Bwletin newyddion: Canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu,  edrychwch arno ar-lein.   

4 Awst 2020


cu

Canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru

Mae rheoliadau coronafeirws Llywodraeth Cymru wedi’u diweddaru er mwyn adlewyrchu’r cyhoeddiadau a wnaed fel rhan o’r adolygiad 21 diwrnod diweddaraf – darllenwch ddatganiad i’r wasg Prif Weinidog Cymru (31 Gorffennaf) yn llawn ar Llyw.Cymru

Gallwch weld y canllawiau diwygiedig isod:

Yn y gynhadledd i’r wasg heddiw (4 Awst) gan Lywodraeth Cymru, rhoddodd  Eluned Morgan AS, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, y newyddion diweddaraf am y gwaith y bu Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ein busnesau a’n cyrff diwylliant, chwaraeon, twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru gydol y pandemig hwn.   

Yn y gynhadledd i’r wasg, roedd y Gweinidog yn canolbwyntio ar Dwristiaeth, gan ddweud: “Dwi am ddiolch i’r busnesau sy’n gweithio mewn dull diogel o ran COVID.  Rydych yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol newydd, ac yn dilyn arferion da sydd wedi’u hamlinellu yn y canllawiau.  Rydych yn helpu i leihau lledaeniad y feirws ac yn diogelu pobl, gan sicrhau y gallwn fynd ymlaen i godi y cyfyngiadau yn y dyfodol.  Mae eich gwaith hefyd wedi golygu bod miloedd o swyddi wedi eu harbed. 

“Nid yw anwybyddu y gofynion cyfreithiol i leihau perygl y Coronafeirws yn lledaenu ar safleoedd yn opsiwn – rydyn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol, gyda swyddfeydd iechyd amgylcheddol, gydag awdurdodau y parciau cenedlaethol a gyda’r heddlu i sicrhau bod cydymffurfio â’r mesurau i’n cadw yn ddiogel.  Mae gennym bwerau gorfodi hefyd, sy’n caniatáu i ni, awdurdodau lleol a’r heddlu i gymryd camau os fydd ymddygiad rhai pobl yn bygwth iechyd pobl eraill.  Mae’r newidiadau i’r pwerau hyn yr wythnos hon yn golygu bod hyn yn cynnwys cau safleoedd penodol os bydd angen.  

“Nid yw’r Coronafeirws wedi diflannu.  Gyda’n gilydd, mae’n rhaid inni wneud popeth y gallwn i gadw Cymru yn ddiogel.  Ac os gallwn wneud hynny – yna gallwn gadw Cymru ar agor ac yn fywiog yn y misoedd nesaf.” 


Olrhain Cysylltiadau

Bydd strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru yn allweddol wrth atal achosion newydd o’r clefyd, wrth i’r cyfyngiadau symud lacio.  Wrth i bobl ddod i gysylltiad â mwy a mwy o bobl, mae’r risg o drosglwyddo COVID-19 mewn rhai sectorau’n uwch. Mae hyn oherwydd y bydd cwsmeriaid ac ymwelwyr yn treulio mwy o amser ar y safleoedd hynny nag mewn mannau eraill, ac mae’n bosibl y byddant yn dod i gysylltiad agos â phobl y tu allan i’w haelwyd.

Mae canllawiau polisi newydd bellach wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru wythnos ddiwethaf ar gyfer busnesau sy’n gweithredu yn y sectorau hyn. Mae’r rhain yn disgrifio’r rôl bwysig mae’r busnesau hyn yn ei chwarae yn y gwaith o olrhain cysylltiadau a diogelu Cymru ac mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn fydd yn digwydd os fydd cwsmer neu aelod staff yn dangos symptomau neu yn profi’n bositif am COVID19.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Profi, Olrhain, Diogelu: eich cwestiynau.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram