Bwletin newyddion: £140m i helpu busnesau Cymru; Rhagor o gyfyngiadau lleol i reoli’r cynnydd yn y coronafeirws yn y De; Cyfnodau clo lleol – cwestiynau cyffredin; Ymwelwyr o ardaloedd lle mae nifer uwch o achosion o’r coronafeirws; Mesurau newydd wedi'u cyflwyno ar gyfer busnesau lletygarwch − cwestiynau ac atebion.

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

28 Medi 2020


covid

£140m i helpu busnesau Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo £140 miliwn o arian ychwanegol i helpu busnesau i ddelio â’r heriau economaidd sydd wedi dod yn sgil coronafeirws (COVID-19) ac a ddaw pan fydd y DU yn gadael yr UE, meddai Gweinidog yr Economi, Ken Skates.

Bydd trydydd cymal Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru yn neilltuo mwy o arian i ddiogelu swyddi a helpu busnesau i ddatblygu yn ogystal â rhoi help ychwanegol i fusnesau sy’n dod o dan y cyfyngiadau lleol.

Mae’r ERF hyd yma wedi rhoi bron £300 miliwn o gymorth i ragor na 13,000 o gwmnïau yng Nghymru. Diolch i’r cymorth hwnnw, mae rhagor na 100,000 o swyddi a fyddai wedi’u colli efallai fel arall wedi’u diogelu.

Trwy gymal newydd yr ERF, caiff £80 miliwn ei neilltuo i helpu busnesau i gynnal prosiectau i’w helpu i addasu i economi’r dyfodol. Bydd gofyn i’r cwmnïau gyd-fuddsoddi a pharatoi cynllun clir ar sut i addasu i economi mewn byd ar ôl coronafeirws (COVID-19).

O hwn, bydd £20 miliwn wedi’i glustnodi i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch* sy’n wynebu anawsterau difrifol wrth inni gamu tua’r gaeaf.

Yn y cyfamser, caiff £60 miliwn ei neilltuo i helpu busnesau y bydd y cyfyngiadau clo lleol yn effeithio arnyn nhw.

Caiff gweddill yr arian ei ddefnyddio i roi cymorth hyblyg ychwanegol, er enghraifft, i gynyddu benthyciadau Banc Datblygu Cymru i fusnesau Cymru a helpu cwmnïau i ddelio ag effeithiau gadael yr UE.

Mae’r ERF wedi’i dylunio i ategu a chryfhau’r cymorth sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU.

Bydd yr £80 miliwn o grantiau datblygu busnesau ar gael i ficrofusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr.

  • Bydd microfusnesau (sy’n cyflogi rhwng 1 a 9 o bobl) yn cael gwneud cais am hyd at £10,000 cyn belled â’u bod yn buddsoddi o leiaf 10% o werth y swm hwnnw eu hunain.
  • Bydd BBaChau (sy’n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl) yn cael gwneud cais am hyd at £150,000 cyn belled â’u bod yn buddsoddi o leiaf 10% (busnesau bach – 1 i 49 o staff) neu 20% (busnesau canolig eu maint – 50 i 249) o werth y swm hwnnw eu hunain.
  • Bydd busnesau mawr (yn cyflogi 250+ o bobl) yn cael gwneud cais am hyd at £200,000 cyn belled â’u bod yn buddsoddi o leiaf 50% o werth y swm hwnnw eu hunain.

Gallai cwmnïau a dderbyniodd grantiau yng ngham un a dau’r ERF, neu gymorth gyda’u hardrethi annomestig, fod yn gymwys am arian cam tri’r ERF hefyd.

Bydd y Gwiriwr Cymhwysedd sy’n dangos i gwmnïau a ydyn nhw’n gymwys am arian trydydd cam yr ERF yn gweithio yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 5 Hydref.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.

*Caiff meini prawf penodol y cynllun twristiaeth eu cyhoeddi’n fuan iawn a’u disgrifio yn y cylchlythyr hwn ac ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.


Rhagor o gyfyngiadau lleol i reoli’r cynnydd yn y coronafeirws yn y De

Rydym yn tynhau’r cyfreithiau yng Nghastell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thor-faen fel ymateb i’r cynnydd yn nifer yr achosion o’r coronafeirws, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Daw’r cyfyngiadau lleol i rym o 6yh Dydd Llun, 28 Medi.

Bydd y cyfyngiadau’n effeithio ar bawb sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thor-faen ac yn cynnwys:

  • Ni fydd pobl yn cael gadael yr ardaloedd hyn, na dod i mewn iddynt, heb esgus resymol, fel teithio ar gyfer gwaith neu addysg;
  • Os ydych am gwrdd â phobl sydd ddim yn byw gyda chi, rhaid cwrdd yn yr awyr agored, am y tro.  Fydd pobl ddim yn cael ffurfio na bod mewn aelwyd estynedig (neu ‘swigen’). Mae hynny’n golygu na fydd pobl yn cael cwrdd dan do (yn nhai pobl, mewn tafarn neu rywle arall) â phobl nad ydyn nhw’n byw gyda nhw heb reswm da, fel gofalu am berson bregus.
  • Rhaid i bob safle trwyddedig roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm.
  • Rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn lleoedd dan do sy’n agored i’r cyhoedd, fel siopau, yn ogystal ag ar drafnidiaeth gyhoeddus – fel ag yn ngweddill Cymru.  (Bydd rhai eithriadau, fel pobl sydd ag anableddau neu â chyflyrau meddygol – fel ag ar drafnidiaeth gyhoeddus)

Mae cyfyngiadau lleol ar waith eisoes mewn saith ardal arall yn y De – Blaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Llanelli yn Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chasnewydd.

Daeth cyfyngiadau i rym yng Nghaerdydd ac Abertawe am 6yh Dydd Sul 27 Medi.

Mae’r rhan fwyaf o’r De bellach felly o dan gyfyngiadau lleol – er yr un yw’r cyfyngiadau ym mhob awdurdod lleol, nid yw hynny’n golygu bod pobl o un ardal o dan gyfyngiadau lleol yn cael mynd i ardal arall o dan gyfyngiadau lleol oni bai bod ganddyn nhw esgus resymol, fel teithio ar gyfer gwaith neu addysg.

Bydd holl fesurau’r cyfyngiadau lleol yn destun adolygiad cyson. Yr awdurdodau lleol a’r heddlu fydd yn gyfrifol am eu gorfodi.

Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i gadw golwg ar y sefyllfa yn y Gogledd.  Mae nifer yr achosion yno lawer yn is nag yn y De, ond mae yna dystiolaeth bod y coronafeirws ar gynnydd mewn rhannau o’r rhanbarth.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cyfnodau clo lleol – cwestiynau cyffredin

Gweler y Cwestiynau Cyffredin ar gyfnodau clo lleol – maent yn cynnwys ymholiadau a fydd yn berthnasol iawn i ymwelwyr a gweithredwyr llety ee

Nid wyf yn un o drigolion ardal (amddiffyn iechyd lleol) ond rwyf yn yr ardal ar hyn o bryd – a oes angen i mi adael ar frys? 

  • Os nad oes gennych reswm da ("esgus rhesymol") dros aros yn yr ardal, dylech adael cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
  • Os oes gennych esgus rhesymol dros aros, yna tra byddwch yn ardal (amddiffyn iechyd lleol), dylech ddilyn y cyfyngiadau lleol sydd ar waith a chyfyngu ar eich cysylltiadau ag eraill gymaint ag sy'n bosibl.

Ar ôl ichi adael yr ardal, byddwch yn ofalus o ran dod i gysylltiad â phobl eraill a byddwch yn ymwybodol o unrhyw symptomau posibl o’r coronafeirws.


Ymwelwyr o ardaloedd lle mae nifer uwch o achosion o’r coronafeirws

Mae canllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad a coronafeirws, mae hyn yn cynnwys manylion sy'n ymwneud ag ymwelwyr â llety a busnesau eraill.


Mesurau newydd wedi'u cyflwyno ar gyfer busnesau lletygarwch − cwestiynau ac atebion

Ni chaniateir i unrhyw safle trwyddedig yng Nghymru weini alcohol bellach ar ôl 10yh, a rhaid iddynt fod wedi cau erbyn 10.20yh.  Hefyd, dim ond gwasanaeth wrth y bwrdd y caiff mangreoedd trwyddedig ei ddarparu. Bydd yn rhaid i siopau diodydd trwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd a siopau cyfleustra roi'r gorau i werthu alcohol am 10yh hefyd. Caniateir i nwyddau a archebir ar-lein gan archfarchnadoedd a gwasanaethau tecawê ar ôl 10yh ond ni ddylent gynnwys alcohol.

Mae'r mesurau newydd yn rhan o becyn o gamau gweithredu cyd-gysylltiedig, sy'n cael eu cyflwyno ledled y DU, i reoli lledaeniad y coronafeirws, daethant i rym yng Nghymru am 6yh ar 23 Medi ac mae rhestr fanwl o gwestiynau cyffredin ar gael.  

Gallwch ddarllen y mesurau a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn ein Bwletin Newyddion. Amlinellwyd rhagor o fanylion am y cyfyngiadau yng nghynhadledd y Prif Weinidog i'r wasg ar 23 Medi – mae i’w gweld ar-lein yma.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram