Rhwydwaith Gwledig Cymru News Round-up 2020 Rhifyn 08: Awst 2020

 

News Round-up 2020 Rhifyn 08: Awst 2020

 
 

Croeso i Gylchlythyr Rhwydwaith Gwledig Cymru ar ei newydd wedd

news

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru – Ffordd Newydd o Weithio

web  

Gwefan RhGC

Ers inni lansio’r wefan ar ei newydd wedd ym mis Ionawr 2019, rydym wedi gweithio’n ddiflino i ychwanegu adrannau newydd ac i gadw’r wefan yn ffres ac yn gyfoes. Dilynwch y dolenni isod i weld yr amrywiaeth enfawr o wybodaeth sydd ar gael.

  • Hafan – Siop un stop sy’n eich tywys i bob rhan o’r wefan:
  • Uned Gymorth RhGC – yr hyn yr ydym yn ei wneud a’r hyn y gallwn ei wneud!
  • Newyddion; Digwyddiadau ac Astudiaethau Achos −Y straeon diweddaraf sy’n rhoi newyddion da am brosiectau a gyllidwyd, gan gynnwys Astudiaeth Achos yr Mis a dolenni at yr ymgyngoriadau diweddaraf.
  • Prosiectau – Y prosiectau diweddaraf a gyllidwyd gan y Rhaglen Datblygu Gwledig ac y gellir eu gweld ar y map rhyngweithiol neu chwilio amdanynt yn ôl ardal ddaearyddol neu Ffrwd Gyllido.
  • Arloesi − y gair newydd ffasiynol ym maes datblygu gwledig ac amaethyddiaeth. Dyma le gwelwch chi enghreifftiau ac astudiaethau achos am Bentrefi Clyfar a Phartneriaeth Arloesi Ewrop Cymru (EIP Cymru).
  • Covid‐19 (Coronafeirws) – y gair sydd ar wefusau pawb – rydym wedi casglu gwybodaeth, canllawiau a straeon am sut mae’r feirws wedi effeithio ar ardaloedd gwledig a sut y gallwch gael gafael ar gymorth.
events  

Digwyddiadau

Mae’r amgylchiadau diweddar yn golygu iddi fod yn anodd ichi gyfarfod a rhwydweithio gyda rhanddeiliaid o’r un anian â chi.
Mae hyn wedi golygu nad yw RhGC wedi gallu cynnal amserlen ddigwyddiadau eleni. Tan ’nawr
Wrth i bawb gweithio o bell, rydym wedi gweld mwy o ddefnydd ar y platfformau TG gwych sydd ar gael. Mae’r Uned Gymorth yn gweithio ar amserlen Gweminarau / Rhith-ddigwyddiadau, a dyma rai yn unig o’r digwyddiadau y bwriedir eu cynnal −

Byd rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau yn cael ei phostio ar ein tudalennau newyddion felly cofiwch gadw llygad amdanynt.
Os oes gennych ddigwyddiad yr hoffech ei weld yn cael ei gynnal ac os yw’n berthnasol i’r rhaglen, anfonwch e-bost at y tîm ar rural.network@llyw.cymru

Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cyfnodau’r Cynlluniau a’r Cymorth sydd ar gael

Glastir

pollin  

Grantiau Bach Glastir - Tirwedd a Phryfed Peillio 2019

Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19) presennol, mae’r dyddiad cau ar gyfer hawlio wedi cael ei estyn tan 30 Medi 2020. Rhaid i bob hawliad gael ei gyflwyno erbyn y dyddiad hwn.

water  

Grantiau bach Glastir (dŵr)

Cyfnod Mynegi Diddordeb ar agor tan 4 Medi

Thema’r Cyfnod Grantiau Bach Glastir hwn yw ‘dwˆr’, a dewiswyd y gweithgareddau sydd ar gael am eu gallu i gyfrannu at wella ansawdd dwˆr neu leihau perygl llifogydd. 

 

Cyswllt Ffermio

c  

Darllediadau byw i gadw ffermwyr mewn cysylltiad â phrosiectau ffermydd arddangos Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r ffaith bod digwyddiadau ar ffermydd wedi cael eu gohirio ar gyfer yr haf, mae Cyswllt Ffermio am gynnal cyfres o ddarllediadau digidol byw oddi ar ei safleoedd arddangos er mwyn parhau i ymgysylltu â ffermwyr yn ystod y pandemig. Bydd yr holl ddigwyddiadau yn dechrau am 19:30 ac yn cael eu ffrydio yn fyw ar blatfform Zoom.

Cyhoeddi Dosbarth 2020 Academi Amaeth Cyswllt Ffermio – yn aros i ddod yn fyw ar zoom!

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi enwau’r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yn Nosbarth 2020 yr Academi Amaeth. Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus eleni yn cynnwys ffermwyr, darpar gyfreithwyr, ac asiantau tir yn ogystal â myfyrwyr coleg ac ysgol y mae eu diddordebau yn amrywio o rygbi i ganu ac o fagu stoc pedigri i siarad cyhoeddus. Gallwch weld dosbarth 2020 drwy fynd i’n gwefan.

Cymorth a Chefnogaeth i Ffermwyr yng Nghymru

fbg  

Grant Busnes i Ffermydd – Ffenestr 7

Bydd angen cyflwyno hawliadau ynghyd ag anfonebau ategol a llythyr cyfrifydd mewn perthynas â chontractau sy'n dechrau ar 29 Mai erbyn 25 Medi 2020. Dylech wneud hyn ar eich cyfrif RPW ar-lein.

milk  

Lansio ymgynghoriad i fynd i’r afael â phroblemau yn y gadwyn gyflenwi ar draws sector llaeth y DU

Mae ymgynghoriad i fynd i’r afael â phroblemau yn y gadwyn gyflenwi ledled sector llaeth y DU ac i ddarparu amodau tecach newydd i gontractau llaeth wedi eu lansio gan Lywodraethau’r DU.

farmwell  

FarmWell Cymru – cyfeiriadur gwybodaeth a chymorth

Mae menter i helpu ffermwyr Cymru gyda chadernid eu busnes a nhw eu hunain fel unigolion wedi cael ei lansio gan Grŵp Cymorth Ffermydd Cymru. Am ragor o wybodaeth ewch i farmwell.cymru.

   

Cynllun y taliad sylfaenol 2020

Yn dilyn llwyddiant y cynlluniau a gyflwynwyd yn 2018 a 2019, bydd cynllun 2020 unwaith eto yn talu benthyciad o hyd at 90% o’r hyn a ragwelir yw gwerth hawliad BPS busnes unigol.

 

Ymgynghoriadau

sus  

Ffermio Cynaliadwy a'n Tir: Symleiddio cymorth amaethyddol o 2021 ymgynghori

Mae’r cynigion yn ceisio rhoi ar waith fframwaith dros dro yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, a chyn symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig.

nrw  

Lansio ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar newidiadau i'r canllawiau ar gyfer asesu effaith amonia a nitrogen o ddatblygiadau amaethyddol a bydd yn cau ar 31 Awst 2020.

plastic  

Lansio ymgynghoriad ar gynlluniau i leihau plastig untro yng Nghymru

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru i wahardd ystod o eitemau plastig untro.

agri  

Arolwg Amaethyddol a Garddwriaethol 2020

Os ydych wedi cael eich dewis ar gyfer yr arolwg eleni, byddwch yn cael eich ffurflen drwy’r post cyn bo hir. Eleni, rydym wedi cyflwyno ffordd ichi ei llenwi ar-lein a bydd ar gael ar RPW Ar-lein o 27 Awst ymlaen.

Newyddion a Digwyddiadau yn Ewrop

enrd  

Adolygiad Gwledig yr UE, Rhifyn 29, yr hyn a gyflawnwyd dan LEADER
Mae’r rhifyn hwn o Adolygiad Gwledig yr UE yn edrych ar sut y mae saith egwyddor LEADER yn cael eu dehongli heddiw gan bobl sydd wedi chwarae rhan fawr yn y gwaith o weithredu LEADER mewn cymunedau gwledig ledled Ewrop.
Monitro effaith y pandemig COVID-19 o’r fferm i’r fforc
Mae Cyd-ganolfan Ymchwil y Comisiwn Ewropeaidd yn lansio arolwg ar-lein er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o gydnerthedd gweithredwyr yn y gadwyn bwyd-amaeth, o’r cyfyngiadau sydd arnynt ac o sut y maent wedi ymateb. Y nod yw defnyddio’r dystiolaeth berthnasol i gyfrannu at lunio polisïau’r UE.

Cylchgrawn Rural Connections ar gael mewn 6 iaith!
Mae rhifyn newydd y cylchgrawn Rural Connections bellach ar gael mewn 6 iaith!
COVID-19: Y Comisiwn Ewropeaidd yn lansio dau alwad ychwanegol am gynigion ar gyfer rhaglenni hyrwyddo
Er mwyn helpu’r sector bwyd-amaeth i ymadfer ar ôl yr argyfwng

COVID-19, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi lansio dau alwad am gynigion ar gyfer rhaglenni hyrwyddo Mae’r galwadau hyn yn ategu’r mesurau cymorth arbennig ar gyfer marchnadoedd penodol a gyflwynwyd gan y Comisiwn yn ddiweddar.
Cefnogi’r sector amaethyddiaeth a’r sector bwyd yn wyneb Coronafeirws
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi mabwysiadu camau ychwanegol er mwyn adeiladu ar gyfres o fesurau a gymerwyd eisoes i gefnogi sectorau bwyd-amaeth yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng coronafeirws.
Digwyddiadau y bwriedir eu cynnal

(Saesneg yn Unig)

Dolenni a Gwybodaeth Ddefnyddiol

Dolenni Defnyddiol Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru

Cylchlythyrau Eraill

Oes gennych newyddlen yn ymwneud â'r Cynllun Datblygu Gwledig?

Ydych chi eisiau i ni gynnwys dolen i’ch newyddlenni diweddaraf yn yr adran hon? E-bostiwch ddolen tanysgrifio at rhwydwaithgwledig@llyw.cymru a byddwn yn rhannu'ch straeon.

COVID-19 (Coronafeirws)

covid  

Llywodraeth Cymru - COVID 19 (Coronafeirws)

Taliadau Gwledig Cymru (RPW): coronafeirws (COVID-19)

COVID-19 Gweithgareddau LEADER

Cylchlythyrau penodol i'r Busnes a'r Sector COVID-19

Os oes unrhyw weithgareddau yn eich ardal i gefnogi cymunedau yn ystod y pandemig, anfonwch unrhyw wybodaeth at rhwydwaithgwledig@llyw.cymru

 
 
 

Amdanom ni

Mae Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynnig crynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio sy’n gysylltiedig â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020. Mae’n ffordd hwylus i rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig yng Nghymru, cysylltwch â Rhwydwaithgwledig@llyw.cymru

 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

businesswales.gov.wales/walesruralnetwork/cy

 

Dilyn ar-lein: