Bwletin: Cyfyngiadau lleol i reoli’r Coronafeirws yn Sir Caerffili; Ymwelwyr o ardaloedd lle mae nifer uwch o achosion o’r coronafeirws

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

8 Medi 2020


Covid

Cyfyngiadau lleol i reoli’r Coronafeirws yn Sir Caerffili

Yn dilyn cynnydd sylweddol mewn achosion o Coronfirws (COVID-19) yn Sir Caerffili, cyflwynwyd cyfyngiadau newydd i leihau lledaeniad y feirws a diogelu iechyd y cyhoedd i bobl sy'n byw yn yr ardal.

Daw'r cyfyngiadau i rym am 6yh ar 8 Medi 2020 a byddant yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.

Fydd pobl ddim yn cael dod i mewn na gadael Sir Caerffili heb esgus rhesymol;

  • Bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn siopau;
  • Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd. Ni chaniateir cwrdd ag eraill dan do ac ni chaniateir cartrefi estynedig chwaith am y tro. Ni fydd hawl aros dros nos yng nghartrefi pobl eraill.

Bydd y cyfyngiadau newydd hyn yn berthnasol i bawb sy’n byw o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili.


Ymwelwyr o ardaloedd lle mae nifer uwch o achosion o’r coronafeirws

Mae canllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad a coronafeirws, mae hyn yn cynnwys manylion sy'n ymwneud ag ymwelwyr â llety a busnesau eraill.

Os yw mangreoedd mewn sefyllfa i wneud hynny, mae’n bosibl y byddant am ystyried yr hyn y byddant yn ei wneud o ran derbyn gwesteion o ardaloedd/ranbarthau lle mae nifer uwch o achosion. Bydd gan sawl math o fangre, megis gwestai a darparwyr mathau eraill o lety, ddisgresiwn i wrthod pobl, ac mae’n debyg y bydd ganddynt wybodaeth ymlaen llaw am gyfeiriadau cartref y darpar ymwelwyr. 

Ar yr unigolion dan sylw y bydd unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol sy’n gysylltiedig ag unigolion sy’n preswylio mewn ardaloedd lle ceir nifer uwch o achosion. Er enghraifft, os gosodir cyfyngiadau drwy’r gyfraith i atal preswylwyr mewn ardal benodol rhag aros yn rhywle dros nos, cyfrifoldeb y preswylwyr hynny fydd cydymffurfio â’r gyfraith. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ar ddarparwyr llety y tu allan i ardal lle mae cyfyngiadau ar deithio, i wirio a yw gwesteion yn preswylio yn yr ardal honno. Wedi dweud hynny, ni ddylent, o fwriad, ddarparu llety i bobl sy’n gweithredu’n groes i’r gyfraith.

Rydym yn annog pawb sy’n darparu llety i ystyried yr hyn y byddant yn ei wneud o ran gwesteion a allai fod yn dod o ardaloedd lle mae cyfyngiadau ar symud neu o ardaloedd lle mae nifer uchel o achosion. Mae’n bosibl y bydd darparwyr llety am gysylltu â’r holl gwsmeriaid sydd wedi archebu eisoes, i’w hatgoffa am y gyfraith ac i roi cyfle iddynt ganslo neu ohirio eu harcheb. 

Argymhellir bod pawb sy’n rheoli mangreoedd yn ystyried yr hyn y byddant yn ei wneud. Argymhellir hefyd eu bod, wrth wneud hynny, yn rhoi’r hawl i unigolion drafod eu hamgylchiadau penodol nhw cyn i’r rheolwyr benderfynu’n derfynol i wrthod mynediad iddynt.  


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram