Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

16 Hydref 2020


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN – Cymru’n paratoi i gyflwyno cyfyngiadau teithio i atal y coronafeirws rhag lledaenu; Dinas Bangor – cyfyngiadau lleol; Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol; Cronfa i gefnogi gweithwyr llawrydd creadigol yng Nghymru y mae COVID-19 yn effeithio arnynt; COVID-19:  Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth y DU; Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE; Canllawiau wedi’u diweddaru ar Bontio’r UE; Cymorth a chefnogaeth os yw’ch busnes yn masnachu gyda’r UE;  Canllawiau newydd EHRC - Cyfrifoldeb cyfreithiol manwerthwyr at eu cwsmeriaid anabl; Diogelu gweithwyr bregus yn ystod y pandemig coronafeirws; Gwybodaeth  Defnyddiol COVID-19.


Cymru’n paratoi i gyflwyno cyfyngiadau teithio i atal y coronafeirws rhag lledaenu

Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi camau brys i atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â lefelau heintio uchel o ran y coronafeirws rhag teithio i Gymru, cadarnhawyd hynny gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford. Mae'r camau'n cael eu cymryd am nad yw Prif Weinidog y DU wedi ymateb i geisiadau Prif Weinidog Cymru i wneud y canllawiau teithio mewn mannau yn Lloegr lle mae lefelau’r coronafeirws yn uchel yn rhai gorfodol.

O dan y rheoliadau newydd sy’n cael eu paratoi gan Weinidogion Cymru, ni fyddai pobl sy'n byw mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion o’r coronafeirws yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael teithio i Gymru am y tro. Byddant yn helpu i atal y feirws rhag symud o ardaloedd o’r fath i gymunedau lle nad oes cynifer o achosion.

Y bwriad yw y bydd y cyfyngiadau newydd ddod i rym am 6pm ddydd Gwener 16 Hydref.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar wefan Llywodraeth Cymru.

Rydym wrthi’n diweddaru Cwestiynau Cyffredin Twristiaeth, Lletygarwch a Manwerthu a chaiff y rhain eu dosbarthu cyn gynted â phosibl. Edrychwch yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.


Dinas Bangor – cyfyngiadau lleol

Mae'r cyfyngiadau newydd ym Mangor yn berthnasol i bawb sy'n byw mewn wyth ward, sy'n rhan o Ddinas Bangor.  Cytunodd Llywodraeth Cymru ar y mesurau hyn mewn trafodaeth â'r awdurdod lleol, Prifysgol Bangor, y GIG, Heddlu Gogledd Cymru ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd. Daeth y cyfyngiadau i rym am 6pm ar 10 Hydref 2020.


Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol

Cronfa yw hon i ddarparu cymorth ariannol i fusnesau sy’n wynebu heriau gweithredol ac ariannol a achosir gan y cyfyngiadau lleol a osodwyd yn eu hardal lleol yn sgil COVID-19.  Diben y gronfa yw cefnogi busnesau gyda chymorth llif arian i’w helpu i oresgyn canlyniadau economaidd y cyfyngiadau lleol a roddwyd ar waith yn eu hardal lleol.

Bydd busnesau yn gymwys i wneud cais am y gronfa hon pan fydd eu ardal lleol wedi bod dan gyfyngiadau am leiafswm o 21 diwrnod. Bydd y gronfa ar agor i geisiadau yn eich ardal lleol ar, neu yn fuan ar ol, 28 diwrnod o’r cyfyngiadau yn bod mewn lle, ac yn cael ei weinyddu trwy eich Awdurdod Lleol. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.


Cronfa i gefnogi gweithwyr llawrydd creadigol yng Nghymru y mae COVID-19 yn effeithio arnynt

Bydd gweithwyr llawrydd yn y sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru’n gallu ymgeisio am eu cyfran o gronfa gwerth £7 miliwn sy’n targedu’n arbennig y rheini yn y sector llawrydd sydd wedi’u taro galetaf gan bandemig y coronavirus (COVID-19).  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


COVID-19:  Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth y DU

Mae Croeso Cymru yn parhau i gydweithio â Visit Britain a Visit Scotland i gynnal arolwg tracio defnyddwyr ar gyfer y DU. Mae’r canlyniadau diweddaraf sy’n cynnwys 28 Medi – 2 Hydref ar gael ar wefan Visit Britain. Mae’r canfyddiadau yn dangos bod hyder ynghylch gallu mynd ar daith yn ystod y misoedd nesaf wedi gollwng, a’r prif reswm dros hyn yw ‘cyfyngiadau gan y llywodraeth ar deithio’. Dywedodd 18% o oedolion yn y DU eu bod wedi mynd ar daith dros nos ym mis Medi, a Chymru oedd y cyrchfan ar gyfer 10% o wyliau ym mis Medi. Fodd bynnag, mae nifer yr oedolion sy’n bwriadu mynd ar daith dros nos yn y DU ym mis Hydref wedi gostwng i 10%.

Bydd adroddiad manylach sy’n canolbwyntio ar Gymru sy’n cynnwys 31 Awst – 2 Hydref yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Mawrth 20 Hydref.


Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Mae dinasyddion o Ewrop yn rhan annatod o weithlu'r sector twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru. Felly, rydym yn annog pob busnes i helpu eu gweithwyr o'r UE i wneud cais i'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Os ydych yn cyflogi dinasyddion o'r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu o'r Swistir, rhaid iddyn nhw a'u teuluoedd wneud cais i Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE er mwyn parhau i fyw a gweithio yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi uno mewn partneriaeth â nifer o wasanaethau cynghori i'ch galluogi chi i helpu eich gweithwyr o Ewrop i gael gafael ar y cymorth a allai fod ei angen arnynt i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a'ch helpu i gadw eich gweithwyr presennol. Mae'r pecyn cymorth hwn yn cynnwys cymorth digidol gyda cheisiadau neu help gydag ymholiadau sylfaenol ynghylch cymhwysedd oddi wrth Gyngor ar Bopeth. Mae cyngor mewnfudo arbenigol rhad ac am ddim hefyd ar gael ar gyfer pobl sydd ag achosion cymhleth, a ddarperir gan gwmni cyfreithiol Newfields Law.

Ceir rhagor o wybodaeth am Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar wefannau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.


Canllawiau wedi’u diweddaru ar Bontio’r UE

Mae'r DU wedi gadael yr UE, ac mae'r cyfnod pontio ar ôl Brexit yn dod i ben eleni. Darllenwch y canllawiau sydd wedi'u diweddaru, gan gynnwys gwybodaeth ar y camau sydd angen i chi eu cymryd i ddiogelu data a llif data gyda’r UE/AEE ar ddiwedd y cyfnod pontio

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Cymorth a chefnogaeth os yw’ch busnes yn masnachu gyda’r UE

Cyfle i ddysgu mwy am fasnachu gyda’r UE o 1 Ionawr 2021.

I brynu neu werthu o’r UE, bydd angen i’ch busnes ddilyn rheolau tollau newydd neu ni fyddwch yn cael dal ati i fasnachu. Mae angen cymryd y camau pwysig hyn pa beth bynnag fydd canlyniad trafodaethau â’r UE ac a yw Llywodraeth y DU yn sicrhau Cytundeb Masnach Rydd ai peidio.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Canllawiau newydd EHRC - Cyfrifoldeb cyfreithiol manwerthwyr at eu cwsmeriaid anabl

Mewn ymateb i bryderon cynyddol ynghylch hygyrchedd archfarchnadoedd a manwerthwyr cyn ail don bosibl o gyfyngiadau, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi cyhoeddi canllawiau newydd i helpu'r diwydiant i gynorthwyo cwsmeriaid anabl yn well yn ystod y pandemig.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.


Diogelu gweithwyr bregus yn ystod y pandemig coronafeirws

Os oes gan eich busnes weithwyr, yna gofalwch eich bod yn ystyried y risg i weithwyr sy’n agored iawn i goronafeirws a rhowch fesurau rheoli ar waith i leihau’r risg hwnnw.  Mae canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn egluro beth ddylech chi ei wneud fel cyflogwr i ddiogelu gweithwyr bregus yn ystod y pandemig.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru


Gwybodaeth  Defnyddiol COVID-19

Rydym yn deall ei bod yn anodd cadw i fyny weithiau â phopeth sydd ar gael.  Bydd y dolenni isod yn eich helpu i weld pa adnoddau a phecynnau sydd ar gael i’ch helpu.

Cwestiynau Cyffredin:

Mae'r rhain yn cael eu diweddaru’n gyson,  edrychwch yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Canllawiau:

Adnoddau a Phecynnau Cymorth y gellir eu lawrlwytho ar gyfer eich busnes:

  • Adnoddau cyffredinol Cadw Cymru'n Ddiogel gan gynnwys posteri i'w lawrlwytho.
  • Pecyn ac adnoddau Profi Olrhain Diogelu gan gynnwys Cadw cofnodion.
  • Pecynnau Darganfod Cymru'n Ddiogel sy’n cynnwys canllawiau i’r diwydiant a phethau i’w lawrlwytho fel posteri i’ch helpu i rannu negeseuon Addo, a hefyd casgliad o luniau sydd wedi’u dewis yn ofalus i dynnu sylw at fannau agored a’r angen i gadw pellter. (os mai dyma’r tro cyntaf ichi ddefnyddio’r safle, bydd angen munud o’ch amser i gofrestru – yn ogystal â’r uchod, mae’n cynnwys llyfrgell anferth o luniau a gwybodaeth am ddim). Defnyddiwch #Addo #DiogeluCymru ar y cyd â ymgyrch y DU #EscapeTheEveryday (Mae Croeso Cymru yn gweithio ar yr ymgyrch domestig yma yn yr hydref mewn partneriaeth â Visit England).

Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram