Bydd y cyfyngiadau lleol newydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Byddant yn cael eu gorfodi gan yr awdurdodau lleol a’r heddlu.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Mae'r uchod yn ychwanegu at y cyfyngiadau coronafeirws sydd eisoes mewn lle yn Ne Cymru

Mae cyfreithiau coronafeirws wedi cael eu tynhau yn yr awdurdodau lleol canlynol :


Cyfnodau clo lleol – cwestiynau cyffredin

Gweler y Cwestiynau Cyffredin ar gyfnodau clo lleol – maent yn cynnwys ymholiadau a fydd yn berthnasol iawn i ymwelwyr a gweithredwyr llety ee

Nid wyf yn un o drigolion ardal (amddiffyn iechyd lleol) ond rwyf yn yr ardal ar hyn o bryd – a oes angen i mi adael ar frys?

  •  Os nad oes gennych reswm da ("esgus rhesymol") dros aros yn yr ardal, dylech adael cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
  • Os oes gennych esgus rhesymol dros aros, yna tra byddwch yn ardal (amddiffyn iechyd lleol), dylech ddilyn y cyfyngiadau lleol sydd ar waith a chyfyngu ar eich cysylltiadau ag eraill gymaint ag sy'n bosibl.

Ar ôl ichi adael yr ardal, byddwch yn ofalus o ran dod i gysylltiad â phobl eraill a byddwch yn ymwybodol o unrhyw symptomau posibl o’r coronafeirws.


Ymwelwyr o ardaloedd lle mae nifer uwch o achosion o’r coronafeirws

Mae canllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad a coronafeirws, mae hyn yn cynnwys manylion sy'n ymwneud ag ymwelwyr â llety a busnesau eraill.


Nodyn i’ch atgoffa: Mesurau newydd wedi'u cyflwyno ar gyfer busnesau lletygarwch − cwestiynau ac atebion

Ni chaniateir i unrhyw safle trwyddedig yng Nghymru weini alcohol bellach ar ôl 10yh, a rhaid iddynt fod wedi cau erbyn 10.20yh.  Hefyd, dim ond gwasanaeth wrth y bwrdd y caiff mangreoedd trwyddedig ei ddarparu. Bydd yn rhaid i siopau diodydd trwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd a siopau cyfleustra roi'r gorau i werthu alcohol am 10yh hefyd. Caniateir i nwyddau a archebir ar-lein gan archfarchnadoedd a gwasanaethau tecawê ar ôl 10yh ond ni ddylent gynnwys alcohol.

Mae'r mesurau newydd yn rhan o becyn o gamau gweithredu cyd-gysylltiedig, sy'n cael eu cyflwyno ledled y DU, i reoli lledaeniad y coronafeirws, daethant i rym yng Nghymru am 6yh ar 23 Medi ac mae rhestr fanwl o gwestiynau cyffredin ar gael.  

Gallwch ddarllen y mesurau a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn ein Bwletin Newyddion. Amlinellwyd rhagor o fanylion am y cyfyngiadau yng nghynhadledd y Prif Weinidog i'r wasg ar 23 Medi – mae i’w gweld ar-lein yma.


£140 miliwn i helpu busnesau Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo £140 miliwn o arian ychwanegol i helpu busnesau i ddelio â’r heriau economaidd sydd wedi dod yn sgil Covid-19 ac a ddaw pan fydd y DU yn gadael yr UE.  Bydd trydydd cymal Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru yn neilltuo mwy o arian i ddiogelu swyddi a helpu busnesau i ddatblygu yn ogystal â rhoi help ychwanegol i fusnesau sy’n dod o dan y cyfyngiadau lleol.

Mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo £140 miliwn o arian ychwanegol i helpu busnesau i ddelio â’r heriau economaidd sydd wedi dod yn sgil Covid-19 ac a ddaw pan fydd y DU yn gadael yr UE.  Bydd trydydd cymal Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru yn neilltuo mwy o arian i ddiogelu swyddi a helpu busnesau i ddatblygu yn ogystal â rhoi help ychwanegol i fusnesau sy’n dod o dan y cyfyngiadau lleol.

Trwy gymal newydd yr ERF, caiff £80 miliwn ei neilltuo i helpu busnesau i gynnal prosiectau i’w helpu i addasu i economi’r dyfodol. Bydd gofyn i’r cwmnïau gyd-fuddsoddi a pharatoi cynllun clir ar sut i addasu i economi mewn byd ar ôl covid.

O hwn, bydd £20 miliwn wedi’i glustnodi i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch sy’n wynebu anawsterau difrifol wrth inni gamu tua’r gaeaf.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Estyniad Grant y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS)

Mae Estyniad i’r Grant SEISS yn darparu cefnogaeth hanfodol i'r hunangyflogedig. Bydd y grant yn gyfyngedig i unigolion hunangyflogedig sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer y SEISS ac sy'n parhau i fasnachu ond sy'n wynebu llai o alw oherwydd COVID-19.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Ymestyn Cynlluniau Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws a Chronfa Swyddi’r Dyfodol

Mae Llywodraeth y DU yn ymestyn pedwar cynllun benthyciadau dros dro a gynlluniwyd i gefnogi busnesau'r DU sy'n colli refeniw ac sy'n profi tarfu ar eu llif arian o ganlyniad i argyfwng COVID-19.

Bydd mwy o fusnesau nawr yn gallu elwa ar y canlynol:

  • Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CBILS)
  • Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes Mawr yn sgil y Coronafeirws (CLBILS)
  • Cynllun Benthyciadau Adfer (BBLS)
  • Cronfa Swyddi’r Dyfodol

Bydd y cynlluniau'n cael eu hymestyn tan 30 Tachwedd 2020 ar gyfer ceisiadau newydd.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth y DU – COVID-19

Mae Croeso Cymru yn parhau i gydweithio â VisitBritain a VisitScotland wrth gynnal system tracio defnyddwyr y DU, a gallwch weld y canlyniadau diweddaraf ar gyfer 14-18 Medi ar wefan VisitBritain.

Mae’r casgliadau’n dangos dirywiad yn hwyliau’r cyhoedd a lleihad ym mwriadau teithio domestig. Gwelwyd lleihad yn nifer y bobl a oedd yn bwriadu mynd ar daith ym mis Medi/Hydref o 19% i 15%. Gann ad yw’r rhan fwyaf o bobl wedi archebu eu teithiau ar gyfer yr Hydref a’r Gaeaf eto gallai eu bwriadau newid wrth i hyder defnyddwyr newid. Yn ystod cyfnod yr arolwg roedd cyfyngiadau lleol mewn grym yng Nghaerffili, Rhondda Cynon Taf a nifer o farchnadoedd craidd Cymru yn Ne-ddwyrain Lloegr. Cafodd yr arolwg ei gynnal cyn y cyhoeddwyd cyfyngiadau cenedlaethol pellach gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a chyn cyhoeddi cyfyngiadau lleol dilynol mewn ardaloedd o Dde Cymru.


Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio â rhanddeiliaid allweddol i gyflwyno trefn ddi-fwg newydd yng Nghymru fydd yn anelu at ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag niwed mwg ail law ac at ddatnormaleiddio smygu. Cyhoeddodd  Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 29 Medi ei fod am i drefn newydd ddod i rym ar 1 Mawrth.

Bydd y mesurau newydd yn gwahardd smygu mewn rhagor o fannau cyhoeddus gan gynnwys tir ysgolion, tir ysbytai, mannau chwarae cyhoeddus a lleoliadau gofalu awyr agored i blant.  Bydd y ddeddfwriaeth yn newid pethau yn y sector twristiaeth hefyd.  Mewn ystafelloedd gwely mewn gwestai, tai llety ac ati, lle mae gwesteion yn cael smygu ar hyn o bryd, caiff smygu yn y pen draw ei wahardd, a bydd gofyn i lety gwyliau hunan-gynhaliol a dros dro (fel carafanau, bythynnod, apartmentau ac ati) fod yn ddi-fwg.  Er bod disgwyl i’r gofynion di-fwg newydd ddod i rym ar 1 Mawrth 2021, bydd y sector twristiaeth yn cael 12 mis ychwanegol i baratoi ar eu cyfer. Felly, o 1 Mawrth 2022, rhaid i bob llety fod yn ddi-fwg.

Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio’n glos â rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu manylion y pecyn gweithredu, gan gynnwys canllawiau i helpu rhanddeiliaid.  Os hoffech fwy o wybodaeth am y broses neu sut y caiff ei rhoi ar waith, cysylltwch â: PolisiTybaco@llyw.cymru.


Festival UK* 2022

Bydd Festival UK* 2022 yn ddeg prosiect agored, gwreiddiol, cadarnhaol, ar raddfa fawr a fydd yn ymgysylltu â'r cyhoedd ac yn arddangos creadigrwydd ac arloesedd y DU i'r byd.

Rydym yn chwilio am y meddyliau gorau a'r doniau disgleiriaf o'r meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg, yng Nghymru, i ffurfio Timau Creadigol a fydd yn gallu datblygu prosiectau ymgysylltu â'r cyhoedd ar raddfa fawr i arddangos creadigrwydd ac arloesedd y DU ar lwyfan rhyngwladol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Hydref 2020.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.


Llythyrau i fusnesau am y trefniadau masnachu newydd gyda’r UE o 1 Ionawr 2021

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi ysgrifennu at fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW ym Mhrydain ac sy’n masnachu gyda’r UE, neu’r UE a gweddill y byd. 

Maent yn egluro beth sydd angen i fusnesau angen ei wneud i baratoi ar gyfer prosesau newydd, neu symud nwyddau rhwng Prydain a’r UE o 1 Ionawr 2021.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.



Dolenni i ganllawiau defnyddiol eraill, asedau a phecynnau ar COVID-19 y gall eich busnes eu lawrlwytho

Rydym yn deall ei bod yn anodd cadw i fyny weithiau â phopeth sydd ar gael.  Bydd y dolenni isod yn eich helpu i weld pa adnoddau a phecynnau sydd ar gael i’ch helpu.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram