Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

14 Awst 2020


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Newidiadau sy’n caniatáu i fwy o deuluoedd gyfarfod; Helpwch i ledaenu negseuon ynghylch diogelwch drwy fod yn llysgennad diogelwch ar y dŵr lleol ar gyfer yr RNLI / Gwylwyr y Glannau; Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth y DU - COVID-19; Bathodynnau a laniards dewisol er mwyn hyrwyddo’r angen i gynnal pellter cymdeithasol; Cyflwyno deddfwriaeth gofynion di-fwg newydd; Nwyddau Iaith Gwaith am ddim i dy fusnes


Newidiadau sy’n caniatáu i fwy o deuluoedd gyfarfod

Llywodraeth Cymru’n cyflwyno pwerau gorfodi newydd er mwyn sicrhau bod pob safle yn dilyn rheolau COVID-19.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi heddiw (Dydd Gwener 14 Awst) y bydd pobl yn gallu gweld mwy o’u teuluoedd a’u ffrindiau fel rhan o’r adolygiad nesaf o’r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru ar yr amod y bydd y sefyllfa’n parhau’n sefydlog dros yr wythnos nesaf.

Bwriedir caniatáu’r canlynol o ddydd Sadwrn 22 Awst:

  • Bydd hyd at bedwar aelwyd yn gallu dod ynghyd i ffurfio aelwyd estynedig unigol.
  • Bydd hawl cynnal pryd o fwyd dan do ar gyfer hyd at 30 o bobl fel rhan o briodasau, partneriaethau sifil ac angladdau, cyn belled â bod modd cynnal pellter cymdeithasol.

Ni fydd Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, yn gwneud unrhyw newidiadau i’r rheolau ynghylch yr hawl i gyfarfod dan do â phobl nad ydynt yn rhan o’u haelwyd neu eu haelwyd estynedig. Golyga hyn na ddylai pobl ond ymweld â thafarndai, bwytai neu leoliadau eraill dan do gyda phobl o’u haelwyd neu o’u haelwyd estynedig.

Bydd diwygiadau i’r rheoliadau hefyd yn dod i rym yr wythnos nesaf er mwyn ei gwneud hi’n orfodol i fusnesau lletygarwch neu leoliadau eraill perygl uchel gasglu manylion cyswllt cwsmeriaid. Mae casglu’r wybodaeth hon yn gwbl allweddol ar gyfer strategaeth profi, olrhain a diogelu Cymru sy’n anelu at brofi’r cyhoedd ac atal lledaeniad y coronafeirws. Bydd cynnwys hyn yn y rheoliadau yn ei gwneud hi’n gwbl glir i reolwyr safleoedd ac i gwsmeriaid nad opsiwn yw casglu gwybodaeth o’r fath ond yn hytrach ofyniad.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae Cymru wedi dod ynghyd i fynd i’r afael â lledaeniad y feirws ac mae’r camau yr ydym wedi’u cymryd gyda’n gilydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae nifer yr achosion yn parhau i leihau a golyga hyn y byddwn yn gallu cyflwyno newidiadau newydd sy’n caniatáu i hyd at bedwar aelwyd ddod ynghyd a ffurfio aelwyd estynedig.

Dyma newidiadau gofalus sy’n cael eu cyflwyno gam wrth gam. Rydym yn dysgu o’r hyn sy’n digwydd ar draws y DU ac mae’r achosion newydd sy’n codi gan fwyaf yn deillio o’r ffaith bod pobl yn cyfarfod â phobl eraill yn eu cartrefi. Dyma pam y mae hi mor bwysig sicrhau nad yw pobl yn gwahodd i’w cartrefi bobl eraill o’r tu allan i’w haelwydydd estynedig. Rydym wedi cyflawni cymaint ac mae’n bwysig nad ydym yn peryglu hyn. Golyga hyn nad ydym mewn sefyllfa lle y dylem fod yn ymweld â chartrefi unrhyw un ar unrhyw adeg. Cafodd y rheoliadau ynghylch cyfarfod yn yr awyr agored eu newid yn ddiweddar er mwyn hwyluso’r drefn. Dyma’r ffordd fwyaf diogel o gyfarfod o hyd.

Mae’r profiad mewn rhannau eraill o’r DU lle agorodd tafarnau yn gynharach na’r hyn a ganiatawyd yng Nghymru hefyd yn dangos bod y feirws hefyd wedi lledaenu yn y mannau hyn. Er mwyn ceisio osgoi cyflwyno cyfnodau clo lleol a fyddai’n golygu bod yn rhaid i’r sector cyfan gau mae’n hollbwysig ein bod yn ymateb yn gyflym i unrhyw achosion. Bydd darparu ein manylion cyswllt wrth i ni fynychu’r lleoliadau hyn yn sicrhau bod modd i’n timau Profi, Olrhain a Diogelu gysylltu â ni ar unwaith os bydd angen.

Er mwyn gallu parhau i atal lledaeniad y coronafeirws mae’n rhaid i bob un ohonom ddilyn y rheolau a derbyn cyfrifoldeb personol am yr hyn rydym yn ei wneud.

O safbwynt unigolion, mae hyn yn golygu cadw pellter o 2 fetr, golchi ein dwylo’n aml a gwisgo masgiau wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus. O safbwynt busnesau, mae hyn yn golygu cymryd camau er mwyn diogelu cwsmeriaid, sy’n cynnwys cofnodi eu manylion cyswllt fel y gallwn bennu unrhyw ledaeniad o achosion. Er bod llawer o fusnesau eisoes yn casglu manylion cyswllt eu cwsmeriaid rydym yn clywed am ormod o fusnesau nad ydynt yn gwneud hyn. Byddwn felly’n cyflwyno rheoliadau newydd yr wythnos nesaf er mwyn sicrhau bod hyn yn orfodol.

Nid yw’r pandemig yma drosodd ac mae dyletswydd ar bob un ohonom i ddiogelu Cymru.”

Aeth Llywodraeth Cymru ati’n ddiweddar i atgyfnerthu pwerau awdurdodau lleol o safbwynt gorfodi’r rheoliadau. Mae hyn yn galluogi swyddogion gorfodi i gyhoeddi Hysbysiadau Gwella Mangre er mwyn tynnu sylw at achosion o dorri’r Rheoliadau a phennu’r camau y mae angen eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith.

Os na chydymffurfir â Hysbysiad Gwella Mangre, neu os bydd achos o beidio â chydymffurfio yn ddigon difrifol, gellir cau mangreoedd drwy ddyroddi Hysbysiad Cau Mangre.

Pan fydd yr hysbysiadau yn cael eu dyroddi, bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn amlwg i roi gwybod i’r cyhoedd bod angen gwella’r fangre neu fod y fangre wedi gorfod cau.


Helpwch i ledaenu negseuon ynghylch diogelwch drwy fod yn llysgennad diogelwch ar y dŵr lleol ar gyfer yr RNLI / Gwylwyr y Glannau

Wrth i fwy a mwy o bobl barhau i ymweld â’r arfordir gall busnesau ar yr arfordir chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r RNLI – drwy fod yn llysgenhadon diogelwch ar y dŵr. Gwnaeth yr RNLI, ar y cyd â Gwylwyr y Glannau, lansio’r ymgyrch #BeBeachSafe ar ddechrau’r tymor ymdrochi a gall busnesau fod yn llysgenhadon drwy ymgyfarwyddo â’r negeseuon allweddol a chymryd camau fel y rhai canlynol:

  • Gwirio pa draethau sydd ag achubwyr bywyd yr haf hwn drwy ddarllen y rhestr lawn.
  • Rhybuddio ynghylch peryglon ar draethau lleol, ac yn arbennig os oes llanw terfol  a allai olygu na all pobl gyrraedd y lan.
  • Hysbysu pobl ynghylch y gwahanol faneri lliw sydd ar draethau a’u hystyr.
  • Darparu gwybodaeth am amseroedd y llanw a phryd y bydd gwyntoedd uchel a all fod yn beryglus iawn os ydych yn defnyddio eitemau sydd wedi’u llenwi ag aer.    
  • Atgoffa pobl y dylent ARNOFIO I FYW os byddant yn syrthio i’r dŵr yn anfwriadol.

Gall unrhyw un gefnogi’r ymgyrch a chodi ymwybyddiaeth, o ddarparwyr llety i fanwerthwyr a lleoliadau lletygarwch ac mae’r RNLI wedi llunio adnoddau defnyddiol iawn ar gyfer busnesau gan gynnwys posteri i’w lawrlwytho a hefyd graffeg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol er mwyn helpu i rannu negeseuon. 


Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth y DU - COVID-19

Mae’r adroddiad wythnosol diweddaraf gan ein harolwg Tracio Defnyddwyr y DU bellach ar gael ar the wefan VisitBritain yn dangos casgliadau wythnos 12 sy’n berthnasol i’r cyfnod rhwng 3 a 7 Awst. Mae’n cynnwys y canlyniadau diweddaraf ynghylch agweddau a bwriadau i fynd ar wyliau yn y DU a Chymru eleni.


Bathodynnau a laniards dewisol er mwyn hyrwyddo’r angen i gynnal pellter cymdeithasol

Gall hi fod yn anodd i rai pobl gynnal pellter cymdeithasol, gan gynnwys pobl sydd â nam ar eu golwg neu bobl sydd â phroblemau symudedd. Gallai hefyd fod yn bwysig iawn i bobl sydd wedi bod yn gwarchod.

Gall bathodynnau dewisol gael eu defnyddio er mwyn dangos bod gan berson anawsterau neu bryderon o safbwynt cynnal pellter cymdeithasol. Mae bathodynnau a laniards ar gael drwy’r Fenter Ymwybodol o Bellter er mwyn dangos i bobl eraill fod angen talu sylw a rhoi lle i chi. Cewch ragor o fanylion ar wefan Llywodraeth Cymru. 


Cyflwyno deddfwriaeth gofynion di-fwg newydd

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth ysmygu newydd yng Nghymru a hoffem glywed eich barn ar gynigion i ddwyn y gofynion hyn i rym ar 1 Ionawr 2021.

Bydd gweithleoedd a mangreoedd caeedig neu sylweddol gaeedig sydd ar agor i’r cyhoedd yn parhau’n ddi-fwg ar y cyfan (fel y maent nawr) a bydd angen arddangos arwyddion o hyd.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd ceir eithriadau sy’n caniatáu ysmygu mewn llety gwyliau a llety dros dro hunangynhwysol ac yn caniatáu ystafelloedd gwely ysmygu mewn gwestai, tai llety, tafarndai, hostelau a chlybiau aelodau. Bydd yr eithriadau hyn yn cael eu dileu 12 mis ar ôl i’r ddeddfwriaeth ddod i rym. Wedi hynny, bydd rhaid i bob un o’r mathau hyn o lety fod yn ddi-fwg. Darllenwch yr erthygl lawn ar wefan Busnes Cymru.


Nwyddau Iaith Gwaith am ddim i dy fusnes

A oes siaradwyr neu ddysgwyr Cymraeg yn gweithio i dy fusnes? Mae gwisgo laniard neu fathodyn gyda’r logo Iaith Gwaith yn ffordd wych o ddangos cwsmeriaid dy fod ti a/neu dy staff yn siarad neu’n dysgu Cymraeg. Mae archebu’r nwyddau yn syml. Cer draw i wefan Busnes Cymru i ddarganfod mwy.

Cofia, mae Helo Blod yn cynnig llawer iawn mwy na hyn. Gallwn gynnig cyngor ymarferol ar sut i farchnata a hyrwyddo dy fusnes a gwneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn dy westy, bwyty, caffi, siop, gweithgareddau awyr agored, gwefan a dy dudalennau cyfryngau cymdeithasol – mae’r cyfan am ddim!

Mae Helo Blod yn cynnig y gwasanaethau canlynol:

  • Cyfieithu am ddim
  • Gwirio testun
  • Cyngor ac arweiniad

Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell. Cer draw i’r wefan i ddarganfod mwy!


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram