Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN - Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu; Estyniadau i Ddeiliadaeth Dymhorol Meysydd Carafanau - Canllaw Cynllunio ar gyfer perchnogion a gweithredwyr meysydd; Cyfyngiadau teithio hanfodol i’w codi ar drafnidiaeth gyhoeddus; Ar agor – ail gam y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig; Y coronafeirws – cynllunio ar gyfer y dyfodol yng Nghymru; COVID-19 arolwg Traciwr Defnddwyr Twristiaeth y DU Gwawr; Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Dydd Prydain Fawr: Adroddiadau blynyddol 2019; Creu Canllaw Hygyrchedd; Refill Cymru; CThEM – diogelwch eich hun rhag sgamiau; Mae 5,000 o fusnesau yng Nghymru nawr yn “Barod Amdani”; Gweinidogion Cymru yn datgelu pecyn cymorth gwerth miliynau o bunnoedd i awdurdodau lleol; Cyfnod Pontio’r DU – canllawiau newydd ar gyllid yr UE; Cronfa Cymunedau'r Arfordir Llywodraeth Cymru.
O ddydd Llun 17 Awst mae’n rhaid i bob busnes lletygarwch a lleoliadau risg uchel, yn gyfreithiol, gasglu enw a rhif ffôn cwsmeriaid er mwyn cynorthwyo gyda’r broses Profi, Olrhain, Diogelu rhag ofn bydd achosion newydd.
Mae’r risg o drosglwyddo COVID-19 yn uwch mewn rhai sectorau, ble y bydd staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr yn treulio mwy o amser yn y mangreoedd hyn nag mewn amgylchoedd eraill, ac mae’n bosibl y byddant yn dod i gysylltiad agos â phobl heblaw aelodau eu haelwyd (neu eu haelwyd estynedig os ydynt wedi creu un).
Mae’n rhaid i’r busnesau neu'r mangreoedd canlynol gasglu a chadw gwybodaeth gyswllt:
- Lletygarwch, gan gynnwys tafarndai, bariau, bwytai a chaffis
- Sinemâu
- Gwasanaethau cysylltiad agos, gan gynnwys siopau trin gwallt a siopau barbwr, gwasanaethau harddwch, gwasanaethau tatŵio, therapyddion chwaraeon a thylino
- Pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd, sbâs, a chanolfannau neu gyfleusterau hamdden eraill o dan do.
Ar y sail honno, mae casglu gwybodaeth gyswllt a’i chadw am 21 diwrnod yn ofyniad cyfreithiol yn yr achosion uchod.
Mae posteri dwyieithog i’w lawrlwytho i helpu i egluro i gwsmeriaid pam y mae hyn yn cael ei wneud. Os mai dyma’r tro cyntaf ichi ddefnyddio y safle asedau Croeso Cymru i lawrlwytho deunyddiau, dim ond 1 funud fydd yn ei gymryd i gofrestru – yn ogystal â’r uchod, mae’n rhoi mynediad i lyfrgell enfawr o ddelweddau am ddim i ddefnyddio yn eich busnes.
Mae gwybodaeth glir ar sut i gadw cofnodion gan gynnwys beth ddylid ei gasglu a gan bwy, wedi ei gynnwys yn y Canllawiau cadw cofnodion staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr yn ogystal ag ystyriaethau ymarferol o gydymffurfio gyda’r GDPR a sut i reoli ymholiadau cwsmeriaid e.e. Os, wedi gofyn ac wedi egluro’r rhesymau dros wneud, nad yw’r unigolyn eisiau rhannu eu manylion, a bod dyletswydd arnoch i gasglu y manylion hyn, ni ddylent gael eu caniatáu ar y safle.
Mae darparwyr llety yn casglu data ymwelwyr drwy archebion fel arfer. Dylid parhau i gasglu’r wybodaeth hon a’i chadw yn unol â chanllawiau Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru.
Mae’r llyfryn hwn wedi ei ysgrifennu ar gyfer perchnogion a gweithredwyr meysydd carafanau yn ganllaw i wneud ceisiadau cynllunio er mwyn galluogi meysydd carafanau i agor ar hyd y flwyddyn lle mae amodau deiliadaeth dymhorol yn atal hyn. Mae’r canllaw wedi ei baratoi yng ngoleuni oblygiadau cyfyngiadau COVID-19 ar fusnesau meysydd carafanau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y cyfyngiad sy’n golygu mai teithio hanfodol yn unig a ganiateir ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei godi o ddydd Llun, 17 Awst, gan olygu y bydd mwy o deithwyr yn gallu teithio ar drenau a bysiau.
Cafodd y neges teithio hanfodol yn unig ei chyflwyno er mwyn rhoi blaenoriaeth i weithwyr allweddol, yn ogystal â’r bobl hynny nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall o deithio.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus, gan helpu i wneud iawn am y refeniw yr oedd yn rhwym o’i golli. Yn fwyaf diweddar, roedd hynny’n cynnwys y cyhoeddiad a wnaed yr wythnos ddiwethaf am £10 miliwn i helpu’r diwydiant bysiau i ddarparu mwy o wasanaethau.
Mae’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn parhau, er bod rhai eithriadau megis y bobl hynny nad ydynt yn gallu’u gwisgo oherwydd eu bod yn dioddef salwch corfforol neu salwch meddwl. Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.
Mae ail gam y Cynllun hwn bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Bydd rhai sy’n gymwys yn gallu derbyn ail grant, a’r olaf, sy’n werth 70% (hyd at £6,750) o’u helw masnachu misol. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.
Yr wythnos hon (dydd Mawrth 18 Awst) mae Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar gyfer Cymru yn egluro sut y dylai pob partner – gan gynnwys llywodraeth leol, byrddau iechyd, busnesau a phobl Cymru – weithio gyda’i gilydd i reoli risgiau’r coronafeirws. Maent yn amlygu pa mor bwysig ydyw i Gymru weithredu ar y cyd wrth ymateb a bod gan bob un rôl i’w chwarae i helpu i atal lledaeniad y feirws. Mae’r Cynllun yn canolbwyntio ar bum maes ymyrraeth allweddol:
- atal
- achosion Newydd a Chlystyrau
- achosion Lluosog a Brigiadau
- mesurau lleol a rhanbarthol
- mesurau Cymru gyfan
Yn y datganiad i’r wasg ddydd Mawrth 18 Awst, dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:
“Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu. Felly, mae’n gwbl hanfodol ein bod ni’n dal i fonitro, addasu a chynllunio ar gyfer brigiadau o achosion yn y dyfodol. Rydyn ni’n gwybod bod yn well gan y feirws dywydd oer. Gyda’r hydref yn agosáu, mae’r cynllun yn nodi’r camau pellach byddwn ni’n eu cymryd i ddiogelu Cymru. Mae atal yn cael lle pwysig iawn yn ein cynlluniau ni. Drwy sicrhau bod y cam hwnnw yn cael ei gynllunio’n gywir gallwn ni osgoi cyfyngiadau pellach ar ein bywydau. Does dim un ohonon ni un eisiau gweld cyfyngiadau llym yn cael eu cyflwyno unwaith eto fel y rheini a welon ni ym mis Mawrth eleni. Rydyn ni wedi dangos, drwy weithio gyda phartneriaid, y gallwn ni weithio’n effeithlon ac effeithiol i reoli clystyrau a brigiadau bach – fel y gwelon ni yn Ynys Môn a Merthyr Tudful. Ein prif neges yw bod gan bob unigolyn, busnes a sefydliad ran i’w chwarae i atal lledaeniad y coronafeirws.”
Mae’r adroddiad wythnosol diweddaraf gan ein harolwg Traciwr Defnddwyr y DU bellach ar gael ar wefan Visit Britain yn dangos canfyddiadau wythnos 13 gan gynnwys 10 -14 Awst. Mae hwn yn rhoi’r canlyniadau diweddaraf inni o agweddau a bwriadau ynghylch cymryd gwyliau yn y DU a Chymru eleni.
Mae’r adroddiadau hyn yn rhoi dadansoddiad cynhwysfawr o nifer a gwariant ymweliadau twristiaeth dros nos ac ymweliadau dydd twristiaid gan breswylwyr Prydain Fawr yng Nghymru a gweddill Prydain Fawr yn 2019.
Gydag elfen hygyrchedd o o leiaf 1 mewn 5 o boblogaeth y DU, a gyda Coronafeirws yn cyflwyno amrywiol heriau newydd o ran hygyrchedd, nawr yw’r amser bellach i fusnesau ail-ystyried pa gamau ymarferol y gallant eu cymryd i sicrhau bod eu llety a’u hatyniadau yn hawdd i’w defnyddio ac mor gynhwysfawr â phosibl.
Mae cyngor ar gael ar greu eich Canllaw Hygyrchedd (a arferai gael ei alw yn Ddatganiad Mynediad) yn ogystal â gweld enghreifftiau real ar wefan Visit Britain.
Cofiwch rannu gwybodaeth fanwl a diweddar ar y camau rydych yn eu cymryd rhag COVID-19 ar-lein a hefyd sicrhau bod eich Canllaw Hygyrchedd yn cynnwys darluniau a fideos sy’n dangos yn glir yr hyn yr ydych yn ei gynnig.
Mae lleoliadau ail-lenwi poteli dŵr wedi cael caniatâd i ail-agor!
Cofrestrwch ar gyfer yr ymgyrch Ail-lenwi a helpu i atal llygredd plastig. Mae ail-lenwi yn gweithio drwy gysylltu pobl â dŵr yfed am ddim drwy’r ap Refill AM DDIM. Os ydych yn fusnes sydd â thap sydd ar gael i’r cyhoedd, y cyfan sydd angen ichi ei wneud yw llenwi ychydig o fanylion ar y Refill App i greu eich proffil am ddim ar y map. Unwaith y bydd eich lleoliad yno, byddwch yn barod i groesawu’r sychedig ac elwa o’r sylw a’r cwsmeriaid ychwanegol o ganlyniad i hynny. Am ragor o wybodaeth ewch i Refill Cymru a gwylio’r ffilm fer hon.
A ydych eisoes wedi cofrestru fel lleoliad Ail-lenwi? Byddwch yn rhan o hyn ar y cyfryngau cymdeithasol drwy lawrlwytho y pecyn digidol a rhannu gyda’ch rhwydweithiau drwy eich sianeli cymdeithasol.
Byddwch yn wyliadwrus rhag sgamiau, sy’n dynwared negeseuon Llywodraeth y DU fel ffordd o ymddangos yn ddilys ac yn ddi-fygythiad. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Mae safon y diwydiant "Barod Amdani" yn gynllun hunan asesu am ddim sydd wedi'i gynllunio mewn partneriaeth â'r sefydliadau cenedlaethol (Croeso Cymru, Tourism Northern Ireland, VisitScotland a VisitEngland) er mwyn rhoi sicrwydd i bob sector o'r diwydiant twristiaeth, yn ogystal â sicrwydd i ymwelwyr, bod gan fusnesau brosesau clir ar waith a'u bod yn dilyn canllawiau gan y diwydiant a'r Llywodraeth ynghylch COVID-19.
Mae cynrychiolaeth o bob sector ar hyn o bryd, o ddarparwyr llety i dywyswyr teithiau, atyniadau, darparwyr gweithgareddau a busnesau lletygarwch – os nad ydych eisoes wedi cofrestru ewch ati yn awr. Mae’n broses syml a bydd yn galluogi eich busnes i ddefnyddio’r safon er mwyn ennyn hyder defnyddwyr. Mae’r cynllun yn cael ei ddefnyddio ar draws y DU a bydd darpar ymwelwyr yn chwilio am leoliadau a gwasanaethau sy’n cymryd rhan yn y cynllun.
Bydd yn parhau’n rhan allweddol o neges Croeso Cymru i ddefnyddwyr a hefyd bydd defnyddwyr CroesoCymru.com yn gallu chwilio am yr holl gynhyrchion drwy opsiwn hidlo “Barod Amdani”.
Ar 17 Awst, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru hwb ariannol gwerth dros £260m i gynghorau lleol yng Nghymru i roi’r sicrwydd sydd ei angen arnynt i gynllunio ar gyfer gweddill y flwyddyn. Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.
Er bod y DU wedi ymadael â’r UE, bydd busnesau’n parhau i gael unrhyw gyllid gan yr UE a ddyfarnwyd iddynt eisoes. Mae hyn yn cynnwys cyllid a fydd yn ddyledus iddynt ar ôl 31 Rhagfyr 2020. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyflwyno Cronfa Cymunedau’r Arfordir ar ran Llywodraeth Cymru. Nod Cronfa Cymunedau'r Arfordir Llywodraeth Cymru yw annog datblygiad economaidd cymunedau arfordirol y Deyrnas Unedig trwy ddyfarnu arian i greu twf economaidd a swyddi cynaliadwy. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw ganol dydd ar dydd Gwener 2 Hydref 2020. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|