NODYN ATGOFFA AC ARWEINIAD: Cyfyngu ymhellach ar gwrdd yn gymdeithasol a gorfodi gorchuddion wyneb i helpu i atal argyfwng coronafeirws newydd

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

14 Medi 2020

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

covid

NODYN ATGOFFA AC ARWEINIAD: Cyfyngu ymhellach ar gwrdd yn gymdeithasol a gorfodi gorchuddion wyneb i helpu i atal argyfwng coronafeirws newydd

Yn dilyn cyhoeddiadau dydd Gwener gan y Prif Weinidog (11 Medi) - Cyfyngu ymhellach ar gwrdd yn gymdeithasol a gorfodi gorchuddion wyneb i helpu i atal argyfwng coronafeirws newydd  (darllenwch yn llawn) - cyhoeddwyd canllawiau wedi'u diweddaru:

Mae yn orfodol i bobl wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do yng Nghymru o heddiw ymlaen (Dydd Llun Medi 14) wrth i reolau gael eu tynhau i atal argyfwng coronafeirws newydd.

Bu i’r Prif Weinidog Mark Drakeford cyhoeddi dydd Gwener cyfyngiad newydd ar y nifer o bobl a all gwrdd o dan do wrth i dystiolaeth ddangos mai cynulliadau o dan do yw prif ffynhonnell trosglwyddiad y feirws yng Nghymru.

O heddiw ymlaen, bydd yn orfodol i bobl dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do, fel siopau. Bydd pobl nad ydynt yn gallu gwisgo gorchudd wyneb oherwydd rhesymau iechyd neu resymau meddygol wedi’u heithrio, yn yr un modd â’r rheolau ar gyfer cludiant cyhoeddus.

Ni fydd angen gwisgo gorchuddion wyneb mewn tafarndai neu fwytai am y tro, ond mae Llywodraeth Cymru’n cynnal adolygiad cyflym o’r dystiolaeth ynglŷn ag a ddylid eu hymestyn i’r sector lletygarwch.

Mae’r rheolau ar orchuddion wyneb yn newid oherwydd cynnydd yng nghyfradd gyffredinol yr achosion newydd o coronafeirws yng Nghymru, sy’n awgrymu bod risg difrifol y bydd y feirws yn lledaenu’n ehangach unwaith eto.

O heddiw ymlaen, dim ond hyd at chwech o bobl o’r aelwyd estynedig sydd yn cael cwrdd o dan do ar unrhyw adeg. Mae’r rheol hon yn berthnasol mewn tafarndai a bwytai yn ogystal ag yng nghartrefi pobl. Nid yw plant o dan 11 oed yn cael eu cyfrif fel rhan o’r 6.

Ond, nid yw hyn yn berthnasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili lle mae cyfyngiadau lleol mwy caeth ar waith i reoli cynnydd mawr mewn achosion coronafeirws ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd – ni chaniateir aelwydydd estynedig bellach, ac ni chaniateir ichi gwrdd yn gymdeithasol ag unrhyw un nad yw’n byw gyda chi. Mae hyn yn berthnasol mewn tafarndai a bwytai yn ogystal ag yng nghartrefi pobl.

Mae gweinidogion hefyd yn rhoi pwerau newydd i awdurdodau lleol i gau lleoliadau ar sail iechyd y cyhoedd i fynd i’r afael â lledaeniad y feirws.


Dolenni i canllawiau defnyddiol eraill, asedau a phecynnau ar COVID-19 y gall eich busnes eu lawrlwytho

Rydym yn deall ei bod yn anodd cadw i fyny weithiau â phopeth sydd ar gael.  Bydd y dolenni isod yn eich helpu i weld pa adnoddau a phecynnau sydd ar gael i’ch helpu.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram