Bwletin newyddion: Canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu,  edrychwch arno ar-lein.   

11 Awst 2020


cu

Campfeydd a phyllau nofio yn ailagor

Gall pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd dan do, campfeydd a chanolfannau hamdden ailagor yr wythnos hon (o ddydd Llun 10 Awst) yn dilyn y newidiadau a wnaed ar ôl adolygiad 7 Awst 2020 o’r Rheoliadau Coronafeirws. Mae’r canllawiau ar gyfer chwaraeon, ymarfer a hamdden yn cynnwys gwybodaeth a fydd yn ei gwneud hi’n haws i leoliadau ailagor yn raddol.

Mae Canllawiau ar ardaloedd chwarae dan do i blant hefyd wedi’u cyhoeddi gan fod y cyfleusterau hynny bellach yn gallu ailagor fel rhan o’r newidiadau diweddaraf. Dylai ardaloedd fel pyllau peli, nad oes modd eu glanhau’n ddidrafferth, barhau ar gau fodd bynnag.


Deddfwriaeth ynghylch y coronfeirws a chanllawiau ynghylch y gyfraith

Gall nifer o fusnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru bellach ailagor ac mae’n bwysig cofio bod yr hawl i ailagor, o dan gyfraith Cymru, yn amodol ar ddilyn y rheolau. Mae’n ofynnol i fusnesau wneud tri pheth, sydd oll yn ceisio lleihau’r perygl o ledaenu’r coronafeirws ar y safle:

  1. Y cyntaf yw cymryd ‘pob cam rhesymol’ i gynnal pellter o 2 fetr rhwng pobl sydd ar y safle neu sy’n aros i fynd i mewn i’r safle.
  2. Yr ail yw cyflwyno ‘pob mesur arall rhesymol’ er mwyn lleihau’r perygl y gallai’r coronafeirws ledaenu – mae hyn yn golygu i bob pwrpas wella hylendid a chyflwyno mesurau er mwyn lleihau cyswllt wyneb yn wyneb (mae hyn yn bwysig iawn os nad yw’n ymarferol i gynnal pellter o 2 fetr).
  3. Y trydydd yw darparu gwybodaeth i’r bobl sy’n mynd i mewn i’r safle neu sy’n gweithio yno ynghylch sut i leihau’r perygl o ledaenu’r coronafeirws – rhywbeth sy’n cyd-fynd â’r ddau ofyniad arall gan y bydd y mesurau a gyflwynir yn aml yn dibynnu ar ymddygiad y bobl sydd ar y safle.   

Cewch ragor o wybodaeth ar dudalennau Llywodraeth Cymru ynghylch canllawiau a Rheoliadau’r Coronafeirws.

Mae Canllawiau ar yr Economi Ymwelwyr ar gael er mwyn helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i ailagor yn ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws.

Gall y gofynion, fodd bynnag, gael eu categoreiddio mewn modd cymharol syml a’u gweithredu waeth beth yw natur y safle:

  • Darparu gwybodaeth er mwyn helpu pobl i ymddwyn mewn modd priodol;
  • Sicrhau pellter cymdeithasol rhwng pobl;
  • Gwella hylendid;
  • Mabwysiadu mesurau eraill er mwyn lleihau perygl lledaenu’r feirws, yn bennaf er mwyn osgoi cyswllt wyneb yn wyneb: ee newid y ffordd y mae pobl yn cerdded o amgylch safle, gwella systemau awyru, gosod sgriniau, defnyddio cyfarpar diogelu personol.   

Cafodd pwerau gorfodi ychwanegol eu cyflwyno yr wythnos ddiwethaf er mwyn galluogi awdurdodau i gymryd camau os nad yw busnesau’n dilyn y rheoliadau perthnasol – mae hyn yn cynnwys cau safleoedd os bydd angen. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer swyddogion gorfodi.

Caiff y Rheoliadau eu diweddaru’n rheolaidd a dylech gyfeirio atynt yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i weithredu o fewn y gyfraith.

Caiff rhestr o Gwestiynau Cyffredin ynghylch y Coronafeirws (COVID-19) hefyd ei diweddaru ar Llyw.Cymru – cofiwch wirio’r wybodaeth yn rheolaidd.

Mae’n rhaid i bob busnes gadw at Reoliadau Coronafeirws Cymru a dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru gan fod y rheolau a’r camau lliniaru yn wahanol yng Nghymru.


Cadw pellter cymdeithasol – nodyn atgoffa

Fel y nodir uchod, mae’n rhaid i bob busnes gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw pob erson ar eu safle (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd/aelwydydd estynedig, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr). At hyn, mae’n rhaid i fusnesau gymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill – yn cynnwys ystyried rhoi’r gorau i wneud rhai pethau penodol – at bwrpas lleihau cysylltiad posibl â’r feirws.

Cydnabyddir, fodd bynnag, y gallai’r angen i gynnal pellter o 2 fetr achosi straen fasnachol sylweddol i rai busnesau. Er y dylid rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd, a chynnal hyder y cyhoedd, gall busnesau weithredu pellter cymdeithasol corfforol byrach os bydd y goblygiadau o ran cost yn golygu nad yw’r busnesau’n hyfyw. Fodd bynnag, mewn achosion o’r fath mae’n hanfodol fod mesurau rhesymol eraill yn cael eu gweithredu er mwyn sicrhau nad yw pobl yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws. Gallai hyn olygu codi sgriniau, aildrefnu dodrefn a rheoli’r ffordd y mae pobl yn cerdded o amgylch y safle. Byddai gwisgo masgiau wyneb hefyd yn bridool mewn ardaloedd cyfyng.

Bydd angen i Asesiadau Risg ystyried yn ofalus y cydbwysedd rhwng y materion hyn os nad yw pellter o 2m yn gallu cael ei gynnal. Os ystyrrir cynnal pellter o lai na 2m ond nad yw’r mesurau rhwystro rhesymol eraill yn ddigonol i liniaru’r risg o gysylltiad gyda’r feirws, yna bydd hynny’n amlygu’r angen i ddychwelyd i sicrhau pelter corfforol o 2m.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram