Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

30 Gorffennaf 2020


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Sicrhau dyfodol sector diwylliant Cymru; Cefnogi cyflogaeth a hyfforddiant yng Nghymru; Cyllid ar gyfer y Celfyddydau: Grantiau Ymateb ac Ail-ddychmygu; Atyniadau tan ddaear: canllaw ategol; Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan - gwybodaeth bellach i fusnesau / gweminarau a deunyddiau hyrwyddo ar gyfer eich busnes; “Addo. Fy addewid dros Gymru” – Pecyn cymorth ar gael nawr i’r diwydiant; COVID-19 arolwg Traciwr Defnddwyr Twristiaeth y DU gwawr; Newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws – gweminar; Cyflymu Cymru I Fusnesau - Cyfres gweminar; Gweminarau VisitBritain yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad; Wythnos Gwin Cymru : 27 Gorffennaf – 2 Awst 2020.


Sicrhau dyfodol sector diwylliant Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £53 miliwn i helpu sector diwylliant amrywiol Cymru i ddelio gydag effeithiau pandemig y coronafeirws, yn ôl cyhoeddiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Caiff y gronfa ei darparu ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru ac mae “contract diwylliannol” yn rhan greiddiol ohoni er mwyn helpu’r sector i ddod allan o’r pandemig yn gryfach nag erioed.  Mae’r cyhoeddiad heddiw’n ychwanegol at y pecyn portffolio gwerth £18 miliwn a ddarparwyd ym mis Ebrill, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru.

Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cefnogi cyflogaeth a hyfforddiant yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo gefnogi pawb i ddod o hyd i waith, addysg neu hyfforddiant neu i ddechrau eu busnes eu hun wrth iddo lansio cronfa £40 miliwn ar gyfer sgiliau a swyddi.

Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cyllid ar gyfer y Celfyddydau: Grantiau Ymateb ac Ail-ddychmygu

Mae grantiau ymateb ac ail-ddychmygu’n cynnig cyllid o rhwng £10,000 a £50,000, gan ddarparu cyllid i helpu amgueddfeydd, orielau a sefydliadau diwylliannol ymateb i heriau uniongyrchol sy’n gysylltiedig â’r argyfwng Covid-19 a chynnig cymorth i addasu ac ail-ddychmygu ffyrdd o weithio yn y tymor hirach. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.  


Atyniadau tan ddaear: canllaw ategol

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer atyniadau tanddaearol ar gael nawr.

Mae’r canllaw’n ategu hefyd y canllawiau cynhwysfawr a geir yn ‘Canllawiau i fusnesau twristiaeth a lletygarwch ar gyfer ailagor yn raddol ac yn ddiogel’.


Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan

Gwybodaeth bellach i fusnesau

Rhagor o gymorth gyda chofrestru, cymhwysedd a sut i gynnig y gostyngiad ar gyfer cynllun ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’. Y sefydliadau cymwys yw'r rhai lle caiff bwyd ei werthu i'w fwyta'n syth ar y safle. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Gweminarau a deunyddiau hyrwyddo ar gyfer eich busnes

Mae CThEM yn cynnal gweminarau am ddim ar y cynllun ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’. Mae CThEM hefyd wedi cynhyrchu posteri, delweddau a deunyddiau hyrwyddo eraill i'w defnyddio gan sefydliadau sy'n cymryd rhan yn y cynllun ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.  


“Addo. Fy addewid dros Gymru” – Pecyn cymorth ar gael nawr i’r diwydiant

Ein prif neges wrth i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ddechrau agor eto yw: ‘Darganfod Cymru. Yn ddiogel.’ sy’n cynnwys yr addewid ein bod yn annog pawb sy’n teithio o amgylch Cymru i gefnogi, i wneud y pethau bach sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr. I wneud addewid gyda’n gilydd i ofalu am ein gilydd, am ein gwlad ac am ein cymunedau wrth i ni ddechrau darganfod Cymru unwaith eto. Gellir llofnodi’r addewid yma yn: croeso.cymru/addo.

Mae ein pecyn cymorth defnyddiol yn awr ar gael i’w wneud hyd yn oed yn haws ichi gymryd rhan a gofynnwn ichi barhau i rannu eich addewidion gyda ni yn y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #Addo #DiogeluCymru


COVID-19 arolwg Traciwr Defnddwyr Twristiaeth y DU gwawr

Mae’r adroddiad wythnosol diweddaraf gan ein harolwg Traciwr Defnddwyr y DU bellach ar gael ar wefan Visit Britain yn dangos canfyddiadau wythnos 10 gan gynnwys 20 -24 Gorffennaf.  Mae hwn yn rhoi’r canlyniadau diweddaraf inni o agweddau a bwriadau ynghylch cymryd gwyliau yn y DU a Chymru eleni. Mae ail adroddiad manwl ar broffil ymwelwyr ledled Prydain sy'n bwriadu ymweld â Chymru hefyd wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ar sail gwaith maes o 4 wythnos o’r 15 Mehefin i’r 10 Gorffennaf. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am cynlluniau ymwelwyr domestig i ymweld â Chymru eleni a'r mathau o wyliau y maent yn bwriadu eu cymryd.


Newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws – gweminar

O 1 Awst 2020 bydd newidiadau yn effeithio ar y grant y gall cyflogwyr ei hawlio drwy’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws. Bydd gofyn i gyflogwyr dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a phensiwn ar gyfer gweithwyr sydd ar ffyrlo. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.


Cyflymu Cymru I Fusnesau - Cyfres gweminar

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn cynnig amrywiaeth o weminrau am ddim i fusnesau sydd wedi cael eu effeithio gan COVID-19. Bydd y rhain yn eich helpu chi i wneud elfennau digidol yn rhan greiddiol o’ch busnes er mwyn sicrhau bod eich cwsmeriaid yn gallu dod o hyd i chi yn y byd ar-lein sy’n mynd yn fwyfwy cystadleuol. 

P’un ai a ydych chi’n gobeithio mynd ar-lein i greu safle ‘busnes fel arfer’ newydd neu gynnal eich brand yn lleol ar gyfer pan fydd pethau’n mynd yn ôl i drefn, mae ganddynt gyrsiau sy’n addas ar gyfer busnesau o bob gallu sydd â phob math o anghenion.  Ewch i wefan Digwyddiadau Busnes Cymru i gael manylion bellach.


Gweminarau VisitBritain yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad

Mae’r cofrestru bellach ar agor i ymuno â gweminarau newydd VisitBritain, sy’n rhoi’r newyddion diweddaraf am y farchnad, pan fydd eu harbenigwyr o fewn y farchnad yn rhannu gwybodaeth.  Bydd y gweminarau yn cynnwys y sefyllfa ddiweddaraf o ran teithio, effaith, sut y mae cwmnïau yn addasu, y gwaith ymchwil diweddaraf a data.  Ewch i wefan VisitBritain am fanylion weminarau sydd i ddod.


Wythnos Gwin Cymru : 27 Gorffennaf – 2 Awst 2020

Mae Wythnos Gwin Cymru yn fenter sy’n cael ei harwain ar y cyd â Chlwstwr Diodydd Llywodraeth Cymru a sector Gwin Cymru, i godi proffil gwin o winllannoedd Cymru.   

Cynhelir Wythnos Gwin Cymru o’r 27 Gorffennaf tan 2 Awst.  Mae enwogion, gweinidogion, arbenigwyr bwyd a nifer o bobl eraill yn rhan o nifer o ddigwyddiadau rhithiol gydol yr wythnos.  Ewch i wefan Wythnos Gwin Cymru i ddysgu mwy am rai o’r digwyddiadau sydd ar y gweill, a ble y gallwch brynu gwin o Gymru a chefnogi gwinllanoedd yng Nghymru.   

Cewch hefyd ddilyn #WythnosGwinCymru ar y cyfryngau cymdeithasol  Facebook  Instagram  /  Twitter 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram