Bwletin newyddion: Cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws lleol i reoli achosion yn y Gogledd; Cyfnodau clo lleol – cwestiynau cyffredin; Ymwelwyr o ardaloedd lle mae nifer uwch o achosion o’r coronafeirws; Nodyn i’ch atgoffa: Mesurau newydd wedi'u cyflwyno ar gyfer busnesau lletygarwch − cwestiynau ac atebion.

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

30 Medi 2020


covid

Cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws lleol i reoli achosion yn y Gogledd

Mae cyfyngiadau coronafeirws newydd yn cael eu cyflwyno yn ardaloedd pedwar o awdurdodau lleol y Gogledd – Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Wrecsam –  yn dilyn cynnydd mewn achosion, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething ar 29 Medi

Daw'r mesurau newydd i rym am 6pm ddydd Iau 1 Hydref, i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws yn y pedair ardal.

Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy'n byw yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Wrecsam:

  • Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i'r ardaloedd hyn na'u gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu i dderbyn addysg
  • Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw. Ni fyddant yn cael ffurfio aelwyd estynedig, na bod yn rhan o un.

Bydd y cyfyngiadau yn ychwanegol at y rheolau sy’n berthnasol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys:

  • Rhaid i bob safle trwyddedig roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm
  • Rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do.

Mae'r cyfyngiadau'n cael eu cyflwyno yn dilyn cynnydd cyflym yn nifer yr achosion o’r coronafeirws sydd wedi’u cadarnhau, a’r rheini’n gysylliedig â phobl sy'n cyfarfod dan do, yn peidio â dilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol ac yn dychwelyd o wyliau'r haf mewn gwledydd tramor.

Cyfarfu Llywodraeth Cymru ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'r heddlu ledled y Gogledd  ar 29 Medi  i drafod y sefyllfa ar draws y rhanbarth, pa fesurau y gellid eu cymryd i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach a sut i ddiogelu iechyd pobl. 

Ar hyn o bryd, ni fydd cyfyngiadau lleol yn cael eu cyflwyno yn Ynys Môn na Gwynedd, lle mae nifer yr achosion yn is.

Bydd y cyfyngiadau lleol newydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Byddant yn cael eu gorfodi gan yr awdurdodau lleol a’r heddlu.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cyfnodau clo lleol – cwestiynau cyffredin

Gweler y Cwestiynau Cyffredin ar gyfnodau clo lleol – maent yn cynnwys ymholiadau a fydd yn berthnasol iawn i ymwelwyr a gweithredwyr llety ee

Nid wyf yn un o drigolion ardal (amddiffyn iechyd lleol) ond rwyf yn yr ardal ar hyn o bryd – a oes angen i mi adael ar frys?

  •  Os nad oes gennych reswm da ("esgus rhesymol") dros aros yn yr ardal, dylech adael cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
  • Os oes gennych esgus rhesymol dros aros, yna tra byddwch yn ardal (amddiffyn iechyd lleol), dylech ddilyn y cyfyngiadau lleol sydd ar waith a chyfyngu ar eich cysylltiadau ag eraill gymaint ag sy'n bosibl.
  • Ar ôl ichi adael yr ardal, byddwch yn ofalus o ran dod i gysylltiad â phobl eraill a byddwch yn ymwybodol o unrhyw symptomau posibl o’r coronafeirws.

Ymwelwyr o ardaloedd lle mae nifer uwch o achosion o’r coronafeirws

Mae canllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad a coronafeirws, mae hyn yn cynnwys manylion sy'n ymwneud ag ymwelwyr â llety a busnesau eraill.


Nodyn i’ch atgoffa: Mesurau newydd wedi'u cyflwyno ar gyfer busnesau lletygarwch − cwestiynau ac atebion

Ni chaniateir i unrhyw safle trwyddedig yng Nghymru weini alcohol bellach ar ôl 10yh, a rhaid iddynt fod wedi cau erbyn 10.20yh.  Hefyd, dim ond gwasanaeth wrth y bwrdd y caiff mangreoedd trwyddedig ei ddarparu. Bydd yn rhaid i siopau diodydd trwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd a siopau cyfleustra roi'r gorau i werthu alcohol am 10yh hefyd. Caniateir i nwyddau a archebir ar-lein gan archfarchnadoedd a gwasanaethau tecawê ar ôl 10yh ond ni ddylent gynnwys alcohol.

Mae'r mesurau newydd yn rhan o becyn o gamau gweithredu cyd-gysylltiedig, sy'n cael eu cyflwyno ledled y DU, i reoli lledaeniad y coronafeirws, daethant i rym yng Nghymru am 6yh ar 23 Medi ac mae rhestr fanwl o gwestiynau cyffredin ar gael.  

Gallwch ddarllen y mesurau a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn ein Bwletin Newyddion. Amlinellwyd rhagor o fanylion am y cyfyngiadau yng nghynhadledd y Prif Weinidog i'r wasg ar 23 Medi – mae i’w gweld ar-lein yma.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram