Rhwydwaith Gwledig Cymru News Round-up 2020 Rhifyn 09: Medi 2020

News Round-up 2020 Rhifyn 09: Medi 2020

 
 

Croeso i Gylchlythyr Mis Medi

news

Yr Uned Gefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru

wrn

Rhwydwaith Gwledig Cymru – MYNEGWCH EICH BARN!

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Miller Research wedi’u penodi i gynnal Gwerthusiad o’r Rhwydwaith a gobeithiwn y bydd y gwaith yma’n llywio dyfodol y Rhwydwaith.

(Saesneg yn Unig)

forest

Gweithdy ar Gynllun Coedwigaeth Cenedlaethol

Cynhaliodd Rhwydwaith Gwledig Cymru ei Weithdy Rhithiol cyntaf ar 3 Medi. Mae rhagor o wybodaeth am y gweithdy ar ein gwefan.

rdp

Cyllid ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gwledig

Beth y mae’r Rhaglen wedi’i gyllido er mwyn sicrhau bod cefn gwlad Cymru yn lle ffyniannus i fyw a gweithio.

smart

Pentrefi Clyfar

Cymunedau mewn ardaloedd gwledig yw pentrefi clyfar sy’n defnyddio atebion blaengar er mwyn gwella eu cydnerthedd, gan adeiladu ar gryfderau a chyfleoedd lleol. Gwyliwch Astudiaethau Achos a Fideos ynghylch prosiectau blaengar Cymru.
Gweminar Rhwydwaith LEADER – Pentrefi Clyfar

news

Newyddion, digwyddiadau ac astudiaethau achos

Newyddion ac Astudiaethau Achos ynghylch prosiectau a gyllidir.

2il ddigwyddiad y Rhaglen Goedwig Genedlaethol - 2 Hydref 2020

Cofrestrwch yma i ymuno â ni!

Gweithdy Rhithwir Cadwyn Gyflenwi Gwlân / Tecstilau

29 Medi 2020

Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cyfnodau’r Cynlluniau a’r Cymorth sydd ar gael

phone

Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio

Cylch Datgan Diddordeb yn agor ar 30 Medi ac yn parhau hyd 29 Hydref
Bydd y cylch hwn yn parhau i gefnogi gwaith ailbennu diben gweithgareddau cydlynu cymunedol drwy feithrin arloesedd, gweithgareddau peilot ac elwa i’r eithaf ar ddigidoleiddio.

bps

Cyllun y Taliad Sylfaenol (BPS)

Ffenestr y Cais nawr ar agor tan 27 Tachwedd

Yn dilyn llwyddiant y cynlluniau a gyflwynwyd yn 2018 a 2019, bydd cynllun 2020 unwaith eto yn talu benthyciad o hyd at 90% o’r hyn a ragwelir yw gwerth hawliad BPS busnes unigol.

Glastir

glastir

Contractau Glastir Uwch

Cynigir estyniadau i ddeiliaid contract Glastir Uwch y disgwylir i'w contract ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Bydd angen i chi ddarllen y contract gan y gallai gynnwys rhai newidiadau. Bydd gennych 21 diwrnod i dderbyn/gwrthod y cynnig. Bydd angen i chi wirio eich cyfrifon Taliadau Gwledig Ar-lein yn rheolaidd.
Bydd estyniadau contract Glastir - Tir Comin a Glastir Organig hefyd yn cael eu cyhoeddi yr hydref hwn a byddwn yn rhoi manylion maes o law.

polin

Grantiau Bach Glastir – Tirwedd a Pryfed Peillio 2019

Mae gan gwsmeriaid y rhoddwyd contract iddynt ar gyfer y cynllun uchod tan 30 Medi i gyflwyno hawliad. Rhaid cwblhau'r holl eitemau gwaith cyfalaf a amserlennwyd yn y contract a hawlio ar eu gyfer erbyn y dyddiad hwn. Rhaid cyflwyno hawliadau drwy RPW Ar-lein a chynnwys pob ffotograff 'cyn' ac 'ar ôl' Geotagged. Bydd hawliadau hwyr yn cael eu gwrthod.

Cymorth a Chefnogaeth i Ffermwyr yng Nghymru

fbg

Grant Busnes i Ffermydd – Ffenestr 7
Bydd angen cyflwyno hawliadau ynghyd ag anfonebau ategol a llythyr cyfrifydd mewn perthynas â chontractau sy'n dechrau ar 29 Mai erbyn 25 Medi 2020. Dylech wneud hyn ar eich cyfrif RPW ar-lein.

farmwell

FarmWell Cymru – cyfeiriadur gwybodaeth a chymorth
Mae menter i helpu ffermwyr Cymru gyda chadernid eu busnes a nhw eu hunain fel unigolion wedi cael ei lansio gan Grŵp Cymorth Ffermydd Cymru. Am ragor o wybodaeth ewch i farmwell.cymru.

Cyswllt Ffermio

fc

Cyfnod ymgeisio sgiliau Cyswllt Ffermio ar fin agor ac mae'r holl hyfforddiant wyneb yn wyneb yn ailddechrau

Mae hyfforddiant wyneb i wyneb Cyswllt Ffermio wedi ailddechrau. Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, er nad yw’r holl hyfforddiant Cyswllt Ffermio wedi dychwelyd i’r drefn arferol hyd yma, mae cyrsiau hyfforddiant wyneb yn wyneb bellach ar gael dan do ac yn yr awyr agored, ar yr amod bod holl ganllawiau presennol y pandemig yn cael eu dilyn. Lle bo’n briodol, bydd amrywiaeth o ddulliau’n cael eu defnyddio fel rhan o’r ddarpariaeth arferol, er mwyn lleihau cyswllt wyneb yn wyneb.

GWEMINAR: Yn Fyw o’r Fferm: Rhiwaedog - Awst 2020

Yn fyw o Rhiwaedog, Y Bala, un o’n safleoedd arddangos cig coch. Mae gennym ddau brosiect cyffrous sydd ar y gweill yn Rhiwaedog ar hyn o bryd gan.

Newyddion

rdp

Datganiad Ysgrifenedig gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Buddsoddiad yn ein heconomi wledig gwerth dros £106 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Bydd hyn yn cynnwys amrediad o gynlluniau a fydd yn ategu nifer o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Datganiadau o ddiddordeb

Cyhoeddwyd Cynllun Mynegi Diddordeb Pellach Windows 2020:

  • Cynllun Buddsoddi Busnes Bwyd - 1 Hydref
  • Cynllun Cydweithredu a Datblygu'r Gadwyn Gyflenwi - (OCVO - Ymwrthedd Gwrth-ficrobaidd) - 5 Hydref 
  • Grant Busnes Fferm - Gorchuddion Iard - 9 Tachwedd
padlock

Newid i weld RPW Ar-lein – Dilysu Aml-ffactor

Fel rhan o Raglen Trawsnewid Porth Llywodraeth y DU cyflwynwyd haen ychwanegol o ddiogelwch, a elwir yn Ddilysu Aml-ffacto, ar 3 Awst 2020 ar gyfer Cwsmeriaid RPW Ar-lein.

Ymgynghoriadau

bps

Symleiddio Cynllun y Taliad Sylfaenol a’r Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer 2021

Mae ymgynghoriad wedi'i chyhoeddi sy'n cyflwyno cynigion ar gyfer sut y gallwn symleiddio Cynllun Taliad Sylfaenol a chynlluniau datblygu gwledig ar gyfer 2021.
Rhaid i'r ymatebion i'r ymgynghoriad ein cyrraedd erbyn 23 Hydref 2020.

agri

Ffermio Cynaliadwy a'n Tir: Symleiddio cymorth amaethyddol o 2021 ymgynghori

Mae’r cynigion yn ceisio rhoi ar waith fframwaith dros dro yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, a chyn symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig.

plastic

Lansio ymgynghoriad ar gynlluniau i leihau plastig untro yng Nghymru

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru i wahardd ystod o eitemau plastig untro.

survey

Arolwg Amaethyddol a Garddwriaethol 2020

Os ydych wedi cael eich dewis ar gyfer yr arolwg eleni, byddwch wedi derbyn eich ffurflen drwy’r post cyn bo hir. Gallwch lenwi'r arolwg ar-lein hyd 30 Medi.

Brexit

border

Y ffin â'r Undeb Ewropeaidd: mewnforio ac allforio nwyddau

Mae Llywodraeth y DU wedi amlinellu'r prosesau y mae angen i fusnesau eu dilyn er mwyn mewnforio ac allforio nwyddau i Brydain ac oddi yno o'r flwyddyn nesaf.

(Saesneg yn Unig)

Newyddion a Digwyddiadau yn Ewrop

enrd

Mae Pwynt Cyswllt ENRD yn sefydlu dau Grŵp Thematig newydd

Dau Grŵp Thematig newydd, un ar y Weledigaeth Hirdymor ar gyfer Ardaloedd Gwledig ac un ar y Fargen Werdd Ewropeaidd mewn Ardaloedd Gwledig.

Darganfod yr hyn y dylai ardaloedd gwledig llewyrchus ei gynnwys

Mae gwasanaethau sy’n gweithio’n dda, cyfleoedd i ddatblygu busnesau deinamig a chymunedau cynhwysol yn allweddol ar gyfer creu ardaloedd gwledig llewyrchus.

Gweld, chwilio a rhannu ein hastudiaethau achos o brosiectau amaethyddol

Mae dros 300 o astudiaethau achos ynghylch prosiectau amaethyddol ar gael o fewn ein cronfa ddata o enghreifftiau o fewn Rhaglen Datblygu Gwledig yr UE.

Casglu proffiliau modelau busnes gwledig-trefol

Mae prosiect ROBUST a gyllidir gan yr UE wedi datblygu 20 o broffiliau model busnes sy’n tynnu sylw at wahanol fodelau a mecanweithiau er mwyn helpu i wella cysylltiadau rhwng ardaloedd gwledig ac ardaloedd dinesig a datgloi synergeddau.

Digwyddiadau y bwriedir eu cynnal

(Saesneg yn Unig)

eip

Camau gweithredu EIP-AGRI ynghylch lleihau’r bwyd sy’n cael ei golli

Wyddech chi fod y Cenhedloedd Unedig wedi pennu mai 29 Medi fydd y Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Codi Ymwybyddiaeth o Golli a Gwastraffu Bwyd?

EIP-AGRI yn tynnu sylw at Goedwigaeth

Mae gan yr Undeb Ewropeaidd tua 182 miliwn hectar o goedwigoedd sy’n gorchuddio tua 43% o’i arwynebedd tir ac mae’r coedwigoedd hyn ymysg rhai o adnoddau adnewyddadwy pwysicaf Ewrop.

Dolenni a Gwybodaeth Ddefnyddiol

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru Dolenni Defnyddiol

Cylchlythyrau Eraill

Oes gennych newyddlen yn ymwneud â'r Cynllun Datblygu Gwledig?

Ydych chi eisiau i ni gynnwys dolen i’ch newyddlenni diweddaraf yn yr adran hon? E-bostiwch ddolen tanysgrifio at rhwydwaithgwledig@llyw.cymru a byddwn yn rhannu'ch straeon.

COVID-19 (Coronafeirws)

covid

Llywodraeth Cymru - COVID 19 (Coronafeirws)

Taliadau Gwledig Cymru (RPW): coronafeirws (COVID-19)

COVID-19 Gweithgareddau LEADER

Os oes unrhyw weithgareddau yn eich ardal i gefnogi cymunedau yn ystod y pandemig, anfonwch unrhyw wybodaeth at rhwydwaithgwledig@llyw.cymru

 
 
 


Amdanom ni

Mae Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynnig crynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio sy’n gysylltiedig â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020. Mae’n ffordd hwylus i rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig yng Nghymru, cysylltwch â Rhwydwaithgwledig@llyw.cymru

Rhagor o wybodaeth ar y we:

businesswales.gov.wales/walesruralnetwork/cy

Dilyn ar-lein: