Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

25 Medi 2020


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN – Cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws lleol i reoli brigiadau o achosion yn y De; Mae'r uchod yn ychwanegu at y cyfyngiadau coronafeirws sydd eisoes mewn lle ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd; Adolygu’r cyfyngiadau lleol ym mwrdeistref Caerffili; Cyfnodau clo lleol – cwestiynau cyffredin; Mesurau newydd wedi'u cyflwyno ar gyfer busnesau lletygarwch − cwestiynau ac atebion; Canghellor y DU yn amlinellu Cynllun Economi'r Gaeaf; Lansiwyd Ap COVID-19 y GIG ledled Cymru a Lloegr; Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu; Ymwelwyr o ardaloedd lle mae nifer uwch o achosion o’r coronafeirws; Nodyn atgoffa ac arweiniad: Cyfyngiadau ar gwrdd yn gymdeithasol â gorfodi gorchuddion wyneb; Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd y flwyddyn; Newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws o fis Hydref; Lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd; Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - Y diweddaraf am COVID-19 i’ch busnes / Straen cysylltiedig â gwaith, llesiant gweithwyr ac iechyd meddwl; Dolenni i ganllawiau defnyddiol eraill, asedau a phecynnau ar COVID-19 y gall eich busnes eu lawrlwytho.   


Cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws lleol i reoli brigiadau o achosion yn y De

Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd rheolau'r coronafeirws yn cael eu tynhau ar draws y De y penwythnos hwn, gan gynnwys yn y brifddinas, mewn ymateb i gynnydd yn lledaeniad y feirws.

Bydd cyfyngiadau lleol yn dod i rym yn Llanelli am 6pm ddydd Sadwrn – y tro cyntaf i gyfyngiadau gael eu cyflwyno yn fwy lleol – ac yn Abertawe a Chaerdydd am 6pm ddydd Sul.

Bydd Gweinidogion hefyd yn cwrdd ag arbenigwyr iechyd y cyhoedd, arweinwyr awdurdodau lleol ac eraill dros y penwythnos i ystyried a oes angen estyn y cyfyngiadau lleol i Gastell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thorfaen nos Sul.

Dyma’r cyfyngiadau a fydd yn berthnasol i bawb sy’n byw yn Llanelli, Caerdydd ac Abertawe:

  • Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i'r ardaloedd hyn na'u gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu i dderbyn addysg.
  • Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw. Ni fyddant yn cael ffurfio aelwyd estynedig, na bod yn rhan o aelwyd estynedig (a elwir weithiau’n ‘swigen’). Mae hyn yn golygu nad yw cwrdd o dan do (yn nhai pobl, mewn tafarn neu rywle arall) ag unrhyw un nad yw’n byw gyda chi yn cael ei ganiatáu ar hyn o bryd, oni bai bod gennych reswm da, fel gofalu am rywun agored i niwed.
  • Rhaid i bob safle trwyddedig beidio â gwerthu alcohol ar ôl 10pm.
  • Bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau o dan do, sy’n agored i’r cyhoedd, fel siopau, yn ogystal ag ar drafnidiaeth gyhoeddus – fel yng ngweddill Cymru. (Mae rhai eithriadau cyfyngedig i bobl ag anableddau a chyflyrau meddygol – mae’r rhain yr un fath ag ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.)

Yn sir Gaerfyrddin, mae camau mwy lleol yn cael eu cymryd gan fod mwy nag wyth o bob 10 achos yn gysylltiedig â thref Llanelli. Bydd ffiniau ward y dref yn cael eu defnyddio i ddiffinio terfynau’r cyfyngiadau.

Bydd gwiriwr cod post ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ynghyd â manylion llawn am y cyfyngiadau.

Mae cyfyngiadau lleol eisoes ar waith mewn chwe ardal arall yn y De – Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, bwrdeistref Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chasnewydd.

Bydd y cyfyngiadau lleol newydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Byddant yn cael eu gorfodi gan awdurdodau lleol a'r heddlu.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw golwg agos ar y sefyllfa yn y Gogledd, lle mae’r darlun yn un cymysg – mae nifer yr achosion yn llawer is nag yn y De, ond mae tystiolaeth bod y coronafeirws yn cynyddu mewn rhai rhannau o’r rhanbarth.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar wefan Llywodraeth Cymru.


Mae'r uchod yn ychwanegu at y cyfyngiadau coronafeirws sydd eisoes mewn lle ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd

Mae cyfreithiau coronafeirws yn cael eu tynhau mewn pedwar awdurdod lleol arall yng Nghymru – Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd – yn dilyn cynnydd sydyn yn nifer yr achosion. Daeth y mesurau newydd i rym am 6yh dydd Mawrth 22 Medi 2020 i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws yn ardaloedd y pedwar awdurdod lleol hyn.

Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy'n byw ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd.  Bydd y cyfyngiadau lleol newydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Byddant yn cael eu gorfodi gan awdurdodau lleol a'r heddlu.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Adolygu’r cyfyngiadau lleol ym mwrdeistref Caerffili

Adolygwyd y cyfyngiadau cloi lleol a gyflwynwyd ar 8 Medi i reoli achosion Sir Caerffili gan Weinidogion Cymru ar 24 Medi. Mae achosion o’r coronafeirws wedi syrthio yn gyson ers i’r cyfyngiadau gael eu cyflwyno bythefnos yn ôl a bu cydymffurfiaeth â'r cyfyngiadau yn uchel iawn. Fodd bynnag, gan fod y cyfraddau heintio yn parhau i fod yn uchel yn y fwrdeistref, penderfynwyd gadael y cyfyngiadau yn eu lle am o leiaf saith diwrnod arall.  Anogir pobl sy'n byw ym mwrdeistref Caerffili i barhau i ddilyn y rheolau hyn. Bydd y mesurau cyfyngiadau lleol yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. 

Darllenwch y Datganiad Ysgrifenedig yn llawn ar Llyw.Cymru.  


Cyfnodau clo lleol – cwestiynau cyffredin

Gweler y Cwestiynau Cyffredin ar gyfnodau clo lleol – maent yn cynnwys ymholiadau a fydd yn berthnasol iawn i ymwelwyr a gweithredwyr llety ee

Nid wyf yn un o drigolion ardal (amddiffyn iechyd lleol) ond rwyf yn yr ardal ar hyn o bryd – a oes angen i mi adael ar frys? 

  • Os nad oes gennych reswm da ("esgus rhesymol") dros aros yn yr ardal, dylech adael cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
  • Os oes gennych esgus rhesymol dros aros, yna tra byddwch yn ardal (amddiffyn iechyd lleol), dylech ddilyn y cyfyngiadau lleol sydd ar waith a chyfyngu ar eich cysylltiadau ag eraill gymaint ag sy'n bosibl.
  • Ar ôl ichi adael yr ardal, byddwch yn ofalus o ran dod i gysylltiad â phobl eraill a byddwch yn ymwybodol o unrhyw symptomau posibl o’r coronafeirws.

Mesurau newydd wedi'u cyflwyno ar gyfer busnesau lletygarwch − cwestiynau ac atebion

Ni chaniateir i unrhyw safle trwyddedig yng Nghymru weini alcohol bellach ar ôl 10yh, a rhaid iddynt fod wedi cau erbyn 10.20yh.  Hefyd, dim ond gwasanaeth wrth y bwrdd y caiff mangreoedd trwyddedig ei ddarparu. Bydd yn rhaid i siopau diodydd trwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd a siopau cyfleustra roi'r gorau i werthu alcohol am 10yh hefyd. Caniateir i nwyddau a archebir ar-lein gan archfarchnadoedd a gwasanaethau tecawê ar ôl 10yh ond ni ddylent gynnwys alcohol.

Mae'r mesurau newydd yn rhan o becyn o gamau gweithredu cyd-gysylltiedig, sy'n cael eu cyflwyno ledled y DU, i reoli lledaeniad y coronafeirws, daethant i rym yng Nghymru am 6yh ar 23 Medi ac mae rhestr fanwl o gwestiynau cyffredin ar gael.  

Gallwch ddarllen y mesurau a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn ein Bwletin Newyddion. Amlinellwyd rhagor o fanylion am y cyfyngiadau yng nghynhadledd y Prif Weinidog i'r wasg ar 23 Medi – mae i’w gweld ar-lein yma.


Canghellor y DU yn amlinellu Cynllun Economi'r Gaeaf

Mae Canghellor y DU Rishi Sunak wedi amlinellu cymorth ychwanegol gan y llywodraeth i roi sicrwydd i fusnesau a gweithwyr ledled y DU sydd wedi cael eu heffeithio gan coronafeirws, gan gyhoeddi:

Am fanylion pellach ewch i wefan Gov.UK.

Bwrwch olwg ar dudalennau COVID-19 – Cymorth i Fusnesau Busnes Cymru i weld pa gyngor a chymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru.


Lansiwyd Ap COVID-19 y GIG ledled Cymru a Lloegr

Mae pobl ledled Cymru a Lloegr yn cael eu hannog i lawrlwytho ap COVID-19 y GIG i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws a gwarchod eu hunain a’u hanwyliaid wrth i nifer yr achosion gynyddu.  Lansiwyd yr ap ddydd Iau 24 Hydref ar ôl treialon cadarnhaol a bydd yn adnodd defnyddiol i’w roi ar waith ochr yn ochr â system olrhain cysylltiadau faniwal lwyddiannus Cymru.  Darllenwch y cyhoeddiad llawn ar Llyw.Cymru

Mae amrywiaeth o ddeunyddiau ar gael i chi eu lawrlwytho a'u rhannu gyda'ch rhwydwaith ac ar eich sianeli cyfathrebu.

Cewch fwy o wybodaeth am yr ap ac i lawrlwytho'r cod QR unigryw ar gyfer eich busnes.


Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu

Ni fydd Ap newydd COVID-19 y GIG (a grybwyllir uchod) yn ddewis arall i fusnesau lletygarwch a lleoliadau risg uchel eraill gadw cofnodion staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr i helpu gyda profi, olrhain a diogelu, rhag ofn y bydd achosion yn codi.  Golyga hyn y bydd yn parhau yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru mewn tafarndai, bariau, caffis a bwytai i gasglu a chadw gwybodaeth staff, ymwelwyr a chwsmeriaid am 21 niwrnod, p’un eu bod yn arddangos poster cod QR swyddogol sy’n gysylltiedig â’r Ap COVID-19 newydd ai peidio.  Er y bydd busnesau yn cael eu hannog i arddangos y poster cod QR, nid yw’r Ap yn cynnwys y gofyniad sy’n gysylltiedig â’r canllawiau hyn, felly bydd yr angen i gasglu manylion yn parhau fel ar hyn o bryd.  

Er nad yw busnesau twristiaeth wedi’u cynnwys yn y canllawiau gorfodol hyn, caiff cwmnïau llety eu hatgoffa o bwysigrwydd parhau i gasglu manylion cwsmeriaid wrth archebu, ac i gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu y GIG gyda’r wybodaeth hon os oes angen. 

Mae canllawiau ar Gadw cofnodion staff, cwsmeriaid, ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu ar gael ar Llyw.Cymru.


Ymwelwyr o ardaloedd lle mae nifer uwch o achosion o’r coronafeirws

Mae canllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad a coronafeirws, mae hyn yn cynnwys manylion sy'n ymwneud ag ymwelwyr â llety a busnesau eraill.


Nodyn atgoffa ac arweiniad: Cyfyngiadau ar gwrdd yn gymdeithasol â gorfodi gorchuddion wyneb

Daeth gorchuddion wynebau yn orfodol mewn mannau cyhoeddus dan do ledled Cymru o ddydd Llun 14 Medi wrth i reolau gael eu tynhau i atal argyfwng coronafirws newydd.  Cyhoeddwyd canllawiau wedi'u diweddaru:

Dylai busnesau gydymffurfio â’r rheol chwech o aelwydydd estynedig p’un ai bod yr archeb yn cael ei wneud gan westeion y tu allan i Gymru - ble y gallai rheolau gwahanol fod yn berthnasol - ai peidio. 

Mae dal angen i fusnesau sydd â chanolfannau y tu allan i Gymru gydymffurfio â Rheoliadau Cymru ar gyfer unrhyw ran o’u busnes sy’n gweithredu yng Nghymru.  


Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd y flwyddyn

Mae Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd 2020, mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi.

Fel rhan o’r gweithredu i gefnogi busnesau mewn cyfnod o galedi parhaus o ganlyniad i COVID-19, mae’r moratoriwm ar fforffedu prydles am beidio â thalu rhent, a oedd i ddod i ben ar 30 Medi, wedi cael ei estyn tan 31 Rhagfyr 2020.

Dylid parhau i dalu rhent pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, ond bydd y mesur diweddaraf yn sicrhau nad oes unrhyw fusnes yn cael ei droi allan o’i safle os yw’n methu talu ei rent rhwng nawr a diwedd 2020. Bydd hyn hefyd yn lleihau’r baich ar fanwerthwyr yn ystod cyfnod sy’n heriol iawn i’r sector, gan gynnwys diwedd Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU. Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru


Newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws o fis Hydref

Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn newid o 1 Hydref 2020 a bydd yn cau ar 31 Hydref 2020.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau i helpu cyflogwyr a busnesau i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â chlefyd coronaidd y galon mewn gweithleoedd. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.


Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

  • Y diweddaraf am COVID-19 i’ch busnes Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (AGIaD) wedi cyhoeddi canllawiau a gwybodaeth amrywiol ar y coronafeirws a allai fod yn ddefnyddiol i’ch busnes. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
  • Straen cysylltiedig â gwaith, llesiant gweithwyr ac iechyd meddwl - Mae gan AGIaD adnoddau hefyd i helpu cyflogwyr gefnogi staff sydd â straen sy’n gysylltiedig â gwaith a chyflyrau iechyd meddwl. Gall cynllunio, hyfforddiant a chymorth oll ysgafnhau’r pwysau a dod â lefelau straen i lawr.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.

Dolenni i ganllawiau defnyddiol eraill, asedau a phecynnau ar COVID-19 y gall eich busnes eu lawrlwytho

Rydym yn deall ei bod yn anodd cadw i fyny weithiau â phopeth sydd ar gael.  Bydd y dolenni isod yn eich helpu i weld pa adnoddau a phecynnau sydd ar gael i’ch helpu.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram