Bwletin newyddion: Treialu digwyddiadau awyr agored fel y cam diweddaraf wrth lacio’r cyfyngiadau: Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr - profi, olrhain, diogelu

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu,  edrychwch arno ar-lein.   

21 Awst 2020


cu

Treialu digwyddiadau awyr agored fel y cam diweddaraf wrth lacio’r cyfyngiadau

Mae nifer fach o ddigwyddiadau chwaraeon a pherfformiadau awyr agored bach ar fin cael eu treialu yng Nghymru fel y cam cyntaf at ailagor y diwydiant digwyddiadau yn ddiogel ac yn raddol. Dyma rai o’r newidiadau i’r rheolau coronafeirws a gyhoeddir gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, heddiw.

Bydd hawl ymweld hefyd â chartrefi gofal dan do o ddydd Sadwrn, 29 Awst cyn belled ag y cedwir at y rheolau caeth a ddisgrifir yn y canllaw a bod yr amodau’n parhau’n ffafriol.

Ond pwysleisiodd y Prif Weinidog mai cael disgyblion yn ôl i’w hysgolion a cholegau ar 1 Medi yw’r flaenoriaeth bennaf yn ystod y cylch rheoli hwn o 21 diwrnod.

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod gwerth y sector digwyddiadau i Gymru a sut mae digwyddiadau diwylliannol, chwaraeon a busnes yn rhan bwysig iawn o’r economi ymwelwyr ac yn un o’r sectorau olaf i ailagor. 

I ddechrau caiff tri digwyddiad bach ar gyfer hyd at 100 o bobl eu cynnal ledled Cymru yn ddiweddarach yn y mis ar ôl cynnal asesiad llym iawn o’r risg.

Mae digwyddiadau awyr agored yn cael blaenoriaeth yn y cyfnod adolygu hwn tra bo’r tywydd yn fwyn, gan fod tystiolaeth bod y coronafeirws yn llai tebygol o gael ei drosglwyddo yn yr awyr agored.

Os gwelir bod modd cynnal y digwyddiadau bach hyn yn ddiogel, a bod lefelau trosglwyddo’r feirws yn dal yn isel, y gobaith yw mynd i’r cam nesaf a chynyddu maint y cynulleidfaoedd, caniatáu nifer fach o wylwyr i fynd i ddigwyddiadau chwaraeon ac o bosibl ystyried treialu digwyddiadau busnes bach.

Yn yr wythnosau i ddod, caiff tri digwyddiad bach eu treialu i fwydo’r broses adolygu yn y dyfodol.

Digwyddiadau awyr agored o hyd at 100 o bobl:

  • Cynigion Theatr Clwyd ar gyfer nifer o berfformiadau awyr agored byw o 27 Awst;
  • Cystadleuaeth ‘Yn ôl i’r Râs’ o dan ofal Treiathlon Cymru ym Mharc Gwledig Pen-bre a fydd yn ddigwyddiad caeedig a heb wylwyr;
  • Rali geir yn Nhrac Môn.

Hefyd, byddwn yn parhau i gydweithio’n glos â Llywodraeth y DU i fonitro canlyniadau unrhyw dreialon y maen nhw wedi’u cynnal yn ddiweddar.

Mae’r Prif Weinidog wedi cadarnhau hefyd y bydd aelwydydd estynedig o ddydd Sadwrn, 22 Awst, yn cael eu hestyn i gynnwys hyd at bedair aelwyd, hynny fel rhan o drefniant iddyn nhw eu hunain yn unig.  O’r diwrnod hwnnw hefyd, bydd priodasau ac angladdau’n cael cynnwys pryd o fwyd ar gyfer hyd at 30 bobl cyn belled â bod yr amodau ar gadw pellter yn cael eu cadw.

Os bydd y cynllun i ailddechrau priodasau ac angladdau’n llwyddiannus, y gobaith yw cynyddu’r amrywiaeth o seremonïau dan do fydd yn cael eu hystyried yn y cyfnod adolygu nesaf, i gynnwys bedyddiadau trochi a thaenu a bar mitzvahs.

Bydd casinos yn cael ailagor o ddydd Sadwrn, 29 Awst cyn belled â’u bod yn cadw at y canllawiau.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Er bod y coronafeirws wedi’i ffrwyno i raddau helaeth yng Nghymru a bod nifer yr achosion yn dal i gwympo, mae’r sefyllfa yng ngweddill y DU a thu hwnt yn dal i fod yn broblem. Nid yw’r coronafeirws wedi mynd, felly wrth i ni gamu o’r cyfnod clo ac edrych tua’r dyfodol, mae’n bwysig ein bod yn gwneud hynny’n ofalus ac yn bwyllog.

“Rydyn ni’n deall mor anodd mae hi wedi bod ar deuluoedd sydd heb weld eu hanwyliaid ac effaith y cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal ar iechyd emosiynol a meddyliol pobl a hyd yn oed ar eu hiechyd corfforol.

“Yn ein hymgais i fynd i’r afael â hyn, rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n glos â phartneriaid ac am ganiatáu i ymweliadau dan do â chartrefi gofal ailddechrau o ddydd Sadwrn 29 Awst, cyn belled ag y cedwir at y rheolau caeth a ddisgrifir yn y canllawiau a bod yr amodau’n parhau’n ffafriol.

“Hefyd, byddwn yn treialu tri digwyddiad bach, gyda chymorth y trefnwyr, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, i weld a fydd modd eu cynnal yn ddiogel gyda golwg ar gefnogi’r sector a gwneud y gorau o weddill yr haf tra gallwn fod yn yr awyr agored.

“Gallwn ddysgu hefyd oddi wrth dreialon sy’n cael eu cynnal ledled y DU i ailagor y campau proffesiynol a theatr dan do i gefnogwyr a chynulleidfaoedd er mwyn inni allu seilio’n penderfyniadau ar y dystiolaeth orau sydd ar gael.  Byddwn yn parhau i siarad â threfnwyr digwyddiadau am ailddechrau rhai gweithgareddau eraill o bosibl yn yr hydref.

“Ond am y tro, mae angen inni ddysgu sut mae cynnal digwyddiadau awyr agored yn ddiogel gan gadw pellter cymdeithasol.

“Byddwn ni’n defnyddio’r tair wythnos nesaf i barhau i drafod â’r sectorau hynny o’r economi sy’n dal i deimlo effaith cyfyngiadau’r coronafeirws.  Hoffwn ddiolch i gynrychiolwyr y sectorau hynny am y ffordd y maen nhw’n parhau i drafod.  Bydd dod allan o’r cyfnod clo yn anoddach na mynd i mewn iddo, ond gyda’n gilydd, fe wnawn ni hynny yn y ffordd fwyaf diogel posibl.”

O 1 Medi, bydd ysgolion a cholegau addysg bellach yn dychwelyd o wyliau’r haf ac yn dysgu disgyblion trwy amrywiaeth o ffyrdd, naill ai yn y dosbarth neu o bell.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Cael y plant yn ôl i’w hysgolion yw’r peth pwysicaf fydd yn digwydd yng Nghymru yn y 21 diwrnod nesaf a byddwn yn defnyddio’r amser tan hynny i wneud yn siŵr y bydd yn llwyddiant.

“Mae’n hanfodol bod y plant yn mynd yn ôl i’w hysgolion yn ddiogel. Cafodd pob plentyn yng Nghymru gyfle i ‘ailgydio, dal i fynd a pharatoi’ cyn gwyliau’r haf a gobeithio y bydd hynny wedi braenaru’r tir ar gyfer y newidiadau fydd yn eu hwynebu yn y misoedd i ddod.”

 


Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu

O ddydd Llun 17 Awst mae’n rhaid i bob busnes lletygarwch a lleoliadau risg uchel, yn gyfreithiol, gasglu enw a rhif ffôn cwsmeriaid er mwyn cynorthwyo gyda’r broses Profi, Olrhain, Diogelu rhag ofn bydd achosion newydd.

Mae’r risg o drosglwyddo COVID-19 yn uwch mewn rhai sectorau, ble y bydd staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr yn treulio mwy o amser yn y mannau hyn nag mewn lleoedd eraill, ac mae’n bosibl y byddant yn dod i gysylltiad agos â phobl heblaw am aelodau eu haelwyd (neu eu haelwyd estynedig os ydynt wedi creu un).

Mae’n rhaid i’r busnesau neu'r mannau canlynol gasglu a chadw gwybodaeth gyswllt:

  • Lletygarwch, gan gynnwys tafarndai, bariau, bwytai a chaffis
  • Sinemâu
  • Gwasanaethau cysylltiad agos, gan gynnwys siopau trin gwallt a siopau barbwr, gwasanaethau harddwch, gwasanaethau tatŵio, therapyddion chwaraeon a thylino
  • Pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd, sbâs, a chanolfannau neu gyfleusterau hamdden eraill o dan do.

Mae casglu gwybodaeth gyswllt a’i chadw am 21 diwrnod yn ofyniad cyfreithiol yn yr achosion uchod. Mae posteri dwyieithog i’w lawrlwytho i helpu i egluro i gwsmeriaid pam y mae hyn yn cael ei wneud.  Os mai dyma’r tro cyntaf ichi ddefnyddio safle asedau Croeso Cymru i lawrlwytho deunyddiau, dim ond 1 funud fydd yn ei gymryd i gofrestru – yn ogystal â’r uchod, mae’n rhoi mynediad i lyfrgell enfawr o ddelweddau am ddim i ddefnyddio yn eich busnes.

Lawrlwythwch a chadwch grynodeb o sut i gadw cofnodion am staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr ar gyfer y prif fannau a dylech eu defnyddio law yn llaw â’r wybodaeth fanwl sydd yng nghanllawiau Llywodraeth Cymrun ar gadw cofnodion am staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr.  Mae’r canllawiau’n ymdrin hefyd ag ystyriaethau fel cydymffurfio â GDPR a sut i ateb cwestiynau cwsmeriaid e.e. os bydd cwsmer, ar ôl esbonio’r rhesymau, ddim am rannu ei fanylion a bod dyletswydd arnoch i gasglu’r manylion hynny, ni ddylech ei adael ar y safle. 

Mae darparwyr llety yn casglu data ymwelwyr drwy archebion fel arfer.  Dylid parhau i gasglu’r wybodaeth hon a’i chadw yn unol â chanllawiau Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru. 

I gael rhagor o wybodaeth a ffynionellau defnyddiol i helpu busnesau i gadw Cymru’n ddiogel yn y Gwaith, ewch i wefan Busnes Cymru


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram