Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Medi 2020

Medi 2020 • Rhifyn 016

 
 

Newyddion

Paratoi eich Busnes i Gyfnod Pontio UE 1 Ionawr 2021

Yn yr wythnosau i ddod, byddwn yn rhoi gwybodaeth bwysig i chi am yr hyn y dylech ei wneud i baratoi’ch busnes ar gyfer Ionawr 2021.

EU Transition

Yn y cyfamser, mae'r holl wybodaeth sydd angen arnoch ar sut fydd y  cyfnod pontio yn effeithio ar eich busnes ar camau y mae angen i chi gymryd yn awr er mwyn masnachu gyda'r UE ar ddiwedd y cyfnod pontio ar gael ar Gov.UK/transition/cy.

 

Andy Richardson

Nodyn gan Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru - Medi 2020

Dros yr wyth mis diwethaf, mae busnesau bwyd a diod ar draws Cymru wedi gorfod addasu, bod yn hyblyg a datblygu modelau busnes cadarnach o ganlyniad i bandemig Covid-19. Heb os nac oni bai, mae llawer o fusnesau wedi wynebu caledi ac maent yn parhau i wneud hynny, a hynny heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Ond o newid cadwyni cyflenwi i gyflwyno cynhyrchion neu wasanaethau newydd, mae busnesau yng Nghymru wedi dechrau cymryd y camau cyntaf i fod yn fwy gwydn yn dilyn argyfwng y coronafeirws ac i fod yn fwy cynaliadwy wrth i ni baratoi ar gyfer Brexit.

EU Settlement scheme

Cynllun Cytundeb yr UE

Dinasyddion Ewropeaidd yw nifer sylweddol o weithlu bwyd a diod Cymru, felly rydym yn annog   yr holl fusnesau i gefnogi eu gweithwyr Ewropeaidd  i wneud cais i Gynllun Cytundeb y UE.

Os ydych yn cyflogi dinasyddion o'r UE, yr AEE neu'r Swistir, gallant hwy, a'i teuluoedd, wneud cais  i Gynllun Cytundeb y UE i allu parhau i fyw yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021.

Food Business Investment Scheme

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd

Mae'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd yn elfen bwysig o Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Ei nod yw helpu cynhyrchwyr cynhyrchion amaethyddol ar lefel gynradd yng Nghymru i ychwanegu gwerth at eu cynhyrchion drwy ddarparu cymorth i’r busnesau hynny sy’n cynnal gweithgareddau prosesu cam cyntaf a/neu ail gam. Bwriedir hefyd iddo wella perfformiad a chystadleurwydd eu busnesau; i ymateb i alw defnyddwyr; i annog arallgyfeirio ac i nodi, manteisio ar, a gwasanaethu marchnadoedd newydd a phresennol.

 

Bydd y Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd yn agor ar

1 Hydref 2020 ac yn dod i ben ar 29 Hydref 2020.

EU protected Food names

Dynodiad Daearyddol Newydd y DU

Bydd cynlluniau Dynodiad Ddaearyddol newydd y DU yn lansio ar 1 Ionawr 2021 a chynnyrch Dynodiad Daearyddol presennol y DU yn parhau i gael eu gwarchod yn gyfreithiol yn ddomestig o dan y cynlluniau hyn.

Os ydych yn gynhyrchydd neu’n fanwerthwr cynnyrch Dynodiad Daearyddol bwyd-amaeth sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru, ac wedi cofrestru cyn diwedd y cyfnod pontio, bydd gennych tan 1 Ionawr 2024 i ddefnyddio logo perthnasol y DU ar unrhyw ddeunydd pacio neu ddeunyddiau marchnata. Mae’r cyngor a’r logos ar gyfer cynlluniau dynodiad daearyddol newydd y DU bellach ar gael i’w lawrlwytho ar GOV.UK.

Mae rhagor o ganllawiau a chymorth ar gael i gynhyrchwyr o Gymru. Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ‘Cysylltwch â ni’ ar frig y dudalen ar y we.

Food labelling

Ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU ar labeli maeth ar flaen pecynnau

(Saesneg yn unig)

Hoffem gael eich barn ynglŷn â gwneud yn siŵr mai’r cynllun labeli maeth ‘goleuadau traffig’ ar flaen pecynnau yw’r cynllun gorau posibl o hyd a’i fod ar gael yn y fformat gorau i helpu pobl i ddewis pa fwyd a diod i’w prynu. Mae hwn yn gam gweithredu yn ein strategaeth Pwysau Iach; Cymru Iach, gydag ymchwil yn dangos y gall labeli maeth ar flaen pecynnau chwarae rhan sylweddol wrth lywio pobl tuag at well dewisiadau dietegol.

Bydd yr ymgynghoriad hwn gan Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn para am gyfnod o 12 wythnos. Bydd fersiwn Saesneg yr ymgynghoriad yn cau ar 21 Hydref 2020; bydd y fersiwn Cymraeg ar gael tan 5 Tachwedd 2020 gan ei fod wedi’i ychwanegu ychydig yn hwyrach.

GT logo

Llwyddiant i gynnyrch Cymreig ar lwyfan hollbwysig

Mae gwobrau’r Great Taste, a gydnabyddir fel gwobrau bwyd a diod pwysicaf y byd, wedi cyhoeddi eu sêr yn 2020, ac mae llu o gynhyrchion bwyd a diod Cymreig blasus wedi cyrraedd y brig.

Brittany and Wales collaboration

Cydweithrediad Cymru a Llydaw i gyflawni atebion cynaliadwy ar gyfer y diwydiant bwyd a diod

Dechreuodd cynllun peilot o astudiaeth clwstwr rhyngwladol ar gyfer y busnesau bwyd a diod yng Nghymru ar 18fed Medi fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector bwyd a diod, er mwyn datblygu a defnyddio ein partneriaethau Ewropeaidd ymhellach.  Bydd y cynllun peilot yn gweld partneriaid Cymru yn uno gyda busnesau a sefydliadau sydd o’r un feddwl er mwyn archwilio dichonoldeb datblygu cydweithrediad er mwyn sbarduno cyflawni prosiectau sy’n fuddiol i’r naill ochr a’r llall.  Ar ôl Brexit, bwriedir i’r rhaglen gefnogi mwy o barodrwydd a gwydnwch ar gyfer y sector yng Nghymru drwy gynyddu’r cyfleoedd am gefnogaeth o rwydweithiau partneriaeth ac arbenigedd ehangach. 

AMRC Cymru

AMRC Cymru i gael cyfleuster cynaliadwyedd pecynnu bwyd newydd gwerth £2 miliwn.

Mae AMRC Cymru, canolfan ymchwil a datblygu Llywodraeth Cymru, a gostiodd £20 miliwn, yng ngogledd Cymru, wedi sicrhau cyllid BITES (y Cynllun Cyflymu Busnes, Arloesi a Thwristiaeth) i ddatblygu cyfleuster i arddangos technoleg sy’n dod i’r amlwg, yn benodol ar gyfer sector bwyd a diod Cymru, a fydd yn cyflymu’r broses o fabwysiadu datrysiadau gwyrdd arloesol sy’n lleihau gwastraff drwy integreiddio technolegau Diwydiant 4.0 yn y diwydiant pecynnu. 

Shellfish

Cydweithredu o fewn y Clwstwr Bwyd Môr yn denu cwsmeriaid newydd

Mae bwyd môr o Orllewin Cymru yn cael ei weini yn Nwyrain Cymru diolch i bartneriaeth a ffurfiwyd rhwng dau fusnes bwyd yn ddiweddar.

Gan weithio gyda’i gilydd, mae’r cwmni cyfanwerthu i fwytai, sef Vin Sullivan Foods Ltd o Dorfaen, a’r busnes bwyd môr, Cardigan Bay Fish o Sir Benfro, wedi llwyddo i roi hwb i’w busnesau drwy greu llu o gwsmeriaid newydd.

Aldi - Caru Cymru Caru Blas

Aldi yn Helpu i godi ymwybyddiaeth o'r bwyd a diod arbennig o Gymru

Mae Aldi yn cefnogi Menter Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, Ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste, drwy arddangos arwyddlun siâp calon eiconig yr ymgyrch ar bob pecyn o datws Cymreig a werthir yn eu siopau ledled Cymru.

Helo Blod

Cyfieithu am ddim i dy fusnes? Wel, Helo Blod

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i dy gynghori di ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac mae’r cwbl am ddim!

Gall hynny fod yn gyngor ymarferol ar sut i farchnata a hyrwyddo dy fusnes, neu help i wneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn dy siop, caffi, neu ar dy wefan a’r cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal â chynnig cyfieithiadau (i fyny at 500 gair y mis) gall Helo Blod anfon laniardiau neu fathodynnau sy'n nodi bod staff yn siarad neu’n dysgu Cymraeg. Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell.

Wales Rural network Support Unit

Rhwydwaith Gwledig Cymru Uned Gymorth

Mae Uned Gefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru yn hwyluso a chefnogi’r gwaith o rannu arbenigedd ym maes datblygu gwledig. Mae’r Uned Gefnogi yn cefnogi gweithgareddau a gyllidir o dan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-20.

Twitter - https://twitter.com/WalesRuralNet Facebook - https://www.facebook.com/WalesRuralNet/

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Newyddlen Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

I gael y newyddion, y wybodaeth a'r cymorth diweddaraf ar gyfer sector bwyd a diod Cymru, gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, cofrestrwch ar gyfer y Cylchlythyr wythnosol yn y linc uchod.

Digwyddiadau

Blas Cymru / Taste Wales 2021

Blas Cymru

Digwyddiad masnach cenedlaethol a rhyngwladol, a chynhaledd sy’n dwyn ynghyd cefnogwyr blaenllaw yn y diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru, a sy’n darparu cyfle ar gyfer prynwyr a chynhyrchwyr i ddatblygu busnes newydd. 27 -  28  Hydref 2021, Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC) Casnewydd, Cymru

 

SIAL

SIAL Canada - Ymweliad Datblygu Masnach Rhithwir

(Saesneg yn unig)

28 Medi 2020 - 2 Hydref 2020

Gydag ychydig dros flwyddyn i fynd tan Blas Cymru 2021 mae'r broses i sicrhau presenoldeb gan y masnachwyr prynu mwyaf ar y gweill. Wythnos yma rydym yn mynd yn ddigidol, gan ymddangos yn rhithiol yn SIAL Canada, 28 Medi 2020 - 2 Hydref 2020, i hyrwyddo Blas Cymru i'r farchnad yng Nghanada.

UAE - Gulf Dubai

Ymweliad Datblygu Masnach Rhiwthwir - Emiradau Arabaidd Unedig - EAU

Mae recriwtio ar gyfer Ymweliad Datblygu Masnach Rhithwir UAE newydd gau gyda'r cwmnïau canlynol wedi cofrestru: Castle Daries; Caws Cenarth; Cradocs; Dunbia/Dawn Meats; Flawsome; Halen Môn; Henllan Bakery; Ocean Bay Seafoods; Radnor Hills; and Sim's Foods. Mae'r Is-adran Fwyd yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfannau Busnes Prydain (BCB) yn Dubai gyda'r ymweliad rhithwir wedi'i drefnu yn ystod Hydref/Tachwedd 2020.

y Nordics

Ymweliad Datblygu Masnach Rhithwir - Y Nordics

Mae Ymweliad Datblygu Masnach Rhithwir - Y Nordics yn cymryd lle mis Medi yma gyda 9 cwmni bwyd o Gymru wedi cofrestru. Gan weithio mewn partneriaeth gyda'r Adran Masnach Rhyngwladol (DIT), cynhaliodd yr Is-adran Fwyd weminar wedi'i theilwra i'r cyfranogwyr ddysgu am bob marchnad gan esbonio strwythur y farchnad, llwybr at y farchnad, cyfleodd a'r heriau posib.

Speciality Fine Food Fair

Cwrdd â'r Cynhyrchydd Rhithwyr gyda ‘Speciality Fine Food Fair’

(Saesneg yn unig)

Mae’r ffair fwyd wedi ymuno â Delishops i ddod â rhaglen dridiau wych i chi o gyrchu ysbrydoliaeth i'r gymuned fwyd a diod rhwng 28 a 30 Medi 2020.

Darganfyddwch y cynhyrchion diweddaraf gan gynhyrchwyr mwyaf cyffrous y funud yn y digwyddiadau Rhithiol 'Cwrdd â'r Cynhyrchydd'! Bydd cyfle i gwrdd â brandiau newydd, wrth iddynt gyflwyno eu cynnyrch i chi mewn cyfweliadau byw a sesiwn holi ac ateb. Byddwch yn teimlo’n ysbrydoledig wrth iddynt rannu prif nodweddion eu cynnyrch gyda chi.

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.

Farm shop & Deli awards

Gwobrau Farm Shop a Deli, mewn partneriaeth â The Grocer

(Saesneg yn unig)

O 1 Hydref, mae Gwobrau Farm Shop a Deli, mewn partneriaeth â The Grocer, yn lansio eu Gwobrau 2021 a bydd manylion am sut y gellir cynnwys defnyddwyr, cyflenwyr a manwerthwyr yn cael eu cyhoeddi'n fuan!

Cyfryngau Cymdeithasol.

Instagram

Mae gan Bwyd a Diod Cymru cyfryngau cymdeithasol newydd. Dilynwch ni ar ein cyfrif Instagram Bwyd_a_Diod_Cymru a dilyn holl bethau bwyd a diod - newyddion, digwyddiadau a mwy #bwydadiodcymru

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. 

Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilyn ar-lein: @BwydaDiodCymru