Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

3 Medi 2020


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN –

Mesurau diogelwch yn y gweithle yn hollbwysig i atal lledaeniad y coronafeirws; Addo; Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth y DU COVID-19; Estyn Llaw drwy Fwyta Allan wedi cau a hawlio ad-daliad; asedau a phecynnau ar Covid-19 y gall eich busnes eu lawrlwytho.


Mesurau diogelwch yn y gweithle yn hollbwysig i atal lledaeniad y coronafeirws

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi wedi galw ar gyflogwyr a gweithwyr i wneud popeth bosibl i atal lledaeniad y coronafeirws yn y gweithle.

Wrth i fwy o fusnesau ail-agor ac i bobl sy’n methu gweithio o gartref ddychwelyd i’r gwaith, mae’r Gweinidog wedi tynnu sylw at bwysigrwydd dilyn y rheolau aur i helpu i gadw lefelau y feirws yn isel yng Nghymru.

Mae yn annog pawb i olchi eu dwylo yn aml a phan yn bosibl, gadw pellter o ddau fetr rhyngddynt â’u cydweithwyr neu gwsmeriaid.

Dyma fesurau y gall bawb eu dilyn yn eu bywydau pob dydd.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi: Mae’n hollbwysig fod pawb yn cymryd camau i warchod eu hunain ac eraill yn y gweithle – mae hyn yn cynnwys cadw pellter corfforol ble yn bosibl. Bydd y mesurau hyn yn helpu inni barhau i gadw achosion y coronafeirws yn isel yng Nghymru.

“Mae cyflogwyr a gweithwyr wedi cymryd camau i sicrhau diogelwch eu gweithleoedd a dwi am ddiolch iddyn nhw i gyd am y camau mae nhw wedi’u cymryd. Fodd bynnag, dwi am atgoffa pob busnes sy’n gweithredu yng Nghymru bod yn rhaid iddyn nhw ddilyn gofynion cyfreithiol penodol sydd wedi’u cynllunio i helpu i gadw y feirws rhag lledaenu. Gallai peidio â gwneud hynny olygu y byddai’n rhaid i’r safle gau.

“Mae’r coronafeirws yn hynod ddifrifol ac mae’n parhau i fod o’n hamgylch. Mae’n rhaid inni wneud popeth y gallwn i gadw’n ddiogel yn y gweithle a chefnogi ein gilydd wrth wneud hynny.

“Dylai unrhyw un sy’n profi symptomau y coronafeirws, waeth ba mor ysgafn, hunan-ynysu a chadw oddi wrth y gweithle tan iddyn nhw gael prawf, i warchod eu cydweithwyr a’r cyhoedd yn ehangach.

“Mae gan bob un ohono ni ran bwysig i’w chwarae i gadw ein hunain, ein cydweithwyr a’n cleientiaid a’n cwsmeriaid yn ddiogel.”

Mae cyfreithiau gan Lywodraeth Cymru yn galw ar bob busnes yng Nghymru i gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws ar eu safle.

Er mwyn gwneud hynny, y man cychwyn yw sicrhau y gall eu gweithwyr gadw pellter o ddwy fetr pan fyddant yn y gwaith.

Fodd bynnag, mae’r gyfraith yn cydnabod yr heriau a pha mor anymarferol yw cadw pellter cymdeithasol mewn rhai lleoliadau. Yn yr amgylchiadau hynny mae’n bwysig bod cyflogwyr yn defnyddio mesurau eraill i leihau cyswllt wyneb yn wyneb, megis codi sgriniau, ail-drefnu dodrefn a ffitiadau eraill neu ddefnyddio systemau unffordd. Dylid gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyfyng neu brysur ble nad yw mesurau eraill yn ymarferol.

Mae hylendid da yn hanfodol drwy’r amser a dylid glanhau pob arwynebedd ac offer yn rheolaidd. Dylai pobl hefyd barhau i sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo yn rheolaidd, yn gorchuddio eu cegau wrth besychu ac yn osgoi cyffwrdd eu hwyneb neu eu gorchudd wyneb.


Addo – Promise.

Dechreuom gam nesaf ein hymgyrch Addo cyn penwythnos gŵyl y banc gyda ffilm fer ar ein sianeli cymdeithasol yn dangos busnesau ac ymwelwyr yn gweithredu egwyddorion Addo, gan fwynhau eu hunain yn ddiogel yng Nghymru.

Carem ichi rannu’r ffilm hon ar draws ein sianeli eich hunain. Cofiwch roi gwybod inni os ydych yn hyrwyddo Addo yn eich busnesau a sefydliadau ac yn annog eich gwesteion i wneud eu haddewid i Gymru – rydym o hyd yn chwilio am astudiaethau achos da i ddefnyddio yn ein gwaith marchnata felly cofiwch gysylltu.

Os oes angen help llaw arnoch i negeseuo neu baratoi lluniau, edrychwch ar ein pecyn cymorth Addo / Darganfod Cymru. Yn ddiogel sy’n cynnwys postiadau cymdeithasol sydd eisoes wedi’u drafftio a phosteri i’w harddangos. Byddwn yn targedu meysydd allweddol yng Nghymru a’r DU gyda deunydd cyfryngol i sicrhau bod ffilm Addo yn cyrraedd mwy o bobl dros yr wythnosau nesaf ac yn ymgorffori Addo yn ein negeseuon ar gyfer ymgyrch yr hydref. Manylion pellach am ymgyrch marchnata yr hydref a’r gaeaf i ddod.


Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth y DU COVID-19

Mae adroddiad manwl ar broffil ymwelwyr sy’n bwriadu ymweld â Chymru wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar ein Harolwg Tracio Defnyddwyr y DU o ymagweddau a bwriad i dreulio gwyliau yn y DU a Chymru eleni, a gynhaliwyd ar y cyd gyda VisitBritain a VisitScotland. O 13 Medi ymlaen, bydd canfyddiadau ar lefel y DU yn cael eu cyhoeddi pob pythefnos ar wefan VisitBritain.

Canfyddiadau allweddol:

Erbyn canol mis Awst, roedd un o bob chwe phreswylydd yn y DU wedi aros dros nos neu gael gwyliau byr yn y wlad hon, sydd ychydig bach yn uwch na’r gyfran a oedd wedi dweud yn flaenorol eu bod yn bwriadu mynd ar daith yn ystod mis Gorffennaf neu Awst. Roedd bron hanner o’r rheini a aeth ar daith i Gymru ym mis Gorffennaf ac Awst yn deuluoedd. Cymru yw’r rhanbarth yn y DU sydd fwyaf tebygol o fod wedi denu ymwelwyr gwyliau yn hytrach nag ymweliadau i weld ffrindiau a pherthnasoedd, ymweliadau busnesau neu fathau eraill o ymweliadau.

Mae 20% o oedolion y DU yn bwriadu mynd ar wyliau neu wyliau byr yn y DU ym mis Medi neu Hydref, a Chymru yw’r pedwerydd cyrchfan mwyaf poblogaidd ar ôl De-orllewin Lloegr, yr Alban a Gogledd-orllewin Lloegr. Rhagwelir y bydd proffil ymwelwyr yr hydref yn newid o deuluoedd a phobl ifanc i bobl dros 35 oed heb blant, a phobl sydd wedi ymddeol. Mae Eryri yn dal i fod y cyrchfan mwyaf poblogaidd ar gyfer taith yn yr hydref i Gymru, gyda Sir Benfro y cyrchfan mwyaf poblogaidd ymhlith pobl Cymru.


Y Cynllun Estyn Llaw drwy Fwyta Allan wedi cau; rhaid hawlio erbyn 30 Medi 2020

Mae’r Cynllun Estyn Llaw drwy Fwyta Allan bellach wedi cau. Gall bwytai a busnesau eraill sydd eisoes wedi cofrestru hawlio ad-daliad tan 30 Medi 2020. Darllenwch fwy am sut i hawlio.


Asedau a phecynnau ar Covid-19 y gall eich busnes eu lawrlwytho

Rydym yn deall ei bod yn anodd cadw i fyny weithiau â phopeth sydd ar gael.  Bydd y dolenni isod yn eich helpu i weld pa adnoddau a phecynnau sydd ar gael i’ch helpu.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram