Bwletin Newyddion : Y Gronfa Cadernid Economaidd – Dysgwch a yw eich busnes yn gymwys i gael cymorth gan y trydydd cam

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

7 Hydref 2020


covid

Y Gronfa Cadernid Economaidd – Dysgwch a yw eich busnes yn gymwys i gael cymorth gan y trydydd cam

Gall busnesau ledled Cymru bellach gael gwybod a ydyn nhw’n gallu gwneud cais am drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd drwy ymweld â'r Gwiriwr Cymhwysedd ar-lein.

Yr wythnos diweddaf cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, gyfnod newydd y gronfa, a fydd yn gweld £140 miliwn yn cael ei wneud ar gael i fusnesau. Bydd y gwiriwr cymhwysedd yn galluogi busnesau i wirio a ydyn nhw’n gymwys i gael mynediad at y rhan hon o’r gronfa, gwerth £80 miliwn, a fydd yn cefnogi cwmnïau a chanddynt brosiectau a fydd yn eu helpu i fod yn rhan o economi’r dyfodol.

Bydd £20 miliwn o’r cyllid hwn yn cael ei glustnodi i gefnogi’r sector twristiaeth a lletygarwch, sy’n wynebu heriau penodol wrth i ni ddechrau misoedd y gaeaf.

  • Bydd microfusnesau (sy’n cyflogi rhwng 1 a 9 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £10,000, ar yr amod eu bod yn buddsoddi o leiaf 10% o’r swm maen nhw’n ei dderbyn o’u harian eu hunain.  Ar gyfer micro fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch, bydd disgresiwn ar gyfer dyfarnu grant o hyd at 100%;
  • Bydd busnesau bach a chanolig (sy’n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £150,000. Bydd yn ofynnol i fusnesau bach (hyd at 50 o weithwyr) gyfateb hyn â'u buddsoddiad eu hunain o 10% o leiaf a busnesau canolig (rhwng 50 a 249 o weithwyr) gydag o leiaf 20% o'u cyllid eu hunain; Ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig Twristiaeth a Lletygarwch, bydd disgresiwn ar gyfer dyfarnu grant o hyd at 100%;
  • Bydd busnesau mawr (sy’n cyflogi dros 250 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £200,000, ar yr amod eu bod yn buddsoddi o leiaf 50% o’r swm hwn o’u harian eu hunain.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar fanylion y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol. Cyhoeddir rhagor o fanylion a gwybodaeth ynglŷn  a sut i gael mynediad at y gronfa hwn ar wefan Busnes Cymru maes o law.

Bydd y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol, gwerth hyd at £60 miliwn, yn rhoi grantiau ar sail y system Ardrethi Annomestig i fusnesau sydd wedi dioddef effeithiau sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau lleol.

Gallai busnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd mewn adeiladau â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 gael grant gwerth £1,500.

Bydd grant gwerth £1,000 ar gael i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Mae cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol i fusnesau ledled Cymru wrth ymdrin ag effeithiau economaidd pandemig y coronafeirws.

“Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn allweddol i’r gwaith hwn, ac mae eisoes wedi helpu i ddiogelu mwy na 100,000 o swyddi.

“Rydyn ni’n agor y gwiriwr cymhwysedd ar gyfer £80 miliwn nesaf y gronfa fel y gall busnesau ddysgu a ydyn nhw’n debygol o elwa. Rydyn ni wedi clustnodi £20 miliwn o’r cyllid hwn yn enwedig ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch, i gydnabod y pwysau penodol maent yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod heriol hwn.

“Bydd y broses ymgeisio yn agor yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Hydref. Byddaf hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut y gall busnesau yr effeithir arnyn nhw gan gyfyngiadau lleol gael mynediad ar y £60 miliwn rydyn ni wedi ei glustnodi at y diben hwn maes o law.”


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram